Cyfnod rhybudd wrth ddiswyddo
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Ni fydd eich swydd yn dod i ben yn syth bob tro os cewch eich diswyddo – byddwch yn aros yn y gwaith am gyfnod ac yn dal i gael eich talu. Dyma eich cyfnod rhybudd. Fel arfer, mae'n para o leiaf wythnos.
Cael gwybod pryd bydd eich cyfnod rhybudd yn dechrau
Os bydd eich cyflogwr yn dweud wrthoch chi’n bersonol eich bod yn cael eich diswyddo, bydd eich cyfnod rhybudd fel arfer yn dechrau y diwrnod ar ôl i chi gael gwybod hynny, oni bai fod eich contract yn dweud rhywbeth gwahanol. Felly, os cewch wythnos o rybudd ddydd Llun, bydd yn dechrau ddydd Mawrth ac yn gorffen y dydd Llun canlynol.
Os bydd eich cyflogwr yn eich diswyddo drwy lythyr neu e-bost, bydd eich cyfnod rhybudd yn dechrau y diwrnod ar ôl i chi ei ddarllen, oni bai fod eich contract yn dweud rhywbeth gwahanol. Felly, os bydd eich cyflogwr yn anfon llythyr atoch ddydd Llun yn rhoi wythnos o rybudd i chi, ond nad ydych chi’n ei ddarllen tan ddydd Mercher, bydd y rhybudd yn dechrau ddydd Iau ac yn dod i ben y dydd Mercher canlynol.
Os bydd eich cyflogwr yn dweud wrthoch chi am beidio â dod i'r gwaith yn ystod eich cyfnod rhybudd, bydd yn rhaid iddo dalu i chi o hyd.
Mae'n werth gwneud yn siŵr eich bod wedi cael y cyfnod rhybudd cywir a'ch bod wedi cael eich talu amdano.
Ar ôl i chi gael gwybod faint sy'n ddyledus i chi, mae camau y gallwch eu cymryd os na fydd eich cyflogwr yn eich talu'n iawn.
Os yw eich cyflogwr yn eich diswyddo am gamymddwyn difrifol
Does dim rhaid i'ch cyflogwr roi cyfnod rhybudd i chi os bydd yn eich diswyddo am ‘gamymddwyn difrifol’ – er enghraifft trais neu ddwyn.
Weithiau bydd cyflogwyr yn ceisio osgoi rhoi'r rhybudd cywir i'w cyflogeion drwy ddweud eu bod wedi cael eu diswyddo am gamymddwyn difrifol.
Os credwch eich bod wedi cael eich diswyddo ar gam am gamymddwyn difrifol, gallwch wneud cais i'r tribiwnlys cyflogaeth am y tâl rhybudd y dylech chi fod wedi'i gael. Gelwir hyn yn ‘ddiswyddo ar gam’. Does dim gwahaniaeth ers faint o amser rydych chi wedi bod yn gyflogedig.
Rhaid i chi ddechrau’r broses o wneud cais i’r tribiwnlys o fewn 3 mis namyn 1 diwrnod o pryd y daeth eich cyflogaeth i ben. Edrychwch allwch chi wneud cais i’r tribiwnlys cyflogaet.
Cael gwybod faint o gyfnod rhybudd gewch chi
Gelwir y rhybudd sylfaenol y gall eich cyflogwr ei roi i chi yn ‘rybudd statudol’. Byddwch yn cael eich rhybudd statudol o leiaf, hyd yn oed os yw eich contract yn dweud eich bod yn cael llai.
Mae gennych chi hawl i gael rhybudd statudol os yw'r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:
rydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf fis
rydych chi’n gyflogai
Mae’n bosibl eich bod yn gyflogai hyd yn oed os yw eich cyflogwr neu eich contract yn dweud eich bod yn hunangyflogedig. Mae’n bosibl nad ydych chi’n gyflogai os ydych chi, er enghraifft, yn gweithio i asiantaeth neu os nad oes sicrwydd eich bod yn mynd i gael unrhyw waith.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gyflogai, edrychwch beth yw eich statws cyflogaeth.
