Os gwrthodwyd addasiadau rhesymol i chi
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi'n anabl ac na chawsoch chi’r addasiadau rhesymol y gwnaethoch chi ofyn amdanyn nhw, efallai y byddwch chi'n gallu defnyddio'r Ddeddf Cydraddoldeb i gymryd camau. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu cael y newidiadau sydd eu hangen arnoch neu gael iawndal.
Y Ddeddf Cydraddoldeb yw'r gyfraith sy'n dweud pryd mae'n rhaid i bobl a sefydliadau wneud newidiadau er mwyn gwneud yn siŵr nad yw pobl anabl o dan anfantais. Mae'n galw hyn yn ‘ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol’.
I weld a allwch chi weithredu, dylech holi a oes gan y person y gwnaethoch chi ofyn iddo ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol ar eich rhan. Os yw’n ddyletswydd arno i wneud hynny, efallai eich bod wedi profi math o wahaniaethu o'r enw 'methiant i wneud addasiadau rhesymol'.
Os nad ydych chi wedi gofyn am addasiadau rhesymol eto
Mae'n werth holi cyn gynted â phosibl. Does dim angen i chi holi a oes gan sefydliad ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol.
Os oes arnoch angen newidiadau yn y gwaith, gallwch gael gwybod sut mae gofyn i gyflogwr am addasiadau.
Os oes angen newidiadau ym maes tai arnoch, gallwch gael gwybod sut mae gofyn am addasiadau ym maes tai.
Os oes arnoch angen newidiadau yn unrhyw le arall gallwch gael gwybod sut mae gofyn am addasiadau.
Er enghraifft, efallai y bydd angen i'ch cyngor lleol, ysbyty neu gwmni trenau wneud newidiadau.
I weld a allwch chi weithredu ynghylch gwahaniaethu, bydd angen i chi wneud y canlynol:
Gweld a ydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Gweld a oes rhaid i'r unigolyn neu'r sefydliad wneud addasiadau rhesymol
Gweld pa fath o addasiadau rhesymol y dylech chi eu cael
Gweld a ydych chi o dan anfantais heb yr addasiadau
Os yw pob un o'r 4 cam yn berthnasol ac nad ydych chi'n cael addasiadau rhesymol, mae hyn yn wahaniaethu.
1. Gweld a ydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
Os ydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae'n rhaid i bobl a sefydliadau wneud addasiadau rhesymol i wneud pethau'n haws i chi ac i hwyluso mynediad.
Mae diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd yn eithaf eang, felly efallai eich bod chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun yn anabl – er enghraifft, os oes gennych chi ADHD neu salwch tymor hir.
You can gallwch weld sut mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd.
2. Gweld a oes rhaid i'r unigolyn neu'r sefydliad wneud addasiadau
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud y gallwch chi ofyn am addasiadau rhesymol yn y meysydd canlynol:
gwaith – er enghraifft eich cyflogwr neu asiantaeth gyflogi
addysg – er enghraifft ysgol, coleg neu brifysgol
busnes neu ddarparwr gwasanaeth – fel siop neu gwmni trenau
darparwr iechyd neu ofal – fel ysbyty neu gartref gofal
tai – fel landlord neu asiant eiddo
darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus – er enghraifft yr heddlu neu eich cyngor lleol
clybiau a chymdeithasau – fel clwb chwaraeon
Fel arfer, dylai sefydliadau feddwl am anghenion pobl anabl a gwneud eu hadeiladau a'u gwasanaethau'n hygyrch cyn i chi orfod gofyn. Gelwir hyn yn 'ddyletswydd rhag-gynllunio' i wneud addasiadau rhesymol.
Nid yw'r ddyletswydd hon yn berthnasol ym maes gwaith a thai. Rhaid i gyflogwyr wneud newidiadau unwaith y byddant yn gwybod eich bod yn anabl. Rhaid i landlordiaid wneud newidiadau ar ôl i chi ofyn am addasiadau.
