Rhoi gwybod am sgam
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi cael eich sgamio, mae sefydliadau y dylech chi roi gwybod iddyn nhw am y sgam.
Peidiwch â theimlo cywilydd wrth riportio sgam – mae sgamwyr yn glyfar a gall sgamiau ddigwydd i unrhyw un.
Mae rhoi gwybod am sgam yn helpu i ddod o hyd i sgamwyr a’u hatal. Mae hyn yn atal pobl eraill rhag cael eu sgamio.
Dylech chi wneud y canlynol:
diogelu eich hun rhag risgiau pellach
casglu holl fanylion y sgam
rhoi gwybod i ni am y sgam
rhoi gwybod i sefydliadau eraill am y sgam
Diogelu eich hun rhag risgiau pellach
Cyn i chi roi gwybod am sgam, mae camau y gallwch chi eu cymryd i ddiogelu eich hun rhag i bethau waethygu. Edrychwch beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich sgamio.
Pryd i ffonio’r heddlu
Cysylltwch â’r heddlu ar unwaith drwy ffonio 101:
os yw'r sgamiwr yn eich ardal chi
os ydych chi wedi trosglwyddo arian i’r sgamiwr yn ystod y 24 awr ddiwethaf
Os ydych chi’n teimlo dan fygythiad neu’n anniogel, ffoniwch 999.
Casglu holl fanylion y sgam
Ysgrifennwch fanylion eich sgam. Bydd hyn yn eich helpu i gofio’r holl wybodaeth bwysig pan fyddwch yn ei riportio.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:
gyda phwy rydych chi wedi bod mewn cysylltiad – ysgrifennwch enwau, rhifau a chyfeiriadau os oes gennych chi rai
pam eich bod yn amheus
pa wybodaeth rydych chi wedi'i rhannu - er enghraifft, cyfrineiriau, PINs, neu fanylion banc
a ydych chi wedi talu unrhyw arian
sut rydych chi wedi talu – er enghraifft, cerdyn credyd neu drosglwyddiad banc
Rhoi gwybod i ni am y sgam
Gallwch naill ai riportio sgam drwy:
Os oes angen help arnoch chi, gallwch ddweud wrthym pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen, neu pan fyddwch yn ffonio.
Ni fydd ein ffurflen ar-lein ar gael Ddydd Sul 22 Mehefin 2025
Gallwch ein ffonio neu sgwrsio â ni ar-lein o 9am Ddydd Llun 23 Mehefin.
Beth fyddwn ni’n ei wneud pan fyddwch chi'n rhoi gwybod i ni am sgam
Ar ôl i ni gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn ei throsglwyddo i Safonau Masnach. Dydyn ni ddim yn ymchwilio i sgamiau ein hunain.
Mae Safonau Masnach yn casglu gwybodaeth am sgamiau er mwyn iddyn nhw allu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn sgamwyr.
Beth mae Safonau Masnach yn ei wneud
Safonau Masnach fydd yn penderfynu a ddylid ymchwilio ai peidio. Efallai y byddan nhw’n cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Gan ddibynnu ar yr hyn y byddan nhw’n dod o hyd iddo, gallen nhw erlyn y sgamwyr neu eu hatal rhag gweithredu.
Hyd yn oed os nad yw Safonau Masnach yn cysylltu â chi, efallai y byddan nhw’n defnyddio eich tystiolaeth i gymryd camau yn y dyfodol.
Rhoi gwybod i sefydliadau eraill am y sgam
Dylech chi hefyd roi gwybod i sefydliadau eraill am sgamiau. Mae hyn yn cynyddu’r siawns y bydd sgamwyr yn cael eu dal a’u stopio.
Dylech chi roi gwybod am bob math o sgamiau i Action Fraud, canolfan genedlaethol y DU ar riportio twyll.
