Er gwybodaeth

Does dim fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon - defnyddiwch ein cyngor yn Saesneg i weld sut gallwn ni eich helpu

Deall eich cytundeb tenantiaeth

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Contract rhyngoch chi a’ch landlord yw’r cytundeb tenantiaeth. Gall fod yn ysgrifenedig neu ar lafar. Mae’r cytundeb tenantiaeth yn rhoi hawliau penodol i chi ac i’ch landlord. Er enghraifft, eich hawl i feddiannu llety a hawl eich landlord i gael rhent am osod y llety.

Efallai eich bod chi a’ch landlord wedi gwneud trefniadau ynghylch y denantiaeth, a bydd y rhain yn rhan o’r cytundeb tenantiaeth ar yr amod nad ydynt yn gwrthdaro â’r gyfraith. Mae gennych chi a’ch landlord hawliau a chyfrifoldebau a roddir yn ôl y gyfraith. Gall y cytundeb tenantiaeth roi mwy na’ch hawliau statudol i chi a’ch landlord, ond ni all roi llai na’ch hawliau statudol i chi. Os yw un o delerau’r cytundeb tenantiaeth yn rhoi llai na’ch hawliau statudol i chi neu i’ch landlord, ni ellir gorfodi’r telerau hwnnw.

Gall cytundeb tenantiaeth gynnwys: 

  • telerau penodol – mae’r rhain yn cynnwys yr hyn sydd yn y cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig (os oes un), yn y llyfr rhent, a’r hyn y cytunwyd arno ar lafar

  • telerau ymhlyg - hawliau a roddir yn ôl y gyfraith yw’r rhain neu drefniadau a sefydlir drwy arfer a defod, nid oes angen eu hysgrifennu yn eich cytundeb tenantiaeth

Telerau penodol cytundebau tenantiaeth

Cytundebau tenantiaeth ysgrifenedig

Does gan y rhan fwyaf o denantiaid ddim hawl gyfreithiol i gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, bydd landlordiaid tai cymdeithasol megis awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fel arfer yn rhoi cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig i chi.

Os oes gennych nam ar eich golwg, rhaid i’r cytundeb tenantiaeth gael ei ysgrifennu mewn fformat y gallwch ei ddefnyddio - er enghraifft, mewn print bras neu Braille. Gallwch ddod o hyd i samplau o gytundebau tenantiaeth ysgrifenedig ar-lein. Rhagor o wybodaeth am ofyn i’ch landlord wneud newidiadau i helpu gyda’ch anabledd.

Efallai y bydd eich cytundeb yn nodi bod gennych fath penodol o denantiaeth - ond efallai y bydd y math o denantiaeth sydd gennych mewn gwirionedd yn wahanol.

Bydd y denantiaeth sydd gennych yn dibynnu ar ffeithiau eich sefyllfa, nid ar yr hyn y bydd eich cytundeb yn ei nodi. Er enghraifft, os ydych yn talu rhent i landlord preifat nad yw’n byw gyda chi a’ch bod wedi cytuno ar denantiaeth 6 mis, rydych yn debygol o fod â thenantiaeth fyrddaliadol sicr. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os bydd eich cytundeb yn nodi rhywbeth arall. Gallwch weld pa fath o denantiaeth sydd gennych.

Dylai’r cytundeb tenantiaeth gael ei lofnodi gan bob tenant a’ch landlord. Os oes cyd-denantiaid, dylai pob tenant gael copi o’r cytundeb.

