Gweld beth allwch chi ei wneud am aflonyddu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi profi aflonyddu, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i wneud iddo ddod i ben. Gallwch chi hefyd gymryd camau eraill - er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu cael ymddiheuriad neu iawndal.
Dylech chi ddechrau drwy weld a oedd yr aflonyddu’n wahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os oedd yr aflonyddu’n wahaniaethu, mae gennych chi hawliau cyfreithiol a fydd yn eich helpu i ddatrys y sefyllfa.
Os nad oedd yr hyn wnaethoch chi ei brofi yn wahaniaethu, gallwch chi dal weithredu. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n dal i allu mynd â’r unigolyn a fu’n aflonyddu arnoch chi i’r llys.
If your partner or family member makes you feel anxious or threatened
Cysylltwch â sefydliad cam-drin domestig i weld pa wasanaethau sydd ar gael.
Gweld a oedd yr aflonyddu’n wahaniaethu
Gallai’r aflonyddu y gwnaethoch chi ei brofi fod wedi bod yn wahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Bydd angen i chi weld os:
yw’r unigolyn sydd wedi aflonyddu arnoch chi yn atebol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
gwnaethon nhw aflonyddu arnoch chi oherwydd pethau fel eich oedran neu'ch hil - mae’r pethau hyn yn cael eu galw’n 'nodweddion gwarchodedig'
yw’r hyn a ddigwyddodd yw aflonyddu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Gweld os yw’r unigolyn yn atebol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Dim ond mewn rhai sefyllfaoedd y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin ag aflonyddu. Er enghraifft, os bydd rhywun yn aflonyddu arnoch chi mewn parc neu’n gweiddi arnoch chi o’u car, ni fydd fel arfer yn wahaniaethu dan y Ddeddf Cydraddoldeb.
Roedd yr aflonyddu y gwnaethoch chi ei brofi yn wahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os cafodd ei wneud gan:
eich cyflogwr
eich ysgol, coleg neu brifysgol
busnes neu ddarparwr gwasanaeth, fel siop neu gwmni trenau
darparwr iechyd neu ofal, fel ysbyty neu gartref gofal
landlord neu asiant eiddo
awdurdodau cyhoeddus, er enghraifft yr heddlu neu eich cyngor lleol
Os bydd rhywun sy'n gweithio i un o'r sefydliadau hyn yn aflonyddu arnoch chi, mae'r sefydliad hefyd yn gyfrifol am y gwahaniaethu. Er enghraifft, os yw eich cydweithiwr yn aflonyddu arnoch chi, mae eich cydweithiwr a'ch cyflogwr yn gyfrifol yn gyfreithiol.
Os ydych chi’n defnyddio busnes neu wasanaeth a bod cwsmer arall yn aflonyddu arnoch chi, nid gwahaniaethu yw hyn fel arfer. Gallai fod yn wahaniaethu os yw’r cwsmer yn parhau i aflonyddu arnoch chi a bod y busnes neu’r gwasanaeth yn ymwybodol ohono ond nad yw’n ei atal.
Gweld a oedd hynny oherwydd nodwedd warchodedig
Roedd yr aflonyddu y gwnaethoch chi ei brofi yn wahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os oedd yn gysylltiedig ag un o'r nodweddion gwarchodedig hyn:
oedran
anabledd
hil
crefydd neu gredoau athronyddol – er enghraifft, dyneiddiaeth
rhyw
rhywioldeb
ailbennu rhywedd - mae hyn yn golygu os ydych chi’n drawsryweddol
Os ydych chi wedi profi aflonyddu rhywiol
Gall aflonyddu rhywiol fod yn wahaniaethu anghyfreithlon – does dim rhaid iddo fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig.
Efallai eich bod chi wedi profi aflonyddu rhywiol os oedd ymddygiad rhywun yn ddieisiau ac yn rhywiol ei natur, er enghraifft os gwnaethon nhw:
roi sylwadau ar eich dillad neu edrychiad
anfon negeseuon gyda chynnwys rhywiol neu wedi gwneud sylwadau rhywiol - hyd yn oed os nad oedden nhw amdanoch chi
Weithiau mae aflonyddu rhywiol yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig, er nad oes yn rhaid iddo i gyfrif fel gwahaniaethu anghyfreithlon. Er enghraifft, gallai ymddygiad rhywun fod yn rhywiol ei natur yn ogystal â hiliol neu homoffobig.
