Priodi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pwy all briodi

Yn y Deyrnas Unedig, gall cyplau o rywiau gwahanol briodi mewn seremoni sifil neu grefyddol.

Gall cyplau o’r un rhyw briodi mewn seremoni sifil, ond ni allant briodi mewn seremoni grefyddol oni bai fod y sefydliad crefyddol wedi cytuno i briodi cyplau o’r un rhyw. Ni all cyplau o’r un rhyw briodi yn yr Eglwys yng Nghymru nac yn Eglwys Loegr.

Mae cyplau o’r un rhyw sy’n priodi dramor dan gyfraith dramor yn cael eu cydnabod fel pâr priod yng Nghymru a Lloegr.

Gall pob cwpwl briodi os yw’r ddau yn 18 oed neu drosodd ac yn rhydd i briodi, hynny yw, os ydynt yn sengl, yn weddw neu wedi ysgaru, neu os oeddent mewn partneriaeth sifil sydd wedi ei diddymu.

Os ydych dan 18 oed

Ni allwch briodi’n gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr.

Cyn 27 Chwefror 2023, gallech briodi pan oeddech yn 16 neu 17. Roedd angen i chi gael cydsyniad pob rhiant â chyfrifoldeb rhiant ac unrhyw warcheidwad cyfreithiol. Gallwch wirio pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant ar GOV.UK.

Mae’n bosibl nad ydych wedi gallu cael cydsyniad eich rhieni, efallai oherwydd nad ydych yn gwybod ble maen nhw. Neu efallai fod eich rhieni wedi gwrthod cydsynio i chi briodi. Os hynny, byddai angen i chi gael caniatâd gan lys i briodi.

Os nad ydych wedi cael cydsyniad eich rhieni neu ganiatâd gan y llys, mae’n debyg nad yw eich priodas yn gyfreithlon.

Pobl drawsryweddol

Gall unigolyn trawsryweddol sydd wedi gwneud cais am dystysgrif cydnabod rhywedd lawn gan y Panel Cydnabod Rhywedd, a bod y cais hwnnw wedi cael ei ganiatáu, gael tystysgrif geni newydd sy’n adlewyrchu ei rywedd caffaeledig. Yn dilyn hyn, yng Nghymru a Lloegr, bydd yn gallu priodi rhywun o rywedd gwahanol i’w rywedd caffaeledig neu o’r un rhywedd â’i rywedd caffaeledig. Fodd bynnag, os nad oes gan unigolyn trawsryweddol dystysgrif cydnabod rhywedd, mae’n cael ei ystyried yn ôl y gyfraith fel unigolyn o’r rhywedd sydd ar ei dystysgrif geni wreiddiol.

Os ydych chi neu eich partner yn y carchar

Gallwch briodi mewn seremoni sifil neu grefyddol. 

Fodd bynnag, mae’r rheolau’n wahanol os oes un ohonoch yn treulio dedfryd oes heb bosibilrwydd o gael eich rhyddhau – gelwir hyn yn ‘orchymyn oes gyfan’. Os oes un ohonoch yn treulio gorchymyn oes gyfan, ni allwch briodi oni bai fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn caniatáu i chi wneud.

Perthnasau na allant briodi

Ni chaniateir i rai perthnasau briodi. Os byddant yn priodi, bydd y briodas yn cael ei dirymu yn awtomatig hyd yn oed os nad ydynt yn gwybod eu bod yn perthyn. Ni all unigolyn briodi unrhyw un o’r perthnasau a ganlyn:

  • plentyn, gan gynnwys plentyn mabwysiedig

  • rhiant, gan gynnwys rhiant sydd wedi mabwysiadu

  • brawd neu chwaer, gan gynnwys hanner brawd neu hanner chwaer

  • brawd neu chwaer rhiant, gan gynnwys hanner brawd neu hanner chwaer

  • taid neu nain

  • ŵyr neu wyres

  • plentyn i frawd neu chwaer, gan gynnwys hanner brawd neu hanner chwaer.

