Rhannu arian ac eiddo pan fyddwch yn gwahanu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Pan fyddwch yn gwahanu, bydd angen i chi feddwl am sut i rannu eich arian a’ch eiddo.
Dau o’r penderfyniadau mwyaf rydych chi’n debygol o’u gwneud yw beth i’w wneud gyda’ch cartref a sut i rannu unrhyw bensiynau - os oes gennych chi rai.
Ceisiwch roi amser i chi eich hun cyn gwneud penderfyniad. Mae’n llawer haws dod i gytundeb os ydych chi a’ch cyn-bartner yn barod i siarad.
Gallwch ddod i gytundeb rhyngoch chi, ond fel arfer mae’n syniad da siarad â chyfreithiwr ar ôl i chi benderfynu beth rydych chi am ei wneud.
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr cyfraith teulu ar wefan Resolution.
Mae’n bwysig eich bod yn onest am eich sefyllfa ariannol. Os nad ydych chi’n onest a bod eich cyn-bartner yn darganfod yn nes ymlaen eich bod wedi ceisio cuddio rhywbeth, mae’n bosibl y gallent fynd i’r llys a gofyn am fwy o arian gennych chi.
Os yw eich cyn-bartner fel arfer yn delio â’r arian
Os ydych yn gallu, ewch drwy eich sefyllfa ariannol gyda’ch gilydd. Os nad yw hyn yn bosibl, gofynnwch i’ch cyn-bartner a fyddan nhw’n mynd i sesiynau cyfryngu gyda chi.
Mae cyfryngu yn ffordd gost-effeithiol o geisio datrys anghytundebau dros arian ac eiddo. Bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch lenwi ffurflen datgeliad ariannol pan fyddwch yn mynd i sesiynau cyfryngu. Mae hon yn dangos faint o arian sydd gennych chi’n mynd allan ac yn dod i mewn ac mae’n fan cychwyn da ar gyfer trafodaethau.
Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn gwneud cais i’r llys. Mae eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf – er enghraifft, os ydych chi wedi profi cam-drin domestig.
Gweld sut mae cyfryngu’n gweithio.
Os oes angen i chi siarad â rhywun oherwydd bod eich partner yn ymosodol
Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad, dylech gael cymorth.
Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd.
Os ydych yn ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.
Penderfynu beth i’w wneud gyda’ch cartref
Mae’r hyn a wnewch gyda’ch cartref yn dibynnu ar yr hyn y gall y ddau ohonoch fforddio’i wneud unwaith y byddwch yn byw ar wahân, faint o werth (‘ecwiti’) sydd yn y cartref ac a oes gennych unrhyw blant.
Efallai y bydd eich cyn-bartner yn gallu parhau i dalu’r morgais ar eich cartref, neu o leiaf dalu rhywbeth tuag at yr ad-daliadau, ar ôl symud allan.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ddod i gytundeb mwy parhaol. Efallai y byddai’n well cael toriad llwyr, er enghraifft er mwyn i chi a’ch cyn-bartner allu rhentu neu brynu eich cartref eich hun.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael cymorth gyda’ch costau byw pan fyddwch yn gwahanu oddi wrth bartner. Gallai hyn wneud y gwahaniaeth rhwng bod yn gallu aros yn y cartref a gorfod symud allan.
Darllenwch am fudd-daliadau a chymorth gyda’r dreth gyngor.
Mae’n bosib hefyd y gallech chi gael cymorth ariannol (a elwir hefyd yn ‘gynhaliaeth briodasol’) os oeddech chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil.
Os oes gennych chi a’ch cyn-bartner blant, dysgwch sut y gallwch gael cynhaliaeth plant.
Os ydych chi eisiau aros yn y cartref a phrynu cyfran eich cyn-bartner ohono
Efallai y gallwch chi brynu cyfran eich cyn-bartner fel eich bod yn berchen ar y cartref ar eich pen eich hun. Fodd bynnag, hyd yn oed os gallwch chi ddod i gytundeb rhyngoch ynghylch hyn, bydd y cwmni morgais eisiau gwybod eich bod yn gallu fforddio’r taliadau morgais ar eich pen eich hun.
Gall hyn fod yn anodd iawn os nad ydych chi’n gweithio, neu os ydych chi’n gweithio’n rhan-amser yn unig oherwydd eich bod yn gofalu am y plant.
