Gwneud ewyllys
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae'n bwysig i chi wneud ewyllys p'un a ydych chi'n ystyried bod gennych chi lawer o eiddo neu lawer o arian ai peidio. Mae'n bwysig gwneud ewyllys oherwydd:
os byddwch chi’n marw heb ewyllys, mae rheolau penodol sy'n pennu sut dylid dosbarthu’r arian, yr eiddo neu'r pethau yn eich meddiant. Efallai nad dyma'r ffordd y byddech chi wedi dymuno i'ch arian a'r pethau yn eich meddiant gael eu dosbarthu
ni all partneriaid di-briod a phartneriaid nad ydynt wedi cofrestru partneriaeth sifil etifeddu oddi wrth ei gilydd oni bai bod yna ewyllys, felly gallai marwolaeth un partner greu problemau ariannol difrifol i’r partner sy’n weddill
os oes gennych blant, bydd angen i chi wneud ewyllys fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer y plant os bydd un rhiant neu'r ddau yn marw
efallai y bydd modd lleihau faint o dreth sy'n cael ei thalu ar yr etifeddiant os cymerir cyngor ymlaen llaw ac y gwneir ewyllys
os yw eich amgylchiadau wedi newid, mae'n bwysig eich bod yn gwneud ewyllys i sicrhau bod eich arian a’r pethau yn eich meddiant yn cael eu dosbarthu yn ôl eich dymuniadau. Er enghraifft, os ydych chi wedi gwahanu a bod eich cyn-bartner bellach yn byw gyda rhywun arall, efallai yr hoffech chi newid eich ewyllys. Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, bydd hyn yn gwneud unrhyw hen ewyllys yn annilys
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a ddylech chi wneud ewyllys ai peidio, dylech ymgynghori â chyfreithiwr – darllenwch sut i gael cyngor cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd os oes rhywun yn marw heb wneud ewyllys, gweler Pwy all etifeddu os nad oes ewyllys – rheolau diffyg ewyllys.
A ddylech chi ddefnyddio cyfreithiwr neu beidio
Nid oes angen i ewyllys gael ei llunio a’i thystio gan gyfreithiwr. Os ydych chi eisiau gwneud ewyllys eich hun, gallwch chi wneud hynny. Serch hynny, dim ond os yw'r ewyllys yn mynd i fod yn syml y dylech chi ystyried gwneud hyn.
Yn gyffredinol, mae'n ddoeth defnyddio cyfreithiwr neu i gael cyfreithiwr i wirio ewyllys rydych chi wedi’i llunio i wneud yn siŵr y bydd yn cael yr effaith rydych chi ei heisiau. Mae hyn oherwydd ei bod hi'n hawdd gwneud camgymeriadau ac, os oes gwallau yn yr ewyllys, gall hyn achosi problemau ar ôl eich marwolaeth. Gall datrys camddealltwriaethau ac anghydfodau ar ôl eich marwolaeth arwain at gostau cyfreithiol sylweddol, a fydd yn lleihau'r swm o arian yn yr ystâd.
Dylech gofio y bydd cyfreithwyr yn codi tâl am eu gwasanaethau wrth lunio neu wirio ewyllysiau. Dylent roi'r wybodaeth orau bosib i chi am gost eu gwasanaethau. Dylent roi hyn i chi ar ddechrau eu gwaith gyda chi.