Ni chaiff plant mabwysiedig briodi eu rhieni genetig na’u teidiau a’u neiniau genetig. Os byddant yn gwneud, caiff y briodas ei dirymu yn awtomatig (gweler dan y pennawd Priodasau nad ydynt yn ddilys) hyd yn oed os nad ydynt yn gwybod eu bod yn perthyn. Ni chaiff plant mabwysiedig briodi eu rhieni mabwysiedig, ond caniateir iddynt briodi gweddill y teulu mabwysiedig, gan gynnwys eu brawd neu chwaer fabwysiedig.

Gall pobl sy’n llys-berthnasau neu sy’n berthnasau yng nghyfraith briodi mewn amgylchiadau penodol yn unig.

I gael gwybodaeth ynglŷn â pha lys-berthnasau a pherthnasau yng nghyfraith all briodi, dylech siarad â chynghorydd.

Dyweddïo

Mae dyweddïo yn dangos eich bod yn bwriadu priodi, ond nid yw’n newid eich statws cyfreithiol. Os byddwch yn dyweddïo gallwch newid eich meddwl ynglŷn â phriodi – nid oes cyfraith sy’n dweud bod yn rhaid i chi fynd ymlaen â’r briodas.

Os byddwch yn terfynu eich dyweddïad

Os rhoddodd eich partner fodrwy dyweddïo i chi, gallwch ei chadw fel arfer. Nid oes rhaid i chi roi’r fodrwy yn ôl oni bai fod eich partner wedi dweud y byddech yn gorfod gwneud hynny os nad ydych yn ei briodi. Rhaid iddo fod wedi dweud hyn pan roddodd y fodrwy i chi – os dywedodd hynny yn ddiweddarach, ni all wneud i chi roi’r fodrwy yn ôl.

Bydd angen i chi feddwl sut i rannu eich arian a’ch eiddo. Os na allwch gytuno ynglŷn â sut i wneud hyn, dylech gael cyngor cyfreithiol. Efallai y gallwch ofyn i’r llys wneud gorchymyn – bydd angen i chi wneud hyn cyn pen 3 blynedd ar ôl i’ch dyweddïad ddod i ben.

Darllenwch am rannu arian ac eiddo pan fyddwch yn gwahanu.

Cytundebau cyn-briodasol ac ôl-briodasol

Mae cytundeb cyn-briodasol yn gontract a wneir cyn priodas sy’n amlinellu sut y mae cwpwl yn dymuno rhannu eu harian a’u heiddo os byddant yn ysgaru. Mae cytundeb ôl-briodasol yn debyg, ond mae’n cael ei wneud ar ôl priodas.

Gall cytundebau cyn-briodasol ac ôl-briodasol eich rhwymo mewn cyfraith oni bai fod y llys yn ystyried eu bod yn annheg. Dylech cael cyngor gan gyfreithiwr cyn i chi wneud cytundeb. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Ble gellir cynnal priodas

Gellir cynnal priodas mewn:-

  • Swyddfa Gofrestru

  • safle wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol, er enghraifft gwesty

  • un o eglwysi’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr

  • synagog neu le preifat arall os yw’r ddau bartner yn Iddewon

  • Tŷ Cwrdd os yw un o’r partneriaid neu’r ddau ohonynt naill ai’n aelodau o Gymdeithas y Cyfeillion (y Crynwyr) neu’n gysylltiedig â’r Gymdeithas drwy fynd i gyfarfodydd

  • unrhyw adeilad crefyddol cofrestredig (Cymru a Lloegr yn unig)

  • cartref un o’r partneriaid os yw’r partner yn gaeth i’r tŷ neu dan gadwad, er enghraifft, mewn carchar

  • man lle mae un partner yn ddifrifol wael ac nad oes disgwyl iddo wella, er enghraifft, mewn ysbyty

  • capel trwyddedig yn y llynges, y fyddin neu’r llu awyr

Ni all cyplau o’r un rhyw briodi mewn seremoni grefyddol oni bai fod y sefydliad crefyddol wedi cytuno i gynnal priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw, a bod y safle wedi’i gofrestru ar gyfer priodi cyplau o’r un rhyw. Nid oes rhaid i sefydliadau crefyddol neu weinidogion unigol briodi cyplau o’r un rhyw. Ni all cyplau o’r un rhyw briodi yn yr Eglwys yng Nghymru nac yn Eglwys Loegr.

