Maternity pay - how to get it

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch chi'n gwybod pa fath o dâl mamolaeth yr ydych yn gymwys i'w gael, mae yna ychydig o bethau sydd angen i chi eu gwneud i'w gael.

Get statutory maternity pay

Dyma'r math safonol o dâl mamolaeth. Daw gan eich cyflogwr, ac mae 3 cham i'w cymryd er mwyn ei gael:

  • dweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog

  • cadarnhau eich beichiogrwydd gyda ffurflen neu lythyr gan eich meddyg neu’ch bydwraig – bydd angen i chi wneud hyn o leiaf 15 wythnos cyn eich dyddiad geni

  • rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i'ch cyflogwr yn dweud pryd yr hoffech i'ch tâl mamolaeth ddechrau

Gallwch wneud y rhan fwyaf o hyn pan fyddwch chi'n trefnu eich absenoldeb mamolaeth.

Byddwch yn cael eich talu gan eich cyflogwr yn yr un ffordd ag yr ydych yn cael eich cyflog arferol. Gallwch wirio faint fyddwch chi'n ei gael ymlaen llaw.

Dweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog

Pan fyddwch chi'n hapus i ddweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog (er enghraifft, ar ôl eich sgan 12 wythnos) mae'n well rhoi gwybod iddyn nhw yn ysgrifenedig, a chadw copi. 

Ar ôl i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog, mae gennych chi rhawliau tra byddwch chi'n feichiog yn y gwaith. These rights include protection from discrimination and paid time off for antenatal appointments.

Ni ddylech orfod poeni am ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog. Mae eich diswyddo, torri eich oriau neu eich trin yn annheg mewn unrhyw ffordd arall oherwydd eich beichiogrwydd yn enghraifft o wahaniaethu.

Os ydych chi wedi cael eich trin yn annheg oherwydd eich beichiogrwydd, dylech chi edrych ar eich opsiynau ar gyfer herio gwahaniaethu

Bydd eich diswyddo oherwydd eich bod yn feichiog yn golygu bod eich cyflogwr yn eich diswyddo’n annheg ac yn gwahaniaethu yn eich erbyn.

Byddwch yn dal i gael eich tâl mamolaeth os yw'ch cyflogwr yn eich diswyddo i osgoi talu eich tâl mamolaeth statudol a’ch bod wedi bod yn gweithio iddyn nhw am o leiaf 8 wythnos.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os ydych chi'n poeni am ddweud wrth eich cyflogwr eich bod chi'n feichiog.

Confirming your pregnancy and due date

I gael eich tâl mamolaeth, bydd angen i chi roi prawf i'ch cyflogwr eich bod chi'n feichiog. Dylai eich prawf hefyd ddangos eich dyddiad geni disgwyliedig. Dylech wneud hyn o leiaf 15 wythnos cyn eich dyddiad geni disgwyliedig. Gallwch ddangos y naill neu’r llall o’r rhain iddyn nhw:

  • tystysgrif mamolaeth (ffurflen MATB1) y byddwch chi'n ei chael gan eich  bydwraig neu’ch meddyg ar ôl eich sgan 20 wythnos

  • llythyr gan eich meddyg neu’ch bydwraig

Cael tâl mamolaeth cytundebol

Mae tâl mamolaeth cytundebol yn fudd-dal ychwanegol y mae rhai cyflogwyr yn ei gynnig. Caiff ei dalu yn yr un ffordd â'ch tâl arferol. 

Edrychwch ar eich cytundeb neu gofynnwch i'ch cyflogwr beth sydd angen i chi ei wneud, gan y gallai fod yn wahanol i gael tâl mamolaeth statudol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ad-dalu rhywfaint o dâl mamolaeth cytundebol os na fyddwch chi'n mynd yn ôl i'r gwaith ar ôl eich absenoldeb mamolaeth. 

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael manylion o’ch llawlyfr staff neu gan eich undeb neu gymdeithas staff.