Os na allwch chi fforddio’r taliadau morgais, gofynnwch i’ch cwmni morgais a fyddan nhw’n gadael i chi newid y morgais i forgais llog yn unig. Dylai hyn leihau eich taliadau misol.
Dylech ofyn i’ch cwmni morgais a fyddan nhw’n fodlon rhoi morgais i chi yn eich enw eich hun. Hyd yn oed os ydyn nhw’n fodlon gwneud hynny, efallai y gallwch chi gael bargen well felly dylech chi siarad â chynghorydd morgais neu ariannol. Efallai y byddan nhw’n gallu argymell pethau eraill y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw.
Os nad oes unrhyw ffordd y gallwch chi brynu cyfran eich cynbartner, gallech geisio dod i drefniant arall. Er enghraifft, os oes gennych blant, efallai y gallwch chi aros yn y tŷ gyda nhw nes bod eich plentyn ieuengaf yn 18 oed neu’n gorffen addysg uwchradd. Gallwch chi wedyn werthu’r tŷ.
Gallai hyn fod yn anodd ei drefnu felly dylech gael cyngor cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr cyfraith teulu ar wefan Resolution.
Os ydych am werthu eich cartref
Trafodwch hyn gyda’ch cyn-bartner. Efallai y bydd yn gwneud mwy o synnwyr i un ohonoch aros yn y cartref os nad oes llawer o ‘ecwiti’ ynddo. Ecwiti yw faint o arian sydd ar ôl o werthu tŷ ar ôl i chi dalu eich morgais.
Os yw eich cartref yn gwerthu am £250,000 a bod gennych forgais o £200,000 arno, £50,000 yw’r ecwiti. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd eraill o’r £50,000 hwnnw, megis i gyfreithwyr a gwerthwyr tai. Gallai’r ffioedd ychwanegol hyn fod tua 2-3% o’r pris gwerthu felly gallech fod â llai na £50,000 yn y pen draw.
Siaradwch â gwerthwr tai os ydych chi eisiau cael syniad o werth eich cartref. Mae’n syniad da cael 3 prisiad gwahanol fel bod gennych chi amrywiaeth o brisiau gwerthu i ddewis ohonynt. Dylech hefyd holi eich banc neu gymdeithas adeiladu i weld faint sydd ar ôl ar eich morgais.
Unwaith y byddwch chi’n gwybod beth yw’r ecwiti, ceisiwch ddod i gytundeb gyda’ch cynbartner ynghylch beth rydych chi’n mynd i’w wneud. Yna siaradwch â chyfreithiwr.
Mae penderfynu sut i rannu’r ecwiti rhyngoch yn gymhleth ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
faint rydych chi och dau yn ei ennill
os oes gennych chi unrhyw arian neu eiddo arall
eich anghenion a’ch cyfrifoldebau, er enghraifft os oes gennych blant
pa mor hir yr ydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
faint mae pob un ohonoch wedi’i gyfrannu at y berthynas - yn ariannol ac yn emosiynol
Gall cyfreithiwr rhoi gwybod i chi beth fydd gennych hawl iddo os byddwch yn gwerthu eich cartref.
Rhannu eich pensiwn
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y bydd gennych hawl i gyfran o bensiwn eich cyn-bartner pan fyddwch yn ysgaru neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben.
Dylech geisio dod i gytundeb rhyngoch neu fynychu sesiynau cyfryngu ynghylch yr hyn yr ydych am ei wneud gyda phensiwn. Dysgwch sut i siarad â chyfryngwr.
Mae’n well cael cyngor gan gyfreithiwr cyfraith teulu yn gyntaf. Efallai y bydd angen i chi siarad ag ymgynghorydd ariannol hefyd - dysgwch sut i gael cyngor ariannol.
Gall sut y byddwch yn rhannu pensiwn ddibynnu ar ei werth. Y ffordd fwyaf cyffredin o rannu pensiwn yw symud rhywfaint o bensiwn eich cyn-bartner i gynllun eich hun. Gelwir hyn yn ‘rhannu pensiwn’.
Dim ond pan fydd barnwr yn rhoi ‘gorchymyn rhannu pensiwn’ yn ystod eich ysgariad neu ddiddymiad eich partneriaeth sifil y gellir rhannu pensiwn.
