Rights while you're pregnant at work

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae gennych hawliau cyfreithiol tra byddwch chi’n feichiog yn y gwaith. Gall yr hawliau hyn eich amddiffyn rhag triniaeth annheg, sicrhau bod eich gwaith yn ddiogel a rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i fynd i apwyntiadau cynenedigol.

Fe gewch chi hawliau gwahanol pan fyddwch chi i ffwrdd o’r gwaith ar absenoldeb mamolaeth.

Tâl mamolaeth ac absenoldeb mamolaeth

Os ydych chi'n weithiwr, gallwch chi gymryd absenoldeb mamolaeth, sy'n rhoi hyd at flwyddyn i ffwrdd o’r gwaith i chi pan fyddwch chi'n cael babi – edrychwch i weld os gallwch chi gael absenoldeb mamolaeth.

Nid yw pawb sy'n cael absenoldeb mamolaeth yn cael tâl mamolaeth hefyd, felly dylech hefyd edrych i weld pa dâl mamolaeth y mae gennych hawl iddo.

Efallai bod gan eich partner hefyd hawliau i gael tâl ac amser i ffwrdd o’r gwaith.

Amser i ffwrdd â thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol

Tra byddwch chi'n feichiog, gallwch chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol y mae eich meddyg, nyrs neu fydwraig yn eu hargymell. Gallai hyn gynnwys dosbarthiadau rhianta neu ymlacio yn ogystal ag apwyntiadau meddygol.

Mae gennych hawl i gael yr amser hwn i ffwrdd o’r gwaith os oes gennych chi hawl i absenoldeb mamolaeth. Does dim ots pa mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr na pha oriau rydych chi'n eu gweithio.

Gallwch chi hefyd gymryd yr amser hwn i ffwrdd o’r gwaith os ydych chi'n weithiwr asiantaeth ac wedi bod yn gweithio i'r un llogwr am o leiaf 12 wythnos yn olynol.

Dylech chi gael eich cyflog arferol ar ddiwrnod pan fyddwch chi'n mynd i apwyntiad. Ni all eich cyflogwr eich gorfodi i weithio oriau ychwanegol i wneud iawn am yr amser rydych chi i ffwrdd.

Efallai y bydd eich partner hefyd yn gallu cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer 1 neu 2 o’ch apwyntiadau.

Cael caniatâd eich cyflogwr

Gofynnwch i’ch cyflogwr os gallwch chi fynd i bob un o'ch apwyntiadau - efallai y bydd angen i chi ddangos eich cerdyn apwyntiad.

Mewn achosion prin, gall eich cyflogwr wrthod gadael i chi fynd i apwyntiad, ond mae'n rhaid iddynt fod yn rhesymol. Fel arfer, ni fydd yn rhesymol iddynt gwestiynu cyngor meddygol a gawsoch gan feddyg, nyrs neu fydwraig. 

Gall fod yn rhesymol gofyn i chi drefnu rhai apwyntiadau y tu allan i oriau’r swyddfa os gallwch chi. Ond dylent dderbyn efallai nad oes gennych chi lawer o ddewis o ran pryd mae eich apwyntiadau.

Os na fydd eich cyflogwr yn fodlon rhoi amser i ffwrdd â thâl i chi

Mae yna gamau y gallwch chi eu cymryd os na fydd eich cyflogwr yn fodlon rhoi amser i ffwrdd i chi â thâl ar gyfer apwyntiadau cynenedigol. Mae'n debyg eich bod wedi profi achos o wahaniaethu ar sail mamolaeth os yw eich cyflogwr yn afresymol.

Mae'n well dechrau drwy siarad â'ch cyflogwr a cheisio dod i gytundeb. Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes angen help arnoch chi.

Os ydych chi’n gweithio gyda’r nos

Pan fyddwch chi’n trefnu apwyntiadau cynenedigol, dywedwch wrth eich meddyg beth yw eich oriau gwaith. Efallai y byddant yn gallu ffitio eich apwyntiadau o amgylch eich patrwm cysgu.

Os yw eich apwyntiadau y tu allan i'ch oriau gwaith arferol, nid oes rhaid i'ch cyflogwr roi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi â thâl i wneud iawn am hyn.

Ceir rheolau arbennig ar weithio gyda’r nos hyd yn oed pan nad ydych chi’n feichiog.

Os ydych chi’n gweithio i asiantaeth

Mae gennych chi hawl i amser i ffwrdd â thâl am apwyntiadau cynenedigol os ydych chi wedi bod yn gweithio i'r un llogwr am o leiaf 12 wythnos yn olynol.