Mae’n arfer da i gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig gynnwys y manylion canlynol:

  • eich enw chi ac enw eich landlord a chyfeiriad yr eiddo sy’n cael ei osod

  • y dyddiad y dechreuodd y denantiaeth

  • manylion ynghylch a ganiateir i bobl eraill ddefnyddio’r eiddo ac, os felly, pa ystafelloedd

  • hyd y denantiaeth - os yw’n denantiaeth cyfnod penodol, mae hyn yn golygu’r dyddiad y daw’r cyfnod penodol i ben

  • faint o rent sy’n daladwy, pa mor aml a phryd y dylid ei dalu a pha mor aml a phryd y gellir ei gynyddu

  • yr hyn y mae’r rhent yn ei gynnwys - er enghraifft, treth gyngor neu danwydd

  • a fydd eich landlord yn darparu unrhyw wasanaethau - er enghraifft, golchi dillad, cynnal a chadw rhannau cyffredin neu brydau bwyd ac a oes taliadau gwasanaeth ar gyfer y rhain

  • y cyfnod rhybudd y mae angen i chi a’ch landlord ei roi i ddod â’r denantiaeth i ben - mae rheolau statudol ynghylch faint o rybudd i’w roi a bydd hyn yn dibynnu ar y math o denantiaeth a pham ei bod yn dod i ben

Gall y cytundeb hefyd gynnwys manylion rhwymedigaethau eich landlord i atgyweirio’r eiddo. Bydd rhwymedigaethau eich landlord i atgyweirio yn dibynnu ar y math o denantiaeth. Edrychwch ar eich cytundeb tenantiaeth - gallai roi mwy o hawliau i chi na’ch hawliau sylfaenol dan y gyfraith.

I gael rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau eich landlord o ran atgyweirio, darllenwch ein cyngor ar gael gwaith atgyweirio wedi’i wneud os ydych chi’n rhentu.

Os ydych chi’n cael problemau gyda gwaith atgyweirio, gallwch siarad â chynghorwr.

Cytundebau tenantiaeth ar lafar

Mae cytundeb tenantiaeth yn bodoli hyd yn oed os mai dim ond cytundeb ar lafar sydd rhyngoch chi a’ch landlord. Er enghraifft, efallai eich bod chi a’ch landlord wedi cytuno ar y canlynol ar ddechrau’r denantiaeth:

  • faint fyddai’r rhent a phryd mae’n daladwy

  • a yw’r rhent yn cynnwys cyfleustodau

  • a oes unrhyw gyfyngiadau ar bobl eraill yn byw yn y llety gyda chi

Mae’n anoddach profi beth y cytunwyd arno os nad yw ar bapur. Y rheswm am hyn yw yn aml nad oes unrhyw brawf o’r hyn y cytunwyd arno, neu efallai fod problem benodol wedi codi nad oedd y cytundeb yn ymdrin â hi. Efallai y byddwch hefyd yn gallu profi’r hyn y cytunwyd arno mewn ffyrdd eraill – er enghraifft, drwy negeseuon e-bost neu negeseuon testun.

Os ydych chi’n ystyried herio cytundeb llafar, neu’n ceisio gorfodi un, gyda’ch tenant neu’ch landlord, gallwch siarad â chynghorwr.

Telerau ymhlyg cytundebau tenantiaeth

Mae yna rwymedigaethau sydd gennych chi a’ch landlord nad ydynt efallai wedi’u nodi yn y cytundeb ond sydd wedi’u rhoi yn ôl y gyfraith ac maent ymhlyg ym mhob cytundeb tenantiaeth. Mae’r telerau hyn yn rhan o’r contract, er nad yw eich landlord a chi wedi cytuno’n benodol arnynt.

Dyma rai o’r telerau ymhlyg mwyaf cyffredin:

  • rhaid i’ch landlord wneud gwaith atgyweirio sylfaenol - er enghraifft, atgyweirio strwythur yr eiddo, a sicrhau bod y gosodiadau ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy, trydan, glanweithdra, gwresogi gofod a chynhesu dŵr yn gweithio’n iawn

  • mae gennych chi hawl i fyw’n heddychlon yn y llety heb niwsans gan eich landlord

  • mae gennych ddyletswydd i ddefnyddio’ch cartref mewn ffordd ‘sy’n gweddu tenant’ - er enghraifft, drwy beidio ag achosi difrod a thrwy ddefnyddio unrhyw osodion a ffitiadau’n briodol

  • mae gennych ddyletswydd i ddarparu mynediad ar gyfer unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud

Bydd hawliau a roddir yn ôl y gyfraith yn amrywio yn ôl y math o denantiaeth.

