Cyd-fyw a phriodas – gwahaniaethau cyfreithiol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gall eich hawliau cyfreithiol fel partner ddibynnu a ydych yn briod neu’n cyd-fyw. 

Ar y cyfan, mi fydd gennych lai o hawliau os ydych yn cyd-fyw na phe baech wedi priodi.

Mae’r wybodaeth hon yn egluro’r gwahaniaethau cyfreithiol rhwng bod yn briod a chyd-fyw. Yng Nghymru a Lloegr, mae hyn yn cynnwys partneriaid o’r un rhyw a all yn awr briodi. Nid yw’n cynnwys partneriaethau sifil.

Am ragor o wybodaeth gweler Partneriaethau sifil a chyd-fyw – gwahaniaethau cyfreithiol.

Statws cyfreithiol

Cyd-fyw

Er nad oes diffiniad cyfreithiol o gyd-fyw, mae fel arfer yn golygu pobl sy’n byw gyda’i gilydd fel cwpl heb briodi. Cyfeirir at gyplau sy’n cyd-fyw weithiau fel partneriaid cyfraith gyffredin. Nid yw hyn ond yn ffordd arall o ddweud bod cwpl yn cyd-fyw.

Efallai y gallwch ffurfioli agweddau ar eich statws â phartner drwy lunio cytundeb cyfreithiol a elwir yn gontract neu gytundeb cyd-fyw. Mae cytundeb cyd-fyw’n disgrifio hawliau ac ymrwymiadau pob partner tuag at ei gilydd. Os byddwch yn gwneud cytundeb cyd-fyw, dylech hefyd wneud cytundeb cyfreithiol ynglŷn â sut yr ydych yn rhannu eich eiddo - gelwir hwn yn ‘weithred ymddiriedolaeth’.

Os hoffech wneud cytundeb cyd-fyw neu weithred ymddiriedolaeth, dylech gael help cyfreithiwr cyfraith teulu. Gallwch gysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr.

Yn briod

Mi allwch ddewis priodas sifil neu grefyddol, ond mewn rhai achosion, ni fydd priodas grefyddol yn unig yn ddilys a bydd yn rhaid i chi gael priodas sifil hefyd.

Dilysrwydd

Gall prawf o briodas fod yn -

  • copi ardystiedig o gofnod mewn cofrestr priodasau yn y DU; neu

  • tystysgrif priodas a gyhoeddwyd yn y wlad lle cynhaliwyd y briodas.

Bancio

Cyd-fyw

Os ydych yn cyd-fyw a bod gennych chi a’ch partner gyfrifon banc ar wahân, ni all y naill gael mynediad at arian a gedwir yng nghyfrif y partner arall. Os bydd un partner yn marw, bydd unrhyw arian yn y cyfrif yn eiddo i ystâd eich partner ac ni ellir ei ddefnyddio nes bydd yr ystâd wedi’i setlo.

Os oes gennych gyfrif banc ar y cyd, yna mi fydd gennych chi a’ch partner fynediad at y cyfrif, er efallai mai dim ond un sy’n talu arian i mewn iddo. Os daw eich perthynas i ben, ac os na allwch gytuno ar bwy sy’n berchen ar yr arian, efallai y bydd yn rhaid i lys benderfynu. Fodd bynnag, os oes un nad yw’n defnyddio’r cyfrif o gwbl, er enghraifft, nid oeddech yn talu arian i mewn nac yn tynnu dim allan, mi all fod yn anodd honni bod gennych unrhyw hawl iddo. 

Os yw’r cyfrif yn enw’r ddau bartner, yn dilyn marwolaeth un partner, mi fydd gan y partner arall hawl i’r arian yn y cyfrif a gall barhau i gael mynediad i’r cyfrif heb gyfyngiad. Fodd bynnag, bydd cyfran o’r arian yn cael ei ystyried wrth gyfrifo gwerth ystâd yr unigolyn sydd wedi marw.

Yn briod

Os oes gan gwpl priod gyfrif banc ar y cyd mae’r arian yn eiddo i’r ddau bartner cyhyd â’u bod yn briod. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth pwy sydd wedi talu’r arian i mewn i’r cyfrif. Yn dilyn marwolaeth un partner, bydd y cyfrif cyfan yn dod yn eiddo i’r partner arall. Bydd y ddau neu’r naill bartner yn gyfrifol am ddyledion a gorddrafftiau sy’n deillio o gyfrif banc ar y cyd, ac ni fydd yn gwneud gwahaniaeth pwy oedd wedi mynd i’r ddyled. 

