Pwy all etifeddu os nad oes ewyllys
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Pan fydd person yn marw heb adael ewyllys, rhaid rhannu ei ystâd yn unol â rheolau penodol. Gelwir y rhain yn 'reolau diffyg ewyllys'.
Mae ystâd unigolyn yn cynnwys ei arian a’i eiddo.
Os yw person yn marw heb adael ewyllys, fe’i gelwir yn ‘berson diewyllys’.
Fel arfer, gall partneriaid priod, partneriaid sifil a rhai perthnasau etifeddu dan reolau diffyg ewyllys. Fodd bynnag, gall y rheolau fod yn gymhleth. Gwiriwch i weld a allwch chi etifeddu os bydd rhywun yn marw heb ewyllys ddilys – GOV.UK.
Partneriaid priod a phartneriaid sifil
Gall pobl a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil gyda'r person pan fu farw etifeddu o dan reolau diffyg ewyllys. Mae hyn yn cynnwys os oeddent wedi gwahanu ond yn dal yn briod.
Heb ewyllys ddilys, ni all person etifeddu os:
ydynt wedi ysgaru oddi wrth y person a fu farw
yw eu partneriaeth sifil wedi dod i ben yn gyfreithlon pan fu farw’r person
Os oes plant
Os yw’r ystâd werth mwy na £322,000, caiff yr etifeddiaeth ei rhannu rhwng y partner a’r plant. Os yw'r ystâd werth £322,000 neu lai, yna nid yw'r plant yn ei hetifeddu. Mae'r partner yn etifeddu:
holl eiddo personol yr unigolyn sydd wedi marw
y £322,000 cyntaf o’r ystâd
hanner yr ystâd sy’n weddill
Bydd y plant yn etifeddu hanner arall yr ystâd sy’n weddill. Os oedd gan y sawl a fu farw fwy nag 1 plentyn, bydd y swm hwn yn cael ei rannu’n gyfartal rhyngddynt. Mae hyn yn cynnwys unrhyw blentyn a fabwysiadwyd gan y person a fu farw. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw blentyn biolegol neu fabwysiedig a oedd gan y person o berthnasoedd eraill.
Eiddo mewn cyd-berchnogaeth
Gall cyplau fod yn berchen ar eu cartref ar y cyd. Mae dwy ffordd wahanol o fod yn berchen ar dŷ ar y cyd, sef cyd-denantiaeth a thenantiaeth ar y cyd.
Os oedd y partneriaid yn gyd-denantiaid ar adeg y farwolaeth, pan fydd y partner cyntaf yn marw, bydd y partner sy’n dal yn fyw yn etifeddu cyfran y partner arall o'r eiddo yn awtomatig. Fodd bynnag, os yw'r partneriaid yn denantiaid ar y cyd, nid yw'r partner sy’n dal yn fyw yn etifeddu cyfran y partner arall yn awtomatig.
I gael rhagor o wybodaeth am gyd-denantiaeth a thenantiaeth ar y cyd, ewch i Prynu gyda rhywun arall yn prynu cartref.
Gall cyplau hefyd fod â chyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu ar y cyd. Os bydd un yn marw, bydd y partner arall yn etifeddu'r holl arian yn awtomatig.
Nid yw’r eiddo a'r arian y mae'r partner sy'n fyw yn ei etifeddu yn cyfrif fel rhan o ystâd y person sydd wedi marw pan gaiff ei phrisio ar gyfer y rheolau diffyg ewyllys.
Mae Tom a Heather yn briod ac yn berchen ar eu fflat fel cyd-denantiaid. Mae ganddynt blentyn o’r enw Selma.
Mae Tom yn marw heb ewyllys, gan adael fflat cyd-berchnogaeth sy’n werth £300,000, a £50,000 mewn cyfranddaliadau yn ei enw ei hun.
Mae’r fflat yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i Heather. Mae hyn yn gadael ystâd o £50,000, sydd hefyd yn mynd i Heather gan ei fod werth llai na £322,000. Nid yw Selma yn etifeddu dim.
Pe bai Tom wedi bod yn berchen ar y fflat yn ei enw ef yn unig, byddai ei ystâd wedi bod werth £350,000.
Mae hyn yn golygu y byddai ei ystâd yn cael ei rhannu yn unol â’r rheolau diffyg ewyllys. Byddai Heather yn cael y £322,000 cyntaf. Mae hyn yn gadael ystâd o £28,000 – byddai Heather yn cael £14,000 a byddai Selma yn cael £14,000.
