Claiming compensation for a personal injury

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi am gymryd camau cyfreithiol i hawlio iawndal am anaf personol, bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy'n arbenigo yn y mathau hyn o achosion. Rhaid gwneud hyn cyn gynted â phosibl gan fod terfynau amser caeth ar gyfer cymryd camau cyfreithiol.

Terfynau amser

Mae gwahanol derfynau amser ar gyfer cychwyn achos cyfreithiol mewn hawliad anaf personol. Dylech gael cyngor cyfreithiol ar frys os ydych am hawlio iawndal.

Yr hawliad mwyaf cyffredin mewn achos anaf personol yw esgeuluster a’r terfyn amser ar gyfer hyn yw 3 blynedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cychwyn achos llys o fewn 3 blynedd i chi fod yn ymwybodol gyntaf eich bod wedi dioddef anaf.

Mewn rhai achosion, gall llys benderfynu ymestyn terfyn amser, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos.

Talu am gamau cyfreithiol

Gall camau cyfreithiol am iawndal ar gyfer anaf personol fod yn ddrud. Efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau cyfreithiol drwy gyfrwng cytundeb ffi amodol neu bolisi yswiriant - mae llawer o bolisïau cynnwys tŷ, yswiriant car neu bolisïau yswiriant teithio yn cynnwys yswiriant costau cyfreithiol.

Cytundeb ffi amodol

Mae cytundeb ffi amodol yn golygu na fydd eich cyfreithiwr yn cael unrhyw ffioedd os byddwch yn colli eich achos. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd a threuliau cyfreithiol yr ochr arall. Fel arfer, bydd eich cyfreithiwr yn gofyn i chi drefnu yswiriant ar gyfer y sefyllfa hon. Os byddwch yn ennill eich achos, bydd ffioedd a threuliau eich cyfreithiwr fel arfer yn cael eu talu gan yr ochr arall.

Os cawsoch chi ddamwain ar y ffordd ac nid chi oedd ar fai

Os cawsoch fân anaf, efallai y gallwch hawlio iawndal am ddim a heb gymorth cyfreithiol drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Hawlio Anafiadau Swyddogol. Rhaid i’r ddamwain fod wedi digwydd ar 31 Mai 2021 neu ar ôl hynny.

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth Hawlio Anafiadau Swyddogol ar y wefan Hawlio Anafiadau Swyddogol .

Dewis cyfreithiwr

Os ydych am gymryd camau cyfreithiol ynghylch anaf personol, dylech gysylltu â chyfreithiwr sy'n aelod o gynllun achredu anaf personol neu gynllun achredu esgeuluster clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr, yn dibynnu ar natur yr anaf. Gall Cymdeithas y Cyfreithwyr roi manylion cyfreithwyr sydd ar y cynlluniau achredu hyn a gellir cysylltu â nhw yma:

113 Chancery Lane

London

WC2A 1PL

Ffôn: 020 7242 1222

Ffacs: 020 7831 0344

E-bost: findasolicitor@LawSociety.org.uk

Gwefan: www.lawsociety.org.uk

Cymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL)

Mae Cymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL) yn gymdeithas nid-er-elw o gyfreithwyr, bargyfreithwyr ac academyddion sy'n arbenigo mewn gwaith anafiadau personol. Mae llawer o gyfreithwyr sy’n perthyn i APIL yn rhan o gynllun achredu.

Mae'r cynllun achredu yn gwarantu bod aelodau'n gymwys mewn maes anaf personol penodol. Mae gan gyfreithwyr achrededig, lefel uwch gyfreithiwr ymgyfreitha a thu hwnt, o leiaf bum mlynedd o brofiad o ddelio gyda hawliadau anaf personol.

Mae pob aelod o APIL yn addo dilyn cod ymddygiad a siarter defnyddwyr. Gallant fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr a all ddelio â'ch achos. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am APIL yma:

3 Alder Court

Rennie Hogg Road

Nottingham

NG2 1RX

Ffôn: 0115 943 5400

E-bost: mail@apil.org.uk

Gwefan: www.apil.org.uk

Cymdeithas Cyfreithwyr Damweiniau Modur (MASS)

Cymdeithas o gyfreithwyr sydd â phrofiad o ddelio ag anafiadau personol sy'n deillio o ddamweiniau modur yw Cymdeithas Cyfreithwyr Damweiniau Modur (MASS). Mae’r cyfreithwyr sy’n cymryd rhan yn rhoi ymgynghoriad cychwynnol am ddim. Gellir cysylltu â MASS yn:

MASS

C/o Corrigan Accountants Ltd

1st Floor

25 King Street

Bristol

BS1 4PB

Ffôn: 0117 925 9604

E-bost : enquiries@mass.org.uk

Gwefan: www.mass.org.uk

Aelodau sefydliad moduro

Os ydych wedi cael anaf o ganlyniad i ddamwain ar y ffordd a'ch bod yn aelod o sefydliad moduro, er enghraifft, yr AA neu'r RAC, efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol arbenigol drwy'r sefydliad hwnnw.

Aelodau undebau llafur

Os achoswyd eich anaf gan ddamwain, arferion gweithio anniogel neu wahaniaethu yn y gwaith, cysylltwch â'ch undeb llafur os ydych chi'n aelod. Gall yr undeb gyfarwyddo cyfreithwyr i gymryd camau cyfreithiol ar eich rhan ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am hyn.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd dreisgar

Mae rhagor o wybodaeth am hawlio iawndal ar gael yn GOV.UK. 

Os ydych chi wedi gwneud hawliad yn barod ond yn anhapus â’r canlyniad gallwch weld sut mae apelio yn GOV.UK.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 22 Chwefror 2020