Rhoi stop ar alwadau a negeseuon testun niwsans

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Rhoi stop ar alwadau niwsans

Mae rhai camau y gallwch eu cymryd i roi stop ar alwadau niwsans nad ydych chi eu heisiau.

Ni ddylech gael galwadau niwsans os na roesoch eich rhif i’r galwr – er enghraifft:

  • galwadau digroeso sy’n ceisio gwerthu rhywbeth i chi nad ydych chi ei eisiau neu ei angen, megis gwydr dwbl

  • negeseuon wedi’u recordio neu negeseuon awtomataidd yn dweud wrthych fod iawndal yn ddyledus i chi, efallai am bolisi yswiriant a gamwerthwyd, megis PPI

Os ydych chi’n cael galwadau am PPI neu am ddamweiniau

Ni all cwmnïau sy'n eich ffonio am hawliadau PPI, hawliadau anaf personol neu hawliadau eraill eich ffonio oni bai eich bod wedi dweud wrthynt y gallant wneud hynny.  

Os byddant yn ffonio heb eich caniatâd, gallwch roi gwybod i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth amdanynt

Mae’n ddefnyddiol os ydych chi’n gwybod o ba rif y daeth yr alwad a’r dyddiad a’r amser y gwnaethon nhw ffonio. Os nad yw’r holl wybodaeth gennych, gallwch roi manylion eraill yr alwad – er enghraifft, enw’r cwmni a’ch ffoniodd chi.

Bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn ymchwilio ac yn gallu rhoi dirwy i’r cwmni a ffoniodd.

Cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn

Y ffordd orau o leihau galwadau niwsans yw cofrestru am ddim gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (TPS).

Bydd y gwasanaeth yn eich ychwanegu at ei restr o rifau sydd ddim am gael galwadau gwerthu a marchnata. Mae’n anghyfreithlon i bobl gwerthu o’r DU neu dramor ffonio rhifau sydd wedi’u cofrestru gyda’r TPS.

Ni fydd cofrestru’n rhoi stop ar alwadau marchnata awtomataidd, a elwir hefyd yn ‘alwadau a gynhyrchir gan gyfrifiadur’. Mae hyn oherwydd bod y gyfraith dim ond yn berthnasol i bobl, nid i gyfrifiaduron. Dylech siarad â’ch darparwr ffôn am sut i roi stop ar y galwadau hyn.

Ni fydd cofrestru gyda TPS yn rhoi stop ar alwadau gan sgamwyr chwaith. Dysgwch sut i roi gwybod am sgam.

I gofrestru gyda TPS bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif ffôn

  • eich cod post

  • eich cyfeiriad e-bost

Y ffordd gyflymaf o gofrestru yw drwy fynd i wefan TPS a llenwi ffurflen gofrestru ar-lein ar gyfer y gwasanaeth.

Os na allwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, gallwch gofrestru gyda TPS dros y ffôn yn lle hynny:

Cofrestru awtomataidd 24 awr TPS

Ffôn: 0345 070 0707

Mae’n debyg y bydd eich galwad am ddim os oes gennych chi gytundeb ffôn sy’n cynnwys galwadau am ddim i linellau tir - rhagor o wybodaeth am ffonio rhifau 0345.

Gallwch hefyd gofrestru o’ch ffôn symudol drwy anfon neges destun yn nodi ‘TPS’ a’ch cyfeiriad e-bost i 85095.

Os ydych chi’n dal i gael galwadau niwsans 28 diwrnod ar ôl cofrestru gyda TPS, mae’n bosibl bod hyn oherwydd eich bod wedi rhoi eich rhif i’r galwr. Rhowch wybod i’r galwr unigol nad ydych chi eisiau iddyn nhw gysylltu â chi eto, a dylen nhw roi’r gorau i’ch ffonio chi.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn dal i gael galwadau gan gwmnïau nad ydynt yn dilyn y rheoliadau. Gallwch gwyno am gwmnïau sy'n anwybyddu'r gyfraith ar wefan y TPS.

Os yw unrhyw un yn honni eu bod nhw o TPS ac yn gofyn am arian i gofrestru, mae'n sgam - dysgwch sut i roi gwybod am sgam.

Os ydych chi eisiau atal trydydd partïon rhag cysylltu â chi

Er mwyn ceisio atal y broblem rhag digwydd eto, dylech bob amser wirio unrhyw ffurflenni rydych chi’n eu llenwi am flychau ticio sy’n dweud rhywbeth fel “Rwy'n rhoi caniatâd i drydydd partïon gysylltu â mi dros y ffôn” neu “Rwy'n rhoi caniatâd i chi gysylltu â mi dros y ffôn”. Peidiwch â thicio'r blychau os nad ydych chi eisiau i rywun gysylltu â chi.

Rhwystro galwadau niwsans

Mae cynnyrch ar gael i rwystro rhai galwadau (megis galwadau rhyngwladol neu rifau sy'n cael eu cuddio) ond byddwch yn ofalus nad ydynt hefyd yn rhwystro galwadau rydych chi eu heisiau. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn a oes wasanaeth ganddynt i rwystro rhai rhifau, neu gallwch osod dyfais rhwystro galwadau ar eich ffôn eich hun. 