Os oes gan y ddau bartner mewn cwpl priod gyfrif banc ar wahân a bod un yn marw, mi all y banc ganiatáu i’r partner arall dynnu gweddill yr arian allan cyhyd â bod y swm yn un bychan.

Plant

Cyfrifoldeb rhieni

Mae gan rieni sydd â chyfrifoldeb rhieni hawl i gael llais mewn penderfyniadau pwysig yn ymwneud â bywyd plentyn, fel cartref, iechyd, addysg, crefydd, enw, arian ac eiddo’r plentyn. Mae cyfrifoldeb rhiant yn para nes bydd y plentyn yn 18 oed. 

Mi allwch ganfod a oes gennych gyfrifoldeb rhiant yn GOV.UK.

Trefniadau plant

Cyd-fyw a phriodi

Os byddwch yn gwahanu, mi allwch chi a’ch partner wneud trefniadau anffurfiol ar gyfer eich plant. Dyma’r achos boed chi’n cyd-fyw â’ch gilydd neu wedi priodi. Os nad ydych yn gallu gwneud trefniant anffurfiol, mi allwch wneud cais i’r llys am orchymyn trefniadau plentyn. Rhagor o wybodaeth am wneud trefniadau ar gyfer eich plentyn.

Cymorth ariannol i blant

Cyd-fyw a phriodi

Mae’r ddau riant yn gyfrifol yn ariannol am gynnal eu plant. Mae’r tad yr un mor gyfrifol hyd yn oed os nad yw’n byw â’r fam nac wedi’i enwi ar dystysgrif geni’r plentyn. Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gysylltu â’r tad am gynhaliaeth os nad yw’n byw â’r fam. Yn yr un modd, os yw’r plentyn yn byw â’r tad, gellir cysylltu â’r fam. Mae’r ddau riant o’r un rhyw yn gyfrifol am gynhaliaeth ariannol eu plentyn os mai hwy yw rhieni cyfreithiol y plentyn ac mi all y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gysylltu â hwy am gynhaliaeth.

Penodi gwarcheidwad

Cyd-fyw

Gall mam benodi gwarcheidwad i weithredu ar ôl ei marwolaeth a gall tad benodi gwarcheidwad i weithredu ar ôl ei farwolaeth yntau os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn.

Yn briod

Gall y naill riant benodi gwarcheidwad i weithredu pe bai’r ddau riant yn marw.

Etifeddiant

Cyd-fyw a phriodi

Hyd yn oes os nad oes ewyllys, mae gan blant rhieni sydd wedi a heb briodi hawl cyfreithiol i etifeddu gan y ddau riant cyfreithiol a theuluoedd y ddau riant.

Cenedligrwydd

Mae’r rheolau sy’n ymwneud â chenedligrwydd plant yn gymhleth ac mae’n dibynnu ar statws mewnfudo’r rhieni yn ogystal ag a yw’r rhieni’n briod neu’n cyd-fyw.

Os ydych yn bryderus am genedligrwydd neu statws mewnfudo eich plant, cysylltwch â chynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth leol

Gallwch hefyd ddarllen ein cyngor ar fewnfudo.

Mabwysiadu

Gall cyplau sy’n briod ac sy’n cyd-fyw wneud cais i fabwysiadu plentyn gyda’i gilydd.

Marwolaeth ac etifeddiant

Gallwch weld yr hyn y gallech ei etifeddu os yw rhywun wedi marw heb ewyllys yn GOV.UK.

Cyd-fyw

Os bydd un partner yn marw heb adael ewyllys, ni fydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu dim yn awtomatig oni bai bod y cwpl yn berchen ar eiddo ar y cyd. Fel cwpl dibriod, bydd angen i chi wneud ewyllysiau os ydych am wneud yn siŵr bod y partner arall yn etifeddu.

Os bydd un partner yn marw heb adael digon yn eu hewyllys i’r llall fyw arno, gall y partner sydd ar ôl fynd i lys i hawlio oddi wrth yr ystâd.

Os byddwch yn etifeddu arian neu eiddo oddi wrth bartner dibriod, ni fyddwch wedi’ch eithrio rhag talu treth etifeddiant, yn yr un ffordd â chyplau priod. 

Gweler GOV.UK am ragor o wybodaeth am dreth etifeddiant.

Yn briod

Pan fydd eich partner priod yn marw, mi fyddwch yn etifeddu o dan ewyllys y partner marw os yw’n gwneud darpariaeth ar eich cyfer. 

