Beth sy’n digwydd i’ch cartref pan fyddwch yn gwahanu
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych yn byw gyda’ch partner, bydd angen i chi benderfynu beth i’w wneud am eich cartref pan fyddwch yn gwahanu. Bydd eich opsiynau’n dibynnu ar ba un a ydych yn ddibriod, yn briod neu mewn partneriaeth sifil, a pha un a ydych yn rhentu eich cartref neu’n berchen arno.
Os ydych eisoes wedi ceisio rhoi trefn ar bethau gyda’ch cyn-bartner a’ch bod yn ei chael yn anodd datrys y sefyllfa, gall fod modd i chi ddod i gytundeb drwy gyfryngu. Gall arbenigwr a elwir yn ‘gyfryngwr’ eich cynorthwyo chi a’ch cyn-bartner i ddatrys y sefyllfa heb fod rhaid i chi fynd i’r llys. Dewch i wybod sut y mae cyfryngu’n gweithio.
Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo dan fygythiad, dylech gael cymorth
Peidiwch â cheisio cytuno beth i’w wneud am eich cartref heb siarad â rhywun yn gyntaf.
Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch chi, gallwch ffonio Refuge ar 0808 200 0247 neu ddefnyddio gwasanaeth sgwrsio ar-lein Cymorth i Fenywod unrhyw bryd.
Os ydych yn ddyn a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch chi, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.
Os nad ydych yn sicr beth i’w wneud nesa, cysylltwch â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os nad yw’n ddiogel i chi aros yn eich cartref oherwydd cam-drin domestig
Gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol i gael cymorth digartrefedd. Dywedwch wrtho fod gennych ‘angen blaenoriaethol’ oherwydd eich bod wedi wynebu cam-drin domestig.
Bydd eich cyngor lleol yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i lety hirdymor ac yn cynnig llety brys i chi os ydych yn gymwys i’w gael. Mae hyn yn golygu y bydd gennych rywle i fyw tra mae’ch cais yn cael ei brosesu.
Fel arfer, os byddwch yn gadael eich cartref, ni fydd y cyngor yn eich cynorthwyo i gael hyd i lety oherwydd eich bod wedi eich gwneud eich hun ‘yn ddigartref yn fwriadol’. Nid yw hyn yn berthnasol os bu’n rhaid i chi adael eich cartref oherwydd cam-drin domestig.
Edrychwch i weld a allwch gael cymorth digartrefedd gan y cyngor.
Siaradwch â chynghorydd os oes angen cyngor arnoch am y cartref rydych chi wedi ei adael – er enghraifft, os oes gennych forgais neu os ydych wedi’ch enwi yn natganiad ysgrifenedig y contract meddiannaeth.
Os oes arnoch angen i’ch cyn-bartner symud o’r cartref ar fyrder, gallwch ofyn i’r llys benderfynu pwy gaiff aros yn y cartref – ‘gorchymyn meddiannaeth’ yw’r enw ar hyn. Gallwch ddod i wybod sut i wneud cais i gael gorchymyn meddiannaeth.
Os oes angen cymorth arnoch gan eich cyngor lleol i gael hyd i’ch cartref nesaf
Pe baech yn dewis dod â’ch contract meddiannaeth i ben neu symud o’ch cartref, gallai eich cyngor lleol feddwl mai chi sydd ar fai am nad oes gennych rywle i fyw. Bod ‘yn ddigartref yn fwriadol’ yw’r enw ar hyn. Os bydd eich cyngor lleol yn meddwl eich bod yn ddigartref yn fwriadol, mae’n bosibl na fydd modd iddo gael hyd i gartref hirdymor i chi.
Cyn i chi ddod â’ch contract i ben neu symud o’ch cartref, dylech siarad â chynghorydd.
Os yw’ch cyn-bartner eisiau i chi symud o’ch cartref
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, mae gan y ddau ohonoch ‘hawliau cartref’. Mae hyn yn golygu y gallwch aros yn eich cartref, hyd yn oed os nad ydych yn berchen arno neu os nad ydych wedi’ch enwi yn natganiad ysgrifenedig y contract. Ni fydd ond rhaid i chi symud o’r cartref yn barhaol os bydd eich priodas neu’ch partneriaeth sifil yn dod i ben, neu os bydd llys yn gorchymyn eich bod yn gwneud hynny – er enghraifft, fel rhan o’ch ysgariad.
Os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, ni fydd gennych ‘hawliau cartref’. Bydd eich hawliau’n dibynnu ar ba un a ydych yn ddeiliad contract neu’n berchentywr.
