Sgwrsiwch â ni ar-lein am ddyled

Gallwch drafod eich problem ddyled gyda chynghorydd profiadol ar-lein. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu i weithio tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich anfon at eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol.

Mae sgwrs ar gael fel arfer o 9am i 8pm Dydd Llun i Ddydd Gwener ac o 9.30am i 1pm Dydd Sadwrn. Nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus.

Cychwyn sgwrs

I ddechrau sgwrs, pwyswch y botwm sgwrs crwn yng nghornel dde isaf eich sgrin. 

Os ydych chi'n defnyddio darllenydd sgrin, bydd y botwm 'Dechrau sgwrs' wedi ei gynnwys yn eich rhestr ffurflenni neu ar ddiwedd y dudalen hon.

Er mwyn eich cysylltu â'r cynghorydd priodol, byddwn yn gofyn am ychydig o fanylion, gan gynnwys:

  • yr hyn rydych chi angen cyngor amdano

  • eich cod post

Problemau gyda sgwrs

Efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i’ch cysylltu â chynghorydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw’r math cywir o gynghorydd ar gael.

Os byddwn yn gofyn i chi adael neges, dylai cynghorydd ateb o fewn 5 diwrnod gwaith. Os na chewch ateb, gwiriwch eich ffolder sbam.

Mae rhai mathau o atalyddion hysbysebion ('ad blockers') yn atal sgwrs rhag gweithio. Os ydych chi'n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ychwanegu citizensadvice.org.uk fel gwefan ddibynadwy y gellir ymddiried ynddi.

Sut i gwyno

Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.

Darllen ein polisi preifatrwydd

Darllenwch ein polisi preifatrwydd ar gyfer sut rydym yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth bersonol.

Darllen ein polisi ymddygiad

Mae ein staff â'r hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - dysgwch sut rydym yn ymdrin ag ymddygiad annerbyniol.