Safle wedi’i gymeradwyo gan awdurdod lleol

Gall awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gymeradwyo safleoedd ar wahân i Swyddfeydd Cofrestru ar gyfer cynnal priodasau sifil. Rhaid i geisiadau ar gyfer cymeradwyaeth gael eu gwneud gan berchennog yr adeilad neu un o’r ymddiriedolwyr, nid y cwpwl.

Rhaid i’r safle fod ar agor i aelodau o’r cyhoedd yn rheolaidd, felly nid yw cartrefi preifat yn debygol o gael eu cymeradwyo, gan nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Mae plastai, gwestai ac adeiladau dinesig yn debygol o gael eu hystyried yn addas. Ni chaiff canolfannau awyr agored eu cymeradwyo, er enghraifft traethau yng ngolau’r lleuad neu gyrsiau golff. Yn gyffredinol, bydd angen i’r safleoedd fod yn strwythurau adeiledig parhaol, ond mae’n bosibl y gellir rhoi cymeradwyaeth i gwch wedi’i angori’n barhaol sydd ar agor i’r cyhoedd. Ni chaiff balwnau aer poeth neu awyrennau eu cymeradwyo.

Os oes arnoch eisiau priodi mewn safle wedi’i gymeradwyo gan awdurdod lleol dylech gael rhestr o safleoedd gan swyddfeydd y cyngor lleol. Yng Nghymru a Lloegr, gallwch chwilio am safle wedi’i gymeradwyo ar GOV.UK

Sut i briodi

Gallwch briodi mewn seremoni sifil neu seremoni grefyddol.

Yn y naill achos a’r llall, rhaid bodloni’r gofynion cyfreithiol a ganlyn:

  • rhaid i chi roi rhybudd eich bod yn bwriadu priodi – mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar y math o briodas

  • rhaid i chi gael seremoni briodas ddilys mewn adeilad wedi’i gymeradwyo

Rhaid i’r canlynol fod yn bresennol yn y seremoni – y ddau barti, dau dyst, y sawl a oedd yn cynnal y seremoni, ac os nad yw’r unigolyn hwnnw wedi’i awdurdodi i gofrestru priodasau, y sawl sy’n cofrestru’r briodas.

Mae hefyd yn ofynnol dan y gyfraith bod atodlen briodas yn cael ei dychwelyd i’r Swyddfa Gofrestru ac yn cael ei hychwanegu at y gofrestr electronig – ond mae priodas yn dal yn ddilys os nad yw hyn yn digwydd.

Seremonïau priodas sifil

Rhoi rhybudd

Rhaid i chi a’ch partner roi rhybudd o briodas yn eich Swyddfa Gofrestru leol, p’un a ydych yn dymuno priodi yn y rhanbarth hwnnw ai peidio. Os ydych chi a’ch partner yn byw mewn lleoedd gwahanol, bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch fynd i’ch Swyddfa Gofrestru leol i roi rhybudd. Yna bydd y Cofrestrydd Arolygol yn rhoi awdurdod i’r briodas a gallwch briodi mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru neu safle wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol mewn unrhyw ranbarth.

Yng Nghymru a Lloegr, rhaid rhoi 28 diwrnod o rybudd i’r Swyddfa Gofrestru cyn y gellir cynnal y briodas. Rhaid i chi briodi cyn pen 12 mis ar ôl rhoi rhybudd. Rhaid i’r ddau bartner fod yn preswylio am saith niwrnod yng Nghymru neu Loegr cyn rhoi rhybudd. Rhaid i rybudd nodi ble bydd y briodas yn cael ei chynnal. Mae ffi am roi rhybudd.

28 diwrnod ar ôl i chi roi rhybudd, bydd y Swyddfa Gofrestru yn cyhoeddi eich atodlen briodas. Pan fyddwch yn rhoi rhybudd, gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth a roddir gennych i’r Swyddfa Gofrestru yn gywir. Mae’n haws cywiro camgymeriadau pan fyddwch yn rhoi rhybudd yn hytrach nag yn y seremoni.

Bydd y Cofrestrydd yn dod â’ch atodlen i’ch seremoni.