Gall cyfreithwyr fod yn gostus iawn. Paratowch yr hyn a hoffech chi ei drafod cyn siarad â nhw er mwyn cadw eich sesiynau mor fyr â phosibl.
Bydd rhai cyfreithwyr yn cynnig cyfarfod cychwynnol am ddim neu am gost sefydlog – defnyddiwch yr amser hwn i gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Nid ydych yn debygol o gael cyngor manwl ond dylech gael syniad o ba mor gymhleth yw eich achos ac yn fras faint y bydd yn ei gostio i chi.
Dylech ofyn i’ch cyfreithiwr roi amcangyfrif ysgrifenedig i chi o faint fydd eich ffioedd cyfreithiol.
Rhannu adnoddau ariannol eraill
I rannu popeth arall, gwnewch restr o’r pethau rydych chi a’ch cyn-bartner yn berchen arnynt, gan gynnwys y canlynol:
eiddo personol, er enghraifft, dodrefn neu emwaith
ceir
arian mewn cyfrifon banc (cyfrifon ar y cyd yn ogystal â’ch un chi)
cynilion a buddsoddiadau
Does dim rhaid i chi restru bob dim yr ydych yn berchen arno. Gallai fod yn gyflymach dim ond cynnwys pethau sydd dros £500, neu bethau rydych chi wir eisiau eu cadw.
Bydd angen i chi hefyd gynnwys unrhyw ddyledion sydd gennych, megis gorddrafft banc, dyledion cerdyn credyd neu gytundeb hurbwrcas.
Os yw eich dyledion yn cael eu rhannu, bydd y ddau ohonoch yn gyfrifol am y swm cyfan - nid dim ond eich hanner chi. Mae hyn yn golygu os bydd eich cyn-bartner yn rhoi’r gorau i dalu’r ddyled ar ôl i chi wahanu, bydd yn rhaid i chi dalu’r ddyled ar eich pen eich hun.
Hyd yn oed os ydych chi a’ch cyn-bartner yn siarad â’ch gilydd, mae’n syniad da gwneud yn siŵr bod gennych gynllun ar gyfer talu’r dyledion rydych chi’n eu rhannu. Os ydych chi’n poeni na all eich cynbartner dalu neu’n gwrthod talu, dylech siarad â chyfreithiwr.
Gallwch barhau i ddefnyddio cyfrif banc ar y cyd gyda’ch cyn-bartner ar ôl i chi wahanu, er enghraifft os yw costau gofal plant y cael eu rhannu gennych.
Fodd bynnag, mae’n debyg ei bod yn well cau’r cyfrif ac agor rhai ar wahân er mwyn atal unrhyw anghytundeb ynghylch arian. Bydd angen ganiatâd gan y ddau ohonoch i gau cyfrif. Os na fyddwch yn cau’r cyfrif, gallai eich partner gael gafael ar yr arian neu fynd i ddyledion, a fydd hyn yn gyfrifoldeb i chi.
Os yw eich cyfrif ar y cyd yn mynd i orddrafft, dylech ei rewi – nid oes angen caniatâd eich partner arnoch i wneud hyn. Bydd hyn yn eich atal chi neu eich cyn-bartner rhag tynnu arian a chreu mwy o ddyled.
Os ydych chi’n poeni y bydd gwneud hyn yn peri gofid i’ch cyn-bartner, dylech siarad â chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gyntaf.
Penderfynu pwy sy’n berchen ar rywbeth
Does dim ffordd hawdd o benderfynu pwy sy’n berchen ar rywbeth o berthynas. Bydd angen i chi eistedd i lawr gyda’ch cynbartner a mynd drwy bethau fesul un.
Ceisiwch gytuno ar gymaint o bethau ag y gallwch. Os oes rhaid i chi fynd i’r llys i benderfynu pwy sy’n cael cadw rhywbeth, mae’n ddigon hawdd i chi wario mwy ar ffioedd cyfreithwyr na hynny mae’r eitem ei werth.
Gall helpu i ysgrifennu ar eich rhestr faint yw gwerth pob eitem yn eich barn chi. Drwy wneud hynny, os yw un ohonoch am gadw eitem sy’n ddrutach, gallai’r person arall gymryd nifer o eitemau llai o’r un gwerth.
Penderfyniadau am ddodrefn a nwyddau gwyn
Os ydych chi’n ceisio rhoi gwerth ar bethau megis dodrefn neu nwyddau gwyn, mae’n syniad da amcangyfrif eu gwerth pan yn newydd – yn hytrach na faint allech chi gael am eu gwerthu nawr.