Os hoffech chi gael help i ddeall eich tâl mamolaeth cytundebol neu os ydych chi’n cael trafferth cael gwybodaeth gan eich cyflogwr, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol

Cael Lwfans Mamolaeth

Efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Mamolaeth gan y llywodraeth os na allwch gael tâl mamolaeth statudol neu gytundebol. Gallwch wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio Lwfans Mamolaeth – mae'r ffurflen yn dweud wrthych i ble i'w hanfon.

Os ydych chi'n hawlio Lwfans Mamolaeth oherwydd bod eich cyflogwr wedi dweud na fyddan nhw'n rhoi tâl mamolaeth statudol i chi, mae yna waith papur ychwanegol. Dylai eich cyflogwr fod wedi rhoi ffurflen o'r enw 'SMP1' i chi, yn dweud pam na fyddan nhw'n talu tâl mamolaeth statudol. Bydd angen i chi anfon hon gyda'ch ffurflen hawlio.

Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SMP1 i chi

Dylai eich cyflogwr roi ffurflen SMP1 i chi:

  • o fewn 7 diwrnod i ddweud na fyddant yn talu eich tâl mamolaeth statudol; ac

  • o fewn 28 diwrnod i chi ddweud wrthynt y byddwch yn cymryd absenoldeb mamolaeth

Cysylltwch â thîm anghydfodau statudol CThEF os nad yw eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SMP1 i chi mewn pryd.

Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol HMRC

HMRC Statutory Payments Disputes Team

PT Operations

North East England

HMRC

BX9 1AN

Ffôn: 0300 322 9422

Ffôn testun: 0300 200 3212

Os yw'ch cyflogwr yn gwrthod talu'ch tâl mamolaeth statudol

Cysylltwch â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) os na fydd eich cyflogwr yn talu tâl mamolaeth statudol i chi a'ch bod chi'n meddwl y dylent. Eglurwch pam eich bod chi'n meddwl bod gennych chi hawl i dâl mamolaeth statudol. 

Bydd CThEF yn cadarnhau a ddylech chi gael tâl mamolaeth statudol. Bydd angen i chi gysylltu â CThEF o fewn 6 mis i'r adeg y bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych na fyddant yn talu eich tâl mamolaeth statudol.

Mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi eu rhesymau i chi ar ffurflen o'r enw 'SMP1'. Gwnewch yn siŵr bod y ffurflen hon wrth law pan fyddwch chi'n ffonio CThEF – neu dywedwch wrthyn nhw os na chawsoch chi’r ffurflen.

Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol HMRC

HMRC Statutory Payments Disputes Team

PT Operations

North East England

HMRC

BX9 1AN

Ffôn: 0300 322 9422

Ffôn testun: 0300 200 3212

Os yw CThEF yn meddwl y dylech chi gael tâl mamolaeth statudol, byddant yn dweud wrth eich cyflogwr eich talu chi. Os yw'ch cyflogwr chi’n dal i beidio â’ch talu, bydd CThEF yn eu dirwyo ac yn eich talu'n uniongyrchol.

Os na allwch gysylltu â CThEF, gall llinell gymorth ymholiadau cyffredinol Yswiriant Gwladol roi cyngor ar daliadau statudol.

Yswiriant Gwladol: llinell gymorth ymholiadau cyffredinol

Ffôn: 0300 200 3500

Ffôn testun: 0300 200 3519

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 8pm

Dydd Sadwrn, 8am i 4pm

Apelio yn erbyn penderfyniad CThEF

allwch apelio i'r tribiwnlys treth os yw CThEF yn cefnogi eich cyflogwr.

Gallwch hefyd ofyn i CThEF ailedrych ar eu penderfyniad os yw rhywbeth wedi newid, neu os oes gennych wybodaeth newydd.

Cyn i chi apelio, mae'n syniad da cysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol am help.

Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SMP1 i chi

Dylai eich cyflogwr roi ffurflen SMP1 i chi:

  • o fewn 7 diwrnod i ddweud na fyddant yn talu eich tâl mamolaeth statudol; ac

  • o fewn 28 diwrnod i chi ddweud wrthynt y byddwch yn cymryd absenoldeb mamolaeth

Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SMP1 i chi mewn pryd, soniwch wrth CThEF wrth ysgrifennu atynt i ofyn am benderfyniad.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.