Mae Leo yn hoyw ac yn ddiweddar dechreuodd rentu fflat. Mae ei landlord newydd yn gwneud sylwadau am rywioldeb Leo ac yn gofyn cwestiynau iddo am ei fywyd rhywiol.
Mae’r landlord yn gwneud sylwadau amhriodol o natur rywiol – maen nhw hefyd yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig rhywioldeb Leo.
Os gwnaeth rhywun gamgymeriad ynglŷn â’ch nodwedd warchodedig
Mae hefyd yn wahaniaethu os gwnaeth rhywun aflonyddu arnoch chi oherwydd ei fod yn credu bod gennych chi nodwedd warchodedig. Er enghraifft, mae'n wahaniaethu os ydych chi a'ch cydletywr yn strêt ond bod eich landlord yn gwneud jôcs sarhaus am eich bod yn hoyw. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘wahaniaethu ar sail canfyddiad’.
Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch chi oherwydd nodwedd warchodedig rhywun arall
Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch chi oherwydd nodwedd warchodedig unigolyn rydych chi’n ei adnabod, mae hefyd yn wahaniaethu. Er enghraifft, mae’n wahaniaethu os ydych chi wedi dweud wrth eich cydweithiwr bod eich partner yn anabl a’i fod wedi dechrau gwneud sylwadau annifyr am bobl â’r anabledd hwnnw. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘wahaniaethu ar sail cysylltiad’.
Gweld a oedd yr hyn a ddigwyddodd yn aflonyddu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Roedd yr aflonyddu y gwnaethoch chi ei brofi yn wahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os oedd ddau beth canlynol yn berthnasol:
doeddech chi ddim eisiau iddo ddigwydd
roeddech chi’n ofnus, wedi’ch bychanu neu wedi’ch tramgwyddo – neu roedd yr unigolyn yn ceisio gwneud i chi deimlo felly
Gall aflonyddu gynnwys pethau fel cam-drin geiriol, bwlio, jôcs, gwneud wynebau a phostio sylwadau amdanoch chi ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn cynnwys aflonyddu rhywiol.
Mae aflonyddu rhywiol yn gallu cynnwys pethau fel gwneud sylwadau am eich dillad neu eich ymddangosiad, anfon negeseuon gyda chynnwys rhywiol atoch chi neu wneud sylwadau rhywiol – hyd yn oed os nad ydyn nhw amdanoch chi. Er enghraifft, os ydych chi’n cael gwybod bod eich cydweithwyr yn rhannu jôcs rhywiol sarhaus mewn grŵp WhatsApp, mae hynny’n aflonyddu rhywiol.
Mae hefyd yn aflonyddu os bydd rhywun yn eich trin yn waeth oherwydd eich ymateb i’r canlynol:
aflonyddu rhywiol
aflonyddu rhywiaethol neu drawsffobig
Mae landlord Cara yn ceisio fflyrtio gyda hi a’i chusanu, sy’n gwneud iddi deimlo’n anghyfforddus ac yn annifyr iawn. Mae hyn yn aflonyddu.
Wedyn, mae ei landlord yn rhoi’r gorau i atgyweirio’i thŷ. Mae hyn hefyd yn aflonyddu. Mae’n aflonyddu os yw Cara wedi dweud wrth ei landlord am roi’r gorau iddi neu wedi gadael iddo ei chusanu.
Os oedd yr aflonyddu’n wahaniaethu
Mae'r camau y dylech chi eu cymryd yn dibynnu ar bwy wnaeth aflonyddu arnoch chi.
Os mai eich cyflogwr oedd yn gyfrifol
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi profi gwahaniaethu, gallwch chi weld a yw eich problem yn y gwaith yn wahaniaethu.
Os ydych chi’n fenyw sy’n profi aflonyddu rhywiol yn y gwaith
Gallwch chi gael cyngor cyfreithiol am ddim gan Hawliau Menywod. Edrychwch ar eu gwefan i weld sut mae cysylltu â Hawliau Menywod.