Plant
Mae'r swm y mae plentyn yn ei etifeddu'n dibynnu ar y canlynol:
faint o blant oedd gan y sawl a fu farw
os oedd gan y sawl a fu farw bartner priod neu sifil sy’n dal yn fyw
Mae holl blant yr unigolyn a fu farw yn etifeddu swm cyfartal. Does dim ots pwy yw eu rhiant arall.
Gall plentyn etifeddu p'un a oedd ei rieni'n briod neu beidio.
Mae gan blentyn a fabwysiadwyd gan y sawl a fu farw yr hawl i etifeddu. Mae hyn yn cynnwys llys-blant sydd wedi cael eu mabwysiadu gan eu llys-riant.
O dan reolau diffyg ewyllys, nid oes gan lys-blant na chafodd eu mabwysiadu gan yr unigolyn a fu farw yr hawl i etifeddu.
Os yw plentyn dan 18 oed, ni all dderbyn ei etifeddiaeth tan ei fod yn 18 oed. Bydd yr etifeddiaeth yn cael ei chadw mewn ymddiriedolaeth. Tan hynny, bydd oedolyn a elwir yn ‘ymddiriedolwr’ yn rheoli’r etifeddiaeth ar ei ran.
Os nad oedd gan y person a fu farw bartner priod neu bartner sifil
Mae plant y person a fu farw yn etifeddu'r ystâd yn llwyr. Mae hyn yn berthnasol yn unol â gwerth yr ystâd. Os oes dau blentyn neu fwy, bydd yr ystâd yn cael ei rhannu’n gyfartal rhyngddynt.
Os oedd gan y person a fu farw bartner priod neu bartner sifil
Dim ond os yw'r ystâd werth dros £322,000 y bydd plentyn yn etifeddu ohoni.
Mae'r partner yn etifeddu:
holl eiddo personol yr unigolyn sydd wedi marw
y £322,000 cyntaf o’r ystâd
hanner yr ystâd sy’n weddill
Y plentyn sy’n etifeddu'r hanner arall o'r ystâd sy’n weddill. Os oedd gan y sawl a fu farw fwy nag un plentyn, bydd y swm hwn yn cael ei rannu’n gyfartal rhyngddynt.
Roedd Alan a Grace yn briod ac mae ganddynt ddau o blant, Tim ac Annie. Mae Alan a Grace yn ysgaru. Yna, mae Alan yn cael plentyn, Mark, gyda’i bartner newydd, Beata.
Nid yw Alan a Beata yn priodi. Mae Alan yn marw. Nid yw Grace yn etifeddu dan y rheolau diffyg ewyllys am ei bod wedi ysgaru oddi wrth Alan. Nid yw Beata chwaith yn etifeddu dim oherwydd nad yw wedi priodi Alan.
Mae plant Alan, sef Tim, Annie a Mark, yn etifeddu ei holl ystâd. Mae’r ystâd yn cael ei rhannu’n gyfartal rhyngddynt.
Wyrion/Wyresau a Gor-wyrion/Gor-wyresau
Dyma’r amgylchiadau y gall wyrion/wyresau neu or-wyrion/gor-wyresau etifeddu o ystâd unigolyn diewyllys:
mae eu rhiant neu eu nain neu daid wedi marw cyn yr unigolyn diewyllys
mae eu rhiant yn fyw pan mae’r person diewyllys yn marw, ond mae’n marw cyn cyrraedd 18 oed
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yr wyrion/wyresau neu or-wyrion/gor-wyresau yn etifeddu cyfrannau cyfartal o’r gyfran y byddai eu rhieni neu eu nain neu daid wedi bod â’r hawl iddi.
Mae gan Abdul ddau fab, Iqbal ac Ismail. Mae gan Ismail un ferch, Habiba.
Mae Ismail yn marw pan mae Habiba yn 2 oed. Mae Abdul yn marw'n ddiewyllys pan mae Habiba yn 20 oed. Mae hyn yn golygu bod Habiba yn etifeddu cyfran Ismail o ystâd Abdul.
Perthnasau eraill
Mae yna reolau ynghylch pa berthnasau eraill all etifeddu. Mae hyn yn dibynnu ar sut roedd pobl yn perthyn i’r person a fu farw a faint yw gwerth yr ystâd.
