Cwyno am eich cymydog
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw eich cymydog yn swnllyd neu'n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, ceisiwch drafod y peth gyda nhw os gallwch chi. Os nad yw hynny'n gweithio, mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi ofyn iddyn nhw stopio, er enghraifft trwy roi gwybod amdanyn nhw i'r cyngor.
Os yw eich cymydog wedi torri'r gyfraith
Cysylltwch â'r heddlu os ydych chi'n meddwl bod eich cymydog wedi torri'r gyfraith - er enghraifft, maen nhw wedi ymddwyn yn dreisgar neu'n fygythiol.
Ffoniwch 999 os yw'r drosedd wrthi’n digwydd neu 101 i roi gwybod am drosedd yn ddiweddarach.
Os ydych chi'n meddwl bod eich cymydog yn achosi trafferth gan eich bod chi'n drawsryweddol neu oherwydd eich anabledd, hil, crefydd neu rywioldeb, gallai hyn fod yn drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb. Gallwch edrych i weld beth i’w wneud os ydych chi wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb.
Cadwch gofnodion
Gwnewch nodyn pryd bynnag mae’r broblem yn digwydd - bydd eich cofnodion yn ddefnyddiol os penderfynwch chi fynd â phethau ymhellach.
Ysgrifennwch gymaint o fanylion â phosibl. Cofiwch gynnwys beth ddigwyddodd, pa mor hir, a sut yr effeithiodd arnoch chi. Er enghraifft, '22 Mehefin - cŵn yn cyfarth rhwng 10:15am a 12:35pm. Digon uchel i'w clywed yn yr ystafell fyw - roedd rhaid troi’r radio i fyny'.
Cadwch unrhyw negeseuon y mae eich cymydog yn eu hanfon atoch a chasglwch dystiolaeth os ydych chi'n teimlo'n ddiogel yn gwneud hynny. Er enghraifft, tynnwch lun o sbwriel sydd wedi'i roi yn eich gardd.
Siarad â'ch cymydog
Siaradwch â'ch cymydog os ydych chi'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn gwneud hynny.
Mae'n gyflymach siarad wyneb yn wyneb - ond gallwch chi ysgrifennu, tecstio neu ffonio os yw hynny'n haws. Gallwch chi fynd â rhywun gyda chi am gefnogaeth.
Dywedwch wrth eich cymydog sut mae eu hymddygiad yn effeithio arnoch chi a beth fyddai'n helpu. Gwrandwch ar eich cymydog a cheisiwch ddod i gyfaddawd gyda'ch gilydd.
Cael help gan gyfryngwr
Gallwch chi ofyn i gyfryngwr am help os ydych chi am wneud pethau'n iawn ond nad ydych chi’n gallu cytuno sut i wneud hynny. Mae cyfryngwr yn rhywun nad yw'n adnabod y naill barti na’r llall ac sydd wedi'i hyfforddi i helpu pobl i ddatrys anghydfodau.
Mae'n syniad da gofyn i'ch cyngor a allant eich helpu i ddod o hyd i gyfryngwr – gallant helpu hyd yn oed os nad ydych chi'n rhentu gan y cyngor.
Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor ar GOV.UK
Os ydych chi'n rhentu gan gymdeithas dai, gallech chi ofyn iddyn nhw ddod o hyd i gyfryngwr.
Os oes angen help arnoch o hyd, gallwch chi chwilio am gyfryngwr ar GOV.UK.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gyfryngwr.
