Os yw'ch cyflogwr yn gwrthod rhoi tâl salwch i chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rhaid i'ch cyflogwr dalu Tâl Salwch Statudol i chi os gallwch ei gael. 

Dylech bob amser siarad â'ch cyflogwr i geisio datrys problem cyn cymryd unrhyw gamau pellach.  

Os na allwch chi ddod i gytundeb ynghylch eich Tâl Salwch Statudol – neu Statutory Sick Pay (SSP) yn Saesneg – gofynnwch i'ch cyflogwr roi ei resymau dros beidio â thalu'r tâl salwch i chi yn ysgrifenedig. Dylent wneud hyn ar ffurflen o'r enw SSP1. Gallwch weld sut mae'r ffurflen SSP1 yn edrych ar GOV.UK.

Os nad yw eich cyflogwyr yn rhoi ffurflen SSP1 i chi, neu os nad ydych chi'n cytuno â'u rhesymau, gallwch gwyno wrth Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF).

Os nad ydych chi’n siŵr, ewch i weld a allwch chi gael tâl salwch.

Os ydych chi’n hwyr yn dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn absennol oherwydd salwch

Os na wnaethoch chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn absennol oherwydd salwch ar unwaith, mae'n bwysig dweud wrthynt pam. Er enghraifft, efallai nad oeddech chi’n gallu dweud wrthynt am eich bod yn yr ysbyty.

Os yw eich cyflogwyr yn meddwl nad yw eich rheswm yn ddigon da, maen nhw’n gallu gwrthod talu Tâl Salwch Statudol i chi am y dyddiau cyn i chi ddweud wrthynt. 

Os nad ydych chi'n fodlon â'u penderfyniad, dylech ffonio CThEF. Os ydyn nhw'n meddwl eich bod chi'n iawn, byddan nhw'n herio eich cyflogwr. 

Bydd angen i chi ffonio CThEF o fewn 6 mis i'r dyddiad y dylech chi fod wedi dechrau cael tâl salwch statudol.

Os nad ydych chi wedi cael tâl salwch ar ôl siarad â'ch cyflogwr

Os nad yw eich cyflogwyr yn rhoi ffurflen SSP1 i chi, neu os nad ydych chi'n cytuno â'u rhesymau, gallwch gwyno wrth CThEF.

Bydd angen i chi gwyno o fewn 6 mis i'r dyddiad y dylech fod wedi dechrau cael tâl salwch statudol.

Gweld sut mae cwyno wrth CThEF

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am ffurflen SSP1 cyn ffonio CThEF.

Dylech ffonio Tîm Anghydfodau ynghylch Taliadau Statudol CThEF.

Tîm Anghydfodau ynghylch Taliadau Statudol CThEF

Ffôn: 0300 322 9422

Ffôn testun: 0300 200 3212

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm

Dydd Gwener, 8.30am i 4.30pm

Relay UK – os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0300 322 9422

Gallwch chi ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Dysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Mae’n debygol na fydd tâl am wneud y galwad ffôn os yw’ch cytundeb ffôn yn cynnwys galwadau ffôn i linellau tir – mwy o wybodaeth am ffonio rhifau 030.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.