Os ydych chi wedi aros am gyfnod hirach na’r hyn a nodwyd ar eich fisa a'ch caniatâd i aros

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi aros am gyfnod hirach na'r hyn roedd eich fisa a’ch caniatâd i aros yn ei ganiatáu, yr enw ar hyn yw goraros.  Os ydych chi wedi goraros ac eisiau aros yn y Deyrnas Unedig, dylech chi edrych beth i’w wneud.

Ni fydd y Swyddfa Gartref yn eich atgoffa bod eich fisa neu eich caniatâd i aros yn dod i ben. Os nad ydych chi’n siŵr pryd mae eich caniatâd i aros yn dod i ben, edrychwch ar eich trwydded breswyl fiometreg, eich statws mewnfudo ar-lein neu unrhyw stamp neu sticeri ar eich pasbort.

Efallai y byddwch chi’n cael eich trin fel rhywun sydd wedi goraros os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • fe gawsoch chi eich fisa drwy dwyll neu fe wnaethoch chi ddefnyddio dogfennau ffug

  • ni wnaethoch ddatgelu rhywbeth fyddai wedi gallu arwain at wrthod eich fisa, er enghraifft cael cofnod troseddol

Os ydych chi wedi gwneud cais i aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod hirach

Os ydych chi wedi gwneud cais am fisa newydd cyn i’ch hen fisa ddod i ben, gallwch chi aros yn y Deyrnas Unedig tan y byddwch chi’n cael penderfyniad. Os bydd eich cais yn ddilys, ni fyddwch chi’n goraros.

Gall y Swyddfa Gartref wrthod eich cais os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi wedi goraros am gyfnod hirach na 14 diwrnod - hyd yn oed os oedd gennych chi reswm da

  • rydych chi wedi goraros a hynny heb reswm da

Os ydych chi wedi gwneud cais am Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os ydych chi wedi gwneud cais am statws preswylydd cynsefydlog neu sefydlog, fel arfer gallwch chi aros yn y Deyrnas Unedig tan y byddwch chi’n cael penderfyniad.

Os oedd rheswm pam eich bod chi wedi colli’r dyddiad cau

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais am fisa newydd os ydych chi’n gallu profi nad oedd modd i chi adnewyddu eich fisa ar amser o ganlyniad i sefyllfa oedd y tu hwn i’ch rheolaeth - er enghraifft, roeddech chi yn yr ysbyty. Bydd rhaid i chi wneud cais gan egluro pam fod y cais yn hwyr o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad roedd eich fisa neu eich caniatâd i aros yn dod i ben.

Mae hi’n syniad da cael help i brofi bod gennych chi reswm da dros fethu’r dyddiad cau. Darllen rhagor am ganfod arbenigwyr mewnfudo. Efallai y byddai’r broses yn gynt gyda chymorth arbenigwr mewnfudo, ond bydd angen i chi dalu. 

Ni fydd gennych chi’r un hawliau os ydych chi’n goraros, hyd yn oes os byddwch chi’n gwneud cais o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad roedd eich caniatâd i aros yn dod i ben.  Er enghraifft, os oedd gennych chi hawl i weithio cyn i chi oraros, ni fydd gennych chi’r hawl hwnnw mwyach.

Gadael y Deyrnas Unedig

Os na fyddwch chi’n gadael yn wirfoddol o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad roedd eich fisa neu eich caniatâd i aros yn dod i ben, efallai y byddwch chi’n cael eich alltudio. Edrych beth i'w wneud os ydych chi am gael eich alltudio

Os byddwch chi’n gadael ar ôl 30 diwrnod, efallai y byddwch chi’n cael eich gwahardd rhag dod yn ôl i'r Deyrnas Unedig am rhwng 1 a 10 mlynedd. Mae cyfnod eich gwaharddiad yn dibynnu ar y canlynol:

  • pryd wnaethoch chi adael y Deyrnas Unedig

  • a wnaethoch chi adael yn wirfoddol neu gael eich alltudio

  • a ydych chi’n gallu fforddio costau dychwelyd i’ch gwlad gartref

Ni fyddwch chi’n cael eich gwahardd rhag dod yn ôl os ydych chi’n gwneud cais am fisa partner neu fisa teulu, neu os oeddech chi o dan 18 oed pan wnaethoch chi oraros. 

Efallai y bydd y goraros yn dal i gael ei ddal yn eich erbyn wrth wneud ceisiadau fisa yn y dyfodol. Er enghraifft, os byddwch chi’n gwneud cais am fisa i ymwelwyr neu fisa i fyfyrwyr yna bydda angen i chi brofi eich bod chi am adael y Deyrnas Unedig ar ddiwedd eich ymweliad neu eich cyfnod yn astudio.

Eich hawliau fel rhywun sydd wedi goraros

Does dim gwahaniaeth am ba mor hir wnaethoch chi oraros - rydych chi’n dal yn cael gwneud y canlynol:

  • anfon eich plant i’r ysgol nes y byddan nhw’n 16 oed

  • defnyddio gwasanaethau brys yn y Deyrnas Unedig (heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans)

Gallwch chi hefyd gael gofal iechyd hanfodol a brys, gan gynnwys triniaeth os ydych chi’n feichiog. 

Efallai y byddwch chi’n gorfod talu am rannau o’r driniaeth ar ôl i chi ei derbyn. Gweld pryd fydd angen i chi dalu am eich triniaeth.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 22 Awst 2019