Rhai camgymeriadau cyffredin wrth wneud ewyllys yw:
peidio â bod yn ymwybodol o'r gofynion ffurfiol sydd eu hangen i wneud ewyllys yn ddilys yn gyfreithiol
methu â chymryd i ystyriaeth yr holl arian a’r eiddo sydd ar gael
methu â chymryd i ystyriaeth y posibilrwydd y gallai buddiolwr farw cyn y person sy'n gwneud yr ewyllys
newid yr ewyllys. Os nad yw’r newidiadau hyn wedi’u llofnodi a'u tystio, maent yn annilys
bod yn anymwybodol o effaith priodas, partneriaeth sifil gofrestredig, ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil ar ewyllys
bod yn anymwybodol o'r rheolau sy'n bodoli i alluogi dibynyddion i hawlio o'r ystâd os ydynt yn credu nad oes darpariaeth ddigonol ar eu cyfer. Mae'r rheolau hyn yn golygu y gallai'r darpariaethau yn yr ewyllys gael eu gwrthdroi
Gallwch:
Pryd yn benodol y mae’n ddoeth defnyddio cyfreithiwr
Ceir rhai amgylchiadau penodol lle mae'n ddoeth defnyddio cyfreithiwr, sef pan:
rydych chi'n rhannu eiddo gyda rhywun nad yw'n ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil i chi
rydych chi eisiau gwneud darpariaeth ar gyfer dibynnydd sy'n methu gofalu am eu hunain
mae sawl aelod o'r teulu a all wneud hawliad ar yr ewyllys, er enghraifft, ail wraig neu blant o briodas gyntaf
nid yw eich cartref parhaol yn y Deyrnas Unedig
rydych chi'n byw yma ond mae eiddo tramor yn gysylltiedig â hyn
mae busnes yn gysylltiedig â hyn
Mathau eraill o gymorth i ysgrifennu ewyllys
Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, efallai y gwelwch chi fod yr undeb yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau am ddim. Yn aml, bydd undeb yn defnyddio ei gyfreithwyr ei hun i ymgymryd â'r gwaith hwn.
Mae llyfrau sy'n rhoi canllawiau ar sut i lunio ewyllys. Gall y rhain eich helpu i benderfynu a ddylech chi lunio eich ewyllys eich hun a hefyd eich helpu i benderfynu a oes unrhyw un o'r ffurflenni ewyllys sydd wedi'u hargraffu ymlaen llaw, sydd ar gael gan werthwyr papurau ac elusennau, yn addas. Mae hefyd yn bosib dod o hyd i gymorth ar y we.
Mae gwasanaethau ysgrifennu ewyllysiau ar gael. Mae'r rhain fel arfer yn rhatach na chyfreithiwr, ond nid yw'r rhan fwyaf wedi'u rheoleiddio. Mae hyn yn golygu os bydd rhywbeth yn mynd o'i le gyda'ch ewyllys, ni allwch wneud cwyn gyfreithiol na hawlio iawndal.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio cwmni ysgrifennu ewyllysiau, ystyriwch ddefnyddio un sy'n perthyn i Sefydliad yr Ysgrifenwyr Ewyllysiau Proffesiynol sydd â chod ymarfer a gymeradwywyd gan Gynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr y Sefydliad Safonau Masnach (CCAS).
Mae masnachwyr yn y cynllun hwn yn arddangos logo cymeradwy y TSI.
Pan welwch y logo, mae'n golygu bod y masnachwr wedi cytuno i ddarparu safonau gwasanaeth da gan gynnwys gwybodaeth glir cyn llofnodi contract, gweithdrefn gwyno glir a mynediad at gynllun datrys anghydfodau amgen ar gyfer setlo y tu allan i'r llys
Dod o hyd i gwmni ysgrifennu ewyllysiau ar wefan Sefydliad yr Ysgrifenwyr Ewyllysiau Proffesiynol.
Gwirio costau cyfreithiwr
Mae'r ffioedd am lunio ewyllys yn amrywio rhwng cyfreithwyr ac yn dibynnu ar gymhlethdod yr ewyllys hefyd.
Cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â phwy i'w ddefnyddio, mae wastad yn ddoeth gwirio gyda rhai cyfreithwyr lleol i weld faint maen nhw'n ei godi.
Efallai y bydd gennych fynediad at gyngor cyfreithiol drwy ychwanegiad at bolisi yswiriant sy'n ysgwyddo costau cyfreithiwr i baratoi neu i wirio ewyllys. Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, efallai y byddwch chi'n gweld bod yr undeb yn cynnig gwasanaeth ewyllysiau am ddim i aelodau.
Os oes angen help arnoch chi i dalu am gyfreithiwr
Gwiriwch os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.
Gall rhai elusennau eich helpu i wneud eich ewyllys. Gallwch chwilio am elusennau sy’n cynnig hyn ar-lein. Bydd yr elusen yn gofyn i chi ychwanegu rhodd ar eu cyfer yn eich ewyllys. Nid oes rhaid i chi wneud hyn, ond mae'n debyg y bydd yr elusen yn talu arian am eich ewyllys.
