Absenoldeb mamolaeth - beth y mae gennych chi hawl iddo a sut i'w gael

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae gennych chi hawl i gymryd hyd at flwyddyn o absenoldeb mamolaeth. Does dim ots am faint rydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr, faint o gyflog rydych chi’n ei gael na faint o oriau'r wythnos rydych chi'n eu gweithio. 

Mae absenoldeb mamolaeth yn wahanol i dâl mamolaeth, sydd â rheolau gwahanol o ran pwy sy’n gallu ei gael. Gallwch chi hefyd weld pa dâl mamolaeth y mae gennych chi hawl iddo.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu rhannu eich absenoldeb gyda'ch partner

Pwy sy’n gallu cymryd absenoldeb mamolaeth

Dim ond os ydych chi'n gyflogai y mae gennych chi hawl i absenoldeb mamolaeth.

Efallai eich bod chi’n gyflogai hyd yn oed os yw eich cyflogwr neu eich contract yn dweud eich bod chi’n hunangyflogedig. Efallai nad ydych chi'n gyflogai os ydych chi, er enghraifft, yn gweithio i asiantaeth neu os nad ydych chi'n sicr o gael unrhyw waith.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gyflogai, edrychwch ar eich statws cyflogaeth.

Os nad ydych chi’n gallu cael absenoldeb mamolaeth

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gymryd o leiaf bythefnos i ffwrdd o'r gwaith ar ôl cael eich babi (4 wythnos os ydych chi'n gweithio mewn ffatri) hyd yn oed os nad oes gennych chi hawl i absenoldeb mamolaeth.

Mae gennych chi hawliau o hyd tra eich bod chi’n feichiog yn y gwaith a dylech chi weld pa dâl mamolaeth y gallwch chi ei gael. Efallai fod gennych chi hawl i dâl mamolaeth statudol neu Lwfans Mamolaeth hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu cael absenoldeb mamolaeth.

Os byddwch chi’n beichiogi tra ar absenoldeb mamolaeth

Gallwch chi fynd ar absenoldeb mamolaeth eto os byddwch chi’n beichiogi tra eich bod chi eisoes ar absenoldeb mamolaeth. Does dim rhaid i chi fynd yn ôl i’r gwaith rhwng eich beichiogrwydd.

Bydd angen i chi weld a allwch chi gael tâl mamolaeth am yr eildro, ond ar wahân i hynny, bydd gennych chi’r un hawliau ag yn ystod eich beichiogrwydd cyntaf. Bydd y rheolau ar gyfer rhoi rhybudd a dechrau eich absenoldeb yn aros yr un fath:

  • bydd angen i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr 15 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd

  • gallwch chi ddechrau eich absenoldeb mamolaeth 11 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd

Os ydych chi yn yr heddlu neu yn y lluoedd arfog

Mae gennych chi reolau gwahanol ar gyfer absenoldeb mamolaeth. Edrychwch ar eich contract neu siaradwch â'ch cyflogwr i weld pa hawliau sydd gennych chi.

Os ydych chi’n gweithio ar gwch pysgota ac yn cael cyfran o'i elw

Mae gennych chi reolau gwahanol ar gyfer absenoldeb mamolaeth. Edrychwch ar eich contract neu siaradwch â'ch cyflogwr i weld pa hawliau sydd gennych chi.

Sut i gael eich absenoldeb mamolaeth

O leiaf 15 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd, dywedwch wrth eich cyflogwr:

  • eich bod chi’n feichiog

  • pryd y mae disgwyl i'ch babi gyrraedd

  • eich bod chi eisiau cymryd absenoldeb mamolaeth

  • pryd rydych chi eisiau i'ch absenoldeb mamolaeth ddechrau a gorffen (gallwch chi newid y dyddiadau hyn yn nes ymlaen)

Dylech chi roi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig er mwyn i chi fod â chofnod.

Dylai eich cyflogwr gadarnhau dyddiad gorffen eich absenoldeb mamolaeth. Os na fyddan nhw’n gwneud hyn, mae'n werth gofyn iddyn nhw amdano i wneud yn siŵr bod gan y ddau ohonoch chi yr un dyddiad mewn golwg.

Mae eich cyflogwr yn gallu gofyn am gael gweld tystysgrif feddygol, fel eich ffurflen MATB1. Byddwch chi’n cael hwn mewn apwyntiad cyn geni ar ôl eich sgan 20 wythnos.

Cyn gynted ag y byddwch chi’n dweud wrth eich cyflogwr eich bod chi’n feichiog, mae gennych chi hawl i hawliau mamolaeth yn y gwaith.

Os nad ydych wedi dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn feichiog erbyn y dyddiad cau

Siaradwch â'ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch, hyd yn oed os yw llai na 15 wythnos cyn wythnos y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd. Gallwch chi dal gymryd absenoldeb mamolaeth os na fyddai wedi bod yn ymarferol i chi roi rhybudd mewn pryd. Gallai hyn fod oherwydd, er enghraifft:

  • eich bod chi wedi dechrau ar eich swydd lai na 15 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd

  • nad oeddech chi’n gwybod eich bod chi’n feichiog

  • eich bod chi yn yr ysbyty

Pryd gallwch chi ddechrau eich absenoldeb mamolaeth

Gallwch chi ddechrau eich absenoldeb mamolaeth unrhyw ddiwrnod o 11 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd. Bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau cyn y dyddiad rydych chi wedi’i ddewis: 

  • os bydd eich babi’n dod yn gynnar, neu

  • os ydych chi'n absennol o'r gwaith gyda salwch sy'n gysylltiedig â'ch beichiogrwydd, a bod hyn yn digwydd yn y 4 wythnos cyn yr wythnos y mae disgwyl i’ch babi gyrraedd

Am ba hyd y gall eich absenoldeb mamolaeth bara

Bydd eich absenoldeb mamolaeth yn para am flwyddyn oni bai eich bod chi’n dweud wrth eich cyflogwr eich bod chi eisiau dychwelyd yn gynt. Ni all bara mwy na blwyddyn.

