Going to court without a solicitor or barrister

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad oes gennych chi gyfreithiwr neu fargyfreithiwr, gallwch gyflwyno eich achos eich hun neu amddiffyn eich hun yn y llys neu mewn tribiwnlys.

Mae'n bwysig ceisio cael gafael ar gymorth cyfreithiol go iawn os oes modd. Os ydych chi ar incwm isel, ewch i weld a allwch chi gael gafael ar gyngor cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.

Os ydych chi’n mynd i’r llys fel tyst, gallwch chi gael gwybod beth fydd yn digwydd a pha gymorth y gallwch chi ei gae.

Court hearings by phone or video call

The court will tell you what kind of hearing you’ll have. Check how to prepare for a hearing by phone or video call

Cyn cymryd camau cyfreithiol

Byddwch yn realistig ynghylch a oes modd i chi gael yr hyn rydych chi’n ei ddymuno os byddwch chi’n mynd ag achos i’r llys. Os yw eich anghydfod yn ymwneud â chamddealltwriaeth neu ddiffyg cyfathrebu, nid y llys yw'r lle gorau fel arfer i ddatrys y mater. Mae fel arfer yn well rhoi cynnig ar opsiynau eraill yn gyntaf.

Gall mynd ag achos i’r llys achosi straen. Gall gymryd llawer o amser ac arian - er enghraifft, os byddwch chi’n colli ac yn gorfod talu costau'r ochr arall.

Gallwch chi weld dewisiadau eraill yn lle mynd i’r llys ar wefan Advice Now.

Os ydych chi’n ceisio cael arian yn ôl

Os ydych chi’n penderfynu mynd i'r llys i hawlio arian sy'n ddyledus i chi, fe'i gelwir yn 'hawliad bychan'. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am wneud hawliad bychan.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i ganllawiau ar wneud hawliad bychan ar GOV.UK.

Gweld pa gymorth y gallwch chi ei gael

Os oes rhaid i chi gynrychioli eich hun yn y llys, byddwch chi’n cael eich galw'n 'ymgyfreithiwr drosto’i hun'. Efallai y byddwch chi’n cael cyngor ynglŷn â pha bwyntiau cyfreithiol i’w codi yn y llys - ewch i weld a allwch chi gael gafael ar gyngor cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.

Os ydych chi eisiau cymorth ymarferol yn ystod eich achos llys, gallwch gysylltu â Support Through Court. Gall gwirfoddolwr Support Through Court esbonio sut mae'r llys yn gweithio, gwrando arnoch a’ch helpu gyda gwaith papur. Ni all roi cyngor cyfreithiol i chi.

Gallwch chi gael gwybod sut i gael cymorth ymarferol drwy Support Through Court.

Gallwch chi ddefnyddio canllawiau Advice Now ar fynd i'r llys neu dribiwnlys heb gyfreithiwr.

Mynd â rhywun gyda chi i’r gwrandawiad

Gallwch chi fynd â rhywun gyda chi pan fydd y llys yn delio â'ch achos (gelwir hyn yn wrandawiad). Er enghraifft, gallwch chi fynd â’r canlynol gyda chi:

  • cynghorwr Cyngor ar Bopeth

  • gwirfoddolwr Support Through Court

  • gweithiwr canolfan gyfraith

  • ffrind

  • aelod o’r teulu

Gelwir y sawl sy’n dod gyda chi yn 'Ffrind McKenzie'. Gall roi cefnogaeth i chi, gwneud nodiadau a'ch helpu gyda gwaith papur.

Gofynnwch a all roi cyngor i chi ar yr hyn sy'n digwydd yn y llys ac ar faterion cyfreithiol - dylai fod modd iddo wneud hynny os yw’n gweithio i sefydliad fel canolfan gyfraith.

Bydd angen i chi ofyn i’r llys cyn y gwrandawiad os hoffech chi i’r unigolyn hwnnw siarad ar eich rhan. Mater i'r barnwr yw penderfynu a all y sawl sy’n dod gyda chi siarad ar eich rhan yn y llys.

Mae'r rhan fwyaf o elusennau, gan gynnwys canolfannau cyfraith, yn cynnig cymorth yn rhad ac am ddim. Os ydych chi'n ansicr, gofynnwch i'r sawl rydych chi am fynd i'r llys gyda chi os oes angen i chi ei dalu. Hyd yn oed os byddwch chi’n ennill eich achos, ni fyddwch yn gallu hawlio’r gost yma. Dylech ei holi am ei brofiad ac a oes ganddo unrhyw gymwysterau cyn penderfynu ei gyflogi.

Help i ddeall Saesneg

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y byddwch chi’n dymuno dod â rhywun gyda chi i ddweud wrthych beth sy'n cael ei ddweud yn eich iaith eich hun. Bydd angen i chi ofyn i’r llys cyn diwrnod y gwrandawiad a gewch chi wneud hynny.

Weithiau, gall llysoedd ddarparu cyfieithydd ar y pryd - dylech holi cyn diwrnod eich gwrandawiad.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am gyfieithwyr ar y pryd yn y llys ar GOV.UK

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.