Bob Tachwedd, bydd rhai cyfreithwyr yn cynnig gwasanaethau ysgrifennu ewyllysiau am ddim yn gyfnewid am gyfraniad i’r elusen Will Aid.
Gallwch wirio gyda chyfreithwyr sy’n cymryd rhan ar wefan Will Aid. Bydd yn rhaid i chi roi rhywfaint o wybodaeth gyswllt i gael rhestr o gyfreithwyr.
Os ydych chi'n 55 oed neu'n hŷn, gallwch chi gymryd rhan ym Mis Ewyllysiau am Ddim bob mis Mawrth a mis Hydref. Gallwch ddewis gadael rhodd yn eich ewyllys i un o’r elusennau.
Dewch o hyd i gyfreithiwr sy’n cymryd rhan ar wefan Mis Ewyllysiau am Ddim. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Mis Ewyllysiau am Ddim nesaf. .
Beth ddylid ei gynnwys mewn ewyllys
I arbed amser a lleihau costau wrth fynd at gyfreithiwr, dylech chi roi rhywfaint o ystyriaeth i'r prif bwyntiau yr hoffech chi eu cynnwys yn eich ewyllys. Dylech ystyried pethau fel:
pa arian, eiddo a phethau sydd yn eich meddiant - er enghraifft, cynilion neu'ch cartref
pwy rydych chi eisiau i gael eich arian, eich eiddo a'r pethau yn eich meddiant ar ôl i chi farw – mae’r bobl hyn yn cael eu galw’n 'fuddiolwyr'
os ydych chi eisiau rhoi unrhyw beth i elusen
pwy ddylai ofalu am unrhyw blant dan 18 oed
pwy fydd yn ysgutorion i chi
Pwy yw’r ysgutorion
Ysgutrorion yw’r bobl sy’n gyfrifol am gyflawni eich dymuniadau ac am ddatrys yr ystâd.
Bydd yn rhaid iddynt gasglu holl asedau'r ystâd at ei gilydd, delio â'r holl waith papur a thalu'r holl ddyledion, trethi, costau’r angladd a chostau gweinyddol o arian yr ystâd.
Bydd angen iddynt dalu'r rhoddion a throsglwyddo unrhyw eiddo i fuddiolwyr.
Pwy i'w dewis fel ysgutorion
Dim ond 1 ysgutor sydd angen i chi ei benodi yn eich ewyllys, er y gallwch chi gael hyd at 4. Mae’n well cael mwy nag 1 rhag ofn bod problem, er enghraifft, os oes un ysgutor yn anhwylus.
Os oes unrhyw un o'ch buddiolwyr o dan 18 oed, neu'n cynnwys ymddiriedolaeth, bydd angen o leiaf 2 ysgutor arnoch chi.
Y bobl sy’n cael eu penodi amlaf fel ysgutorion yw:
perthnasau neu ffrindiau
cyfreithwyr neu gyfrifyddion
banciau
yr Ymddiriedolwr Gwladol neu mewn rhai achosion y Cyfreithiwr Swyddogol os nad oes unrhyw un arall yn fodlon ac yn gallu gweithredu
Mae’ n bwysig dewis ysgutorion yn ofalus iawn oherwydd mae’r hyn y gofynnir iddynt ei wneud yn cynnwys llawer iawn o waith a chyfrifoldeb.
Dylech chi wastad ofyn i unrhyw un rydych chi'n ystyried ei benodi'n ysgutor i weld a fyddant yn cytuno i gymryd y cyfrifoldeb. Os penodir rhywun nad yw'n fodlon bod yn ysgutor, mae ganddynt hawl i wrthod.
Os bydd ysgutor yn marw, gall unrhyw ysgutor(ion) sy'n goroesi ddelio â'r ystâd. Os nad oes unrhyw ysgutorion yn weddill, dylid gofyn am gyngor cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn sy’n rhaid i ysgutoriaid ei wneud, gweler Delio â materion ariannol rhywun sydd wedi marw.