Efallai mai dim ond £100 fyddai gwerth soffa 10 oed rydych chi wedi’i rhannu â’ch cyn-bartner, ond byddai’r gost o gael un newydd yn ei lle os oes rhaid i chi symud i gartref newydd yn llawer mwy.
Beth i’w wneud nesaf
Os ydych chi’n cytuno â’ch cyn-bartner
Does dim rhaid i chi ysgrifennu cytundeb cymhleth. Os gallwch chi gytuno ar brif bwyntiau eich gwahaniad, rhowch nhw ar bapur er mwyn i chi allu gweld beth rydych chi wedi’i benderfynu.
Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth arall, ond fel arfer mae’n syniad da mynd â’ch cytundeb at gyfreithiwr i wneud yn siŵr ei fod yn deg.
Os ydych eisoes wedi dechrau ar y broses o gael ysgariad neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
Gofynnwch i’ch cyfreithiwr lunio ‘gorchymyn cydsynio’. Mae hwn yn fath o gytundeb y gellir ei wneud yn gyfreithiol rwymol gan farnwr.
Unwaith y bydd y cytundeb wedi’i wneud yn gyfreithiol rwymol, bydd eich trefniadau’n derfynol a byddwch yn gallu mynd â’ch cyn-bartner i’r llys os na fyddant yn glynu wrth rywbeth y cytunwyd arno.
Os nad ydych wedi dechrau ar y broses o gael ysgariad neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben
Dylech fynd at gyfreithiwr hyd yn oed os nad ydych wedi dechrau ar y broses o gael ysgariad neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.
Bydd cyfreithiwr yn gallu drafftio rhywbeth o’r enw ‘cytundeb gwahanu’. Nid yw hyn yn gyfreithiol rwymol, ond fel arfer gallwch ei ddefnyddio yn y llys cyn belled a bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
mae’n deg, a gallwch chi a’ch cyn-bartner ddangos eich bod wedi deall yr hyn yr oeddech yn cytuno iddo - er enghraifft, os cawsoch gyngor cyfreithiol
mae wedi cael ei ddrafftio’n briodol gan gyfreithiwr
rydych chi a’ch cyn-bartner yn yr un sefyllfa ariannol â phan wnaethoch chi’r cytundeb
Gallwch chwilio am gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Cyfreithiwr.
Os na allwch chi gytuno â’ch cyn-bartner
Os ydych chi’n dal i fethu â chytuno beth sy’n digwydd i’ch arian ar ôl i chi wahanu, bydd angen i chi wneud cais i’r llysoedd am orchymyn ariannol. Mae hwn yn gofyn i farnwr benderfynu sut i rannu pethau.
Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn gwneud cais i’r llys. Mae eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf – er enghraifft, os ydych chi wedi profi cam-drin domestig. Gweld sut mae cyfryngu’n gweithio.
Gallwch wneud cais am orchymyn ariannol unrhyw bryd ar ôl i chi gyflwyno cais i ddod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben, ond mae’n well eich bod yn gwneud hynny cyn i chi gael eich dyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol. Po hiraf y byddwch yn aros cyn gwneud cais ar ôl gwahanu, y lleiaf y bydd y barnwr yn ei ddyfarnu i chi.
Gallwch ddarllen mwy am wneud cais am orchymyn ariannol ar GOV.UK.
Os ydych chi’n poeni am gostau cyfreithiol
Mae’n bosibl y gallwch gael cymorth cyfreithiol i dalu am gyfryngu pan fyddwch yn gwahanu, ond mae’n anodd iawn ei gael ar gyfer costau cyfreithiol - hyd yn oed os ydych ar fudd-daliadau.
Fel arfer, mae cymorth cyfreithiol ar gael dim ond os ydych chi neu eich plant wedi dioddef cam-drin domestig. Mae cam-drin domestig yn cynnwys ymddygiad rheolaethol, megis eich atal rhag codi eich arian eich hun.
Gweld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar GOV.UK.
Efallai fod ffyrdd eraill y gallwch dalu llai am eich cymorth cyfreithiol. Darllenwch am help i dalu ffioedd cyfreithiol pan fyddwch yn gwahanu.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 30 Medi 2019