Gall Action Fraud gael y Swyddfa Genedlaethol Gwybodaeth am Dwyll i ymchwilio i sgamiau. Byddan nhw hefyd yn rhoi cyfeirnod trosedd i chi, a all fod yn ddefnyddiol os oes angen i chi ddweud wrth eich banc eich bod wedi cael eich sgamio. Darllenwch ein cyngor ar geisio cael eich arian yn ôl ar ôl sgam.
Y ffordd gyflymaf o roi gwybod am sgam i Action Fraud yw ar-lein, ond gallwch chi hefyd roi gwybod am sgam dros y ffôn.
Action Fraud
Ffôn: 0300 123 2040
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0300 123 2050
Gallwch chi ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm
Mae galwadau’n costio 40c y funud o ffôn symudol, a hyd at 10c y funud o linell dir. Dylai fod am ddim os oes gennych chi gontract sy’n cynnwys galwadau i linellau tir. Holwch eich cyflenwr os nad ydych chi’n siŵr.
Mae sefydliadau eraill y dylech chi roi gwybod iddyn nhw am eich sgam, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd.
Os cawsoch chi neges destun sgam
Anfonwch y neges ymlaen at 7226. Bydd yn mynd at eich darparwr ffôn. Byddan nhw’n ymchwilio i bwy anfonodd y neges ac efallai byddan nhw’n gallu rhwystro neu wahardd yr anfonwr.
Os cawsoch chi neges e-bost sgam
Anfonwch yr e-bost ymlaen at report@phishing.gov.uk. Bydd yn mynd i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – efallai y byddan nhw’n gallu atal pobl eraill rhag cael eu sgamio.
Os cawsoch chi lythyr sgam drwy’r post
Mae’r Post Brenhinol yn ymchwilio i sgamiau post. Os ydych chi wedi cael rhywbeth yn y post sy’n sgam, gallwch chi roi gwybod am y sgam ar wefan y Post Brenhinol. Bydd angen i chi glicio 'Nesaf' i ddechrau.
Gallwch hefyd ei anfon i 'Freepost Scam Mail'. Dylech gynnwys yr amlen y daeth ynddi ac adroddiad post sgam wedi’i gwblhau.
Gallwch chi lwytho adroddiad sgam post i lawr oddi ar wefan y Post Brenhinol.
Bydd angen i chi glicio ar ‘Ffyrdd eraill o gysylltu â ni’ i’w weld – o dan y pennawd ‘Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael post sgam’. (tudalennau Saesneg yn unig)
Os na allwch chi lwytho'r adroddiad oddi ar y we, gallwch eu ffonio a gofyn am ffurflen ac amlen barod.
Post Brenhinol
E-bost: scam.mail@royalmail.com
Ffôn: 0800 011 3466
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych chi wedi gweld hysbyseb sgam ar-lein
Dylech chi roi gwybod i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) am hysbyseb sgam ar-lein.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu riportio hysbyseb pan fyddwch chi’n ei gweld. Er enghraifft, mae Google, Facebook ac Instagram yn gadael i chi ddweud wrthyn nhw am hysbysebion sgam. Os ydych chi wedi gwneud hyn, gallwch roi gwybod i’r ASA amdanyn nhw o hyd.
Os yw’r sgam yn ymwneud â gwasanaethau ariannol
Os yw'r sgam yn cynnwys cryptoarian, buddsoddiadaum yswiriant neu bensiynau, rhowch wybod i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich sgamio i drosglwyddo'ch pensiwn, cysylltwch â darparwr eich pensiwn ar unwaith. Yna cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau.
Os yw sgamiwr yn dynwared cwmni neu unigolyn
Cysylltwch â’r unigolyn neu’r cwmni go iawn i roi gwybod iddyn nhw fod eu henw’n cael ei ddefnyddio ar gam.
Mae sgam ffug cyffredin yn cynnwys negeseuon e-bost, negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n ymddangos eu bod yn dod gan Gyllid a Thollau EF. Efallai y byddan nhw’n dweud wrthych chi am ad-daliad treth neu'n gofyn am eich gwybodaeth bersonol. Rhoi gwybod am sgamiau CThEF.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Mehefin 2019