Darllenwch pwy all etifeddu os bydd rhywun yn marw heb ewyllys – GOV.UK.
Os nad oes perthnasau byw
Os nad oes unrhyw berthnasau byw a all etifeddu dan reolau diffyg ewyllys, mae'r ystâd yn cael ei throsglwyddo i'r Goron. Gelwir hyn yn ‘bona vacantia’.
Yna, Cyfreithiwr y Trysorlys sy’n gyfrifol am ddelio â’r ystâd. Gall y Goron roi grantiau o’r ystâd ond does dim rhaid iddi gytuno iddynt.
Os nad ydych chi'n berthynas sy'n dal yn fyw, ond rydych chi'n credu bod gennych reswm da dros wneud cais am grant, bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch chi. Gallwch wneud y canlynol:
Rhagor o wybodaeth am bona vacantia ar GOV.UK .
Newid pwy sy’n cael beth o’r ystâd
Dyma’r amgylchiadau y gall y bobl sy'n etifeddu rannu'r ystâd yn wahanol i'r hyn y mae rheolau diffyg ewyllys yn ei ddweud:
mae pawb a fyddai’n etifeddu’n 18 oed neu hŷn ac yn cytuno ar y trefniadau
mae’r ystâd yn cael ei rhannu o fewn 2 flynedd i'r farwolaeth
Mae hyn yn golygu bod modd newid yr arian a’r eiddo mae pob unigolyn yn eu cael. Gellir ei ddefnyddio hefyd i roi arian neu eiddo i bobl nad ydynt yn gallu etifeddu dan reolau diffyg ewyllys.
Os ydych chi am newid y swm y bydd pobl yn ei etifeddu, bydd angen i chi wneud 'gweithred trefniant teulu neu weithred amrywio'. Dylech gael cyngor cyfreithiol. Gallwch wneud y canlynol:
Os na allwch chi etifeddu
Gallwch ofyn i’r bobl a etifeddodd newid sut mae’r ystâd yn cael ei rhannu. Bydd angen i bawb a fydd yn etifeddu gytuno ar y newid hwn.
Os oedd y farwolaeth yn eich gadael yn sylweddol waeth eich byd, mae’n bosibl y gallwch fynd at y llys am gymorth.
Mae’n bosibl y bydd y llys yn penderfynu y dylech gael arian neu eiddo o ystâd yr unigolyn a fu farw. Gwneud cais i’r llys am ddarpariaeth ariannol gan yr ystâd. Bydd angen cyngor cyfreithiol arbenigol arnoch i wneud hyn. Gallwch wneud y canlynol:
Gwrthod eich etifeddiaeth
Mae’n bosibl y byddwch eisiau gwrthod yr arian neu'r eiddo rydych yn mynd i'w etifeddu. Gelwir hyn yn 'ymwrthod'. Os byddwch yn ymwrthod â’ch etifeddiaeth, bydd fel arfer yn mynd i'r person nesaf sydd â hawl dan y rheolau diffyg ewyllys.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau, mae’n bosibl y bydd eich etifeddiaeth yn newid pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Gallwch wirio sut gall eich budd-daliadau newid drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau. Gallwch hefyd siarad ag ymgynghorwr.
Os ydych am wrthod eich etifeddiaeth, dylech gael cyngor cyfreithiol. Gallwch wneud y canlynol:
Os yw pethau’n anodd i chi
Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol. Dylech chi siarad â’ch meddyg teulu os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl.
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda’ch iechyd meddwl ar wefan Mind.
Os bydd angen help arnoch i ymdopi â galar
Gallwch ffonio llinell gymorth Cruse Bereavement Care neu gael help ar eu gwefan
Cruse Bereavement Care
Llinell gymorth: 0808 808 1677
Dydd Llun: 9.30am – 5pm
Dydd Mawrth: 1pm – 8pm
Dydd Llun i ddydd Gwener: 9.30am – 5pm
Os ydych chi angen siarad â rhywun
Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.
Y Samariaid
Llinell gymorth: 116 123 (o ddydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)
Y Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 7pm a 11pm)
Gallwch ffonio'r Samariaid yn rhad ac am ddim.
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â'r Samariaid ar eu gwefan.
Shout
Gallwch hefyd decstio 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr hyfforddedig. Gallwch anfon negeseuon testun yn rhad ac am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.
Os ydych chi’n meddwl ei fod yn argyfwng
Os ydych chi’n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.
Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.