Os bydd y naill bartner priod neu’r llall yn marw heb wneud ewyllys, bydd y llall yn etifeddu’r ystâd gyfan neu ran ohoni, yn ddibynnol ar ei gwerth. 

Am ragor o wybodaeth am ewyllysiau, gweler Ewyllysiau.

Dyledion

Cyd-fyw a phriodi

Rydych yn atebol am unrhyw ddyledion sydd yn eich enw chi’n unig, ond nid am unrhyw ddyledion sydd yn enw eich partner yn unig. 

Mi allech fod yn gyfrifol am yr holl ddyledion sydd yn enw’r ddau ohonoch ac am ddyledion eraill y mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol 'ar y cyd ac unigol' amdanynt. Er enghraifft, yng Nghymru a Lloegr, os oes gennych ddyled i’r dreth gyngor, mi fyddwch chi a’ch partner yn gyfrifol am y ddyled, p’run a yw un ohonoch yn cyfrannu neu beidio.

Os oes gan eich partner ddyled lle’r ydych wedi gweithredu fel gwarantwr, mi fyddwch chwithau hefyd yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am ei thalu. 

Os ydych yn briod, ni fyddwch yn gyfrifol am unrhyw ymrwymiadau ariannol na dyledion a oedd gan eich partner cyn i chi briodi.

Gall priodi, ysgaru neu symud i fyw â rhywun effeithio ar eich arian wrth i’ch blaenoriaethau newid. Defnyddiwch ein cyfrifiannell cyllidebau  i weld i ble mae eich arian yn mynd bob mis i’ch helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i ymdopi â’ch biliau a’ch treuliau. 

Trais domestig

Cyd-fyw a phriodi

Mi allwch fynd i lys i amddiffyn eich hun a’ch plant os yw eich partner yn dreisgar. Gall y llys orchymyn y partner treisgar i adael y cartref am gyfnod penodol ac, os na fydd y gorchymyn llys yn cael ei ufuddhau, gall y partner treisgar gael ei arestio.

Gall dyn gael ei gollfarnu o dreisio ei bartner, os ydynt yn briod neu’n cyd-fyw â’i gilydd neu beidio.

Am ragor o wybodaeth, gweler Trais Domestig.

Terfynu perthynas

Cyd-fyw

Gall cwpl dibriod wahanu’n anffurfiol heb ymyrraeth y llys. Mae gan y llys y pŵer i wneud gorchmynion yn achos gofal am y plant.

Dysgu mwy am benderfynu beth i'w wneud pan fyddwch yn gwahanu.

Yn briod

Gall cwpl priod wahanu’n anffurfiol ond os ydych am derfynu’r briodas yn ffurfiol, bydd yn rhaid i chi fynd i lys i gael ysgariad. Mae gan y ddau bartner hawl i aros yn y cartref naill ai nes ceir ysgariad neu fod y llys wedi gorfodi un partner i adael.

Gallwch ddarllen mwy am derfynu priodas.

Cymorth ariannol (cynhaliaeth)

Cyd-fyw

Nid oes dyletswydd gyfreithiol ar y naill bartner i gynnal y llall yn ariannol. Os oes gennych blant, gwiriwch sut i drefnu cynhaliaeth plant

Gall fod yn anodd gorfodi trefniadau gwirfoddol i dalu cynhaliaeth i’w gilydd.

Os ydych chi a’ch partner yn byw â’ch gilydd ac yn hawlio budd-dal prawf modd, byddwch yn cael eich trin fel cwpl a bydd eich incwm yn cael ei asesu ar y cyd. Mae budd-daliadau prawf modd yn cynnwys Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a Chredyd Pensiwn.

Yn briod

Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob partner priod i gynnal y llall. 

Os na fydd eich partner yn eich cynnal, gallwch ofyn i lys eu gorchymyn i’ch cynnal. Efallai y bydd yn rhaid i’ch cynbartner barhau i’ch cynnal ar ôl i’ch priodas ddod i ben os ydych wedi gwneud cytundeb cyfreithiol neu os oes gorchymyn llys.

Mi allwch chi a’ch partner wneud cytundeb na fydd yr un ohonoch yn cynnal y llall.

