Os yw'ch cyflogwr yn dweud na allwch weithio i gystadleuydd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch yn gadael swydd, bydd rhai cyflogwyr yn dweud na allwch chi weithio i fusnes tebyg am gyfnod penodol o amser. Gallent hefyd ddweud na allwch chi sefydlu busnes sy'n cystadlu â'u busnes nhw.

Efallai y bydd eich cyflogwr eisiau cyfyngu ar y gwaith rydych chi'n ei wneud nesaf os gallech chi gymryd eu cwsmeriaid, neu os ydych chi'n gwybod manylion cyfrinachol.

Efallai y bydd eich contract yn cyfyngu ar y gwaith y gallwch chi ei wneud nesaf, ond dim ond os oes angen gwneud hynny i amddiffyn eu busnes y gall eich cyflogwr wneud hyn. Os nad oes dim yn eich contract, gallwch gymryd ba bynnag swydd a fynnwch.

Gweld a oes unrhyw gyfyngiadau'n berthnasol i chi

Chwiliwch yn eich contract neu’ch telerau ac amodau gwaith am eiriau fel ‘Ni allwch weithio i fusnes cystadleuol os yw’n llai na 10 milltir i ffwrdd’. Dylai hefyd ddweud am ba hyd y mae’r cyfyngiad yn parhau – fel arfer 3 i 6 mis.

Gallai cyfyngiadau fel hyn fod o dan bennawd sy’n dweud ‘cyfamodau cyfyngu’ neu ‘gyfyngiadau ôl-derfynu’.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddilyn cyfyngiadau fel y rhain os ydynt wedi’u hysgrifennu yn eich contract. Mae hyn yn cynnwys cyfyngiadau mewn unrhyw ddogfennau eraill rydych chi wedi’u llofnodi, fel contract i setlo anghydfod gyda’ch cyflogwr.

Gallwch weithio i bwy bynnag a fynnwch os nad oes dim cyfyngiadau mewn unrhyw ddogfennau rydych chi wedi cytuno iddynt.

Os nad ydych chi’n siŵr am rywbeth yn eich contract siaradwch â chynghorwr. Fel arfer bydd angen i'r cynghorwr weld eich contract.

Os nad oes gennych gontract ysgrifenedig

Mae'n anodd iawn i'ch cyflogwr honni bod cytundeb llafar yn cynnwys cyfyngiad ar bwy y gallwch chi weithio iddynt. Rhaid i'r cyfyngiadau hyn fod yn ddiamwys ac yn benodol, felly mae'n annhebygol y bydd angen i chi ddilyn rhai nad ydynt yn ysgrifenedig.

Gweld a yw'r cyfyngiad yn rhesymol

Waeth beth sydd yn eich contract, ni all eich cyn-gyflogwr eich atal rhag cymryd swydd newydd oni bai y gallai hynny golli arian iddynt. Er enghraifft, os gallech chi wneud y canlynol:

  • mynd â chwsmeriaid at eich cyflogwr newydd pan fyddwch chi'n gadael

  • dechrau busnes cystadleuol yn yr un ardal leol

Os byddai cyfyngiad yn eich atal rhag cael swydd na fyddai’n effeithio ar eich cyn-gyflogwr, efallai nad yw’n rhesymol. Gallai cyfyngiad hefyd fod yn afresymol:

  • os yw’n para am fwy na 6 mis – oni bai fod mwy o amser yn arferol ar gyfer teitl eich swydd neu'ch diwydiant

  • os yw’n berthnasol i leoliadau lle nad yw eich cyn-gyflogwr yn gwneud busnes – er enghraifft, os yw'n sôn am ranbarth cyfan ond bod holl gwsmeriaid y cyflogwr o 1 dref

  • os yw’n berthnasol i swyddi nad ydynt yn cystadlu â'ch cyn-gyflogwr – er  enghraifft, os yw'n dweud na allwch gymryd unrhyw swydd werthu, hyd yn oed yn gwerthu gwahanol gynnyrch

  • os yw’n golygu na fyddech chi'n gallu dod o hyd i swydd o gwbl

Negodi gyda'ch cyn-gyflogwr

Efallai y byddwch chi'n gallu perswadio'ch cyn-gyflogwr i anwybyddu cyfyngiad, neu o leiaf ei wneud yn fyrrach. Er mwyn i chi ei ddilyn, byddai angen iddyn nhw fynd i'r llys i brofi bod y cyfyngiad yn rhesymol. Mae hyn yn cymryd llawer o amser a gall fod yn ddrud, felly efallai y byddai'n well ganddyn nhw gyfaddawdu.

Dechreuwch drwy esbonio pam nad ydych chi'n credu y dylai'r cyfyngiad fod yn berthnasol. Esboniwch pam na fydd eich swydd newydd yn niweidio eu busnes. Efallai eu bod nhw wedi camddeall beth yw eich swydd newydd neu ble rydych chi'n gweithio.

Gwnewch yn glir y byddwch chi'n anrhydeddu unrhyw gyfyngiadau eraill yn eich contract, fel cyfrinachedd, neu beidio â mynd at gyn-gwsmeriaid. Gall hyn helpu i ddangos na fyddwch chi'n niweidio busnes eich cyn-gyflogwr.