Gofynion ar gyfer ewyllys ddilys
Er mwyn i ewyllys fod yn ddilys, rhaid iddi fod:
wedi'i gwneud gan berson sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac
wedi'i gwneud yn wirfoddol, heb bwysau gan unrhyw berson arall, ac
wedi'i gwneud gan berson o feddwl cadarn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r person fod yn gwbl ymwybodol o natur y ddogfen sy'n cael ei hysgrifennu neu ei llofnodi ac yn ymwybodol o'r eiddo a hunaniaeth y bobl a all etifeddu, ac
yn ysgrifenedig, ac
wedi'i llofnodi gan y person sy'n gwneud yr ewyllys ym mhresenoldeb dau dyst, ac
wedi'i llofnodi gan y ddau dyst, ym mhresenoldeb y person sy'n gwneud yr ewyllys, ar ôl iddi gael ei llofnodi.
Ni all tyst na phartner priod tyst elwa o ewyllys. Os yw tyst yn fuddiolwr (neu'n bartner priod neu'n bartner sifil i fuddiolwr), mae'r ewyllys yn dal yn ddilys ond ni fydd y buddiolwr yn gallu etifeddu o dan yr ewyllys.
Er y bydd yn ddilys yn gyfreithiol hyd yn oed os nad yw wedi'i dyddio, mae'n ddoeth sicrhau bod yr ewyllys hefyd yn cynnwys y dyddiad y cafodd ei llofnodi.
Cyn gynted ag y bydd yr ewyllys wedi'i llofnodi a'i thystio, mae'n gyflawn.
Os oes rhywun yn gwneud ewyllys ond nad yw’n ddilys yn gyfreithiol, adeg eu marwolaeth, bydd eu hystâd yn cael ei rhannu o dan reolau penodol, nid yn ôl y dymuniadau a fynegwyd yn yr ewyllys.
Am fwy o wybodaeth am y rheolau os bydd rhywun yn marw heb adael ewyllys ddilys, gweler Pwy sy’n gallu etifeddu os nad oes ewyllys – rheolau diffyg ewyllys.
Ewyllysiau personél milwrol ar wasanaeth gweithredol
Mae’r gofynion am ewyllys ddilys yn llai caeth ar gyfer personél milwrol ar wasanaeth gweithredol. Mae ewyllysiau o’r fath yn cael eu galw’n ewyllysiau braint.
Os oes angen cymorth pellach arnoch chi ynglŷn ag ewyllysiau braint, gallwch siarad ag ymgynghorydd neu chwilio am gyngor cyfreithiol.
Ble i gadw ewyllys
Unwaith y bydd ewyllys wedi’i gwneud, dylid ei chadw’n ddiogel ac ni ddylid atodi dogfennau eraill iddi. Mae nifer o lefydd lle gallwch chi gadw ewyllys:
gartref
gyda chyfreithwyr neu gyfrifydd
mewn banc
Gallwch hefyd gadw ewyllys gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS). Gwiriwch sut i storio ewyllys gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ar GOV.UK.
Chwilio am gopïau o ewyllys ar ôl i rywun farw
Efallai bod rhywun sy’n agos i chi wedi marw ac rydych chi’n credu eu bod wedi gwneud ewyllys, ond ni allwch ddod o hyd i un yn eu cartref.
Edrychwch i weld os gallwch chi ddod o hyd i dystysgrif adneuo, a fydd wedi cael ei hanfon atynt os gwnaethant drefnu i'r ewyllys gael ei chadw gan Brif Gofrestrfa'r Adran Deulu.
Hyd yn oes os na allwch chi ddod o hyd i dystysgrif adneuo, gallech chi dal wirio gyda'r Gofrestrfa i weld a yw’r ewyllys gyda nhw. Os bu farw’r person mewn cartref gofal neu ysbyty, gallech wirio os gadawyd yr ewyllys gyda nhw.
Dylech hefyd gysylltu â chyfreithiwr, cyfrifydd neu fanc y person i weld os yw’r ewyllys gyda nhw.
Efallai bod y person sydd wedi marw, neu’r cyfreithiwr, wedi cofrestru eu hewyllys gyda sefydliad masnachol fel Certainty (www.certainty.co.uk) ac, ar ôl marwolaeth y person, gallwch dalu i chwilio am yr ewyllysiau a gofrestrwyd ar gronfa ddata’r cwmni.
Gallwch hefyd ofyn i’r cwmni gysylltu â chyfreithwyr yn yr ardal lle roedd y person yn byw i ofyn os yw’r ewyllys gyda nhw.