Gallwch chi gymryd amser i ffwrdd â thâl ar gyfer apwyntiadau yn ystod eich oriau gwaith arferol. Mae'r oriau hyn yn cael eu pennu gan eich llogwr, nid eich asiantaeth. Gallwch chi fynd i apwyntiad unrhyw bryd pan fyddech chi wedi bod yn y gwaith pe na baech wedi cael yr apwyntiad.

Ni chaniateir i'ch cyflogwr:

  • aildrefnu eich amserlen fel nad yw eich apwyntiad yn rhan o'ch oriau gwaith mwyach

  • wneud i chi weithio oriau ychwanegol i wneud iawn am yr amser a dreuliwyd mewn apwyntiad

Tâl salwch tra byddwch chi’n feichiog

Mae gennych hawl i dâl salwch os byddwch chi'n mynd yn sâl tra byddwch chi’n feichiog. Gallai tâl salwch effeithio ar eich tâl mamolaeth – darllenwch fwy am dderbyn tâl salwch tra byddwch chi’n feichiog.

Iechyd a diogelwch

Ar ôl i chi ddweud wrth eich cyflogwr yn ysgrifenedig eich bod chi’n feichiog, mae'n rhaid iddynt wirio'ch swydd am unrhyw risgiau iechyd a diogelwch i chi neu’ch babi. Caiff hyn ei alw’n ‘asesiad risg’. Mae angen iddynt ddweud wrthych chi am unrhyw beth maen nhw'n dod o hyd iddo, fel:

  • oriau gweithio hir

  • sefyll neu eistedd am gyfnod hir heb seibiant

  • codi neu gario pethau trwm

  • dod i gysylltiad â sylweddau tocsig

Wrth wirio am risgiau, dylai eich cyflogwr gael sgwrs gyda chi ynglŷn â’ch beichiogrwydd a beth sydd ei angen arnoch chi. Dywedwch wrthynt am unrhyw gyngor rydych chi wedi'i gael wrth eich meddyg neu fydwraig, a rhowch wybod iddynt os oes unrhyw beth yn eich poeni chi.

Os nad yw eich gwaith yn ddiogel

Ceir 3 cham y dylai eich cyflogwr eu cymryd i gael gwared ar unrhyw risgiau.

Os ydych chi'n weithiwr neu'n weithiwr asiantaeth, mae'r holl gamau hyn yn berthnasol. Mae'n debyg eich bod chi'n weithiwr os ydych chi'n gwneud gwaith rheolaidd gydag oriau penodol a bennir gan eich cyflogwr.

Os nad ydych chi’n weithiwr neu’n weithiwr asiantaeth (er enghraifft, os ydych chi'n weithiwr achlysurol neu ar gontract dim oriau), dim ond y cam cyntaf sydd gennych chi hawl iddo.

Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os nad ydych chi'n siŵr pa hawliau sydd gennych chi.

1. Newid eich amodau

Dylai eich cyflogwr newid eich amodau gwaith i gael gwared ar unrhyw risgiau. Er enghraifft, gallent gael cadair fwy cyfforddus i chi, newid eich oriau i osgoi’r oriau brig, neu adael i chi weithio gartref ar adegau. Ni allant wneud unrhyw newidiadau nad ydych chi'n cytuno â nhw. 

2. Rhoi gwaith gwahanol i chi

Os na all eich cyflogwr newid eich amodau, dylent gynnig gwaith gwahanol i chi ei  wneud tra byddwch chi’n feichiog. Er enghraifft, gallech chi wneud gwaith swyddfa yn hytrach na swydd sy'n cynnwys codi pethau trwm.

Ni all y swydd newydd dalu llai na'ch swydd arferol, na chael buddion gwaeth. 

Rhaid i'r gwaith fod yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud, felly dywedwch wrth eich cyflogwr os nad yw'n iawn i chi. 

Os ydych chi'n weithiwr asiantaeth, efallai na fydd y bobl rydych chi'n gweithio iddynt yn gallu rhoi gwaith gwahanol i chi. Dywedwch wrth eich asiantaeth os bydd hyn yn digwydd. Yna mae'n rhaid i'ch asiantaeth naill ai:

  • ddod o hyd i waith gwahanol i chi

  • eich talu am weddill y gwaith y byddech chi wedi bod yn ei wneud pe na fyddech chi’n feichiog - bydd hyn fel arfer ar gyfer gweddill eich aseiniad

3. Gadael i chi aros gartref

Os na all eich cyflogwr roi gwaith gwahanol i chi, mae gennych chi hawl i aros gartref nes eu bod wedi dileu'r risg. Rhaid iddynt barhau i'ch talu'n llawn.

