Os oes rhaid i chi fynd i gyfarfod disgyblu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai eich bod wedi derbyn llythyr gan eich cyflogwr yn gofyn i chi fynd i gyfarfod disgyblu. Mae’r dudalen hon yn amlinellu beth yw cyfarfod disgyblu, pam mae eich cyflogwr wedi gofyn i chi fynd i un, sut i baratoi ar ei gyfer, beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod a beth yw'r canlyniadau posib.

Beth yw cyfarfod disgyblu?

Cyfarfod a allai arwain at gamau disgyblu yw cyfarfod disgyblu. Mae enghreifftiau o gamau disgyblu yn cynnwys:

  • rhybudd cyntaf neu rybudd terfynol

  • gwahardd heb dâl

  • israddio

  • diswyddo.

Pam y gofynnwyd i chi fynd i un?

Efallai y gofynnwyd i chi fynd i gyfarfod disgyblu oherwydd bod eich cyflogwr yn poeni am:

  • eich ymddygiad, er enghraifft, rhywbeth rydych chi wedi’i wneud neu heb wneud 

  • eich galluogrwydd, er enghraifft, nid yw eich cyflogwr yn credu eich bod chi’n gallu gwneud eich swydd, neu ei gwneud yn ddigon dda

  • eich absenoldeb hirdymor

  • rheswm arall sy’n effeithio ar eich gwaith.

Dylai'r llythyr sy'n gofyn i chi fynd i'r cyfarfod roi digon o wybodaeth i chi er mwyn gwybod pam mae eich cyflogwr wedi eich gwahodd. Os oes ganddynt unrhyw dystiolaeth, er enghraifft, o gamymddwyn neu ddiffyg gallu, dylent roi gwybod i chi ymlaen llaw. Dylent roi digon o amser i chi ei ystyried a dod o hyd i dystiolaeth i gefnogi eich achos. Gall eich tystiolaeth gynnwys tystion.

Os nad yw eich cyflogwr wedi rhoi unrhyw dystiolaeth i chi, dylech chi ofyn amdani. Os oes angen mwy o amser arnoch chi i ystyried y dystiolaeth maent wedi'i rhoi i chi, gallwch chi ofyn am ohirio'r cyfarfod fel bod gennych chi amser ychwanegol. Dylai'r amser rydych chi'n gofyn amdano fod yn rhesymol.

Beth ddylech chi ei wneud cyn y cyfarfod?

I baratoi ar gyfer y cyfarfod, dylech chi wneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwybod yr achos yn eich erbyn a'r dystiolaeth ar ei gyfer

  • gwneud yn siŵr eich bod chi wedi paratoi - cael eich tystiolaeth eich hun a rhestr o bwyntiau rydych chi eisiau eu codi

  • dod o hyd i gydymaith i fynd gyda chi i'r cyfarfod, os ydych chi eisiau un. Os ydych chi eisiau i rywun ddod gyda chi, mae’n rhaid i chi ofyn i’ch cyflogwr am hyn.

  • Pwy sy’n gallu dod gyda chi i gyfarfod disgyblu

Beth os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw un i fynd gyda chi i'r cyfarfod?

Os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw un i fynd gyda chi i’r cyfarfod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd nodiadau yn ystod y cyfarfod. Peidiwch â gadael iddynt eich rhuthro fel na fyddwch chi'n teimlo y gallwch chi gymryd nodiadau.

Beth os nad yw’r amser neu'r lleoliad a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod yn gyfleus i chi?

Dylech chi wneud pob ymdrech i fynd i'r cyfarfod. Serch hynny, os na allwch chi neu'ch cydymaith ddod ar ddyddiad y cyfarfod am reswm y tu hwnt i'ch rheolaeth, gallwch chi ofyn i'ch cyflogwr ei ohirio i ddyddiad hwyrach. Dylech chi awgrymu dyddiad arall o fewn pum diwrnod gwaith. Gallwch chi hefyd ofyn i'r cyfarfod gael ei symud i leoliad arall, os nad yw'n rhy bell.

Os na allwch chi fynychu ar y diwrnod am reswm annisgwyl, er enghraifft, problemau trafnidiaeth, dylech chi roi gwybod i'ch cyflogwr cyn gynted â phosib.

Os na fyddwch yn mynychu'r cyfarfod ac nad oes gennych esgus rhesymol dros beidio â mynychu, gall y cyfarfod fynd yn ei flaen hebddoch chi ac ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch achos.

Pwy fydd yn y cyfarfod?

Bydd y bobl yn y cyfarfod yn amrywio yn dibynnu ar faint eich cyflogwr. Serch hynny, fel arfer byddwch chi a'ch rheolwr yno, ac o bosib:

  • rhywun o’r adran AD

  • rhywun i gymryd nodiadau

  • eich cydymaith, os oes gennych un

  • tystion os oes gan eich cyflogwr rai.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Bydd eich cyflogwr yn egluro’r rheswm dros y cyfarfod ac yn mynd drwy’r dystiolaeth sydd ganddynt. Dylent roi’r cyfle i chi gyflwyno eich achos ac ateb yr honiadau a wnaed yn eich erbyn. Dylech chi gael caniatâd i ofyn cwestiynau, i roi eich tystiolaeth ac i alw tystion. Os oes gennych  chi gydymaith, byddant yn gallu siarad â chi.

Beth os ydych chi’n cynhyrfu yn ystod y cyfarfod?

Os byddwch chi'n cynhyrfu, angen amser i dawelu, neu i feddwl am rywbeth, gallwch chi ofyn am seibiant byr. Os yw'r cyfarfod wedi mynd yn danbaid, efallai y byddai'n syniad da i bob ochr adael i bethau dawelu cyn parhau â'r cyfarfod.

Pa mor hir fydd yn rhaid i chi aros am benderfyniad?

Mae'n arfer da i'ch cyflogwr beidio â rhoi ei benderfyniad i chi ar ddiwedd y cyfarfod ond gwneud hynny ychydig yn hwyrach. Dylent gael amser i ystyried yr achos cyn dod i benderfyniad a gwneud gwiriadau ychwanegol, er enghraifft, os oes anghydfod ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd.

Pa benderfyniadau posib y gallai eich cyflogwr eu gwneud?

Ar ôl y cyfarfod, gallai eich cyflogwr benderfynu ar y canlynol:

  • nad oes angen unrhyw gamau pellach

  • eich disgyblu mewn rhyw ffordd, er enghraifft, rhoi rhybudd ffurfiol i chi, gofyn i chi wella eich perfformiad o fewn cyfnod penodol o amser, eich gwahardd heb dâl, neu eich israddio 

  • eich diswyddo.

Beth os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad?

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad, mae gennych yr hawl i apelio yn ei erbyn. Dylai eich cyflogwr ddweud wrthych fod gennych yr hawl i apelio pan fyddant yn rhoi eu penderfyniad i chi.

Pa mor hir y bydd camau disgyblu yn para yn eich erbyn?

Mae pa mor hir y bydd camau disgyblu yn para yn eich erbyn yn dibynnu ar beth yw'r sancsiwn. Er enghraifft, gallai rhybudd ysgrifenedig cyntaf bara chwe mis, ond gallai un terfynol bara deuddeg mis.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol bellach

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.