Using a food bank

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae banciau bwyd yn sefydliadau cymunedol sy’n gallu helpu os na allwch chi fforddio’r bwyd sydd ei angen arnoch.

Fel arfer, bydd angen i chi gael eich cyfeirio at fanc bwyd cyn y gallwch ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnwys pob banc bwyd sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Trussell.

Gallwch gael atgyfeiriad ar eich cyfer chi eich hun ac unrhyw aelodau o’r teulu rydych chi’n byw gyda nhw – gan gynnwys eich partner.

Efallai y gallwch ddefnyddio rhai banciau bwyd heb atgyfeiriad - er enghraifft, os yw'n cael ei redeg gan eglwys. Cysylltwch â'ch banc bwyd lleol i weld a oes angen atgyfeiriad arnoch chi.

Cael atgyfeiriad

Gallwch ofyn i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf eich cyfeirio at fanc bwyd. Byddant fel arfer yn trefnu apwyntiad i chi drafod eich sefyllfa gyda chynghorydd yn gyntaf.

Bydd y cynghorydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y banc bwyd. Os ydych chi'n gymwys, byddan nhw'n rhoi taleb i chi ar gyfer eich banc bwyd agosaf.

Gallant hefyd weld a ddylech fod yn cael unrhyw fudd-daliadau nad ydych yn eu hawlio ar hyn o bryd a dweud wrthych am unrhyw gymorth lleol arall y gallech ei gael. Gall y cynghorydd roi cyngor i chi am gyllidebu ac unrhyw ddyledion sydd gennych.

Dod o hyd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os na allwch chi fynd i Gyngor ar Bopeth

Gallwch ofyn am atgyfeiriad gan sefydliad arall - er enghraifft eich meddyg teulu, cymdeithas dai neu weithiwr cymdeithasol.

Efallai y gall eich cyngor lleol ddweud wrthych sut i gael eich atgyfeirio at fanc bwyd.

Pan fyddwch yn cysylltu â'ch cyngor lleol, gofynnwch a allant hefyd eich helpu gyda chostau hanfodol eraill megis dillad a phetrol. Efallai y byddant yn rhoi cymorth i chi gan eu 'cronfa cymorth i aelwydydd' neu 'gynllun cymorth lles'.

Mae manylion cyswllt eich cyngor lleol ar gael ar GOV.UK.

Mynd i fanc bwyd

Pan fydd sefydliad yn eich atgyfeirio at fanc bwyd, bydd yn rhoi taleb i chi ac yn dweud wrthych ble mae'r banc bwyd. Gwiriwch a yw'r daleb yn ddilys ar ddiwrnod penodol yn unig - gallwch ofyn i'r sawl sy'n eich atgyfeirio.

Os yw’r banc bwyd yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Trussell, gallwch wirio’r cyfeiriad ar wefan Ymddiriedolaeth Trussell.

Bydd y banc bwyd yn rhoi parsel bwyd i chi. Bydd eich parsel fel arfer yn cynnwys digon o fwyd am 3 diwrnod. Efallai y bydd y banc bwyd hefyd yn gallu rhoi pethau ymolchi hanfodol i chi, fel past dannedd neu ddiaroglydd.

Pan fyddwch yn ymweld â'r banc bwyd, rhowch wybod iddynt os oes gennych unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol - dylent allu eich helpu.

Efallai y bydd y banc bwyd yn gallu danfon eich parsel bwyd os:

  • os ydych chi'n byw mewn ardal wledig ac yn methu fforddio teithio

  • os ydych chi'n sâl neu'n anabl ac yn methu teithio

Cysylltwch â’r banc bwyd i weld a ydyn nhw’n gallu danfon.

Os yw'r banc bwyd yn cael ei redeg gan eglwys neu grŵp crefyddol arall, byddant yn dal i'ch helpu os nad ydych yn grefyddol neu'n perthyn i grefydd wahanol.

Os oes angen i chi ddefnyddio’r banc bwyd eto

Bydd angen i chi gael atgyfeiriad arall cyn y gallwch ddefnyddio'r banc bwyd eto.

Mae gan rai banciau bwyd derfyn ar sawl gwaith y gallwch ymweld - ond mae'n dal yn werth gofyn os oes wir angen y bwyd arnoch. Os ydych chi yn y sefyllfa hon, siaradwch â chynghorydd.

Bydd y cynghorydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi i wneud yn siŵr eich bod dal yn gymwys i ddefnyddio’r banc bwyd. Byddant yn eich atgyfeirio os byddant yn cytuno mai dyma'r ffordd orau o'ch helpu. Hyd yn oed os na allant eich atgyfeirio, byddant yn rhoi cyngor i chi am ddyledion neu broblemau gyda budd-daliadau os bydd eu hangen arnoch.

Cael help gyda chostau byw

Os ydych chi dros 18 oed, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Turn2us i weld pa fudd-daliadau y gallwch eu cael.

Hefyd gallwch wirio pa gymorth arall sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau byw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.