Os oes gennych chi hawl i gael rhybudd statudol, dyma’ch cyfnod rhybudd sylfaenol:
Time with your employer | Minimum notice |
---|---|
Time with your employer
1 mis i 2 flynedd |
Minimum notice
1 wythnos |
Time with your employer
2 flynedd neu fwy |
Minimum notice
1 wythnos am bob blwyddyn lawn, hyd at uchafswm o 12 wythnos Er enghraifft, os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am 5 mlynedd a 10 mis, cewch 5 wythnos o rybudd |
Edrychwch ar eich contract i weld beth yw’r cyfnod rhybudd
Chwiliwch am gyfnod rhybudd yn eich contract neu'ch llawlyfr staff. Efallai y cewch hyn hyd yn oed os nad oes gennych chi hawl i gael rhybudd statudol. Er enghraifft, efallai y bydd eich contract yn dweud bod pawb yn cael o leiaf 4 wythnos o rybudd. Gelwir hyn yn rhybudd contractiol.
Byddwch yn cael rhybudd contractiol os yw'n hirach nag unrhyw rybudd statudol y mae gennych chi hawl iddo. Os yw eich rhybudd statudol yn hirach, neu yr un hyd, byddwch yn cael rhybudd statudol yn lle hynny.
Gall eich contract fod yn ysgrifenedig, yn gytundeb llafar, neu'n beth sy'n digwydd fel arfer yn eich cwmni. Efallai y bydd hefyd yn cael ei alw'n 'delerau ac amodau'.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol i gael help os nad ydych chi'n siŵr pa rybudd rydych chi'n ei gael, neu os nad ydych chi'n cael rhybudd statudol neu gontractiol.
Mae gan Alice a Mo gontractau sy'n dweud eu bod yn cael 4 wythnos o rybudd contractiol.
Mae Alice wedi gweithio i'w chyflogwr am 2 flynedd. Mae hyn yn rhoi 2 wythnos o rybudd statudol iddi. Mae ei rhybudd contractiol yn hirach, felly os caiff ei diswyddo caiff 4 wythnos o rybudd.
Mae Mo wedi gweithio i'w gyflogwr am 6 mlynedd. Mae hyn yn rhoi 6 wythnos o rybudd statudol iddo. Mae hyn yn hirach na'i gyfnod rhybudd contractiol, felly os caiff ei ddiswyddo, caiff 6 wythnos o rybudd.
Os nad ydych chi’n gallu gweld beth yw’ch cyfnod rhybudd
Efallai na fydd gennych chi hawl i gael unrhyw dâl rhybudd.
Efallai y gallwch ddadlau y dylech chi gael cyfnod rhybudd 'rhesymol'. Mae hyn yn dibynnu ar y swydd. Os yw busnes bach yn eich cyflogi i wneud gwaith lefel mynediad, gallai hynny fod yn 1 wythnos. Os yw cwmni wedi eich cyflogi mewn rôl reoli, gallai fod yn 1 mis neu fwy.
Gallwch ofyn i bobl eraill mewn swyddi tebyg am eu cyfnodau rhybudd nhw. Gall hyn eich helpu i ddeall beth allai cyfnod rhybudd rhesymol fod.
Os ydych chi eisiau gofyn am dâl rhybudd, gallwch siarad â chynghorwr.
Os ydych chi ar gontract cyfnod penodol
Fel arfer, bydd gan gontractau cyfnod penodol ddyddiad dechrau a gorffen, neu byddant yn para am yr un cyfnod â thasg benodol. Bydd y math o gontract cyfnod penodol sydd gennych chi yn effeithio ar eich cyfnod rhybudd.
Mae eich contract yn rhedeg am yr un cyfnod â thasg benodol
Byddwch yn cael cyfnod rhybudd statudol o leiaf os ydych chi ar gontract sy'n para am yr un cyfnod â thasg benodol. Edrychwch ar eich contract oherwydd efallai y bydd yn rhoi mwy o rybudd i chi.
Er enghraifft, os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am 2 flynedd, bydd gennych chi hawl i o leiaf 2 wythnos o rybudd statudol.
Mae gan eich contract ddyddiadau dechrau a gorffen
Ni fyddwch yn cael cyfnod rhybudd os bydd eich swydd yn dod i ben ar y dyddiad sydd wedi'i nodi yn eich contract.
Os cewch eich diswyddo cyn dyddiad gorffen eich contract, mae’n werth edrych a yw eich contract yn dweud bod eich cyflogwr yn cael gwneud hyn.
Byddwch yn cael eich cyfnod rhybudd statudol o leiaf os yw eich contract yn dweud bod modd eich diswyddo chi. Efallai y bydd eich contract yn rhoi mwy o rybudd i chi na hyn.
Os nad yw eich contract yn dweud bod modd eich diswyddo, efallai y bydd rhywfaint o'ch cyflog yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr, o'ch diswyddiad hyd at ddyddiad gorffen eich contract. Efallai y bydd angen i chi wneud hawliad tribiwnlys am dorri contract i gael yr arian sy'n ddyledus i chi – cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol for i gael help gyda hyn.
