Os yw eich cyn-bartner yn ceisio gwneud i chi adael

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n byw gyda’ch cyn-bartner a bod y berthynas yn dod i ben, fel arfer bydd gennych yr hawl i aros yn y cartref os ydych chi:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil 

  • wedi’ch enwi ar y gweithredoedd neu ddatganiad ysgrifenedig eich contract

Dylech chi feddwl beth i'w wneud â'r cartref roeddech chi'n ei rannu gyda'ch cyn-bartner.

Os nad ydych chi’n briod, mewn partneriaeth sifil neu wedi’ch enwi ar y gweithredoedd neu gontract medddiannaeth, efallai bod pethau y gallwch chi eu gwneud i aros yn eich cartref am gyfnod.

Pwysig

Os oes angen i chi siarad â rhywun oherwydd bod eich partner yn ymosodol

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad, dylech gael cymorth.

Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Fenywod ar 0808 2000 247 unrhyw bryd. 

Os ydych yn ddyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf, siaradwch â chynghorydd.

Os nad oes gennych chi unman arall i fynd

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu rhoi llety brys nes i chi ddod o hyd i rywbeth mwy parhaol, neu eich helpu i fynd yn ôl i'ch tŷ os oes angen.

Edrychwch i weld a allwch gael cymorth digartrefedd gan y cyngor.

Os ydych chi wedi gadael pethau yn y tŷ sydd angen i chi eu cael, dewch o hyd i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i'ch helpu - ffoniwch yr heddlu ar 101 os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi.

Os na allwch chi gytuno pwy ddylai aros yn eich cartref

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil

Os ydych chi eisoes wedi ceisio datrys pethau gyda’ch cyn-bartner ac yn ei chael hi'n anodd penderfynu pwy sy'n mynd i fyw yn yr eiddo, gallwch chi gael help dod i gytundeb. Gall arbenigwr o’r enw ‘cyfryngwr’ eich helpu chi a’ch partner ddod o hyd i ateb heb fynd i’r llys

Efallai y byddwch chi’n gallu aros yn eich cartref wrth i’r broses wahanu gael ei chwblhau gan y llys hyd yn oed os nad yw eich enw ar y gweithredoedd nac ar ddatganiad ysgrifenedig y contract meddiannaeth. Mae hyn oherwydd bod gennych chi ‘hawliau cartref’ – sy’n cael eu galw weithiau’n ‘hawliau cartref priodasol’.

Os yw eich cyn-bartner yn berchen ar eich cartref ac nad yw eich enw chi ar y gweithredoedd, fel arfer gallwch chi gofrestru eich hawliau cartref eich hun – darllenwch sut ar GOV.UK.

Os yw eich cyn-bartner yn ceisio gwneud i chi adael er bod gennych chi hawliau cartref, gallwch chi ofyn i’r llys ystyried pawb sy’n byw yn y cartref ac i benderfynu pwy ddylai gael aros yno. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘orchymyn meddiannaeth’.

Gorchymyn dros dro yw gorchymyn meddiannaeth – y llys fydd yn penderfynu pa mor hir fydd yn para. 

Beth angen i chi benderfynu beth sy’n digwydd i’ch cartref yn yr hirdymor pan fyddwch chi’n ysgaru neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Gallwch chi gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd i’ch cartref pan fyddwch chi’n gwahanu.

Os nad ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil

Os ydych chi wedi'ch enwi ar y gweithredoedd neu ar ddatganiad ysgrifenedig y contract meddiannaeth, mae gennych chi hawl i aros yn eich cartref.

Os nad ydych chi wedi'ch enwi ar y gweithredoedd neu’r datganiad ysgrifenedig, efallai y byddwch chi'n teimlo bod angen i chi aros - er enghraifft, os oes gennych chi blant sy'n byw yno.

Gallwch chi ofyn i’r llys benderfynu pwy fydd yn aros. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘orchymyn meddiannaeth’. Os ydych chi wedi gadael yn barod, gallwch chi wneud cais am orchymyn meddiannaeth i fynd yn ôl i mewn. Mae'n rhad ac am ddim i wneud cais.

Bydd y llys yn ystyried eich amgylchiadau chi, amgylchiadau eich cyn-bartner ac unrhyw blant sy'n byw yno i benderfynu pwy ddylai gael aros yn eich cartref.