Addasiadau gan eich landlord
Mae'r rheolau sy'n ymwneud ag addasiadau rhesymol ychydig yn wahanol os ydych chi'n byw gyda'ch landlord neu un o'i berthnasau – neu os oedd eich landlord yn arfer byw gyda chi.
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, holwch i weld a allwch chi gael addasiadau rhesymol gan eich landlord.
3. Gweld pa fath o addasiadau rhesymol y dylech chi eu cael
Mae 3 math o addasiad rhesymol y mae'n rhaid i sefydliadau eu gwneud i’ch helpu drwy hwyluso mynediad a gwneud pethau'n haws i chi.
Dylai pobl a sefydliadau:
newid rheol neu ffordd o wneud pethau – er enghraifft, yr oriau y mae'n rhaid i chi eu gweithio, proses ymgeisio neu sut maen nhw'n cysylltu â chi
newid nodwedd ffisegol adeilad – er enghraifft grisiau, toiledau neu oleuadau
rhoi offer neu gymorth i chi – er enghraifft, os oes angen dolenni sain arnoch ar gyfer eich cymorth clyw neu ddarllenydd sgrin, neu gymorth i lenwi ffurflen
Mae'r hyn sy'n gwneud newid yn 'rhesymol' yn dibynnu ar eich sefyllfa benodol chi – er enghraifft, faint y bydd y newid yn eich helpu chi a maint y sefydliad sy'n gyfrifol am y newid.
Addasiadau i reol neu ffordd o wneud pethau
Rhaid i bobl a sefydliadau wneud newidiadau rhesymol i reol neu ffordd o wneud pethau os bydd yn eich helpu drwy hwyluso mynediad a gwneud pethau'n haws i chi.
Gallai’r newidiadau hyn gynnwys:
dileu targedau yn y gwaith neu eu gwneud yn fwy hyblyg
cael mwy o ddewisiadau cysylltu – er enghraifft, ffôn yn ogystal ag e-bost
newid telerau mewn contract neu bolisi ffurfiol
newid proses – fel proses dalu neu ymgeisio
Mae prifysgol Fei yn caniatáu i fyfyrwyr barcio mewn meysydd parcio penodol ar gyfer myfyrwyr. Mae gan Fei amhariad symudedd sy'n golygu bod angen iddi barcio'n agos at ei dosbarthiadau. Nid yw hyn bob amser yn bosibl gan mai dim ond ar un ochr i'r campws y mae meysydd parcio'r myfyrwyr.
Mae gan Brifysgol Fei ddyletswydd i newid y polisi parcio er mwyn gwneud pethau'n haws i Fei. Er enghraifft, gallai'r brifysgol newid y polisi parcio i ganiatáu i Fei barcio yn unrhyw un o feysydd parcio'r campws.
Addasiadau i nodwedd ffisegol adeilad
Fel arfer, rhaid i sefydliadau wneud newidiadau rhesymol i nodwedd ffisegol adeilad os bydd yn eich helpu drwy hwyluso mynediad a gwneud pethau'n haws i chi. Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer ysgolion a thai.
Er enghraifft, dylai sefydliadau wneud newidiadau rhesymol i'r canlynol:
stepiau a grisiau – er enghraifft gosod rampiau neu lifftiau grisiau
drysau – er enghraifft gwneud drysau'n lletach neu osod drysau awtomatig
toiledau – er enghraifft, ychwanegu toiledau hygyrch
goleuo ac awyru
Newidiadau gan landlord neu sefydliad tai
Does dim rhaid i bobl fel landlordiaid, asiantau gosod a rheolwyr eiddo newid nodweddion ffisegol adeilad os gofynnwch chi iddynt – ond gallwch ofyn iddynt newid eitemau y gellir eu symud neu eu tynnu, fel dodrefn a gosodiadau.
Er enghraifft, fe allen nhw wneud y canlynol:
gosod arwyddion neu hysbysiadau neu roi rhai newydd yn eu lle
newid tapiau neu handlenni drysau – neu osod canllawiau cydio
newid lliw wal, drws neu unrhyw arwyneb arall
newid cloch y drws neu system mynediad y drws
Os na all sefydliad wneud newidiadau ffisegol i'ch llety, gallwch hefyd edrych ar ffyrdd eraill o gael addasiadau i'ch cartref ar wefan Scope.