Os ydych yn rhentu
Bydd yr hyn sy’n digwydd i’ch cartref yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych ac a ydych yn ddeiliad contract. Efallai na fyddwch yn ddeiliad contract:
os ydych yn lletywr (neu lojer)
os ydych yn byw gyda’ch landlord
os ydych yn byw mewn hostel
os ydych yn byw mewn tai â chymorth
os ydych yn byw mewn cartref dros dro a ddarparwyd gan eich cyngor lleol oherwydd eich bod yn ddigartref
Os nad ydych yn ddeiliad contract, neu os nad ydych yn sicr pa fath o gytundeb sydd gennych, dylech siarad â chynghorydd.
Os ydych yn ddeiliad contract
Os yw’r ddau ohonoch am adael, dylech geisio dod â’ch contract i ben os gallwch chi.
Os yw’ch contract ar fin dod i ben, gallwch roi gwybod i’ch landlord y byddwch yn gadael erbyn y dyddiad y bydd yn dod i ben – ‘rhoi hysbysiad’ yw’r enw ar hyn. Bydd angen i’r ddau ohonoch roi hysbysiad os ydych chi eisiau i’ch contract ddod i ben.
Os nad yw’ch contract ar fin dod i ben, gallech ofyn i’ch landlord ddod â’r contract i ben yn gynnar – ‘ildio eich contract’ yw’r enw ar hyn.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, dewch i wybod sut i ddod â’ch contract i ben.
Os ydych yn rhentu gan gymdeithas dai neu gyngor, siaradwch â chynghorydd.
Os mai dim ond un ohonoch sydd am symud o’r cartref, bydd angen i chi edrych i weld pa fath o gontract sydd gennych yn gyntaf.
Os yw’ch contract yn para am gyfnod penodedig, mae gennych ‘gontract cyfnod penodol’.
Os nad oes gan eich contract gyfnod penodedig neu ddyddiad terfyn, mae gennych ‘gontract treigl’ fwy na thebyg.
Bydd hefyd angen i chi edrych ar ddatganiad ysgrifenedig eich contract i weld pwy sy’n cael ei enwi.
Os yw’r ddau ohonoch yn cael eich enwi fel deiliaid contract, byddwch yn ‘gyd-ddeiliaid contract’ a bydd gennych yr un hawliau.
Os oes gennych gontract ar y cyd
Os bydd eich cyn-bartner yn symud o’r cartref, gall symud yn ôl i’r cartref ar unrhyw adeg tra mae’n dal i fod wedi ei enwi fel deiliad contract yn y datganiad ysgrifenedig.
Os byddwch chi’n symud o’r cartref, bydd disgwyl i chi dalu rhent os ydych yn dal i fod wedi’ch enwi yn y datganiad ysgrifenedig. Pan fyddwch yn gwahanu, gall fod modd i chi wneud trefniadau eraill i’w dalu.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dewch i wybod a allwch gael cymorth ariannol gan eich cyn-bartner.
Os bydd un ohonoch yn cytuno i symud o’r cartref, dylai’r sawl sy’n gadael roi gwybod i’r landlord ei fod am gael ei ddileu o’r contract. Ni fydd hyn ond yn dod â’r contract i ben ar gyfer y sawl sy’n symud o’r cartref.
Os bydd eich cyn-bartner yn gwrthod symud o’r cartref, gall fod modd i chi wneud cais i’w ddileu o’r contract:
os yw’n byw rywle arall y rhan fwyaf o’r amser
os yw wedi bod yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
‘Gwahardd’ yw’r enw ar ddileu rhywun o’r contract. I weld a allwch wahardd deiliad contract arall, siaradwch â chynghorydd.
Os ydych yn teimlo dan fygythiad
Rhowch wybod i’r heddlu ar unwaith drwy ffonio 999.
Os ydych yn byw mewn tai cymdeithasol, dylech ofyn i’ch landlord a oes ganddo bolisi ynghylch dod â chyd-denantiaethau i ben. Dylech wneud hyn cyn i chi ddod â’ch tenantiaeth i ben. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall landlord tai cymdeithasol ddechrau tenantiaeth newydd gyda’r tenant neu’r tenantiaid sy’n weddill ar ôl i’r gyd-denantiaeth ddod i ben.
Os oes gennych gontract cyfnod penodol
Os ydych yn ddeiliaid contract ar y cyd, bydd angen i chi benderfynu pwy sy’n symud o’r cartref.
