Os ydych chi'n cael trafferth talu eich cerdyn credyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wella eich sefyllfa. Efallai y bydd eich cwmni cerdyn credyd yn cytuno i leihau neu oedi eich taliadau - mae'n dibynnu ar eich sefyllfa.

Ceisiwch beidio â phrynu unrhyw beth arall ar eich cerdyn credyd. Bydd hyn yn eich helpu i sicrhau bod eich dyledion cerdyn credyd dan reolaeth.

Os oes gennych chi ddyledion eraill

Cyn i chi ddelio â'ch dyledion cerdyn credyd, ewch i weld os yw unrhyw un o'ch dyledion eraill yn fwy difrifol – caiff y rhain eu galw’n 'ddyledion â blaenoriaeth'. Mae dyledion â blaenoriaeth yn cynnwys:

  • rhent a morgais

  • nwy a thrydan

  • y dreth gyngor

  • dirwyon llys

Os nad ydych chi'n delio â'ch dyledion â blaenoriaeth, efallai y byddwch chi er enghraifft yn colli eich cartref neu gallai eich cyflenwad ynni gael ei dorri i ffwrdd.

Edrychwch a oes gennych chi unrhyw ddyledion â blaenoriaeth cyn delio â'ch dyled cerdyn credyd.

Edrych os ydych chi'n gyfrifol am y ddyled

Rydych chi'n gyfrifol am y ddyled os ydych chi wedi llofnodi contract gyda'r cwmni cerdyn credyd. Caiff hyn ei alw’n 'gytundeb credyd'.

Mewn rhai achosion, efallai eich bod wedi llofnodi cytundeb credyd ynghyd â rhywun arall - er enghraifft eich partner. Os yw'r ddau enw ar y cytundeb, mae'r ddau ohonoch chi'n gyfrifol am y ddyled. Os yw'r person arall yn stopio talu, gall y cwmni cerdyn credyd wneud i chi dalu'r swm llawn.

Os ydych chi'n ddeiliad cerdyn ychwanegol ar gerdyn credyd rhywun arall, dim ond os ydych chi'n llofnodi'r cytundeb credyd yr ydych chi'n gyfrifol am y ddyled. 

Os nad ydych chi'n gyfrifol am y ddyled a bod cwmni cerdyn credyd yn ceisio gwneud i chi dalu, esboniwch y sefyllfa a gofynnwch iddynt stopio. Os nad ydyn nhw'n stopio, gallwch wneud cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol. Maen nhw’n ymchwilio i gwynion am fanciau a chymdeithasau adeiladu a gallan nhw wneud iddynt stopio. 

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ar eu gwefan.

Edrych os ydi eich cwmni cerdyn credyd wedi torri'r rheolau pan wnaethoch chi’r cais

Os na wnaeth y cwmni ddilyn y rheolau pan wnaethoch chi wneud cais gyntaf, efallai y bydd yn rhaid iddynt ganslo neu 'ddileu' eich dyled. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft:

  • os na wnaethon nhw wirio a oeddech chi’n gallu fforddio’r ad-daliadau 

  • eu bod wedi pwyso arnoch chi i lofnodi cytundeb credyd

  • doeddech chi ddim yn deall beth oeddech chi’n ei lofnodi

Os ydych chi'n meddwl bod eich cwmni credyd wedi torri unrhyw un o'r rheolau hyn, dylech chi siarad â chynghorwr

Os ydych chi wedi cael llythyr am y ddyled

Peidiwch ag anwybyddu'r llythyr - mae'n well gweithredu'n gyflym rhag i’r sefyllfa fynd yn waeth.

Os ydych chi wedi cael llythyr yn dweud y bydd eich cwmni cerdyn credyd yn mynd â chi i'r llys, edrychwch sut i ddelio ag achos llys.

Os ydych chi wedi bod i'r llys yn barod a bod eich llythyr yn dweud y gallai beilïaid ddod i’ch tŷ, edrychwch sut y gallwch chi atal y beilïaid rhag dod.

Os ydych chi'n cael cynnig cynllun ad-dalu 

Efallai y byddwch chi’n cael llythyr gan eich cwmni cerdyn credyd sy'n cynnig cynllun ad-dalu i chi. Byddan nhw’n gwneud hyn os ydych chi wedi bod yn talu'ch dyled am 36 mis neu fwy.

Bydd y llythyr yn esbonio sut y gallwch chi dalu eich dyled mewn 4 blynedd. Os nad ydych chi’n cytuno â'r cynllun, bydd eich cwmni cerdyn credyd yn stopio'ch cerdyn.

Os na allwch chi dalu'r hyn y mae'r llythyr yn ei awgrymu, cysylltwch â'r cwmni cerdyn credyd a dywedwch wrthynt faint y gallwch ei dalu - neu dywedwch wrthynt os na allwch dalu o gwbl. Os ydyn nhw'n dal i godi llog neu ffioedd, gofynnwch iddyn nhw stopio.

Os nad ydych chi'n meddwl bod eich cwmni cerdyn credyd yn rhesymol, dylech wneud cwyn. Os oes angen help arnoch i wneud hyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol ar eu gwefan.

Gweithio allan beth allwch chi fforddio ei dalu

Os ydych chi'n gyfrifol am y ddyled, dylech gael trefn ar eich arian. Bydd hyn yn eich helpu i wybod faint sydd gennych chi ar ôl bob mis ar ôl talu'ch biliau hanfodol a'ch dyledion â blaenoriaeth. Y swm sydd gennych ar ôl yw’r 'incwm sydd ar gael'.