Os yw un o’r partneriaid wedi cael tystysgrif cydnabod rhywedd a’i fod cyn hyn yn bartner sifil i’r sawl y mae’n dymuno ei briodi, nid yw’r cyfnod o 28 diwrnod o rybudd yn ofynnol. Mewn achos o’r fath, gall rhybudd o’r briodas a’r briodas ei hun ddigwydd yr un diwrnod.

Yn y cyfnod rhwng y rhybudd o’r bwriad i briodi a’r seremoni, gall unrhyw un sydd â rhesymau cryf dros wrthwynebu’r briodas wneud hynny. Mae gwneud datganiad anghywir yn drosedd.

Dogfennau y bydd arnoch eu hangen er mwyn rhoi rhybudd

Gofynnir i chi a’ch partner am wybodaeth benodol wrth roi rhybudd o’ch bwriad i briodi. Os ydych chi neu eich partner yn dod o’r tu allan i’r DU, bydd yn rhaid i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth o’ch statws mewnfudo pan fyddwch yn rhoi rhybudd eich bod am briodi.

Mae rhoi gwybodaeth anghywir yn drosedd. Yr wybodaeth a allai fod yn ofynnol yw:

  • tystiolaeth o enw a chyfeiriad

  • tystiolaeth o ddyddiad geni

  • tystiolaeth o genedligrwydd

Os ydych chi neu eich partner wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o’r blaen, efallai y gofynnir i chi am gopi ardystiedig o dystysgrif marwolaeth, gorchymyn terfynol neu archddyfarniad absoliwt. Os nad oes gennych un yn barod, gwiriwch sut i gael copi ardystiedig o’ch gorchymyn terfynol neu archddyfarniad absoliwt ar GOV UK.

Gellir defnyddio amrywiaeth o ddogfennau fel tystiolaeth o’r wybodaeth sy’n ofynnol, ond mae pasbort neu ddogfen deithio yn ddigon fel arfer. Gallwch hefyd ddefnyddio eich tystysgrif geni os cawsoch eich geni cyn 1 Ionawr 1983. Dylech gysylltu â’r swyddfa gofrestru lle byddwch yn priodi i gael cyngor mwy penodol ynglŷn â beth y bydd yn ei dderbyn.

Gallwch wirio pa fath o ddogfennau y mae angen i chi ddod â nhw gyda chi ar GOV.UK.

Os ydych chi neu eich partner o’r tu allan i’r DU

Nid oes angen i chi wneud cais am fisa i ddod i’r DU i roi rhybudd neu i briodi:

  • os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig

  • os ydych wedi cael caniatâd amhenodol i aros yn y DU

  • os oes gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

  • os gwnaethoch gais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar neu cyn 30 Mehefin 2021

  • os ydych eisoes yn y DU ar fisa sy’n para am fwy na 6 mis

Os oes angen i chi wneud cais am fisa

Mae’r math o fisa y bydd arnoch ei angen yn dibynnu o ble rydych chi a’ch partner yn dod ac am faint o amser mae arnoch eisiau aros yn y DU.

Gwiriwch pa fisa y bydd arnoch ei angen i briodi yn y DU ar GOV.UK.

Pan fyddwch yn rhoi rhybudd, bydd y swyddfa gofrestru yn dweud wrth y Swyddfa Gartref. Bydd y swyddfa gofrestru yn rhoi gwybodaeth i’r Swyddfa Gartref amdanoch chi, er enghraifft o ble rydych yn dod. Efallai y bydd y Swyddfa Gartref:

  • yn gofyn cwestiynau i chi amdanoch chi neu eich perthynas – os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am hyd at 70 diwrnod cyn y gallwch briodi

  • penderfynu peidio â chymeradwyo eich rhybudd os yw’n credu nad yw eich perthynas yn un go iawn a’ch bod yn priodi dim ond er mwyn aros yn y DU

Os na fydd y Swyddfa Gartref yn cymeradwyo eich rhybudd, mae hyn yn golygu na allwch briodi yn y DU. Os ydych wedi cael clywed na chewch briodi yn y DU, gallwch gael cyngor mewnfudo arbenigol.