Os oes gennych blant, gwiriwch sut i drefnu cynhaliaeth plant

Tai

Deiliaid contractau

Cyd-fyw

Os ydych yn bartner dibriod deiliad contract, boed mewn llety preifat neu gymdeithasol, ni fydd gennych hawl fel arfer i aros yn y llety os bydd deiliad y contract yn gofyn i chi adael. Mae felly’n ddoeth i bartneriaid sy’n cyd-fyw i fod yn gyd-ddeiliaid y contract, gan y bydd hyn yn rhoi’r un hawliau a chyfrifoldebau iddynt. Bydd llawer o landlordiaid tai cymdeithasol yn disgwyl i bartneriaid sy’n cyd-fyw dderbyn contract meddiannaeth fel cyd-ddeiliaid y contract. Mae modd trosi contractau unigol yn gontractau ar y cyd os bydd deiliad y contract unigol a’r landlord yn cytuno.

Fodd bynnag, fel partner dibriod, mi allwch gael hawliau tymor byr i aros drwy wneud cais i’r llys. Gwirio sut i wneud cais i'r llys i gael hawliau tymor byr i aros

Mi allwch hefyd gael hawliau tymor hir i aros drwy wneud cais i’r llys i drosglwyddo contract, boed yn gontract unigol neu gontract ar y cyd. Gwirio sut i wneud cais i'r llys i gael hawliau tymor hir i aros.

Mi allwch hefyd gael hawliau gwahanol os yw eich partner wedi ymddwyn yn dreisgar tuag atoch. Os yw eich partner wedi ymddwyn yn dreisgar tuag atoch, gweler, Trais Domestig.

Os ydych yn bartner dibriod nad yw’n ddeiliad contract ac angen aros yn y cartref, mi ddylech ymgynghori â chynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith teulu -  gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol roi manylion i chi am gyfreithwyr lleol.

Am ragor o wybodaeth, am yr hyn fydd yn digwydd i'ch cartref pan fyddwch yn gwahanu.

Os bydd deiliad contract unigol yn marw, efallai y bydd gan y partner sydd ar ôl yr hawl i barhau i fyw yn y cartref. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gael cyngor cyfreithiol.

Yn briod

Mae gan y ddau bartner priod yr hawl i fyw yn y cartref priodasol. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth yn enw pwy y gwnaed datganiad ysgrifenedig y contract. Mae hyn yn gymwys oni bai bod llys wedi gorchymyn i’r gwrthwyneb, er enghraifft pan fydd cwpl yn gwahanu neu ysgaru. 

Os byddwch chi a’ch cynbartner yn cytuno ar bwy ddylai aros yn y cartref, gallwch ofyn i’r landlord drosglwyddo’r contract i enw’r partner sy’n aros. Os yw’r ddau enw ar y contract, gallwch ofyn bod y contract yn cael ei roi yn eich enw chi. Os na fydd eich landlord yn cytuno i newid y contract, gallwch wneid cais i’r llys i’w newid. 

Os na allwch gytuno ar bwy ddylai aros a’ch bod yn ysgaru, gall yr hawl tymor hir i’ch contract gael ei benderfynu ochr yn ochr â’r ysgariad. Gall y llys drosglwyddo’r contract i’ch enw chi, hyd yn oed os mai eich partner yw’r deiliad contract unigol, neu oes oeddech chi a’ch partner yn ddeiliaid y contract ar y cyd. Cewch ragor o wybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd i'ch cartref pan fyddwch yn gwahanu.

Os nad ydych yn gwahanu’n gyfreithiol, er enghraifft yn ysgaru, ni fydd y llys yn cytuno i drosglwyddo contract oni bai ei fod yn penderfynu bod hynny er lles eich plant. Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i'r llys i drosglwyddo contract er budd plant.

Os byddwch am wneud cais i drosglwyddo contract, dylech wneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cais am ysgariad. Os na fyddwch yn gwneud hyn, efallai na fydd modd trosglwyddo’r contract yn ddiweddarach.

Am ragor o wybodaeth, am yr hyn fydd yn digwydd i'ch cartref pam fyddwch yn gwahanu.

Perchen-feddianwyr

Cyd-fyw

Gall eiddo fod yn enw un partner yn unig neu mi all fod yn eiddo i gydberchnogion. 

Os ydych yn unig berchennog, mi fydd gennych hawl i aros yn y cartref. Efallai y gall eich partner hawlio 'buddiant llesiannol’ ynddo – gweler isod.

Os ydych yn gydberchnogion, mae gennych chi a’ch partner yr un hawl i aros yn y cartref. Os na allwch gytuno beth ddylai ddigwydd i’r cartref, gallwch ofyn i’r llys benderfynu – er enghraifft, gall benderfynu y dylech werthu’r cartref.

Os mai eich partner yw’r unig berchennog, ni fydd gennych hawl i aros yn y cartref os gofynnir i chi adael.