Fel arfer, mae gorchymyn meddiannaeth yn para am 6 mis yn unig. Efallai y byddwch chi'n gallu ei adnewyddu ond mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch chi ddarllen am eich opsiynau hirdymor pan fyddwch chi’n gwahanu.

Os nad ydych chi'n siŵr a ddylech chi wneud cais am orchymyn meddiannaeth, siaradwch â chynghorwr.

Os yw eich cyn-bartner yn fygythiol, yn dreisgar neu’n cam-drin

Efallai y bydd angen iddynt symud allan ar frys er mwyn i chi allu aros yn eich cartref a bod yn ddiogel.

Dylech chi wneud cais am y canlynol:

  • ‘gorchymyn peidio ag ymyrryd’ i’ch diogelu chi neu eich plant rhag cael eich  niweidio gan eich cyn-bartner

  • ‘gorchymyn meddiannaeth’ i roi’r hawl i chi aros yn eich cartref, cael eich cyn-bartner i adael a’u hatal rhag dod nôl

Gallwch chi gael yr amddiffyniad hwn p'un a ydych chi'n briod, mewn partneriaeth sifil neu'n byw gyda'ch gilydd. Gallwch dal wneud cais os ydych chi neu'ch cyn-bartner wedi gadael eich cartref.

Gofynnwch ar eich cais i gael yr amddiffyniad hwn ar unwaith oherwydd eich bod chi neu'ch plant mewn perygl.

Os ydych chi’n gofyn am amddiffyniad brys, byddwch y gwrandawiad llys cyntaf heb eich cyn-bartner. Yn y gwrandawiad hwn, efallai y bydd y llys yn gwneud penderfyniad dros dro o'r enw 'gorchymyn meddiannaeth dros dro'. Yna bydd angen i chi ddod yn ôl am wrandawiad terfynol a bydd angen i'ch cyn-bartner fod yno.

Os oes gennych chi gontract ar y cyd

Os yw'r ddau ohonoch chi wedi'ch enwi ar eich datganiad ysgrifenedig, mae gennych chi gontract ar y cyd.

Os yw'ch partner yn fygythiol, yn dreisgar neu'n cam-drin, efallai y byddwch chi'n gallu eu 'gwahardd o'r contract'. Mae hyn yn golygu eu tynnu o'r contract heb fod angen iddynt gytuno iddo.

Siaradwch â chynghorwr os ydych chi’n ystyried gwahardd eich cyn-bartner o’r  contract.

Gwneud cais am orchymyn meddiannaeth neu orchymyn peidio ag ymyrryd

Fel arfer, y ffordd gyflymaf a'r mwyaf diogel yw gwneud cais ar-lein drwy Cyngor ar Bopeth. Os na allwch chi wneud cais ar-lein, gallwch chi wneud cais drwy’r post neu wyneb yn wyneb yn y llys.

Gwneud cais ar-lein drwy Cyngor ar Bopeth

Gallwch chi wneud cais drwy ddefnyddio adnodd am ddim o'r enw CourtNav sy’n cael ei redeg gan RCJ Cyngor ar Bopeth – swyddfa Cyngor ar Bopeth sy’n arbenigo mewn gwasanaethau cyfreithiol.

Bydd y system CourtNav yn eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen ac i weld os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol i helpu gyda'ch costau cyfreithiol. Bydd naill ai’n:

  • eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol

  • eich helpu i wneud cais i'r llys eich hun

Bydd y ffurflen yn gofyn i chi a ydych chi mewn perygl yn eich cartref ac yn eich helpu i ofyn am 'orchymyn brys' os oes angen yr amddiffyniad arnoch chi ar unwaith.

Gallwch chi ddechrau cais drwy CourtNav.

Gwneud cais drwy’r post, ar e-bost neu wyneb yn wyneb

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar GOV.UK - gallwch deipio eich atebion ac yna eu hargraffu.

Mae’r ffurflen yn gofyn i chi am eich:

  • enw a’ch manylion cyswllt

  • enw a manylion cyswllt eich cyn-bartner, os ydynt ar gael

  • manylion morgais, os oes gennych un

  • rhesymau dros wneud cais

Bydd angen i chi hefyd ysgrifennu 'datganiad tyst' a'i atodi i'r ffurflen. Dyma gyfle i esbonio pam mae angen gorchymyn meddiannaeth arnoch chi - er enghraifft oherwydd na allwch chi fforddio symud i unman arall ar hyn o bryd.