Beth fydd yn digwydd yn y seremoni

Bydd seremoni briodas mewn Swyddfa Gofrestru leol neu safle wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn cymryd tua 10-15 munud. Bydd y Cofrestrydd Arolygol yn gwneud datganiad byr am briodas; gallwch ofyn i’r cofrestrydd nodi ffurf y geiriau a ddefnyddir ymlaen llaw. Nid yw’n bosibl defnyddio geiriau crefyddol neu emynau yn y seremoni sifil. Fodd bynnag, gall y seremoni gynnwys darlleniadau, caneuon neu gerddoriaeth sy’n cynnwys cyfeiriad at dduw cyn belled eu bod mewn 'cyd-destun anghrefyddol yn ei hanfod'. 

Mae’n ofynnol i bob partner ailadrodd cyfres safonol o addunedau. Ni ellir newid y rhain, ond gellir ychwanegu atynt, cyn belled nad yw’r ychwanegiadau’n rhai crefyddol. Nid yw modrwyau’n ofynnol ond gellir eu cyfnewid os yw’r cwpwl yn dymuno gwneud hynny.

Llofnodi’r atodlen briodas

Ar ôl y seremoni, llofnodir yr atodlen briodas gan y ddau bartner a’r cofrestrydd. Rhaid i ddau neu ragor o dystion lofnodi ar adeg y briodas hefyd. Nid oes rhaid i dystion fod o oedran penodol ond dylech wirio â’r sawl sy’n eich priodi a oes ganddo derfyn oedran ar gyfer penderfynu pwy y bydd yn ei dderbyn.

Rhaid i dystion ddeall iaith y seremoni a bod â’r galluedd meddyliol i ddeall beth sy’n digwydd. Ni chaniateir i staff y Swyddfa Gofrestru weithredu fel tystion.

Cyn llofnodi’r atodlen, gwiriwch fod yr wybodaeth arni yn gywir. Mae’n bosibl newid gwybodaeth anghywir yn y gofrestr ar dystysgrifau priodas os oes prawf bod y camgymeriadau wedi cael eu hysbysu ar adeg y briodas. Os ydych yn ceisio cywiro gwybodaeth yn nes ymlaen, bydd yn rhaid i chi egluro yn ysgrifenedig sut y cofnodwyd yr wybodaeth anghywir ar adeg y briodas ac efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth ddogfennol i brofi unrhyw ddatganiadau. Gallai’r broses gymryd llawer o amser.

Pan fydd yr atodlen briodas wedi’i llofnodi, rhaid i’r cofrestrydd ei dychwelyd i’r Swyddfa Gofrestru cyn pen 21 diwrnod. Yna rhaid ei hychwanegu at y gofrestr electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Talu ffi’r cofrestrydd

Rhaid talu ffi am y seremoni.

Gallwch dalu ffi i gael copi ardystiedig o’ch tystysgrif priodas fel y mae’n ymddangos ar y gofrestr. Gallwch dalu ffioedd pellach am gopïau ychwanegol o’ch tystysgrif priodas. I ddod o hyd i fanylion y ffioedd, cysylltwch â’ch Swyddfa Gofrestru leol ar GOV.UK.

Os oes arnoch angen copi o’ch tystysgrif priodas yn nes ymlaen, gallwch gael copi gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Seremonïau priodas grefyddol

Os ydych yn priodi gyda’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr nid oes rhaid i chi roi rhybudd o’r briodas i’r Swyddfa Gofrestru. Os ydych chi neu eich partner o’r tu allan i’r DU gofynnwch i’ch ficer a oes angen i chi roi 28 diwrnod o rybudd i’r Swyddfa Gofrestru.

Ar gyfer priodasau crefyddol eraill bydd angen i chi roi 28 diwrnod o rybudd ynglŷn â’r briodas i’r Swyddfa Gofrestru. Gellir awdurdodi gweinidogion ac offeiriaid pob crefydd arall i gofrestru priodasau a rhaid iddynt gael tystysgrif neu drwydded i wneud hynny gan y Cofrestrydd Arolygol lleol. Ar gyfer priodasau Iddewon a Chrynwyr, mae’r awdurdodiad yn awtomatig. Ar gyfer pob crefydd arall, os nad yw’r swyddog sy’n cynnal y seremoni wedi ei awdurdodi, naill ai rhaid i Gofrestrydd fod yn bresennol yn y seremoni grefyddol neu bydd angen i’r partneriaid gael seremonïau crefyddol a sifil ar wahân.

