Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau
1. Eich defnydd o'r wefan hon
Pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw beth sydd yn erbyn y gyfraith neu a allai achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw un arall.
Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb ei awdurdodi i'r wefan hon na'i chamddefnyddio trwy gyflwyno firysau, trojans, mwydyn, bom rhesymeg neu ddeunydd niweidiol arall yn fwriadol.
Mae’r wybodaeth ar y wefan hon yn arweiniad cyffredinol i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau yn unig - nid yw’n gyngor cyfreithiol.
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am eich hawliau neu gyngor cyfreithiol ynglŷn â pha gamau i'w cymryd, dylech gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol neu gyfreithiwr. Gallwch gael cymorth i ddewis a defnyddio cyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.
2. Ein hatebolrwydd
Rydyn ni wedi ceisio gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a roddwn yn gywir. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth a roddwn:
-
ar y wefan hon
-
drwy e-bost
-
pan fyddwch yn sgwrsio â ni ar-lein
Mae bod yn ‘atebol’ yn golygu bod yn gyfreithiol gyfrifol am rywbeth.
Nid ydym yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra y byddwch yn ei brofi o ganlyniad i:
-
defnyddio'r wefan hon
-
cysylltu â ni drwy e-bost
-
defnyddio ein sgwrs ar-lein
Mae hyn yn wir cyn belled ag y mae’r gyfraith yn caniatáu, boed y golled, y difrod neu’r anghyfleustra yn dod o gontract, ‘camwedd’ neu unrhyw ffynhonnell arall.
‘Camwedd’ yw’r enw a roddir ar faes o’r gyfraith sy’n ymwneud â phobl mewn swyddi o gyfrifoldeb. Mae’n eu gwneud yn atebol os nad ydynt yn cyflawni’r rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n cyd-fynd â’u swyddi.
Mae hyn yn golygu nad ydym yn atebol am:
-
unrhyw golled o ddata neu elw
-
ymyrraeth neu oedi i'r wefan
-
pryd y gallwn neu na allwn ddarparu gwasanaeth
-
unrhyw wybodaeth, deunydd, nwyddau a gwasanaethau a gafwyd trwy'r wefan
Gallwn barhau i fod yn atebol am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ‘esgeulustod’. Esgeulustod yw pan fydd sefydliad neu berson yn methu â chymryd y gofal y dylent ei gymryd wrth wneud rhywbeth.
Gallwch ddarllen y diffiniad cyfreithiol llawn o esgeulustod yn y Ddeddf Telerau Contract Annheg 1977, sydd ar wefan deddfwriaeth y llywodraeth.
Gallwn hefyd fod yn atebol am dwyll neu ‘gamliwio twyllodrus’, sef pan fydd rhywun yn dweud pethau y mae'n gwybod nad ydynt yn wir er eu budd eu hunain.
3. Hawliadau gan drydydd parti
Mae Cyngor ar Bopeth yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf; fodd bynnag, ni allwn warantu y bydd ein gwasanaeth yn ddi-dor nac yn rhydd o gamgymeriadau.
Nid ydym yn gyfrifol os bydd ‘trydydd parti’ yn cyflwyno hawliad yn seiliedig ar eich defnydd o’n gwefan.
Mae trydydd parti yn bobl neu sefydliadau heblaw chi neu ni.
Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys y gwefannau y mae yna ddolenni atynt. Trwy gynnwys dolenni, nid ydym yn gymeradwy'r gwefannau cysylltiedig ac nid ydym wedi'n cysylltu â'r bobl sy’n eu rhedeg. Ni allwn reoli argaeledd y tudalennau y mae yna ddolenni atynt.
4. Cysylltu â ni drwy e-bost
Pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy e-bost, ni allwn warantu na fydd y wybodaeth a anfonwn neu a dderbyniwn yn:
-
wedi'i rhyng-gipio, lygru, ei oedi neu'n anghyflawn
-
cynnwys firysau
-
cael eu heffeithio gan ymyrraeth arall
Nid ydym yn atebol am unrhyw ddifrod sy'n digwydd oherwydd yr e-bost.
Nid yw ein he-byst yn ddiogel. Nid ydym yn gyfrifol am ddiogelwch y wybodaeth sy'n cael ei storio ar unrhyw ddyfais electronig rydych chi'n ei defnyddio.
Mae unrhyw wybodaeth a roddwn trwy e-bost wedi'i bwriadu ar gyfer y person y mae wedi'i gyfeirio ato yn unig. Dim ond y person yr ydym yn ei gynghori dylai gymryd camau ar sail y wybodaeth a roddwn iddynt.
5. Hawlfraint
Amddiffynnir popeth ar y wefan hon, gan gynnwys geiriau a delweddau, gan hawlfraint.
Cyngor ar Bopeth sy'n berchen ar yr hawlfraint ar gyfer holl gynnwys y wefan hon, ac eithrio lle dywedwn ei fod yn eiddo i rywun arall.
Ni ellir dosbarthu unrhyw ran o’r wefan hon, na’i chopïo, at unrhyw ddibenion 'masnachol'. Mae masnachol yn golygu gwerthu rhywbeth i wneud arian.
Ni ellir ei gopïo, ei atgynhyrchu, ei ailgyhoeddi, ei lawrlwytho, ei bostio, ei ddarlledu na’u drosglwyddo mewn unrhyw ffordd ac eithrio at eich defnydd personol, anfasnachol chi.
Rhaid cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan ddeiliad yr hawlfraint os ydych am ddefnyddio unrhyw beth ar y wefan hon am reswm gwahanol.
Gallwch anfon cais hawlfraint atom .