Os bydd y ddau ohonoch yn cytuno, gall y person hwnnw adael naill ai:
drwy gael y landlord i gytuno y caiff adael cyn i’r cyfnod penodol ddod i ben, neu
drwy ddefnyddio’r ‘cymal terfynu’ yn eich datganiad ysgrifenedig, os oes gennych chi un – mae hyn yn caniatáu iddo ddod â’i ran o’r contract i ben yn gynnar
Bydd angen iddo roi ‘hysbysiad tynnu’n ôl’ i’ch landlord fis cyn y dyddiad y mae’n bwriadu symud o’r cartref.
Os na all ddod â’i ran o’r contract i ben yn gynnar, ni all ond roi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’ch landlord fis cyn i’r cyfnod penodol ddod i ben.
Dylai eich landlord ysgrifennu atoch i gadarnhau bod y person yn symud o’r cartref.
Bydd disgwyl i’r ddau ohonoch dalu’r rhent tra mae’r ddau ohonoch wedi’ch enwi yn natganiad ysgrifenedig y contract.
Gallwch wneud cais i’r llys i newid contract eich cyn-bartner i’ch enw chi, neu i ddileu ei enw o gontract ar y cyd. Gallwch wneud cais i ‘drosglwyddo contract’:
os yw’ch landlord yn gwrthod newid eich contract
os nad yw’ch contract yn caniatáu i chi ei drosglwyddo
os nad yw’ch cyn-bartner yn cytuno i’w drosglwyddo
Mae angen i chi fynd i’r llys i drosglwyddo contract, felly mae’n well ceisio dod i gytundeb â’ch cyn-bartner yn gyntaf os gallwch chi. Os ydych yn ysgaru, gallwch fel arfer gynnwys trosglwyddo contract yn eich achos ysgaru.
Siaradwch â chynghorydd os ydych am wneud cais i drosglwyddo contract – gall cynghorydd egluro’r broses a’ch cynorthwyo i ddod o hyd i gyfreithiwr.
Os mai dim ond un person sydd wedi’i enwi yn y contract
Gofynnwch i’ch landlord newid yr enw yn y datganiad ysgrifenedig os yw’r person a enwir am adael.
Mae gan eich landlord 14 diwrnod i ofyn am fwy o wybodaeth am y person rydych chi am drosglwyddo’r contract iddo. Er enghraifft, i wneud yn siŵr ei fod yn gallu fforddio talu’r rhent.
Os na fydd eich landlord yn ymateb, bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo’n awtomatig fis ar ôl naill ai:
y dyddiad y bu i chi ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani, neu
y dyddiad y gwnaethoch eich cais gwreiddiol, os na ofynnwyd am wybodaeth ychwanegol
Gall eich landlord wrthod y newid, ond ni all wneud hynny heb reswm da. Er enghraifft, os nad oes modd i’r sawl rydych chi am drosglwyddo’r contract iddo dalu’r rhent.
Os bydd eich landlord yn cytuno i’r newid, gall ofyn i’r deiliad contract newydd a enwir fodloni rhai amodau ‘rhesymol’. Er enghraifft, peidio ag ysmygu y tu mewn i’r eiddo.
Os ydych yn credu bod eich landlord yn bod yn afresymol, gallwch wneud hawliad i’r llys sirol.
Siaradwch â chynghorydd i gael cymorth o ran newid y sawl a enwir yn y contract.
Os ydych yn berchen ar eich cartref
Mae gennych hawl i aros yn y cartref os ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu wedi’ch enwi yng ‘ngweithredoedd yr eiddo’ – y ddogfen sy’n profi pwy sy’n berchen ar eich cartref.
Os yw’r ddau ohonoch yn cael eich enwi yng ngweithredoedd yr eiddo
Os yw’r ddau ohonoch yn cael eich enwi yng ngweithredoedd yr eiddo, mae’n golygu bod y ddau ohonoch yn berchen ar eich cartref. Bydd angen i’r ddau ohonoch benderfynu beth sy’n digwydd i’ch cartref.
Gallai’r ddau ohonoch fod yn berchen ar yr eiddo cyfan gyda’ch gilydd – gelwir hyn yn ‘gyd-denantiaeth’. Gallech fod yn berchen ar yr eiddo ar y cyd, gyda’r naill a’r llall ohonoch yn berchen ar gyfran benodol o’i werth – gelwir hyn yn ‘denantiaeth ar y cyd’. Os ydych yn denantiaid ar y cyd, gallai eich cyfrannau fod yn gyfartal – er enghraifft, hanner yr un – neu’n anghyfartal. Gallwch ddod i wybod pa fath o gydberchnogaeth sydd gennych ar wefan GOV.UK.