Os yw eich seremoni mewn adeilad sy’n eiddo i’r Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr, bydd y ficer yn paratoi’r atodlen ac yn dod â hi i’ch seremoni. Os yw eich seremoni mewn unrhyw adeilad crefyddol arall, bydd y Cofrestrydd Arolygol yn rhoi eich atodlen i chi – rhaid i chi fynd â hi i’ch seremoni.

Priodasau yn yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr (cyplau o rywiau gwahanol yn unig)

Yn hytrach na mynd at y Cofrestrydd Arolygol cyn y seremoni, gellir darllen gostegion (rhybudd o’r briodas arfaethedig) yn eglwys plwyf pob un o’r partneriaid ac yn yr eglwys lle cytunwyd y gellir cynnal y briodas. Rhaid darllen gostegion ar dri dydd Sul cyn y seremoni.

Bydd y ficer yn paratoi’r atodlen briodas. Ar ôl y seremoni, rhaid i’r ddau bartner, 2 dyst a’r ficer lofnodi’r atodlen briodas. Bydd y ficer yn mynd â’r atodlen i’r Swyddfa Gofrestru a bydd yn cael ei rhoi ar y gofrestr electronig. Cyn gynted ag y bydd ar y gofrestr electronig, gallwch dalu ffi i gael copi o’ch tystysgrif priodas.

Yn Lloegr, mewn rhai achosion, efallai y bydd y ficer yn dweud wrthych bod angen i chi wneud cais i Eglwys Loegr am drwydded yn hytrach na defnyddio’r weithdrefn gostegion. Gallwch ddarganfod rhagor am briodi yn Eglwys Loegr ar wefan Eglwys Loegr yn www.yourchurchwedding.org.

Seremonïau crefyddol a seremonïau sifil

Os yw cwpwl wedi priodi mewn Swyddfa Gofrestru, gall y partneriaid gael seremoni briodas grefyddol ar ôl hynny. Mae’n debyg y gofynnir i’r partneriaid am eu tystysgrif priodas.

Priodi y tu allan i Gymru a Lloegr

Os oes arnoch eisiau priodi y tu allan i Gymru a Lloegr bydd angen i chi ddilyn gweithdrefn y gyfraith yn y wlad honno. 

Os ydych chi neu eich partner dan 18 oed a bod eich cartref parhaol yng Nghymru neu Loegr, ni fydd eich priodas yn cael ei chydnabod yn gyfreithlon lle rydych yn byw.

Os gwnaethoch briodi cyn 27 Chwefror 2023

Os oeddech chi neu eich partner yn 16 neu 17 oed pan wnaethoch chi briodi, bydd eich priodas yn dal yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr os oedd y ddau ohonoch:

  • yn bodloni’r isafswm oedran ar gyfer priodi yn y wlad lle gwnaethoch briodi

  • wedi cael cydsyniad rhieni neu ganiatâd gan y llys i briodi

Priodi yng Nghymru neu Loegr os yw un partner yn byw yn rhywle arall

Os yw un partner yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, gellir cynnal y briodas yng Nghymru neu Loegr ond rhaid dilyn gweithdrefnau penodol. Os yw un partner yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ni ellir cynnal y briodas nes bydd y partner hwnnw wedi cyrraedd i Gymru neu Loegr ac wedi bodloni’r amodau preswylio angenrheidiol.

Cydnabyddiaeth dramor i briodasau’r Deyrnas Unedig

Mae priodas gyfreithiol ddilys a gynhaliwyd yng Nghymru neu Loegr yn cael ei chydnabod mewn llawer o wledydd eraill. Fodd bynnag, dylid gofyn am gadarnhad gan lysgenhadaeth y wlad dan sylw.