Pa wybodaeth a dogfennau y mae’n rhaid i’r tenant eu cael

Dim ond os yw wedi rhoi ei enw a’i gyfeiriad i chi y gall eich landlord godi rhent arnoch - does dim ots a oes gennych chi gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig ai peidio.

Rhaid i’ch landlord roi cyfeiriad i chi sydd yng Nghymru neu Loegr - os yw prif gyfeiriad eich landlord mewn gwlad arall, dylai roi ail gyfeiriad i chi sydd yng Nghymru neu Loegr.

Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad eich landlord yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn anfon unrhyw waith papur swyddogol neu lythyrau ffurfiol, gan gynnwys eich rhybudd os ydych am ddod â’r denantiaeth i ben.

Os na fyddwch chi’n talu’ch rhent pan fyddwch chi’n aros i gael manylion cyswllt eich landlord, bydd dal angen i chi dalu’r rhent wedi’i ôl-ddyddio pan fyddwch chi’n eu cael.

Os nad yw manylion eich landlord gennych, gallwch wneud cais ysgrifenedig i’r sawl sy’n derbyn y rhent am enw a chyfeiriad llawn eich landlord. Rhaid iddyn nhw roi’r wybodaeth hon i chi yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod - os na wnânt hyn, maen nhw’n cyflawni trosedd a gall y cyngor fynd â nhw i’r llys.

Cyn neu ar ddechrau eich tenantiaeth, rhaid i’ch landlord hefyd roi’r canlynol i chi:

  • tystysgrif diogelwch nwy

  • tystysgrif perfformiad ynni - oni bai eich bod yn byw mewn mathau penodol o gartrefi a rennir

Os oes gennych denantiaeth fyrddaliadol sicr

Os cafodd y denantiaeth ei chreu ar 28 Chwefror 1997 neu ar ôl hynny, rhaid i’ch landlord ddarparu telerau ysgrifenedig sylfaenol y cytundeb o fewn 28 diwrnod i chi wneud cais ysgrifenedig am hyn. Gall y cyngor fynd â nhw i’r llys os nad ydyn nhw’n gwneud hyn.

Os ydych chi wedi talu blaendal, dylai eich landlord roi rhywfaint o wybodaeth i chi amdano o fewn 30 diwrnod. Rhaid iddo gynnwys faint o flaendal yr ydych chi wedi’i dalu a manylion am sut y caiff ei ddiogelu, gan gynnwys taflen am y cynllun diogelu.

Rhaid iddo hefyd esbonio:

  • unrhyw resymau pam y byddai’n cadw rhywfaint neu’r cyfan o’ch blaendal

  • sut y gallwch chi wneud cais i gael eich blaendal yn ôl pan ddaw eich tenantiaeth i ben

  • beth allwch chi ei wneud os oes problem gyda’ch blaendal

Gallwch weld a oes rhaid i’ch landlord ddiogelu eich blaendal, including what happens if they haven’t protected your deposit when they should have.

gan gynnwys yr hyn sy’n digwydd os nad yw wedi diogelu eich blaendal pan ddylai fod wedi gwneud hynny.

Os oes gennych denantiaeth wythnosol

Rhaid i’ch landlord ddarparu llyfr rhent neu ddogfen debyg - bydd eich landlord yn cyflawni trosedd os na fydd yn gwneud hynny.

Os bydd eich landlord yn newid

Rhaid i’ch landlord newydd roi ei enw a’i gyfeiriad i chi yn ysgrifenedig pan fydd yn cymryd yr eiddo drosodd. Mae’r dyddiad y mae’n rhaid iddo roi ei gyfeiriad i chi yn dibynnu ar ba mor aml rydych chi’n talu rhent.

Os ydych yn talu eich rhent naill ai’n fisol neu bob 2 fis, rhaid i’ch landlord newydd roi ei gyfeiriad i chi o fewn 2 fis i gymryd yr eiddo drosodd.

