Dychwelyd nwyddau diffygiol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le gydag eitem rydych chi wedi’i phrynu, efallai y bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad, i drwsio'r eitem, neu i gael un newydd.

Os ydych chi’n cael problem gyda char ail law, efallai y bydd gennych hawl gyfreithiol i gael trwsio’r car neu gael eich arian yn ôl. Gallwch gael gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n cael problem gyda char ail law.

Does dim ots a ydych chi wedi prynu'r eitem yn newydd neu'n ail law – mae gennych chi hawliau’r naill ffordd neu’r llall.

Bydd gennych chi hawliau cyfreithiol os yw'r eitem a brynwyd gennych:

  • wedi torri neu wedi'i ddifrodi – gelwir hyn yn ‘ansawdd anfoddhaol’

  • ddim yn gallu cael ei ddefnyddio – gelwir hyn yn ‘anaddas i’r diben’

  • ddim yr un peth â’r hyn a gafodd ei hysbysebu neu ddim yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr

Ni fydd gennych chi hawliau cyfreithiol:

  • os yw wedi'i ddifrodi yn sgil traul, damwain neu gamddefnydd

  • os oeddech chi’n gwybod am y nam cyn i chi brynu'r eitem

Os nad oes dim o'i le ar yr eitem ond eich bod wedi newid eich meddwl, efallai y gallwch ei dychwelyd os ewch ati i weithredu’n gyflym. Ewch i weld beth yw eich hawliau os ydych chi wedi newid eich meddwl am rywbeth rydych chi wedi'i brynu.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.