Priodasau drwy ddirprwy

Priodas drwy ddirprwy yw un lle nad yw un o’r partneriaid neu’r ddau ohonynt yn bresennol yn gorfforol yn y seremoni. Nid yw priodasau a gynhelir dan gyfraith y Deyrnas Unedig yn ddilys os ydynt drwy ddirprwy. Fodd bynnag, gall cyfraith y Deyrnas Unedig mewn rhai amgylchiadau ystyried priodas drwy ddirprwy yn ddilys os yw’r ddau bartner â’u ‘domisil’ mewn gwlad sy’n cydnabod priodasau drwy ddirprwy. Mae’r cysyniad o ‘ddomisil’ yn gymhleth iawn. Os oes angen i chi wybod am ddilysrwydd priodas drwy ddirprwy bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol arbenigol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Priodasau amlbriod

Priodas amlbriod yw un lle gall dyn briodi mwy nag un wraig. Nid yw priodas amlbriod rhwng partneriaid y mae un neu’r ddau ohonynt â’i ddomisil yng Nghymru neu Loegr yn ddilys. Mae’r cysyniad o ‘ddomisil’ yn gymhleth iawn ac nid yw o reidrwydd yn golygu ‘byw mewn’ gwlad.

Os oes angen i chi wybod am ddilysrwydd priodas amlbriod, dylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Priodasau nad ydynt yn ddilys

Caiff rhai priodasau eu trin fel pe baent erioed wedi digwydd. Gelwir y rhain yn briodasau di-rym. Maent yn briodasau nad ydynt yn bodloni gofynion cyfraith y Deyrnas Unedig. Enghraifft o briodas ddi-rym yw un lle na all y partneriaid briodi oherwydd eu bod yn perthyn.

Mae’n bosibl bod rhai priodasau wedi bodloni gofynion cyfraith y Deyrnas Unedig pan gawsant eu cynnal ond gellir eu diddymu yn ddiweddarach. Gelwir y rhain yn briodasau dirymadwy. Mae llawer o sefyllfaoedd lle caiff priodasau eu hystyried yn ddirymadwy, er enghraifft os yw un partner wedi cael tystysgrif cydnabod rhywedd lawn (gweler dan Pobl drawsryweddol), neu os yw un o’r partneriaid heb roi cydsyniad dilys i’r briodas oherwydd bod y cydsyniad wedi’i roi dan orfodaeth. Gall y naill bartner neu’r llall geisio diddymu’r briodas, ond os nad yw’r un o’r partneriaid yn gwneud, bydd y briodas yn ddilys.

Os oes angen i chi wybod rhagor am briodasau dirymadwy, bydd angen i chi gael cyngor arbenigol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Gwneud priodas yn gyfreithiol ddilys

Os ydych wedi priodi mewn ffordd nad yw’n cael ei chydnabod yn ddilys yn y Deyrnas Unedig, gellir cynnal y briodas eto yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig cyn belled eich bod chi a’ch partner yn bodloni’r gofynion a ddisgrifiwyd yn gynharach.

Bigami

Os ydych yn priodi yn y Deyrnas Unedig a’ch bod eisoes yn briod yn ôl y gyfraith, bydd y briodas yn ddwywreigiog ac o ganlyniad yn ddi-rym. Er ei bod yn drosedd priodi rhywun pan ydych eisoes yn briod, nid yw erlyniad yn digwydd yn awtomatig.

Ailbriodi/ail briodas

Cyn belled bod y gofynion cyfreithiol a ddisgrifiwyd yn gynharach yn cael eu bodloni, nid oes dim i’ch rhwystro rhag priodi eto mewn seremoni sifil yn y DU os ydych yn weddw neu wedi ysgaru neu os oeddech mewn partneriaeth sifil sydd wedi cael ei diddymu.

Mae gan grefyddau wahanol reolau ynglŷn â chaniatáu i rywun ailbriodi mewn seremoni grefyddol. Os ydych chi neu eich partner wedi bod yn briod o’r blaen, neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd wedi ei diddymu erbyn hyn, a bod arnoch eisiau seremoni grefyddol, bydd angen i chi wirio â swyddog o’r grefydd berthnasol.