Os ydych yn talu rhent yn llai aml, bob 3 mis er enghraifft, rhaid i’ch landlord newydd roi ei enw a’i gyfeiriad i chi naill ai:

  • o fewn 2 fis

  • cyn bod eich taliad nesaf yn ddyledus - os yw eich taliad nesaf fwy na 2 fis i ffwrdd

Os nad yw eich landlord newydd yn rhoi ei gyfeiriad newydd i chi pan ddylai wneud hynny, gall y cyngor fynd ag ef i’r llys.

Cytundebau tenantiaeth ffug

Mae’r hawliau a bennir yn ôl y gyfraith bob amser yn drech na’r rhai a nodir mewn cytundeb ysgrifenedig neu gytundeb ar lafar. Mae cytundeb sy’n awgrymu bod gennych chi neu’ch landlord lai o hawliau na’r rhai a roddir yn ôl cyfraith gwlad neu statud yn gytundeb tenantiaeth ffug.

Gall yr hyn y mae cytundeb yn ei ddatgan a’r hyn y mae’r denantiaeth yn ei olygu mewn gwirionedd fod yn wahanol. Er enghraifft, gall eich landlord hawlio nad cytundeb tenantiaeth yw’r cytundeb ond yn hytrach ‘trwydded i feddiannu’.

Efallai eich bod hefyd wedi llofnodi cytundeb yn datgan bod yr eiddo wedi’i roi dan drwydded i feddiannu. Nid yw hyn yn ddigon i wneud y cytundeb yn drwydded.

Talu ffioedd i landlord

Os ydych chi’n denant byrddaliadol sicr a gytunodd ar eich tenantiaeth neu a adnewyddodd eich tenantiaeth ar 1 Medi 2019 neu ar ôl hynny, dim ond ffioedd am y canlynol y gall eich cytundeb tenantiaeth eu cynnwys:

  • rhent

  • biliau cyfleustodau, ffôn, band eang a theledu

  • blaendal tenantiaeth

  • blaendal cadw 

  • y dreth gyngor

  • trwydded deledu

  • torri telerau eich cytundeb tenantiaeth - cyn belled â bod y ffi’n cael ei disgrifio yn y cytundeb tenantiaeth

  • talu eich rhent yn hwyr os yw o leiaf 7 diwrnod yn hwyr

  • newid allwedd, clo neu ddyfais diogelwch arall

Os yw eich landlord yn cynnwys unrhyw ffioedd eraill, gallai’r ffioedd hynny fod yn anghyfreithlon. Gofynnwch i’ch landlord ddychwelyd y ffioedd anghyfreithlon. Os nad yw’n gwneud hynny, gallwch roi gwybod am eich landlord i’ch cyngor lleol neu roi gwybod am eich landlord i Rhentu Doeth Cymru. Os fydd eich landlord yn dal i wrthod dychwelyd y ffioedd anghyfreithlon, gallwch wneud hawliad bach yn y llys am orchymyn sy’n datgan bod yn rhaid i’r landlord dalu’r arian yn ôl.  

Mae rheolau ynghylch faint y caiff landlord ei godi am flaendal cadw - ewch i weld faint mae’n ei gostio i rentu

Newid y cytundeb tenantiaeth

Fel arfer, dim ond os ydych chi a’ch landlord yn cytuno y gellir newid cytundeb tenantiaeth. Os yw’r ddau ohonoch yn cytuno, dylid cofnodi’r newid yn ysgrifenedig, naill ai drwy lunio dogfen ysgrifenedig newydd yn nodi telerau’r denantiaeth neu drwy ddiwygio’r cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig presennol.

Ni all eich landlord godi ffi am newid eich cytundeb tenantiaeth os gwnaethoch chi gytuno ar eich tenantiaeth wreiddiol ar ôl 1 Medi 2019.

Os yw eich landlord yn codi tâl arnoch chi, gallwch ofyn am yr arian yn ôl, rhoi gwybod i’ch cyngor lleol amdano neu roi gwybod amdano i Rhentu Doeth Cymru.