Ni fydd unrhyw gyflog sydd heb ei dalu yn ddyledus i chi os cewch eich diswyddo am gamymddwyn difrifol. Edrychwch a yw eich diswyddiad yn annheg os ydych chi wedi cael eich cyhuddo o gamymddwyn difrifol.
Os ydych chi'n gweithio y tu hwnt i ddyddiad gorffen eich contract
Fe fyddwch chi’n cael cyfnod rhybudd statudol o leiaf os byddwch chi’n gweithio y tu hwnt i ddyddiad gorffen eich contract. Edrychwch ar eich contract oherwydd efallai y bydd yn rhoi mwy o rybudd i chi.
Cyflog yn eich cyfnod rhybudd
Rhybudd statudol neu rybudd contractiol fydd yn pennu faint o dâl gewch chi yn ystod eich cyfnod rhybudd. Os oes gennych chi hawl i'r ddau, cewch ba bynnag un sydd hiraf. Os ydyn nhw yr un faint, fe fyddwch chi’n cael tâl rhybudd statudol.
Os byddwch chi’n cael rhybudd statudol
Fe fyddwch chi’n cael eich cyflog llawn os byddwch yn gweithio eich oriau arferol yn ystod eich cyfnod rhybudd statudol. Dylai hyn gynnwys unrhyw fuddion gwaith rydych chi'n eu cael, fel cyfraniadau pensiwn neu ddefnydd o ffôn.
Fe fyddwch chi’n dal i gael eich cyflog llawn os ydych chi:
ar wyliau
i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch neu anaf – hyd yn oed os byddech chi'n cael llai na'ch cyflog llawn fel arfer
i ffwrdd o'r gwaith oherwydd beichiogrwydd, cyfnodau mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu riant – hyd yn oed os byddech chi’n cael llai na'ch cyflog llawn fel arfer
yn cael cyfarwyddyd i aros gartref oherwydd nad oes unrhyw waith i chi ei wneud – er enghraifft, os byddwch yn colli eich gwaith neu'n gweithio am gyfnodau byr
Efallai eich bod yn cael math arall o dâl pan nad ydych chi yn y gwaith – er enghraifft tâl mamolaeth statudol neu dâl salwch statudol. Byddwch yn dal i gael hwn, a bydd eich cyflogwr yn ychwanegu ato er mwyn i chi gael eich cyflog llawn.
Fyddwch chi ddim yn cael eich talu am unrhyw ddiwrnodau rydych chi ar streic yn ystod eich cyfnod rhybudd.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os nad ydych chi'n siŵr beth ddylai eich tâl rhybudd fod – er enghraifft os nad ydych chi’n gweithio oriau rheolaidd bob wythnos.
Os byddwch chi’n cael rhybudd contractiol
Byddwch yn cael rhybudd contractiol os yw eich contract yn rhoi mwy na'r cyfnod statudol o rybudd i chi. Fel arfer, mae cael mwy o rybudd yn well i chi, gan y byddwch yn cael eich talu am fwy o amser cyn i chi adael eich swydd.
Os nad ydych chi yn y gwaith yn ystod cyfnod o rybudd contractiol, gallech gael llai na'ch cyflog llawn. Yn hytrach na'ch tâl llawn, byddwch yn cael yr hyn y byddech chi fel arfer yn ei gael am yr absenoldeb hwnnw – er enghraifft, tâl salwch statudol os ydych chi’n absennol oherwydd salwch. Mae hyn yn wahanol i rybudd statudol, lle byddwch yn cael eich cyflog llawn hyd yn oed os nad ydych chi yn y gwaith.
Os bydd eich cyflogwr yn dweud wrthoch chi am adael ar unwaith
Byddwch yn cael yr un tâl rhybudd os yw eich cyflogwr am i chi roi'r gorau i weithio cyn gynted ag y bydd yn eich diswyddo. Byddwch naill ai:
yn cael eich tâl rhybudd i gyd ar unwaith, gyda’ch swydd yn dod i ben yn syth – gelwir hyn yn dâl yn lle rhybudd
yn cael eich talu fel arfer tan ddiwedd eich cyfnod rhybudd heb orfod dod i'r gwaith – gelwir hyn yn absenoldeb garddio
Os byddwch chi’n cael tâl yn lle rhybudd
Bydd tâl yn lle rhybudd yn rhoi un taliad i chi gyda'r un swm o arian â phe baech wedi gweithio am eich cyfnod rhybudd. Dylai gynnwys unrhyw fuddion gwaith rydych chi'n eu cael fel arfer, fel cyfraniadau pensiwn. Byddwch yn talu treth yn ôl yr arfer ar eich tâl rhybudd.
