Sorting out school problems

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw eich plentyn yn cael problemau yn yr ysgol, y peth gorau i’w wneud fel arfer yw siarad â’ch plentyn yn gyntaf ac yna siarad â’i athro/athrawes. Os nad yw hynny’n datrys y broblem, mae camau eraill y gallwch eu cymryd.

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio, mae angen i chi siarad â’r ysgol – dechreuwch drwy gysylltu ag athro/athrawes dosbarth eich plentyn. Peidiwch â gadael eich plentyn i sortio pethau ar ei ben ei hun. Gallwch gael cyngor ar ymdrin â bwlio  gan y Gynghrair Gwrth-fwlio.

Mae rhai mathau o fwlio yn anghyfreithlon, gan gynnwys ymosod neu anfon negeseuon testun bygythiol aml – dylech ddweud wrth yr heddlu. Gallwch gael gwybodaeth am riportio bwlio anghyfreithlon i’r heddlu ar GOV.UK.

Siarad â’ch plentyn a’i athro/athrawes

Siaradwch â’ch plentyn os yw’n anhapus yn yr ysgol neu os ydych chi’n poeni am ei addysg. Ceisiwch gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Efallai y gallwch chi ddatrys y broblem gyda’ch plentyn os gallwch awgrymu pethau y gall eu newid er mwyn gwneud pethau’n well.

Os nad yw hynny’n gweithio, bydd angen i chi gysylltu â’i athro/athrawes.

Dylech:

  • egluro’r broblem wrth yr athro/athrawes

  • gofyn beth all yr athro/athrawes ei wneud i helpu a phryd

  • gofyn pryd fydd yr athro/athrawes yn rhoi diweddariad i chi

Os byddwch chi’n anfon ebost neu’n ysgrifennu llythyr at yr athro/athrawes, cadwch gopi.

Os byddwch chi’n ffonio neu’n siarad wyneb yn wyneb, gwnewch nodyn o’r dyddiad a gwnewch nodiadau o’r hyn mae’r ddau ohonoch yn ei ddweud – ar y pryd neu yn syth ar ôl hynny. Gallai eich nodiadau helpu os bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r ysgol eto ynglŷn â’r broblem.

Os yw eich plentyn yn cael anhawster i ddysgu neu i wneud ffrindiau, efallai y bydd arno angen cymorth ychwanegol. Gallwch siarad â chydlynydd anghenion addysgol arbennig yr ysgol neu aelod o’r staff sy’n ymdrin â 'chynhwysiant'.

Gallwch ddarganfod mwy am anghenion addysgol arbennig ac anableddau ar GOV.UK.

Siarad â’r pennaeth

Os na fydd yr athro/athrawes yn sortio’r broblem, gallwch ofyn am gael siarad â’r pennaeth.

Efallai y bydd y pennaeth yn gofyn i chi weld rhywun arall, fel aelod o’r staff sy’n ymdrin ag ymddygiad. Mae’n dal yn bosibl i chi fynnu cael siarad â’r pennaeth os yw’n well gennych wneud hynny.

Dylech:

  • egluro’r broblem wrth y pennaeth

  • gofyn beth all y pennaeth ei wneud i helpu a phryd

  • gofyn pryd fydd y pennaeth yn rhoi diweddariad i chi

Os byddwch chi’n anfon ebost neu’n ysgrifennu llythyr at y pennaeth, cadwch gopi.

Os byddwch chi’n ffonio neu’n siarad wyneb yn wyneb, gwnewch nodyn o’r dyddiad a gwnewch nodiadau o’r hyn mae’r ddau ohonoch yn ei ddweud – ar y pryd neu’n syth ar ôl hynny. Gallai eich nodiadau helpu os bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r ysgol eto neu wneud cwyn.

Os bydd eich plentyn yn cael ei wahardd o’r ysgol

Gallwch ofyn i’r pennaeth fyrhau neu ganslo’r gwaharddiad os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir.

Darllenwch beth ddylai ysgol ei wneud pan fydd yn gwahardd disgybl ar GOV.UK.

Gallwch ddarllen mwy am waharddiadau ar wefan SNAP Cymru. Mae SNAP Cymru yn elusen sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni.

Os caiff eich plentyn ei wahardd yn barhaol, gallwch gysylltu â’r Prosiect Gwaharddiadau o Ysgolion – yn enwedig os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig neu anabledd. Mae’r Prosiect Gwaharddiadau o Ysgolion yn cynnig cyngor di-dâl a chymorth cyfreithiol â gwaharddiadau parhaol.

Holi rhieni eraill

Os yw’r broblem yn rhywbeth sy’n effeithio ar lawer o blant yn yr ysgol, efallai y byddech chi’n hoffi siarad â rhieni eraill. Gallwch weithredu gyda’ch gilydd wedyn – er enghraifft, gofyn am gael siarad mewn cyfarfod o’r gymdeithas rhieni ac athrawon neu ysgrifennu at y pennaeth a’r llywodraethwyr.

Gallwch holi staff swyddfa’r ysgol sut mae cysylltu â’r gymdeithas rhieni ac athrawon, neu efallai fod eu manylion cysylltu i’w gweld ar wefan yr ysgol.

Gwneud cwyn ffurfiol

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Dylai pob ysgol fod â gweithdrefn gwyno – gofynnwch i’r ysgol am gopi neu edrychwch ar ei gwefan.

Fel arfer bydd angen i chi anfon ebost neu ysgrifennu llythyr at y pennaeth ac at y corff llywodraethu yn dweud wrthyn nhw eich bod yn gwneud cwyn ffurfiol. Bydd angen i chi egluro’r broblem a pham eich bod yn anfodlon â’r hyn mae’r ysgol wedi ei wneud ynglŷn â’r mater. Dylech gadw copi o bopeth rydych chi’n ei anfon.

Os bydd yr ysgol yn gofyn i chi ddod i gyfarfod, efallai y bydd arnoch eisiau i riant arall y plentyn neu ffrind fynd gyda chi – dywedwch wrth yr ysgol os oes arnoch chi eisiau gwneud hynny. Mae’n syniad da i un ohonoch gymryd nodiadau.

Gallwch gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes arnoch eisiau help i wneud cwyn ffurfiol.

Cwyno wrth eich awdurdod addysg lleol

Os na fydd eich cwyn ffurfiol yn datrys y broblem, efallai y gallwch gwyno wrth eich awdurdod addysg lleol (AALl).

Eich AALl yw’r cyngor lleol sy’n ymdrin ag addysg yn eich ardal – gallwch ddod o hyd i’ch AALl ar GOV.UK. Bydd eich AALl yn rhoi gwybod i chi os gall eich helpu gyda’ch problem.

Ni allwch gwyno wrth eich awdurdod addysg lleol os yw eich plentyn yn mynd i:

  • ysgol rydd

  • academi

  • ysgol breifat

Gallwch ddarganfod beth i’w wneud yn lle hynny ar GOV.UK.

Os nad yw eich cwyn wedi datrys y broblem

Gallwch ddarganfod beth i’w wneud os ydych wedi gwneud cwyn ffurfiol ond eich bod yn dal yn anfodlon ar GOV.UK.

Cael mwy o help

Gallwch:

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.