Os na fydd o’n rhoi’r arian yn ôl i chi, efallai y gallwch gymryd camau pellach - siaradwch â chynghorwr.

Gall cytundeb ar lafar cael ei newid hefyd. Fel arfer, bydd y newid ar lafar hefyd. Yn achos anghydfod, gellir darparu tystiolaeth o’r newid os:

  • mae yna brawf ysgrifenedig o’r newid - er enghraifft, e-bost neu neges destun

  • yr oedd tystion i’r cytundeb newydd

  • mae’r ddau barti wedi gweithredu ar y newid – er enghraifft, drwy dalu a derbyn rhent newydd

Os ydych chi’n anabl, efallai y bydd yn rhaid i’ch landlord newid y cytundeb tenantiaeth os yw un o delerau’r cytundeb yn golygu y byddech chi’n waeth eich byd na rhywun heb eich anabledd.

Rhagor o wybodaeth am ofyn i’ch landlord am newidiadau i helpu gyda’ch anabledd

Dod â chytundeb tenantiaeth i ben

Bydd eich hawl chi, neu hawl eich landlord, i ddod â chytundeb tenantiaeth i ben a’ch hawl i aros lle rydych chi a chael eich amddiffyn rhag cael eich troi allan yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych chi.

Os ydych chi’n byw mewn tŷ sector preifat

Gallwch ddarllen mwy am droi allan os ydych yn byw mewn tŷ sector preifat.

Gallwch gael gwybod sut i ddod â’ch tenantiaeth i ben os ydych yn rhentu gan landlord preifat.

Os ydych chi’n byw mewn tai cymdeithasol

Gallwch weld beth i’w wneud os ydych chi’n byw mewn tŷ cymdeithasol ac wedi cael gorchymyn troi allan.

Os ydych chi’n rhentu gan awdurdod tai neu gyngor ac am ddod â’ch tenantiaeth i ben, siaradwch â chynghorwr.

A yw’r cytundeb tenantiaeth yn ‘annheg’

Mae’r cytundeb tenantiaeth yn fath o gontract defnyddiwr ac felly rhaid iddo fod mewn iaith syml sy’n glir ac yn hawdd ei ddeall. Ni ddylai gynnwys unrhyw delerau a allai fod yn ‘annheg’.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na ddylai’r cytundeb tenantiaeth eich rhoi chi na’ch landlord mewn sefyllfa anfanteisiol, galluogi un parti i newid telerau’n unochrog heb reswm dilys na’ch rhwymo’n ddi-droi’n-ôl i delerau nad ydych wedi cael amser i ddod yn gyfarwydd â hwy. Nid yw telerau annheg yn ddilys yn ôl y gyfraith ac ni ellir ei orfodi.

Os ydych chi’n meddwl y gallai eich cytundeb tenantiaeth gynnwys telerau annheg, gallwch siarad â chynghorwr.

Gwahaniaethu mewn cytundebau tenantiaeth

Ni chaiff eich landlord gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Gelwir y rhain yn ‘nodweddion gwarchodedig’.

Mae hyn yn golygu y gall landlord fod yn torri’r gyfraith os yw’n gwneud y canlynol:

  • rhentu eiddo i chi ar delerau gwaeth na thenantiaid eraill

  • eich trin yn wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd y caniateir i chi ddefnyddio cyfleusterau megis golchdy neu ardd

  • eich troi allan neu aflonyddu arnoch oherwydd nodwedd warchodedig

  • gwrthod gwneud newidiadau rhesymol i delerau yn y cytundeb tenantiaeth a fyddai’n galluogi person anabl i fyw yno.

Os yw eich landlord wedi torri’r gyfraith, efallai y gallwch gymryd camau yn eu herbyn - edrychwch i weld ai gwahaniaethu yw eich problem.

Fel elusen, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth i helpu miliynau o bobl i ddatrys eu problemau bob blwyddyn. Os gallwch, rhowch rodd i'n helpu i barhau â'n gwaith.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Mawrth 2021