Stopio beilïaid wrth eich drws

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pwysig

Os bydd beili'n dweud eu bod yn eich troi chi allan

Bydd angen i chi gael cyngor gwahanol. Edrychwch i weld beth i’w wneud os bydd beili’n dweud ei fod yn eich troi allan ar wefan Shelter.

Gall beilïaid (a elwir hefyd yn ‘asiantau gorfodi’) sy’n ymweld â’ch cartref fod yn brofiad sy’n achosi straen ond mae gennych hawliau ac ni ddylech gael eich bwlio.

Dim ond rhwng 6am a 9pm y caiff beilïaid geisio dod i mewn i’ch cartref.

Ddylech chi ddim gadael beili i mewn i'ch cartref - mae bob amser yn well ceisio datrys eich dyled drwy eu cadw y tu allan a siarad drwy'r drws neu dros y ffôn.

Gwnewch yn siŵr bod eich drysau wedi’u cloi – mae beilïaid yn cael dod i mewn drwy ddrysau heb eu cloi. Os oes gennych bortsh gyda drws y gellir ei gloi, dylech ei chloi hefyd.

Yn dibynnu ar y math o ddyled sy'n ddyledus gennych, weithiau bydd gan y beili'r hawl i orfodi mynediad drwy ofyn i saer cloeau agor eich drws os na fyddwch yn eu gadael i mewn. Mae'n annhebygol iawn y byddan nhw’n gwneud hyn - fe ddylech chi gael cyfle o hyd i dalu heb iddyn nhw ddod i mewn.

Ffoniwch 999 os ydych chi'n cael eich bygwth yn gorfforol gan feili - peidiwch â'u gadael i mewn i'ch cartref.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi

Rhaid i feilïaid ddilyn rheolau ychwanegol os ydyn nhw’n eich ystyried yn ‘agored i niwed’. Gallech chi gael eich ystyried yn agored i niwed os:

  • os ydych chi'n anabl neu'n ddifrifol wael

  • oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi dan 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n gallu siarad neu ddarllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi mewn sefyllfa llawn straen fel profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra

Cyn i chi siarad â beilïaid, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylen nhw eu dilyn os ydych chi’n agored i niwed.

Cael prawf o bwy ydyn nhw

Y peth cyntaf i’w wneud pan fydd beili’n cyrraedd yw gofyn am brawf o bwy ydyn nhw a pham eu bod yn ymweld.

Os ydyn nhw’n dweud eu bod yn ‘casglu dyledion’, dywedwch wrthyn nhw am adael. Does ganddyn nhw ddim yr un pwerau â beilïaid ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd os gofynnwch iddyn nhw wneud hynny.

Os ydyn nhw’n dweud eu bod yn feili neu’n asiant gorfodi, gofynnwch iddyn nhw ddangos bathodyn, cerdyn adnabod neu ‘dystysgrif asiant gorfodi’ i chi. Rhaid i bob beili cofrestredig gario prawf o bwy ydyn nhw.

Bydd angen iddyn nhw hefyd ddweud wrthych chi o ba gwmni y maen nhw’n dod a rhoi rhif ffôn cyswllt i chi ar gyfer y brif swyddfa.

Dywedwch wrthyn nhw am basio’r dogfennau drwy eich blwch llythyrau neu eu dangos i chi wrth ffenestr. Bydd eu prawf adnabod yn dangos eu henw a pha fath o feili ydyn nhw.

I wirio pwy ydyn nhw, dylech naill ai:

Dywedwch wrthyn nhw am adael os na allen nhw brofi pwy ydyn nhw. Dywedwch y byddwch yn rhoi gwybod i’r heddlu amdanyn nhw os na fyddan nhw’n mynd. Os na fyddan nhw’n gadael, dylech ffonio 999.

Holwch i weld a all y beili orfodi mynediad

Gallai’r beili fod â’r hawl i orfodi mynediad i’ch cartref neu i’ch busnes os ydyn nhw’n casglu’r canlynol:

  • dirwyon llys ynadon heb eu talu, er enghraifft os cawsoch chi ddirwy am beidio â thalu eich trwydded deledu

  • dyledion treth ar gyfer Cyllid a Thollau EF, er enghraifft os oes arnoch chi dreth incwm

Bydd angen iddyn nhw ddangos prawf i chi o'r hyn sy'n ddyledus gennych chi a 'gwarant' neu ddogfen a elwir yn 'writ' gan lys. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddogfennau wedi’u llofnodi a’u bod yn cynnwys y dyddiad, a gwnewch yn siŵr fod eich enw a’ch cyfeiriad yn gywir.