Oes mai eich ysgol, coleg neu brifysgol oedd yn gyfrifol
Os mai busnes neu wasanaeth oedd yn gyfrifol
Os mai gwasanaeth iechyd neu ofal oedd yn gyfrifol
Os mai landlord neu asiant eiddo oedd yn gyfrifol
Gallwch chi weld beth i'w wneud os oes landlord neu asiant eiddo wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.
Os ydych chi wedi cwyno ac nad ydych chi wedi cael y canlyniad roeddech chi ei eisiau, gallwch chi weld sut mae cymryd camau cyfreithiol ynglŷn â gwahaniaethu ym maes tai..
Os mai awdurdod cyhoeddus oedd yn gyfrifol
Cael mwy o help
Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr a ydych chi wedi profi gwahaniaethu neu pa gamau y dylech chi eu cymryd, cysylltwch â llinell gymorth gwahaniaethu'r Gwasanaeth Cymorth Cydraddoldeb a Chynghori.
Os nad oedd yr hyn gwnaethoch chi ei brofi yn wahaniaethu
Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch chi ac nad yw'n wahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, efallai y gallwch chi gymryd math gwahanol o gamau.
Gallwch chi weld beth i'w wneud:
Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch chi ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch chi gael cyngor am aflonyddu ar-lein ar wefan yr Heddlu Metropolitan.
Os ydych chi’n poeni am stelcian, mae Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian yn gallu rhoi help a chyngor i chi am beth i’w wneud. Cysylltwch â Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian ar eu gwefan.
Gweld a yw’n drosedd casineb
Gallai fod yn drosedd casineb neu’n ddigwyddiad casineb os gwnaeth rhywun aflonyddu arnoch chi:
oherwydd eich hil neu grefydd
oherwydd eich rhywioldeb
oherwydd eich anabledd
oherwydd eich bod yn drawsryweddol
Gallwch chi gael help os ydych chi wedi profi trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb.
Rhoi gwybod i’r heddlu am aflonyddu
Gallwch chi roi gwybod i'r heddlu am aflonyddu. Gallan nhw gyhuddo rhywun o aflonyddu troseddol:
os yw’r unigolyn wedi aflonyddu arnoch chi fwy nag unwaith
os gwnaeth yr aflonyddu eich dychryn chi neu wneud i chi deimlo'n ofidus
Os bydd yr heddlu’n penderfynu cyhuddo rhywun, byddan nhw’n anfon yr achos at Wasanaeth Erlyn y Goron. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad sy’n gallu mynd â phobl i’r llys – mae hyn yn cael ei alw’n ‘erlyniad’. Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu peidio ag erlyn yr unigolyn sydd wedi aflonyddu arnoch chi, rhaid iddo roi gwybod i chi.
Gallwch chi roi gwybod i'r heddlu am aflonyddu ar eu gwefan.
Mynd â rhywun i’r llys am aflonyddu
Gallwch chi fynd â rhywun i lys sifil:
os yw wedi aflonyddu arnoch chi fwy nag unwaith - mae hyn yn cynnwys stelcian
os gwnaeth yr aflonyddu eich dychryn chi neu wneud i chi deimlo'n ofidus
Gall y llys orchymyn i’r unigolyn sy’n aflonyddu arnoch chi gadw draw oddi wrthych – mae hyn yn cael ei alw’n ‘waharddeb’. Gall y llys hefyd roi iawndal i chi.
Os bydd yr unigolyn yn dal i aflonyddu arnoch chi ar ôl i chi gael gwaharddeb, mae wedi torri'r gyfraith - mae hyn yn golygu y gallai fynd i'r carchar.
Gallwch chi fynd i lys sifil hyd yn oed:
os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i’r heddlu
os ydych chi wedi rhoi gwybod i’r heddlu, ond bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio ag erlyn yr unigolyn a wnaeth aflonyddu arnoch chi
os ydy Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi erlyn yr unigolyn wnaeth aflonyddu arnoch chi a bod y llys wedi penderfynu nad oedd yn euog
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i’r llys, dylech chi gael cyngor cyfreithiol. Gweld sut mae dod o hyd i gymorth cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.