Os oes gennych blant, gallwch ofyn i’r llys drosglwyddo’r eiddo i’ch enw chi. Ni fydd y llys yn gwneud hyn oni bai ei fod yn penderfynu ei fod er budd pennaf eich plant. Gwneir hyn fel arfer am gyfnod penodedig, er enghraifft, nes bydd eich plentyn ieuengaf yn 18 oed.

Os nad oes gennych blant ac mai eich partner yw’r unig berchennog, yr unig ffordd i chi hawlio hawl tymor hir i’r eiddo yw os gallwch ddangos bod gennych ‘fuddiant llesiannol’ ynddo. Mae hyn yn ffordd o gael llys i gydnabod yn ffurfiol y cyfraniadau rydych wedi’u gwneud tuag at y cartref. Gallai’r llys hefyd gydnabod dealltwriaeth a oedd gennych â’ch cynbartner pan oeddech yn prynu’r cartref y byddai gennych gyfran ynddo pe bai’n cael ei werthu. Pe baech yn gallu profi bod gennych fuddiant llesiannol yn y cartref, mi allech, er enghraifft, gael yr hawl i fyw yn y cartref, atal eich cynbartner rhag byw yno neu gael cyfran o’r enillion pe bai’r cartref yn cael ei werthu.

Mi allech hefyd ofyn i lys wneud penderfyniad ar bwy sydd â’r hawl i aros yn y cartref yn y tymor byr. Gelwir hyn yn orchymyn meddiannaeth. Gallwch hefyd wneud cais am orchymyn meddiannaeth i ganiatáu i chi ddychwelyd i’r cartref os ydych wedi gadael. Mi allwch wneud cais am orchymyn meddiannaeth os ydych yn unig berchennog, yn gydberchennog, bod gennych fuddiant llesiannol neu os ydych yn bartner i unig berchennog. Fodd bynnag, os nad ydych yn berchennog nac yn gydberchennog, dim ond am rai mathau o orchymyn meddiannaeth y gallwch wneud cais. Fel arfer bydd gorchymyn meddiannaeth yn para am gyfnod penodedig yn unig.

Os ydych am hawlio buddiant llesiannol yn eich cartref neu wneud cais am orchymyn meddiannaeth, mi fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ar y mater.

Os ydych wedi profi trais neu gam-drin domestig, efallai y bydd eich hawliau’n wahanol. Darllenwch ragor am drais neu gam-drin domestig.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am help. 

Am ragor o wybodaeth, am yr hyn fydd yn digwydd i'ch cartref pan fyddwch yn gwahanu.

Yn briod

Mae gan y ddau bartner priod hawl i aros yn y cartref priodasol, ac nid yw’n gwneud gwahaniaeth pwy sydd wedi’i brynu neu sydd â morgais arno. Gelwir hyn yn hawliau cartref. Mi fydd gennych hawl i aros yn y cartref nes bydd llys yn gorchymyn yn wahanol, er enghraifft, yn ystod gwahaniad neu setliad ysgariad.

Os ydych chi neu eich partner yn ysgaru, gall yr hawl tymor hir i berchnogaeth eich eiddo gael ei benderfynu ar yr un pryd â’r ysgariad. Mae gan y llys y pŵer i drosglwyddo eiddo waeth pwy oedd y perchennog gwreiddiol. Fodd bynnag, os nad ydych yn gwahanu’n gyfreithiol, ni fydd y llys yn cytuno i drosglwyddo perchnogaeth eiddo oni bai ei fod er budd pennaf eich plant.

Os ydych yn unig berchennog neu’n gydberchennog eich cartref, ni chaiff eich partner ei werthu heb eich cytundeb.

Fodd bynnag, os mai eich partner yw’r unig berchennog, bydd angen i chi gofrestru eich hawliau cartref i ddiogelu eich buddiannau. Os byddwch yn cofrestru eich hawliau cartref, mi all hynny atal eich partner rhag gwerthu’r cartref neu eich gorfodi i adael os yw wedi’i werthu

Mi allwch gofrestru eich hawliau cartref, ac nid yw’n gwneud gwahaniaeth a ydych yn dal i fyw yn y cartref neu beidio.

Bydd angen i chi gofrestru eich hawliau cartref naill ai â’r Gofrestrfa Dir neu’r Adran Newidiadau Tir, ac mi fydd hynny’n dibynnu a oedd eich cartref eisoes wedi’i gofrestru ai peidio.