Ni all eich cyflogwr newid manylion eraill eich swydd tra byddwch chi gartref oherwydd risg yn y gwaith. Er enghraifft, ni allant dorri eich cyflog na pheidio â dweud wrthych am gyfle i wneud cais am ddyrchafiad.

Os nad yw eich cyflogwr yn sicrhau eich bod yn ddiogel

Mae yna gamau y gallwch chi eu cymryd os nad yw eich cyflogwr yn rhoi asesiad risg i chi nac yn dilyn y camau i ddileu unrhyw risgiau. Dechreuwch drwy siarad â'ch cyflogwr - dangoswch unrhyw ddogfennau wrth eich meddyg neu fydwraig sy’n nodi pa amodau fyddai’n ddiogel i chi.

You could have experienced maternity discrimination if your employer doesn’t carry out a risk assessment for you. Contact your nearest Citizens Advice if you think your employer has discriminated against you.

Darllen eich contract am hawliau mamolaeth ychwanegol

Darllenwch eich contract neu eich llawlyfr i weithwyr i weld a oes gennych chi unrhyw hawliau ychwanegol y tu hwnt i'r isafswm cyfreithiol. Er enghraifft, mae rhai cyflogwyr yn cynnig gofal iechyd ychwanegol i chi tra byddwch chi’n feichiog.

Ni all eich cyflogwr ddileu unrhyw un o’ch hawliau mamolaeth - waeth beth mae eich contract yn ei ddweud. Os yw eich contract yn ceisio dileu unrhyw un o'r hawliau mamolaeth ar y dudalen hon, edrychwch pa gamau y gallwch chi eu cymryd neu  cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am help.

Os cewch chi eich trin yn wael oherwydd eich bod chi’n feichiog

Ceir camau y gallwch chi eu cymryd os:

  • nad ydych chi'n cael eich holl hawliau mamolaeth

  • ydych chi'n cael eich trin yn wael oherwydd eich bod chi wedi gofyn am unrhyw un o'ch hawliau mamolaeth

  • ydych chi'n cael eich trin yn wael am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â'ch absenoldeb mamolaeth

Gallech hefyd fod wedi profi achos o wahaniaethu ar sail mamolaeth os ydych chi wedi cael eich trin yn wael, o leiaf yn rhannol oherwydd eich bod chi’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth. Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os ydych chi’n credu bod eich cyflogwr wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.

Os bydd eich swydd yn cael ei dileu tra byddwch chi’n feichiog

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr benderfynu pwy sy’n colli eu swyddi fel pe na baech chi'n feichiog. Mae'n ddiswyddo annheg ac yn achos o wahaniaethu ar sail mamolaeth os yw eich beichiogrwydd yn effeithio ar eu penderfyniad.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gynnig swydd arall i chi os oes un addas ar gael. Ni ddylent eich gorfodi i wneud cais na chystadlu yn erbyn gweithwyr eraill.

Gall eich cyflogwr ofyn i chi am wybodaeth er mwyn gwirio a yw'r swydd yn addas i chi. Ni allant ofyn i chi ddod i gyfweliad i weld pwy sydd orau ar gyfer y swydd - dylech gael eich dewis yn awtomatig.

Mae'n ddiswyddiad annheg yn awtomatig os oes gan eich cyflogwr swydd sy'n addas i chi ond nad ydynt yn ei chynnig i chi. Gallai fod yn achos o wahaniaethu ar sail mamolaeth hefyd. Darllenwch sut i herio’r penderfyniad i ddileu’ch swydd.

Os cewch chi eich diswyddo tra byddwch chi’n feichiog

Mae'n ddiswyddo annheg ac yn achos o wahaniaethu ar sail mamolaeth os yw'r rhesymau dros eich diswyddo’n gysylltiedig â'ch beichiogrwydd.

Dylech chi edrych i weld a ydych chi wedi cael eich diswyddo’n annheg.

Os ydych chi’n gwneud cais am swydd tra byddwch chi’n feichiog

Nid oes rhaid i chi ddweud wrth unrhyw un eich bod chi’n feichiog pan fyddwch chi’n gwneud cais am swydd.

Os cewch chi gynnig swydd a bod eich cyflogwr yn newid eu meddyliau pan fyddant yn clywed eich bod chi’n feichiog, mae hyn yn achos o wahaniaethu ar sail mamolaeth.

Os ydych chi'n credu nad yw eich cais am swydd wedi cael ei drin yn deg, dylech chi edrych i weld os yw’n achos o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth.

Edrychwch pa dâl mamolaeth allwch chi ei dderbyn os ydych chi’n dechrau swydd newydd tra byddwch chi’n feichiog. Mae'n debygol na fyddwch chi'n gymwys am dâl mamolaeth statudol.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.