Os oes arnoch angen i ysgol wneud newidiadau
Does dim rhaid i ysgolion newid nodweddion ffisegol adeilad os byddwch chi'n gofyn iddyn nhw wneud hynny.
Yn hytrach, mae'n rhaid i ysgolion greu cynlluniau cyffredinol i wella hygyrchedd eu hadeiladau. Rhaid iddynt adolygu'r cynlluniau hyn a’u rhoi ar waith yn rheolaidd. Gallwch ofyn i'r ysgol ddangos ei chynllun i chi a dweud wrthych sut mae'n ei gyflawni.
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd mynd i mewn i adeilad ysgol neu ei ddefnyddio, mae'n dal yn rhaid i'r ysgol ystyried gwneud newidiadau i chi – hyd yn oed os nad yw'n gallu newid nodwedd ffisegol adeilad.
Er enghraifft, os nad yw ysgol yn gallu gosod lifft ar gyfer plentyn sy'n defnyddio cadair olwyn, dylai wneud yn siŵr bod holl ddosbarthiadau’r plentyn ar y llawr gwaelod.
Os oes angen offer neu gymorth ychwanegol arnoch
Fel arfer, mae'n rhaid i bobl a sefydliadau roi offer neu gymorth ychwanegol i chi os bydd hynny'n hwyluso mynediad neu’n gwneud pethau'n haws i chi.
Dyma enghreifftiau o gymhorthion a gwasanaethau:
dolen sain gludadwy ar gyfer pobl â chymhorthion clyw
dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain
rhoi gwybodaeth mewn fformatau eraill, fel Braille neu gryno ddisgiau sain
cymorth ychwanegol gan staff – er enghraifft, cymryd mwy o amser i egluro rhywbeth neu gael gwasanaethau wyneb yn wyneb i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd neu ffôn
Keiran wants to apply for Council Tax Reduction but his local council says he has to apply online. Keiran finds this difficult because he has a learning disability. He needs support to fill in the form.
The local council should have a service that can give Keiran extra help to apply. If they don’t make this reasonable adjustment, it might be unlawful discrimination.
Gweld a yw'r addasiadau y gwnaethoch chi ofyn amdanynt yn rhesymol
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud mai dim ond newidiadau 'rhesymol' y mae'n rhaid i bobl a sefydliadau eu gwneud i'ch helpu drwy hwyluso mynediad a gwneud pethau'n haws i chi.
Er enghraifft, efallai na fydd yn rhesymol i sefydliad bach wneud newid drud a fydd ond yn helpu ychydig bach arnoch chi.
I weld a yw newid yn rhesymol, dylech feddwl am y canlynol:
faint fydd y newid yn eich helpu chi – po fwyaf y bydd yn helpu, y mwyaf tebygol ydyw o fod yn rhesymol
yr amser a'r gost sydd ynghlwm wrth wneud y newid
maint ac adnoddau'r sefydliad
a fyddai'r newid sydd ei angen arnoch yn newid y ffordd y mae gwasanaeth neu fusnes yn cael ei redeg yn sylweddol
a oes ffyrdd eraill o helpu a allai fod yn haws neu'n rhatach
Os bydd sefydliad yn dweud nad yw newid y gwnaethoch chi gais amdano yn rhesymol, dylai weithio gyda chi i ddod o hyd i addasiadau eraill sy'n eich helpu.
4. Gweld a ydych chi o dan anfantais heb yr addasiadau
Mae'n rhaid i bobl a sefydliadau wneud addasiadau rhesymol os byddai'n anoddach i chi wneud pethau neu gael mynediad at bethau hebddynt. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn galw hyn yn ‘anfantais sylweddol’.