Os na allwch chi ddod o hyd i ewyllys, fel arfer bydd yn rhaid i chi ddelio ag ystâd y person sydd wedi marw fel pe baent wedi marw heb adael ewyllys.
Am fwy o wybodaeth, gweler Pwy sy’n gallu etifeddu os nad oes ewyllys – rheolau diffyg ewyllys.
Cael copi o’r ewyllys pan fydd profiant wedi’i ganiatáu
Pan fydd rhywun yn marw, rhaid i’r person sy’n delio â’u hystâd (er enghraifft, arian ac eiddo) gael eu hawdurdodi fel arfer i wneud hynny gan y Gwasanaeth Profiant.
Os oes ewyllys, caiff yr awdurdodiad hwn ei alw’n grant profiant.
Pan fydd profiant yn cael ei ganiatáu, bydd yn cael ei gadw gan y Gwasanaeth Profiant a gall unrhyw aelod o’r cyhoedd gael copi.
Os ydych chi eisiau chwilio am ewyllys person sydd wedi marw’n ddiweddar, gallwch wneud cais i’r Gwasanaeth Profiant am chwiliad sefydlog.
Byddant yn gwirio eu cofnodion i weld os oes grant profiant wedi’i wneud yn y deuddeg mis cyn eich cais, a byddant yn parhau i wirio am chwe mis ar ôl hynny.
Os oes grant wedi’i wneud, byddant yn anfon copi o'r grant a chopi o'r ewyllys atoch chi, os oes un. Mae ffi yn daladwy.
Gallwch adnewyddu eich chwiliad ar ddiwedd 6 mis am ffi bellach. Efallai y byddai'n ddoeth aros 2 neu 3 mis ar ôl y farwolaeth cyn gwneud cais am chwiliad.
Gallwch weld sut i wneud cais am chwiliad sefydlog a faint mae’n ei gostio ar GOV.UK.
Os ydych chi eisiau gwneud eich chwiliad eich hun, neu os ydych chi eisiau chwilio am ewyllys rhywun a fu farw dros ddeuddeg mis yn ôl, gallwch chi wneud chwiliad cyffredinol.
Bydd chwiliad cyffredinol gan y Gofrestrfa Brofiant yn cwmpasu cyfnod o bedair blynedd ac mae ffi yn daladwy. Os ewch chi i'r Gofrestrfa Brofiant i wneud y chwiliad eich hun, ni chodir tâl, ond mae'n rhaid i chi dalu o hyd i gael copi o'r grant profiant a’r ewyllys, os oes un.
Gallwch weld sut i wneud cais am chwiliad cyffredinol a faint mae’n ei gostio ar GOV.UK.
Cais personol
Gallwch wneud chwiliad personol am ddim drwy fynd i Brif Gofrestrfa’r Adran Deulu (gweler o dan y pennawd Ble i gadw ewyllys). Os ydych chi eisiau archwilio neu gymryd copi o'r ewyllys, codir ffi o £5.
Newid amgylchiadau
Pan fydd ewyllys wedi’i gwneud, mae'n bwysig ei chadw'n gyfoes i roi ystyriaeth i amgylchiadau sydd wedi newid.
Mae'n ddoeth i chi ailystyried cynnwys ewyllys yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn dal i adlewyrchu eich dymuniadau. O ran amgylchiadau sydd wedi newid, y rhai mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ewyllys yw:
priodi, ailbriodi neu gofrestru partneriaeth sifil
ysgaru, diddymu partneriaeth sifil neu wahanu
geni neu fabwysiadu plant, os ydych chi eisiau ychwanegu'r rhain fel buddiolwyr mewn ewyllys
Sut i newid ewyllys
Efallai y byddwch chi eisiau newid eich ewyllys oherwydd bod amgylchiadau wedi newid.
Rhaid i chi beidio â gwneud hyn drwy ddiwygio'r ewyllys wreiddiol ar ôl iddi gael ei llofnodi a'i thystio.
Tybir bod unrhyw newidiadau amlwg ar wyneb yr ewyllys wedi'u gwneud yn ddiweddarach ac felly nid ydynt yn rhan o'r ewyllys wreiddiol sy’n ddilys yn gyfreithiol.