Seremonïau bendithio

Hyd yn oed os na chaniateir i chi briodi mewn seremoni grefyddol, er enghraifft, oherwydd eich bod yn perthyn i grefydd nad yw’n caniatáu i bobl sydd wedi ysgaru briodi, mae’n bosibl y gellir trefnu bod eich perthynas yn cael ei bendithio mewn seremoni grefyddol. Y swyddog crefyddol perthnasol fydd yn penderfynu.

Priodasau dan orfod

Beth yw priodas dan orfod?

Priodas dan orfod yw un lle rydych yn cael eich rhoi dan bwysau i briodi yn erbyn eich ewyllys. Gallech gael eich llwgrwobrwyo’n emosiynol neu eich bygwth yn gorfforol, fel arfer gan eich teulu. Er enghraifft, efallai y bydd eich teulu’n gwneud i chi deimlo fel pe baech yn codi cywilydd arnynt drwy beidio â chytuno â’r briodas.

Mae’n wahanol i briodas wedi’i threfnu, lle mae gan y ddau barti ddewis a lle maent yn cytuno â’r briodas.

Gallai fod yn briodas dan orfod hefyd os nad oes gennych y galluedd meddyliol i gytuno â hi – er enghraifft, os oes gennych salwch sy’n eich rhwystro rhag gallu gwneud penderfyniadau. Bydd yn dal yn briodas dan orfod hyd yn oed os na roddwyd pwysau arnoch i briodi.

Yng Nghymru a Lloegr, mae priodas dan orfod yn drosedd. Os yw rhywun yn eich gorfodi i briodi, gallai fynd i’r carchar am hyd at saith mlynedd.

Os ydych dan 18 oed, nid oes rhaid i rywun fod yn rhoi pwysau arnoch iddi fod yn briodas dan orfod. Mae’n drosedd i rywun wneud unrhyw beth a fyddai’n helpu i drefnu eich priodas – er enghraifft, rhywun yn archebu eich cludiant i’r briodas.

Yr Uned Priodasau dan Orfod

Os oes arnoch ofn y gallech chi neu rywun arall gael ei orfodi i briodas yn y DU neu dramor, dylech gysylltu â’r Uned Priodasau dan Orfod i gael cyngor. Mewn argyfwng, dylech ffonio’r heddlu ar 999.

Forced Marriage Unit

Foreign and Commonwealth Office

King Charles Street

Llundain SW1A 2AH

Ffôn: 020 7008 0151 (Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm )

Ffôn y tu allan i oriau: 020 7008 1500 (gofynnwch am y Ganolfan Ymateb Ryngwladol/Global Response Centre)

Ebost: fmuoutreach@fco.gov.uk

Gwefan: www.gov.uk/stop-forced-marriage 

Gorchmynion Amddiffyn Priodas dan Orfod

Os ydych yn cael eich gorfodi i briodi neu os ydych eisoes mewn priodas dan orfod, gallwch wneud cais i’r llys sirol am Orchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod i’ch amddiffyn.

Gall Gorchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod atal teuluoedd rhag gwneud rhai pethau, gan gynnwys:

  • eich gorfodi i briodi

  • mynd â chi dramor ar gyfer priodas

  • cymryd eich pasbort

  • eich brawychu neu ddefnyddio trais yn eich erbyn

  • dweud wrth rywun arall am wneud unrhyw rai o’r pethau hyn

Gall hefyd ei gwneud yn ofynnol i aelodau o’r teulu ddatgelu ble rydych chi. Gall yr heddlu hefyd wneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod. Os bydd rhywun yn torri’r gorchymyn, mae’n drosedd a gallai gael ei anfon i’r carchar am hyd at bum mlynedd yng Nghymru a Lloegr.

Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gynted ag y gallwch. Efallai y gallech gael cymorth cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.

Rhagor o wybodaeth a chymorth

Mae Karma Nirvana yn elusen sy’n cefnogi dioddefwyr cam-drin ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0800 5999 247 neu gael help ar wefan Karma Nirvana.

Gallwch ddarganfod rhagor am briodas dan orfod ar GOV.UK.

Sut i gael copi o dystysgrif priodas

Yng Nghymru a Lloegr, gallwch gael copïau o dystysgrif priodas gan Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol. Mae ei manylion cysylltu ar wefan GOV.UK yn www.gov.uk.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 11 Tachwedd 2019