Os byddwch yn cofrestru eich hawliau tir, byddant i’w gweld pan fydd darpar brynwyr yn cynnal chwiliad ar y cartref. Byddai’n dangos iddynt fod gennych hawl i aros yn eich cartref gan atal y gwerthiant rhag mynd ymlaen.

Yng Nghymru a Lloegr, cewch ragor o wybodaeth am gofrestru eich hawliau cartref ar wefan GOV.UK yn www.gov.uk.

Mae hwn yn faes cymhleth o’r gyfraith ac mi ddylech gael cyngor cyfreithiol arbenigol. 

Gallwch gysylltu a’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am help.

Am ragor o wybodaeth, am yr hyn fydd yn digwydd i'ch cartref pan fyddwch yn gwahanu.

Cymorth cyfreithiol

Cyd-fyw a phriodi

Pan fydd un partner mewn cwpl yn cael eu hasesu am gymorth cyfreithiol, bydd incwm a chyfalaf y partner arall fel arfer yn cael ei ystyried.

Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd os:

  • oes gwrthdrawiad buddiant rhyngoch chi, er enghraifft, os ydych ar ddwy ochr wahanol yn yr achos llys, neu

  • ydych yn byw ar wahân a bod o leiaf un ohonoch yn teimlo bod y berthynas drosodd.

Dod o hyd i help i dalu eich ffioedd cyfreithiol.

Perthynas agosaf

Mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os byddwch yn mynd i ysbyty neu’n cwblhau ffurflen yswiriant bywyd, efallai y gofynnir i chi enwi eich perthynas agosaf. Nid oes ystyr gyfreithiol i berthynas agosaf ond, yn ymarferol, bydd ysbytai a sefydliadau eraill fel arfer yn derbyn priod a pherthnasau gwaed agos fel perthynas agosaf. Fodd bynnag, weithiau ni fydd cyplau sy’n cyd-fyw yn cael eu derbyn fel perthnasau agosaf.

Cyd-fyw

Os ydych yn cyd-fyw, mi fydd cael eich derbyn fel perthynas agosaf yn dibynnu ar ba sefydliad rydych yn delio â hwy.

Er enghraifft, bydd carchardai fel arfer yn derbyn enw partner fel y person i gysylltu â hwy os bydd rhywbeth yn digwydd i’r carcharor. 

Bydd ysbytai fel arfer yn derbyn eich partner fel y berthynas agosaf. 

Nid oes gan neb hawl i roi cydsyniad i oedolyn arall i gael triniaeth feddygol oni bai bod y claf yn anymwybodol neu’n analluog i roi cydsyniad oherwydd analluedd meddyliol. Fodd bynnag, yn ymarferol, bydd meddygon yn trafod penderfyniadau â theulu’r claf a bydd hyn fel arfer yn cynnwys eich partner.

Os bydd sefydliad yn gwrthod derbyn enw eich partner fel eich perthynas agosaf, nid oes llawer y gallwch ei wneud heblaw gofyn iddynt a ydynt yn fodlon newid eu polisi.

Yn briod

Mi fydd gan eich priod yr awdurdod bob amser i weithredu fel eich perthynas agosaf. 

Nid oes gan neb hawl i roi cydsyniad i oedolyn arall i gael triniaeth feddygol oni bai bod y claf yn anymwybodol neu’n analluog i roi cydsyniad oherwydd analluedd meddyliol. Fodd bynnag, yn ymarferol, bydd meddygon yn trafod penderfyniadau â theulu’r claf.

Arian ac eiddo

Cyd-fyw

Gall perchnogaeth eiddo fod yn faes eithaf cymhleth. Fodd bynnag, mae rhai rheolau cyffredinol sy’n gymwys, er enghraifft, bydd eiddo roeddech yn berchen arno cyn dechrau cyd-fyw’n parhau fel eiddo i chi a bydd y sawl sydd wedi prynu eitem fel arfer yn berchen arno. Bydd yn eiddo ar y cyd mae’n debyg os oedd wedi’i brynu o gyfrif ar y cyd. Bydd eiddo a roddwyd gan un partner i’r llall fel arfer yn eiddo i dderbyniwr y rhodd. Fodd bynnag, mi all hyn fod yn rhywbeth sy’n anodd ei brofi. 

Os yw un partner yn rhoi arian cadw tŷ i’r llall, bydd eiddo a brynwyd â chynilion o’r arian hwnnw mae’n debyg yn eiddo i’r sawl sy’n rhoi’r arian. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa mewn priodas lle byddai cynilion o arian cadw tŷ mewn anghydfod llys fel arfer yn cael ei rannu yn ei hanner rhwng y ddau bartner.