Does ganddyn nhw ddim hawl i dorri'ch drws i lawr - rhaid iddyn nhw ddefnyddio 'grym rhesymol'. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw ddod yn ôl gyda saer cloeau a fydd yn datgloi'r drws.

Mae'n annhebygol iawn y byddan nhw'n gwneud hyn - fel arfer bydd gennych amser o hyd i wneud cynnig i ddatrys y ddyled.

Mae’n well cysylltu â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth lleol i gael help os yw'r beilïaid yn dweud eu bod yn cael saer cloeau i orfodi mynediad i'ch cartref.

Os byddwch yn gadael y beili i mewn i’ch cartref

Os penderfynwch eu gadael i mewn ac na allwch chi fforddio talu'r hyn sy'n ddyledus gennych ar unwaith, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud 'cytundeb nwyddau dan reolaeth'. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cytuno ar gynllun ad-dalu ac yn talu rhai ffioedd beili.

Ewch i weld sut mae gwneud cytundeb nwyddau dan reolaeth gyda beilïod.

Os na fyddwch chi’n cytuno, gallai’r beilïaid gymryd eich pethau i’w werthu a thalu eich dyled. Darllenwch fwy am beth fydd yn digwydd os bydd beilïaid yn dweud y byddan nhw’n gwerthu eich eiddo.

Os nad yw beili’n cael gorfodi mynediad

Os yw’r beili’n casglu unrhyw fath arall o ddyled, nid ydyn nhw’n cael gorfodi neb i fynd i mewn.

Mae hyn yn cynnwys os ydyn nhw’n casglu’r canlynol:

  • ôl-ddyledion treth gyngor

  • dyledion cardiau credyd neu gatalog

  • tocynnau parcio heb eu talu

  • arian sy’n ddyledus gennych chi i gwmni ynni neu gwmni ffôn

Mae gennych chi hawl i’w cadw y tu allan a siarad drwy’r drws caeedig. Gwnewch yn siŵr bod pawb arall yn eich cartref yn gwybod i beidio â’u gadael i mewn.

Gofynnwch am ddadansoddiad llawn o’r ddyled maen nhw’n ei chasglu a phwy yw’r ‘credydwr’ – dyma’r unigolyn neu’r cwmni maen nhw’n dweud bod arnoch chi arian iddo. Dywedwch wrthyn nhw am basio unrhyw ddogfennau drwy’r blwch llythyrau neu o dan y drws.

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddogfennau maen nhw’n eu rhoi i chi o fewn y dyddiad iawn, a gwnewch yn siŵr fod eich enw a’ch cyfeiriad yn gywir.

Os mai dyled rhywun arall ydyw, dywedwch y byddwch chi’n cysylltu â phrif swyddfa'r beili i esbonio ac i ddweud wrthyn nhw am adael. Ewch i weld sut mae profi nad eich dyled chi yw hi.

Os mai eich dyled chi ydyw, dywedwch wrth y beili am adael a dywedwch y byddwch chi’n siarad â’u prif swyddfa i wneud trefniadau i dalu.

Mae’n bosibl y bydd y beili'n dweud bod yn rhaid i chi eu talu nhw ar garreg y drws neu fod yn rhaid i chi eu gadael i mewn - does dim rhaid i chi wneud hynny. Does ganddyn nhw ddim hawl i orfodi eu ffordd i mewn i'ch cartref ac allan nhw ddim dod â saer cloeau gyda nhw i'w helpu i fynd i mewn.

Fel arfer, byddant yn gadael os byddwch yn gwrthod eu gadael i mewn - ond byddan nhw’n ôl os na fyddwch yn trefnu i dalu eich dyled. Mae'n bwysig gwneud hyn cyn gynted ag y gallwch, neu fel arall gall y beilïaid ychwanegu ffioedd at eich dyled.

Gallwch gwyno os na fydd y beili'n gadael a'ch bod yn meddwl eu bod yn aflonyddu arnoch chi.

Os ydych chi wedi torri ‘cytundeb nwyddau dan reolaeth’

Mae’n bosibl y cewch chi lythyr a elwir yn 'hysbysiad o fwriad i ddod yn ôl i mewn' os ydych wedi torri 'cytundeb nwyddau dan reolaeth'. Mae hyn yn golygu bod gan y beili hawl i fynd i mewn i’ch cartref gan ddefnyddio ‘grym rhesymol’. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio saer cloeau i ddatgloi eich drws - does ganddyn nhw ddim hawl i'w dorri i lawr.

Efallai y bydd amser o hyd i ail-negodi eich cytundeb nwyddau dan reolaeth ac atal y beilïaid rhag ymweld - dylech chi weithredu'n gyflym.

Edrychwch beth i’w wneud os ydych chi wedi torri cytundeb nwyddau dan reolaeth .

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.