Os na allwch gytuno beth sy’n digwydd i’ch cartref
Gallwch ofyn i’r llys benderfynu beth fydd yn digwydd i’ch cartref.
Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ceisio cyfryngu cyn i chi wneud cais i’r llys. Ceir eithriadau sy’n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf – er enghraifft, os ydych wedi wynebu cam-drin domestig. Dewch i wybod sut y mae cyfryngu’n gweithio.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gall y llys benderfynu beth sy’n digwydd i’ch cartref drwy eich ysgariad. Gallwch find out more about your options.
Os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, gallwch ofyn i’r llys benderfynu beth sy’n digwydd i’ch cartref. Bydd y llys fel arfer yn rhannu gwerth eich cartref rhyngoch yn unol â’r cyfrannau rydych chi’n berchen arnynt. Os oes gennych blant, gall fod modd i chi ofyn i’r llys oedi cyn gwerthu eich cartref hyd nes bod eich plentyn ieuengaf yn 18 oed. Bydd arnoch angen cymorth cyfreithiol i wneud hyn – gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Resolution.
Os ydych am werthu eich cartref
Os yw’r ddau ohonoch am adael, gallwch werthu’r cartref a rhannu unrhyw elw (yr ‘ecwiti’) – gallwch gael cymorth i werthu’ch cartref.
Gall fod modd i chi brynu cyfran eich cyn-bartner os ydych chi am aros, neu werthu eich cyfran chi iddo os ydych chi am adael. Bydd angen morgais arnoch.
Gallwch siarad â’ch benthyciwr morgais – neu gallwch geisio cael gwell bargen gyda benthyciwr arall. Gallwch wneud hyn drwy siarad â banciau neu gymdeithasau adeiladu eich hunan neu drwy frocer morgeisi. Bydd rhai broceriaid morgeisi yn codi ffi.
Bydd eich benthyciwr morgais fel arfer am gadarnhau bod y sawl sydd am aros yn gallu fforddio talu’r morgais cyfan ei hun. Bydd fel arfer yn gofyn i weld tystiolaeth, fel nodiadau talu a datganiadau banc.
Bydd angen i chi gysylltu â chyfreithiwr i drosglwyddo perchnogaeth yn y gofrestrfa tir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael morgais ar eich pen eich hun yn gyntaf – fel arall, gallech wastraffu arian ar gyfreithiwr.
Os yw’r ddau ohonoch yn cael eich enwi yn y morgais, mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am y taliadau – gan gynnwys unrhyw ôl-ddyledion – hyd yn oed os bydd un ohonoch yn symud o’r cartref. Pan fyddwch yn gwahanu, gall fod modd i chi wneud trefniadau eraill i’w dalu.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dewch i wybod a allwch gael cymorth ariannol gan eich cyn-bartner.
Os ydych wedi symud o’r cartref ac nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, gallai eich cyn-bartner dalu eich cyfran chi o’r morgais – gelwir hyn yn ‘rhent meddiannaeth’.
Os ydych yn ystyried prynu neu werthu cyfran o’ch cartref, dylech siarad â chynghorydd. Gall cynghorydd egluro’r broses a helpu i bennu’r hyn sydd orau i chi.
Os nad ydych yn cael eich enwi yng ngweithredoedd yr eiddo
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, mae’n syniad da cofrestru eich ‘hawliau cartref’ ar-lein. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael gwybod os bydd eich cyn-bartner yn ceisio gwerthu’r tŷ neu os bydd y benthyciwr morgais yn ceisio ei adfeddu.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, datrys yr hyn sy’n digwydd i’ch cartref drwy’r gorchymyn ysgaru neu ddiddymu yw’r peth gorau i’w wneud fel arfer.
Os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, neu os nad ydych wedi datrys yr hyn a fydd yn digwydd i’ch cartref, gall fod modd i chi brofi eich hawl i’r cartref o hyd os gallwch brofi bod gennych ‘fuddiant llesiannol’. Mae hyn fel arfer yn golygu eich bod wedi cyfrannu at y cartref yn ariannol.
Yn y llys, bydd angen i chi ddangos i’r barnwr sut rydych chi wedi cyfrannu at dalu am y cartref – gall hyn fod yn anodd, felly cysylltwch â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf cyn dechrau. Gall cynghorydd eich cynorthwyo drwy’r broses.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 24 Ionawr 2020