Ceisiwch fod mor gywir ag y gallwch. Cyn i chi wneud cyllideb, dewch o hyd i'r copi diweddaraf o’ch:

  • cyfriflenni banc

  • slipiau cyflog

  • cyfriflenni cardiau debyd a chredyd

Gallwch ddefnyddio eich cyllideb i benderfynu faint o incwm sydd ar gael y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer ad-daliadau cardiau credyd a dyledion eraill nad ydyn nhw’n flaenoriaeth. 

Dylech geisio talu o leiaf yr isafswm taliad ar eich cerdyn credyd os gallwch. Os ydych chi'n talu llai na'r isafswm taliad, gallai eich cwmni cerdyn credyd ychwanegu taliadau. Bydd hyn yn effeithio ar faint eich dyled a'ch sgôr credyd. 

Os gallwch chi fforddio gwneud ad-daliadau rheolaidd, trefnwch ddebyd uniongyrchol i'ch cyfrif cerdyn credyd. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gwneud yr un ad-daliadau yn awtomatig bob mis. 

Dylech gadw copi o'ch cyllideb. Os oes angen i chi ofyn i'ch cwmni cerdyn credyd am ad-daliadau is, gallwch anfon eich cyllideb atynt. Bydd yn dangos bod yr hyn rydych chi'n cynnig ei dalu yn deg.

Gallwch ddefnyddio’r adnodd cyllidebu i weithio allan eich cyllideb.

Os oes gennych chi fwy nag 1 cerdyn

Talwch yr isafswm taliadau ar gyfer pob cerdyn os gallwch. Os gallwch chi fforddio talu mwy, defnyddiwch yr arian i dalu'r cerdyn gyda'r ad-daliadau mwyaf costus.

Os mai dim ond yr isafswm ad-daliad y gallwch ei fforddio

Dylech barhau i dalu'r isafswm gan y byddwch yn osgoi talu ffioedd - ond codir llog arnoch chi.

Os nad ydych chi'n meddwl bod eich sefyllfa yn debygol o newid, efallai y byddwch chi'n gallu:

  • symud y ddyled i gerdyn arall sy'n codi llai o log – caiff hyn ei alw’n ‘drosglwyddo balans’

  • cael benthyciad sy'n codi llai o log na'ch cerdyn credyd

Cymharwch y cardiau neu'r benthyciadau y gallwch eu cael gan wahanol gwmnïau. Ystyriwch y canlynol:

  • os bydd ffi i symud eich balans i gerdyn arall

  • pa log a thaliadau y byddwch chi'n eu talu ar y cerdyn neu’r benthyciad newydd 

  • hyd unrhyw gyfnod di-log  

Dylech ddim ond defnyddio benthyciad neu gerdyn newydd i helpu i dalu'r ddyled sydd gennych yn barod. Peidiwch â gwario mwy ar eich cerdyn credyd presennol.

Os ydych chi'n cael benthyciad, peidiwch â chael benthyciad sy'n gysylltiedig â'ch cartref - fel morgais. Efallai y byddwch chi'n colli eich cartref os na allwch ei dalu'n ôl.

Os na allwch chi gael cerdyn neu fenthyciad arall

Efallai na fyddwch chi’n gallu cael cerdyn neu fenthyciad os nad oes gennych sgôr credyd da. Gallai hyn ddigwydd os ydych chi wedi gwneud cais am lawer o gardiau credyd neu wedi methu taliad misol.

Dylech edrych os yw eich sgôr credyd yn iawn. Efallai y byddwch chi'n gallu cywiro camgymeriad i wella'ch sgôr a fyddwch chi ddim yn gwneud y sgôr yn waeth trwy wirio. Gallwch weld sut i wirio eich sgôr credyd ar wefan Helpwr Arian.

Daliwch ati i dalu cymaint ag y gallwch ar yr hen gerdyn. Siaradwch â'ch cwmni cerdyn credyd ac esboniwch eich sefyllfa. Gofynnwch iddyn nhw rewi’r llog a thaliadau eraill. 

Os na allwch chi fforddio'r isafswm ad-daliad 

Cysylltwch â'ch cwmni cerdyn credyd ac esboniwch eich sefyllfa. Cynigwch ddangos eich cyllideb iddynt a soniwch am unrhyw ddyledion â blaenoriaeth y mae angen i chi eu talu.

Os ydych chi'n meddwl y bydd eich sefyllfa yn gwella yn ystod y misoedd nesaf, gofynnwch i'ch cwmni cerdyn credyd rewi’r llog a thaliadau eraill. Gallwch ofyn iddyn nhw naill ai:

  • oedi’r ad-daliadau ar eich cerdyn – mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu unrhyw beth nes bod eich sefyllfa’n gwella

  • cytuno ar gynllun ad-dalu gyda chi - mae hyn yn golygu gwneud taliadau y gallwch eu fforddio dros gyfnod penodol o amser

Mwy o wybodaeth am gytuno ar gynllun ad-dalu sy’n gweithio i chi.

Os nad ydych chi'n meddwl bod eich sefyllfa yn debygol o newid am amser hir, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud cytundeb ffurfiol i'ch helpu i ddod allan o ddyled. Gweld beth yw eich opsiynau i dalu eich dyledion.

Cael help gyda chostau byw

Dywedwch wrth eich cwmni cerdyn credyd os ydych chi'n cael trafferth a soniwch am 'gostau byw.' Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi dweud wrth bob cwmni cardiau credyd bod angen iddynt helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda chostau byw.

Gweld beth arall y gallwch ei wneud os oes angen help arnoch chi gyda chostau byw.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2022