Cynlluniau rheoli dyled – yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd dal i fyny gyda thaliadau dyled ar bethau fel cardiau credyd, benthyciadau a chardiau siop, efallai mai’r peth i chi yw cynllun rheoli dyled (CRhD).

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth yw CRhD, sut mae’n gweithio a’r hyn y bydd angen i chi feddwl amdano cyn cael un.

Beth yw dyledion sy’n cael blaenoriaeth a dyledion heb fod yn flaenoriaeth?

Mae dyledion sy’n cael blaenoriaeth yn cynnwys:

  • ôl-ddyledion rhent neu forgais 

  • ôl-ddyledion nwy a thrydan 

  • ôl-ddyledion treth gyngor neu ardrethi 

  • dirwyon llysoedd ynadon

  • ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth sy’n cael eu talu i gyn bartner neu blant 

  • ôl-ddyledion TAW neu dreth incwm 

  • ôl-ddyledion trwydded deledu neu drwydded deledu.

Yr enw am y rhain yw dyledion sy’n cael blaenoriaeth oherwydd gall y canlyniadau o beidio eu talu fod yn fwy difrifol na’r canlyniadau o beidio talu dyledion eraill.  Ni allwch chi gynnwys y dyledion hyn mewn CRhD fel arfer – holwch y darparwr CRhD.  Bydd angen i chi ddewis datrysiad dyled arall ar gyfer eich dyledion sy’n cael blaenoriaeth os nad ydych chi’n gallu eu cynnwys mewn CRhD.

Mae dyledion heb fod yn flaenoriaeth yn llai brys ac maent yn cynnwys pethau fel benthyciadau banc, cardiau credyd, benthyciadau myfyrwyr, taliadau dŵr a gordaliadau budd-daliadau.

Beth yw CRhD?

Mae CRhD yn gytundeb anffurfiol rhyngoch chi a’ch credydwyr er mwyn talu eich dyledion yn ôl.

Byddwch chi’n talu’r ddyled yn ôl mewn un taliad misol penodol, sy’n cael ei rannu rhwng eich credydwyr.

Mae’r rhan fwyaf o Gynlluniau Rheoli Dyled yn cael eu rheoli gan ddarparwr CRhD, sy’n delio gyda’ch credydwyr ar eich rhan chi.  Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ddelio â’ch credydwyr eich hunan.

Nid yw CRhD yn rhwymo mewn cyfraith, sy’n golygu nad ydych chi’n cael eich clymu am gyfnod byrraf ac rydych yn gallu ei ganslo unrhyw bryd.

Ai CRhD yw’r peth iawn i chi?

Gallai CRhD fod yn ddewis da os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n gallu fforddio talu eich costau byw ac mae gennych chi ffordd o ddelio ag unrhyw ddyledion sy’n cael blaenoriaeth, ond rydych chi’n ei chael hi’n anodd dal i fyny gyda’ch cardiau credyd a’ch benthyciadau

  • byddech chi’n dymuno i rywun ddelio â’ch credydwyr ar eich rhan

  • bydd talu un taliad misol penodol yn eich helpu i gyllidebu.

Ond, mae angen i chi fod yn siŵr eich bod yn deall yr effaith y bydd CRhD yn ei chael:

  • efallai y bydd yn cymryd yn hirach i chi dalu eich dyled yn ôl oherwydd y byddwch chi’n talu llai bob mis

  • efallai na fydd eich credydwyr yn rhewi’r llog a’r taliadau ar eich dyledion, felly efallai na fydd swm eich dyled yn lleihau gymaint ag y byddech chi’n ei ddisgwyl

  • efallai y bydd eich darparwr CRhD yn codi ffi arnoch chi, er bod sawl darparwr am ddim y gallwch chi eu defnyddio, felly nid oes angen talu os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny

  • efallai y bydd eich credydwyr yn gwrthod cydweithredu neu efallai y byddant yn parhau i gysylltu â chi

  • efallai y bydd y CRhD yn ymddangos ar eich cofnod credyd, a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach i chi gael credyd yn y dyfodol.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw hyn yn swnio’n iawn i chi, efallai yr hoffech chi ystyried dewisiadau eraill er mwyn delio â’ch dyledion.

Dyledion ar y cyd a Chynlluniau Rheoli Dyled

Os oes gennych chi ddyled ar y cyd gyda rhywun arall, gall hon gael ei chynnwys yn eich CRhD.  Ond, efallai y bydd eich credydwyr yn mynd ar ôl yr unigolyn arall am yr holl ddyled.  Mae hyn oherwydd pryd bynnag y byddwch chi’n cael cytundeb credyd, fel benthyciad neu gyfrif banc, gydag unigolyn arall, mae’r ddau ohonoch chi yn atebol am swm llawn y ddyled.  Yr enw am hyn yw atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol.

Os ydych chi a’ch partner yn ei chael hi’n anodd talu dyledion, efallai yr hoffech chi ystyried creu CRhD ar y cyd, lle y byddai’r ddau ohonoch chi yn gyfrifol am y cynllun talu’n ôl.  Nid oes gwahaniaeth os oes gennych chi wahanol lefelau incwm neu ddyledion.  Gallwch chi gynnwys dyledion sydd mewn un enw yn unig mewn CRhD ar y cyd hefyd.

Sut i gael CRhD 

Os ydych chi wedi penderfynu mai CRhD yw’r peth iawn i chi, bydd angen i chi ddilyn y camau hyn i drefnu un:

  • gwneud yn siŵr eich bod chi wedi delio â’ch dyledion sy’n cael blaenoriaeth yn gyntaf

  • cyfrifo eich cyllideb i weld a oes gennych chi ddigon o incwm ar gael i dalu eich taliad misol

  • dewis darparwr CRhD, gan gofio eich bod yn gallu dewis darparwr am ddim

  • edrych ar y cytundeb neu’r contract yn ofalus.

Y camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 15 Rhagfyr 2020