Os ydych chi'n meddwl bod yr ymddygiad yn wrthgymdeithasol
Os yw ymddygiad eich cymydog yn cael ei ddosbarthu’n 'wrthgymdeithasol’, mae camau y gallwch eu cymryd i'w atal. Mae ymddygiad yn debygol o fod yn wrthgymdeithasol os yw'n achosi 'niwsans ac annifyrrwch'. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os ydyn nhw:
yn gwneud llawer o sŵn
yn dympio sbwriel
yn ysgrifennu graffiti
yn berchen ar gi sy'n cyfarth llawer neu'n achosi trafferth
yn defnyddio eich gardd heb ganiatâd
yn aflonyddu arnoch ar sail crefydd, hil, rhyw, anabledd neu nodwedd arall
Nid yw’r ymddygiad yn wrthgymdeithasol os yw'r broblem yn ymwneud â bywyd arferol o ddydd i ddydd, er enghraifft os nad ydych chi'n hoffi arogleuon coginio eich cymydog neu os gallwch chi glywed eu babi’n crio. Yr unig ffordd i ddatrys y problemau hyn yw trwy siarad â'ch cymydog i geisio cytuno ar gyfaddawd.
Os nad ydych chi'n siŵr a yw ymddygiad eich cymydog yn wrthgymdeithasol, gallwch chi siarad am y peth gyda chynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Rhoi gwybod am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol
Os ydych chi'n gwybod bod eich cymydog yn rhentu a chan bwy, siaradwch â'u landlord yn gyntaf - gallai fod yn landlord preifat, cymdeithas dai neu'r cyngor.
Os nad yw hynny'n datrys y broblem, gallwch gysylltu â’r cyngor os nad ydych chi eisoes wedi siarad â nhw. Ewch i’w gwefan i weld sut i gwyno am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gallwch gysylltu â’r cyngor yn syth os:
nad ydych chi'n gwybod a yw eich cymydog yn rhentu neu'n berchen ar yr eiddo
maen nhw’n rhentu ond dydych chi ddim yn gwybod gan bwy
maen nhw’n berchen ar eu cartref
Gallwch chi ddod o hyd i’ch cyngor ar GOV.UK.
Beth i'w ddweud wrth roi gwybod
Rhowch gyfeiriad eich cymydog a’u henw os ydych chi’n ei wybod. Wrth ddisgrifio'r broblem, dywedwch:
pa mor aml mae'n digwydd
sut mae'n effeithio arnoch chi
beth rydych chi wedi'i wneud i geisio ei datrys
i bwy arall rydych chi wedi rhoi gwybod
Os ydych chi wedi bod yn casglu tystiolaeth am y broblem, cynigiwch anfon copi.
Os ydych chi'n meddwl bod trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb wedi digwydd, dylech nodi hyn hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi dweud wrth rywun arall.
Gofynnwch pryd y byddwch chi'n clywed yn ôl a beth i'w wneud os yw'r broblem yn gwaethygu.
Os ydych chi'n rhoi gwybod am y broblem dros y ffôn, gwnewch nodyn o'r dyddiad a'r amser rydych chi'n ffonio ac ysgrifennwch enw'r person y gwnaethoch siarad ag ef. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch os byddwch chi'n mynd â'r broblem ymhellach.
Os ydych chi'n anhapus ag ymateb y cyngor neu'r landlord
Os oes nifer o gwynion wedi’u gwneud am ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y gallwch chi ofyn i’r broblem gael ei hystyried eto - gelwir hyn yn 'sbardun cymunedol'. Darllenwch wefan eich cyngor lleol i weld sut mae hyn yn gweithio yn eich ardal chi.
Os nad ydych chi'n hapus gyda chymdeithas dai neu'r cyngor o hyd, cwynwch gan ddefnyddio eu proses gwyno nhw - fe welwch chi hi ar eu gwefan.
Os ydych chi'n dal i feddwl nad ydyn nhw wedi gweithredu fel y dylen nhw, gallwch chi fynd at ombwdsmon. Byddan nhw’n edrych ar eich cwyn ac yn penderfynu a ddylai'r cyngor neu'r gymdeithas dai wneud pethau'n iawn.
I gwyno am y cyngor neu gymdeithas dai, ewch i wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. .
Os oes angen help arnoch o hyd
Os nad ydych chi wedi llwyddo i ddatrys y broblem drwy'r cyngor neu drwy siarad â'r landlord, cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf. Byddan nhw’n eich helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 15 Chwefror 2018