Yn briod

Mae gennych hawl i gael ac i ddal unrhyw dir, eiddo, cynilion neu fuddsoddiadau yn eich rhinwedd eich hun yn ystod priodas. Mae’r un peth yn wir am eich partner. Bydd unrhyw eiddo yr oeddech yn berchen arno cyn y briodas fel arfer yn parhau i gael ei ystyried fel eich eiddo chi. Fodd bynnag, os yw’r briodas yn chwalu, bydd unrhyw eiddo sy’n berchen i chi neu eich partner yn cael ei ystyried wrth wneud setliad ariannol mewn ysgariad. Gallai hyn gynnwys eiddo roeddech yn berchen arno cyn i chi briodi.

Os nad oes cytundeb i’r gwrthwyneb, bydd anrhegion priodas a roddwyd i chi gan eich ffrindiau neu berthnasau’n cael eu hystyried fel eich eiddo chi os na fydd y briodas yn digwydd. Mae hyn yn wir yn achos eich partner. Os bydd y briodas yn chwalu, ystyrir eu bod yn eiddo i’r partner yr oedd eu ffrind neu eu perthynas wedi’u rhoi iddynt.

Enwau

Cyd-fyw

Fel partner dibriod mae gennych hawl i gael eich adnabod yn ôl pa bynnag enw y dymunwch a gallwch newid yr enw hwnnw ar unrhyw adeg. Gall dau berson sy’n cyd-fyw benderfynu defnyddio’r un enw teulu, er nad oes rhaid iddynt wneud hynny’n gyfreithiol.

Yn briod

Os ydych yn fenyw, pan fyddwch yn priodi nid oes gofyniad cyfreithiol arnoch i gymryd enw teulu eich gŵr. Bydd yr enw teuluol y byddwch yn ei ddewis yn dibynnu ar eich diwylliant, gwleidyddiaeth, dewis a chrefydd. 

Mae llawer o fenywod yn awr yn parhau i ddefnyddio eu henw teulu gwreiddiol. Mae eraill yn defnyddio un enw yn eu swydd ac un arall yn eu bywyd personol. Nid oes dim yn y gyfraith sy’n eich atal rhag gwneud hyn ac mi allwch barhau i lofnodi dogfennau gyda’ch enw blaenorol. 

Os byddwch yn ysgaru, neu’n colli eich gŵr, mi allwch barhau i ddefnyddio enw teulu eich gŵr neu mi allwch fynd yn ôl at eich enw blaenorol, er y gofynnir i chi ddangos eich tystysgrif geni os byddwch yn dymuno gwneud hynny. 

Gall unrhyw un newid eu henw ar unrhyw adeg, ac felly fel dyn gallwch newid eich enw teulu, ar adeg priodi, i enw eich gwraig neu ŵr. 

Cewch ragor o wybodaeth am newid eich enw yn GOV.UK.

Pensiynau galwedigaethol a phersonol

Cyd-fyw

Bydd y darpariaethau pensiynau galwedigaethol a phersonol ar gyfer dibynyddion aelod cynllun pensiwn yn dibynnu ar reolau’r cynllun. Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau’n cynnig buddiannau i blant dibynnol a bydd rhai’n cynnig buddiannau i bartner dibynnol.

Gellir trefnu pensiynau personol i gynnwys pwy bynnag y bydd yr aelod o’r cynllun pensiwn yn eu dewis, ar yr amod bod yr aelod o’r cynllun pensiwn yn gallu talu’r hyn a allai fod yn gyfraniadau mawr i’r gronfa bensiwn. 

Lle bydd cynllun yn addas i gyplau sy’n cyd-fyw, bydd angen i chi gwblhau ffurflen 'mynegiant o ddymuniadau’, sy’n datgan i bwy yr hoffech i’r buddiannau gael eu talu pan fyddwch yn marw.

Hyd yn oed os nad yw cynllun yn addas i gyplau sy’n cyd-fyw, efallai y gall ymddiriedolwyr y cynllun neu gynrychiolydd undeb eich helpu os hoffech i’r buddiannau fynd i’ch partner.

Yn briod

Rhaid i gynlluniau pensiwn galwedigaethol gynnig yr un buddiannau i wŷr a gwragedd. Maent hefyd fel arfer yn cynnig buddiannau i ddibynyddion, er enghraifft, plant. 