Os ydych chi mewn perygl ac angen cael yr amddiffyniad ar unwaith, gofynnwch i'r llys 'wrando ar eich cais heb roi rhybudd i'r ymatebydd.' Mae hwn yn flwch ticio ar adran 3 o'r ffurflen ac weithiau caiff ei alw’n 'orchymyn brys'.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro yn eich datganiad tyst a yw'n debygol y bydd eich cyn-bartner yn:

  • osgoi’r gorchymyn meddiannaeth yn fwriadol

  • eich niweidio chi neu’ch plant yn gorfforol

  • eich atal rhag gwneud cais os byddwch yn aros yn hirach

Os nad ydych chi eisiau i’ch cyn-bartner wybod ble rydych chi’n aros, gallwch chi adael y cyfeiriad yn wag ar y ffurflen. Nodwch eich cyfeiriad ar y ffurflen hon ar  GOV.UK yn lle hynny a'i atodi i'ch cais.

Rhowch lofnod a dyddiad ar eich datganiad tyst ac ysgrifennwch 'Rwy’n credu bod y ffeithiau a nodir yn y datganiad tyst hwn yn gywir' ar y gwaelod.

Anfonwch 3 copi o’ch cais at eich llys agosaf. Gallwch chi anfon eich cais ar e-bost neu drwy’r post, neu ei gyflwyno i’r llys. Gallwch chi ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llys agosaf. Byddant yn trefnu i gopi gael ei anfon at eich cyn-bartner a byddant yn  gofyn iddynt ysgrifennu eu datganiad tyst eu hunain.

Mynd i’r gwrandawiad

Bydd y llys yn cysylltu â chi ynglŷn â dyddiad y gwrandawiad llys. Os ydych chi'n poeni am fod yn y llys gyda'ch cyn-bartner, gallwch ofyn:

  • i ddefnyddio mynedfeydd ac ystafelloedd aros ar wahân 

  • i fynd â rhywun gyda chi fel cefnogaeth

Bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal yn eich llys teulu agosaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, yr unig bobl heblaw staff y llys fyddwch chi, eich cyn-bartner ac unrhyw un o'ch cyfreithwyr.

Os ydych chi'n gwneud gorchymyn brys oherwydd eich bod mewn perygl yn eich cartref, ni fydd eich cyn-bartner yn y gwrandawiad cyntaf.

Gwrandawiadau llys dros y ffôn neu alwad fideo

Bydd y llys yn dweud wrthych pa fath o wrandawiad fydd gennych chi. Edrychwch sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ffôn neu alwad fideo.

Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y llys naill ai’n penderfynu:

  • bod yn rhaid i'ch cyn-bartner addo gwneud rhywbeth neu beidio â gwneud rhywbeth - er enghraifft gadael i chi aros yn y cartref

  • bod angen mwy o wybodaeth arnynt – efallai y cewch chi orchymyn byr dymor i'ch diogelu nes i chi roi’r wybodaeth hon

  • cyhoeddi gorchymyn meddiannu yn dweud pwy all aros yn y cartref

Fe gewch chi gopi o unrhyw orchymyn y mae'r llys yn ei gyhoeddi drwy'r post - bydd yn dweud beth all eich cyn-bartner ei wneud a’r hyn na all ei wneud.

I'w wneud yn swyddogol, mae’n rhaid 'cyflwyno'r’ gorchymyn meddiannaeth i'ch cyn-bartner - mae hyn yn golygu bod angen rhoi copi o'r gorchymyn iddynt yn bersonol. Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud hyn os ydych chi'n defnyddio un.

Os nad ydych chi'n defnyddio cyfreithiwr, gofynnwch i'r llys gyflwyno'r gorchymyn i chi.

Unwaith y bydd copi gan eich cyn-bartner, gellir gorfodi'r rheolau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn oherwydd y gorchymyn. Os ydych chi'n credu bod eich cyn-bartner yn gwneud unrhyw beth sy'n mynd yn groes i'r gorchymyn, dylech chi ffonio'r heddlu.

Beth i’w wneud nesaf 

Pan fyddwch chi’n barod, bydd angen i chi benderfynu beth i’w wneud am y cartref os ydych chi eisiau aros yno ar eich pen eich hun – er enghraifft, newid datganiad ysgrifenedig eich contract.

Darllenwch beth i’w wneud am eich cartref pan fyddwch chi’n gwahanu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.