Bydd arian yn cael ei ychwanegu i wneud iawn am unrhyw fanteision y byddech chi’n eu cael fel arfer drwy’ch gwaith. Er enghraifft, os oes gennych chi ffôn cwmni y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer galwadau personol, dylech gael arian ychwanegol i wneud iawn am beidio â chael hyn.
Daw eich swydd i ben ar y diwrnod y cewch eich diswyddo, felly gallwch ddechrau gwaith arall neu wneud cais am fudd-daliadau ar unwaith.
Os byddwch chi'n cael absenoldeb garddio
Ar absenoldeb garddio, byddwch yn cael eich talu ar yr adegau arferol yn y ffordd arferol – byddwch hefyd yn talu eich treth arferol. Dylech gadw eich holl fanteision a’ch buddion, fel cyfraniadau pensiwn neu ddefnydd personol o ffôn cwmni.
Byddwch chi’n dal yn gyflogedig yn ystod absenoldeb garddio, felly allwch chi ddim dechrau swydd arall oni bai fod eich cyflogwr yn cytuno i hynny, ac ni allwch hawlio budd-daliadau. Gall eich cyflogwr hefyd ofyn i chi ddod i'r gwaith ar adegau.
Gwyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd
Gallwch ofyn am gael cymryd gwyliau yn ystod eich cyfnod rhybudd, ond eich cyflogwr fydd yn penderfynu gewch chi gymryd y gwyliau ai peidio. Os byddwch chi’n mynd ar wyliau â thâl yn ystod eich cyfnod rhybudd, bydd gennych chi hawl i'ch cyflog arferol.
Pan fyddwch chi'n gadael, cewch eich talu am unrhyw wyliau sydd gennych chi ar ôl o'ch 28 diwrnod cyntaf o hawl wyliau. Os ydych chi'n cael mwy na 28 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc), holwch beth mae eich contract yn ei ddweud am wyliau sydd dros ben.
Os bydd eich cyflogwr yn dweud wrthoch chi am ddefnyddio eich gwyliau
Gall eich cyflogwr ddweud wrthoch chi am ddefnyddio unrhyw wyliau sydd gennych ar ôl. Bydd angen iddo hefyd ddweud wrthoch chi pryd i'w gymryd.
Edrychwch ar eich contract i weld pa mor bell ymlaen llaw y dylai eich cyflogwr ddweud wrthoch chi am gymryd gwyliau. Os nad oes dim byd yn eich contract, bydd angen iddo roi o leiaf 2 ddiwrnod o rybudd i chi am bob diwrnod o wyliau. Er enghraifft, os yw am i chi gymryd 5 diwrnod o wyliau, mae'n rhaid iddo ddweud wrthoch chi o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw.
Datrys problemau gyda'ch tâl rhybudd
Mae camau y gallwch eu cymryd yn yr amgylchiadau canlynol:
os nad yw eich cyn gyflogwr yn eich talu am eich cyfnod rhybudd
os nad yw eich cyn gyflogwr yn talu'r swm iawn i chi
os yw eich cyn gyflogwr yn dweud wrthoch chi am adael ar unwaith ond nid yw'n rhoi tâl i chi yn lle rhybudd
Gelwir y sefyllfaoedd hyn yn 'ddiswyddo ar gam'. Edrychwch sut gallwch chi gael eich tâl rhybuddet os cewch eich diswyddo ar gam.
Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol cyn gynted ag y gallwch chi os ydych chi wedi cael eich diswyddo ar gam a bod angen help arnoch i gael eich tâl rhybudd. Ewch â'ch contract gyda chi os byddwch chi’n mynd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Os yw eich cyflogwr yn ansolfent
Os oes tâl rhybudd yn ddyledus i chi a bod eich cyflogwr yn ansolfent, gallwch hawlio arian sy'n ddyledus ar GOV.UK.
Darllenwch fwy am hawliau cyflogeion pan fydd cyflogwr yn mynd yn ansolfent.
Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu peidio â'ch diswyddo
Os bydd eich cyflogwr yn newid ei feddwl ar ôl eich diswyddo, chi fydd yn penderfynu a ydych chi am aros ai peidio.
Os byddwch chi'n cytuno i aros, gallwch ddal ati i weithio iddo.
Fel arall, gallwch adael ar ddiwedd eich cyfnod rhybudd.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.