Os oeddech wedi ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol cyn 17 Mai 1990, roedd y rheolau ychydig yn wahanol. Os ydych yn ŵr gweddw, efallai na chewch ddim buddiannau roedd y pensiwn wedi’u hennill cyn y dyddiad hwnnw, er y dylech gael unrhyw fuddiannau a enillwyd ar ôl hynny.

Perthnasoedd rhywiol

Cyd-fyw

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n gyfreithiol i gwpl gael perthynas rywiol, cyhyd â bod y ddau yn 16 oed neu hŷn a bod y ddau’n cydsynio.

Yn briod

Os nad yw gŵr a gwraig wedi cael cyfathrach rywiol yn ystod briodas (cyflawni’r briodas), byddai hyn sail i annilysu’r briodas. Yng Nghymru a Lloegr, nid yw hyn yn gymwys i bartneriaid priodas o’r un rhyw.

Budd-daliadau lles

Mae pob cwpl, rhai sy’n briod neu’n cyd-fyw yn cael eu trin yn yr un ffordd pan fyddant yn cael eu hasesu ar gyfer eu hawl i’r rhan fwyaf o fudd-daliadau lles. Os ydynt yn hawlio budd-daliadau prawf modd, bydd disgwyl iddynt fel arfer wneud cais fel cwpl, a bydd incwm, cynilion ac anghenion y ddau bartner yn cael eu hystyried. 

Mae gwahanol reolau ar gyfer gwahanol fudd-daliadau. Am ragor o wybodaeth am fudd-dal penodol, gweler yr adran Budd-daliadau.

Grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr

Benthyciadau i fyfyrwyr

Mae dau fath o fenthyciadau i fyfyrwyr – un ar gyfer ffioedd dysgu ac un ar gyfer cynhaliaeth.

Mi allwch gael benthyciad i fyfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu, beth bynnag fo incwm eich priod neu bartner sy’n byw â chi.

Gall pob myfyriwr llawn amser sy’n gymwys gael benthyciad i fyfyrwyr ar gyfer cynhaliaeth, ond bydd yr union swm y gallwch ei fenthyca’n dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys incwm eich priod neu bartner.

Am ragor o wybodaeth am grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr, yng Nghymru, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru, yn Lloegr, gweler Student finance yn GOV.UK.

Trethi

Cyd-fyw

Os ydych yn ddibriod, mi fyddwch yn cael eich trethu ar wahân. Mae gan bob partner hawl i lwfans personol wrth gyfrifo faint o dreth y bydd yn rhaid iddynt ei thalu.

Yn briod

Mae cyplau priod yn cael eu trethu’n annibynnol a gall pob partner hawlio lwfans personol. Gall cyplau priod hefyd hawlio naill ai Lwfans Priodas neu Lwfans Cwpl Priod. Ni allant hawlio Lwfans Cwpl Priod oni bai bod o leiaf un partner wedi’u geni cyn 6 Ebrill 1935.

Am ragor o wybodaeth am y dreth incwm a lwfansau personol, gweler Lwfansau a symiau treth incwm.

Tystion

Cyd-fyw

Os ydych yn bartner dibriod, mi allwch gael eich galw fel tyst dros neu yn erbyn y partner arall mewn achosion sifil a throseddol. Mi allwch gael eich gorfodi i ymddangos a rhoi tystiolaeth.

Yn briod

Mewn achosion sifil, gall un partner priod fod yn dyst dros neu yn erbyn y llall. Mi allwch hefyd gael eich gorfodi i ymddangos. 

Mewn achosion troseddol, y rheol gyffredinol yw y gall partner priod fod yn dyst dros neu yn erbyn y partner arall. 

Mi allwch gael eich gorfodi i ymddangos fel tyst ar ran yr amddiffyniad mewn achos troseddol yn erbyn eich gŵr neu wraig. 

Fod bynnag, ni allwch gael eich gorfodi i ymddangos fel tyst ar ran yr erlyniad mewn achos troseddol yn erbyn eich gŵr neu wraig, heblaw mewn rhai mathau penodol o achosion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • achosion o drais domestig yn eich erbyn

  • achosion sy’n cynnwys trais yn erbyn rhywun sydd o dan 16 oed

  • achosion sy’n cynnwys trosedd rywiol yn erbyn rhywun sydd o dan 16 oed.

Fel elusen, rydym yn ddibynnol ar eich cefnogaeth i helpu miliynau o bobl i ddatrys eu problemau bob blwyddyn. Rhowch arian os gallwch chi i'n helpu ni i barhau â'n gwaith.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Medi 2019