Y cyfnod byrraf o absenoldeb mamolaeth y gallwch chi ei gymryd yw pythefnos. Mae hyn yn codi i 4 wythnos os ydych chi’n gweithio mewn ffatri.

Os ydych chi eisiau cymryd mwy na blwyddyn i ffwrdd

Does gennych chi ddim hawl i fwy na blwyddyn o absenoldeb mamolaeth, ond efallai y bydd eich cyflogwr yn cytuno i adael i chi gael amser ychwanegol o'r gwaith. Ni fydd unrhyw amser ychwanegol yn cael ei ystyried yn absenoldeb mamolaeth, felly ni fydd gennych chi eich hawliau absenoldeb mamolaeth am y cyfnod hwnnw.

Os ydych chi'n ystyried gofyn am fwy na blwyddyn i ffwrdd o'r gwaith, bydd angen i chi siarad â'ch cyflogwr am y canlynol:

  • a fyddwch chi’n gallu dychwelyd i'ch swydd ar ôl yr amser ychwanegol

  • a fydd yr amser ychwanegol yn cyfrif fel seibiant yn eich cyflogaeth

  • a fyddwch chi’n cael eich talu am yr amser ychwanegol

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gytundeb sydd gennych chi yn ysgrifenedig.

Efallai y byddwch chi hefyd eisiau siarad â'ch cyflogwr am weithio hyblyg a dychwelyd i'r gwaith ond gan gymryd absenoldeb rhiant di-dâl.

Newid dyddiadau eich absenoldeb mamolaeth

Gallwch chi newid dyddiadau eich absenoldeb mamolaeth cyn belled â'ch bod chi’n rhoi digon o rybudd i'ch cyflogwr:

  • i ddechrau eich cyfnod absenoldeb yn gynt, dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 4 wythnos cyn eich dyddiad dechrau newydd.

  • i ddechrau eich cyfnod absenoldeb yn hwyrach, dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 4 wythnos cyn eich hen ddyddiad dechrau

  • i ddod â'ch cyfnod absenoldeb i ben yn gynt, dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 8 wythnos cyn eich dyddiad gorffen newydd

  • i ddod â’ch cyfnod absenoldeb i ben yn hwyrach, dywedwch wrth eich cyflogwr o leiaf 8 wythnos cyn eich hen ddyddiad gorffen

Gallwch chi roi llai o rybudd os na wnaeth eich cyflogwr roi dyddiadau eich absenoldeb mamolaeth i chi yn ysgrifenedig. Ond mae’n syniad da rhoi cymaint o rybudd ag y gallwch chi iddyn nhw.

Ychwanegu gwyliau at eich absenoldeb mamolaeth

Gallwch chi gymryd gwyliau yn union cyn neu ar ôl eich absenoldeb mamolaeth os ydych chi eisiau treulio mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith.

Os byddwch chi’n cymryd gwyliau yn syth ar ôl eich absenoldeb mamolaeth, byddwch chi’n dal i gael eich ystyried yn ôl yn y gwaith.

Enghraifft

Mae absenoldeb mamolaeth Katie yn dod i ben ddydd Sul 18 Medi ac mae hi'n cymryd wythnos o wyliau ar unwaith. Mae hi’n cael ei hystyried yn ôl yn y gwaith ddydd Llun 19 Medi er nad yw hi yn y swyddfa tan ddydd Llun 26 Medi.

Cronni gwyliau ar absenoldeb mamolaeth

Fel arfer, byddwch chi’n cronni gwyliau yn ôl yr arfer tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth. Os na allwch chi gymryd eich gwyliau oherwydd eich bod chi ar absenoldeb mamolaeth, dylai eich cyflogwr adael i chi gario drosodd hyd at 5.6 wythnos o ddiwrnodau heb eu defnyddio (28 diwrnod os ydych chi'n gweithio 5 diwrnod yr wythnos) i'ch blwyddyn wyliau nesaf.

Os ydych chi’n gweithio oriau afreolaidd neu os ydych chi’n gweithio am ran o’r flwyddyn yn unig

Os dechreuodd eich blwyddyn wyliau gyfredol ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny, mae ffordd arbennig o gyfrifo faint o wyliau rydych chi wedi’u cronni. Gallwch chi weld sut mae cyfrifo eich absenoldeb ar wefan ACAS.

Os na allwch chi gymryd eich gwyliau oherwydd eich bod chi ar absenoldeb mamolaeth, gallwch chi drosglwyddo'r holl wyliau yr ydych wedi'u cronni i'r flwyddyn wyliau nesaf.

Os bydd eich cyflogwr yn dweud na chewch chi gymryd absenoldeb mamolaeth

Dylai eich cyflogwr gytuno i'ch absenoldeb mamolaeth os ydych chi wedi rhoi digon o rybudd iddo.

Os bydd eich cyflogwr yn dweud nad ydych chi’n cael cymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth, gofynnwch iddo esbonio ei resymau. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu ar sail mamolaeth, ac mae mwy o gamau y gallwch chi eu cymryd os nad ydych chi’n fodlon ar eu hymateb.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.