Yr unig ffordd y gallwch chi newid ewyllys yw drwy wneud:
codisil i’r ewyllys neu
ewyllys newydd
Codisil
Mae codisil yn atodiad i ewyllys sy'n gwneud rhai newidiadau ond yn gadael y gweddill yn gyfan. Gellid gwneud hyn, er enghraifft, i gynyddu etifeddiaeth arian parod, newid ysgutor neu warcheidwad a enwir mewn ewyllys, neu i ychwanegu buddiolwyr.
Rhaid i godisil gael ei lofnodi gan y person a wnaeth yr ewyllys a chael ei dystio yn yr un ffordd. Serch hynny, nid oes rhaid i'r tystion fod yr un fath ag ar gyfer yr ewyllys wreiddiol.
Nid oes terfyn ar faint o godisiliau y gellir eu hychwanegu at ewyllys, ond dim ond ar gyfer newidiadau syml iawn y maent yn addas. Os oes newid cymhleth, fel arfer mae'n ddoeth gwneud ewyllys newydd.
Os ydych chi eisiau gwneud newidiadau mawr i ewyllys
Fel arfer, mae’n well gwneud ewyllys newydd.
Dylai’r ewyllys newydd ddechrau gyda chymal sy’n datgan ei bod yn dirymu pob ewyllys a chodisil blaenorol. Dylid distrywio’r hen ewyllys. Bydd dirymu ewyllys yn golygu na fydd bellach yn ddilys yn gyfreithiol.
Distrywio ewyllys
Os ydych chi eisiau distrywio ewyllys, mae’n rhaid i chi ei llosgi, ei thorri’n ddarnau neu ei dinistrio gyda’r bwriad clir ei bod yn cael ei dirymu.
Os bydd copi yn ailymddangos ar ôl hynny (neu ddarnau o’r ewyllys yn cael eu rhoi at ei gilydd unwaith eto), mae yna risg y gellid tybio bod y distrywio’n ddamweiniol.
Mae’n rhaid i chi ddistrywio’r ewyllys eich hun neu mae’n rhaid iddi gael ei distrywio yn eich presenoldeb.
Nid yw cyfarwyddyd syml ar ei ben i hun i ysgutor i ddinistrio ewyllys yn cael unrhyw effaith. Os caiff yr ewyllys ei dinistrio’n ddamweiniol, ni chaiff ei dirymu a gall fod yn ddilys o hyd.
Er y gellir dirymu ewyllys drwy ei dinistrio, mae wastad yn ddoeth y dylai ewyllys newydd gynnwys cymal sy'n dirymu pob ewyllys a chodisil blaenorol.
Mae dirymu ewyllys yn golygu nad yw'r ewyllys yn ddilys yn gyfreithiol mwyach.
Os yw person a wnaeth ewyllys yn cymryd eu bywyd eu hunain
Os yw person a wnaeth ewyllys yn cymryd eu bywyd eu hunain, mae’r ewyllys yn ddilys o hyd.
Herio ewyllys
Efallai y bydd person eisiau herio ewyllys oherwydd eu bod yn credu:
bod yr ewyllys yn annilys
na ddarparwyd yn ddigonol ar eu cyfer yn yr ewyllys
Os ydych yn poeni y gallai rhywun herio eich ewyllys ar ôl i chi farw, gallwch ychwanegu ‘cymal dim herio’ i’ch ewyllys.
Fel arfer, mae cymal dim herio yn cael ei wneud ar gyfer her benodol rydych chi'n disgwyl iddi ddigwydd. Mae'r cymal yn ychwanegu newid i'ch ewyllys os yw’r her honno’n digwydd. Er enghraifft, os ydych chi’n disgwyl i berson penodol herio eich ewyllys, gallwch ychwanegu cymal sy’n dweud na fyddant yn etifeddu unrhyw arian os fyddant yn herio.
Os oes gennych gymal dim herio, gall person dal herio eich ewyllys - ond bydd canlyniadau i hynny.
Os ydych chi eisiau herio ewyllys
Gall fod yn gymhleth ac yn ddrud herio ewyllys. Dim ond o fewn cyfnod penodol o amser ar ôl i'r person farw y gallwch chi herio ewyllys. Dylech gael cyngor cyfreithiol. Gallwch chi:
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.