Efallai y byddwch chi o dan anfantais sylweddol hyd yn oed os ydach chi dal yn gallu cael mynediad at wasanaeth. Mae'n rhaid i chi ddangos bod peidio â chael yr addasiadau rhesymol yn cael effaith negyddol arnoch chi.
Er enghraifft, gallech fod o dan anfantais sylweddol os yw rhywbeth:
yn gwneud tasgau gwaith yn hirach, yn anoddach neu'n fwy o straen
yn ei gwneud yn anoddach i chi ddefnyddio adeilad
yn achosi poen, anghysur neu ofid i chi
yn eich atal rhag gallu gwneud rhywbeth yn annibynnol
yn cyfyngu ar sut rydych chi’n gallu cyfathrebu neu symud o gwmpas
Herio penderfyniad ynghylch addasiadau rhesymol
Os ydych chi'n meddwl bod gan y person neu'r sefydliad ddyletswydd i wneud y newidiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt, efallai eich bod wedi cael profiad o wahaniaethu.
Fel arfer, mae'n llawer haws ceisio datrys y broblem yn uniongyrchol gyda'r person neu'r sefydliad cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol.
Mae'n werth gofyn iddynt ailystyried eich cais am addasiadau rhesymol. Gallwch roi gwybodaeth ychwanegol iddynt i ddangos pam mae gennych hawl i addasiadau rhesymol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallwch hefyd herio unrhyw resymau annheg a roddwyd ganddynt dros beidio â gwneud y newidiadau.
Er enghraifft, fe allech chi:
egluro sut rydych chi'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
nodi beth sy'n achosi'r broblem – er enghraifft, rheol, nodweddion adeilad neu ddiffyg offer
esbonio sut mae'r broblem yn dal i wneud pethau'n anodd i chi
esbonio pam rydych chi'n meddwl bod y newid sydd ei angen arnoch chi'n rhesymol
dweud bod ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau ar eich cyfer
Os ydych chi'n dal yn methu cael y newidiadau sydd eu hangen arnoch
Mae camau eraill y gallech eu cymryd gan ddefnyddio'r Ddeddf Cydraddoldeb – er enghraifft, gallech wneud cwyn ffurfiol neu gael help gan ombwdsmon. Os nad yw hyn yn gweithio, gallech gyflwyno hawliad cyfreithiol. Gallwch ddefnyddio ein hadnodd ar-lein i weld pa fath o gamau sy'n addas i'ch sefyllfa chi.
Mae terfynau amser ar gyfer cymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu. Os bydd angen i chi fynd i'r llys, mae'n bwysig gweithredu'n gyflym – gall y cyfyngiadau amser fod cyn lleied â 3 mis o'r dyddiad y bu i chi brofi gwahaniaethu. Edrychwch beth yw’r terfynau amser.
Os nad ydych chi'n meddwl eich bod wedi dioddef gwahaniaethu
Mae'n dal yn werth cysylltu â'r person neu'r sefydliad eto. Hyd yn oed os nad oes ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i wneud yr addasiadau y gofynnoch amdanynt, efallai y gallent wneud newidiadau eraill.
Os byddant yn dal i wrthod, efallai y byddai'n werth cael cyngor a chymorth gan sefydliad sy'n helpu pobl gyda'ch anabledd – er enghraifft, Scope, Mind neu’r RNID.
Gallech hefyd roi cynnig ar gwyno. Er enghraifft, fe allech chi wneud y canlynol:
rhoi gwybod i Safonau Masnach am weithredu annheg
cysylltu â’r ombwdsmon perthnasol - er enghraifft, yr ombwdsmon rheilffyrdd neu’r ombwdsmon eiddo
Os oes angen rhagor o help arnoch
Os nad ydych chi’n siŵr oes gan rywun ddyletswydd gyfreithiol i wneud newidiadau ar eich rhan, dylech gael cyngor cyn gynted â phosibl. Mae terfynau amser ar gyfer cymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu, felly dylech weithredu'n gyflym.
Siaradwch â chynghorwr i gael help i weld a oes gennych chi hawl i'r newidiadau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Mawrth 2024