Os nad ydych chi'n siŵr pam mae'ch cyflogwr eisiau i chi ddilyn y cyfyngiad, gofynnwch ba fuddiannau busnes maen nhw'n ceisio'u diogelu. Efallai y byddwch chi wedyn yn gallu dod o hyd i ffyrdd o amgylch y broblem honno. Er enghraifft, os ydyn nhw'n poeni y byddwch chi'n cymryd eu cwsmeriaid, gallech chi eu sicrhau na fyddwch chi’n gwneud hynny.

Os ydych chi wedi cael mwy nag un swydd gyda'ch cyflogwr

Mae asesu a yw cyfyngiad yn rhesymol yn dibynnu ar deitl eich swydd a'ch cyfrifoldebau pan lofnodwyd eich contract – hyd yn oed os yw eich swydd wedi newid ers hynny.

Er enghraifft, os ydych chi wedi cael dyrchafiad, ni all eich cyflogwr ddadlau bod y cyfyngiad yn rhesymol yn seiliedig ar eich swydd newydd, uwch. Rhaid i'r cyfyngiad fod yn rhesymol yn seiliedig ar eich swydd wreiddiol pan lofnodwyd y contract.

Os oedd gennych swydd is pan gytunwyd i'r cyfyngiad, soniwch am hyn wrth eich cyflogwr. Efallai nad oedd gennych lawer o gyswllt â chwsmeriaid na mynediad at wybodaeth fusnes ar y pwynt hwnnw, felly efallai nad oedd y cyfyngiad yn rhesymol.

Os oes gan eich contract hefyd gyfyngiadau ar ddelio â chyn-gwsmeriaid

Dylai cyfyngiadau ar ddelio â chyn-gwsmeriaid olygu cwsmeriaid yr oeddech chi'n delio â nhw'n bersonol yn unig. Gallwch chi barhau i ddelio â chwsmeriaid na wnaethoch chi eu cyfarfod yn eich hen swydd.

Efallai y bydd eich contract yn dweud na allwch chi gysylltu â chyn-gwsmeriaid yn uniongyrchol, ond y gallwch chi wneud gwaith os bydd cyn-gwsmer yn cysylltu â chi. Gelwir hyn yn gymal peidio â dwyn cwsmeriaid (non-solicitation clause).

Neu efallai y bydd eich contract yn dweud na allwch chi wneud unrhyw fusnes o gwbl â chyn-gwsmeriaid – hyd yn oed os mai nhw sy'n cysylltu â chi. Gelwir hyn yn gyfamod peidio â delio (non-dealing covenant).

Gofynnwch i'ch cyn-gyflogwr a fyddan nhw'n gadael i chi anwybyddu'r cyfyngiad ar bwy allwch chi weithio iddynt. Rhowch sicrwydd iddynt y bydd y cyfyngiad ar ddelio â chyn-gwsmeriaid yn ddigon i amddiffyn eu busnes. Gallai fod yn afresymol cyfyngu ar bwy allwch chi weithio iddyn nhw hefyd.

Negodi gyda'ch cyflogwr newydd

Os na fydd eich cyn-gyflogwr yn cyfaddawdu, gallech hefyd ofyn i'ch cyflogwr newydd a allant roi swydd wahanol i chi nes bod y cyfyngiad y cytunwyd arno yn dod i ben. Gallai hyn fod naill ai'n fath gwahanol o swydd neu'n lleoliad gwahanol – fel na fyddwch chi yn torri'r cyfyngiad.

Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio ym maes gwerthu, gallech ofyn i'ch cyflogwr newydd roi swydd weinyddol i chi am 3 mis. Os ydych chi'n cytuno ar newid swydd dros dro, cofiwch edrych i weld a fydd eich cyflog a’ch amodau yn aros yr un fath.

Neu os oedd eich cyn-gyflogwr yn gweithio mewn tref benodol, holwch a fydd eich cyflogwr newydd yn gadael i chi weithio yn rhywle arall nes bod eich cyfyngiad yn dod i ben. Fel yna, ni fydd eich cyn-gyflogwr yn poeni y byddwch chi'n cymryd eu cwsmeriaid.

Os nad oes gan eich cyflogwr newydd unrhyw waith arall y gallech chi ei wneud, a'ch bod chi wir eisiau'r swydd, gofynnwch a allwch chi ohirio eich dyddiad dechrau nes bod eich cyfyngiad wedi dod i ben.

Os na fyddwch chi'n dilyn cyfyngiad

Os yw'ch cyflogwr eisiau i chi ddilyn y cyfyngiad ond eich bod chi'n ei anwybyddu, dim ond trwy fynd â chi i'r llys y gallan nhw eich atal rhag cymryd swydd newydd. Efallai fod hyn yn swnio'n destun pryder, ond mae'n cymryd llawer o amser a gall fod yn ddrud, felly efallai na fyddan nhw'n gwneud hynny – yn enwedig os yw'r cyfyngiad yn rhy eang.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.