Mae gan Ofcom wybodaeth am y gwahanol wasanaethau a all fod ar gael gan eich darparwr ffôn i fynd i’r afael â galwadau niwsans.

Mae gan Which? gyngor ar rwystro galwadau, gan gynnwys adolygiadau o ddyfeisiau blocio galwadau.

Os ydych chi’n meddwl fod galwad yn alwad sgam

Fel arfer, mae sgamiau’n golygu bod pobl yn cael eu twyllo i roi arian. Os ydych chi’n meddwl bod galwr yn ceisio rhedeg sgam, dylech roi gwybod amdano. Dysgwch sut i roi gwybod am sgam.

Rhoi stop ar negeseuon testun niwsans

Os ydych wedi rhoi eich rhif i gwmni yn y gorffennol, efallai y byddant yn anfon negeseuon testun atoch. Gallwch ddweud wrthyn nhw am roi’r gorau i anfon negeseuon testun atoch chi drwy anfon y gair ‘STOP’ fel ateb i’r neges destun. Dylech chi ateb gyda ‘STOP’ dim ond os bydd yr anfonwr yn rhoi gwybod i chi pwy ydyn nhw yn y testun neu os yw’n cael ei adnabod gan y ffôn.

Os nad ydych chi’n adnabod anfonwr y neges destun niwsans neu os yw’n dod o rif anhysbys, peidiwch ag ateb. Bydd hyn yn rhoi gwybod i’r anfonwr bod eich rhif yn weithredol ac efallai y bydd yn anfon mwy o negeseuon testun atoch neu’n eich ffonio.

Rhoi gwybod am alwad neu neges destun niwsans

Bydd cofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn yn eich rhoi stop arnoch rhag cael galwadau niwsans, ond os bydd rhywun yn dal i’ch poeni 28 diwrnod ar ôl cofrestru, rhowch wybod i'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn.

Ni fydd cofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn yn rhoi stop ar negeseuon testun niwsans. Anfonwch y neges destun ymlaen i 7726 - mae hyn yn sillafu ‘SPAM’ ar fysellbad eich ffôn. Bydd hyn yn rhoi gwybod i’ch cwmni rhwydwaith symudol am yr anfonwr. Ni fydd tâl yn cael ei godi arnoch am anfon neges destun yn ei blaen i 7726.

Mae rhoi gwybod am alwadau neu negeseuon testun niwsans hefyd yn helpu rheoleiddwyr i ddod o hyd i bwy sy’n gyfrifol. Does dim rhaid i chi wneud hyn, ond mae’n gyflym ac yn hawdd, a bydd yn helpu mwy o bobl yn y tymor hir.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion cyswllt ac enw neu rif cofrestru’r cwmni wrth law.

Gallwch hefyd roi gwybod am alwadau neu negeseuon testun niwsans i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n ddefnyddiol os ydych chi’n gwybod o ba rif y daeth yr alwad a’r dyddiad a’r amser y gwnaethon nhw ffonio. Os nad yw’r holl wybodaeth gennych, gallwch roi manylion eraill yr alwad – er enghraifft, enw’r cwmni a’ch ffoniodd chi.

Bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymchwilio a gall gymryd camau yn erbyn pwy bynnag sydd wedi bod yn cysylltu â chi.

Os ydych chi wedi cael neges destun niwsans sy’n hysbysebu rhywbeth, gallwch hefyd roi gwybod i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu.

Rhoi stop ar alwadau a negeseuon testun gan elusen

Os ydych chi eisiau rhoi stop ar alwadau a negeseuon testun gan elusen, dylech gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn

Os ydych chi wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth hwn, ni ddylai elusennau wneud galwadau codi arian i chi. Mae hyn y cynnwys elusennau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru, Lloegr, yr Alban ac yn Ogledd Iwerddon.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian os ydych am roi’r gorau i gael galwadau a negeseuon testun gan elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Bydd y gwasanaeth yn dweud wrth yr elusennau i ddileu eich manylion cyswllt cyn pen 28 diwrnod. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy gofrestru ar eu gwefan. Gallwch gofrestru dros y ffôn os yw’n well gennych.

Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian

Ffôn: 0300 3033 517

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm

Dydd Sadwrn, 9am i hanner dydd

Gall galwadau i’r rhif hwn gostio hyd at 10c y funud o linell dir, neu rhwng 3c a 40c y funud o ffôn symudol (gall cyflenwr eich ffôn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei dalu).

Bydd angen i chi bod â’ch manylion cyswllt ac enw neu rif cofrestru’r elusen wrth law.

Cwyno am alwadau neu negeseuon testun gan elusen

Gallwch wneud y canlynol:

Gallwch roi gwybod am alwadau neu negeseuon testun niwsans i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallant roi dirwy i gwmnïau sy'n torri'r gyfraith.

Os ydych chi’n cael galwadau lle nad oes neb yno (a elwir yn alwadau mud neu alwadau sy’n cael eu gadael), rhowch wybod i Ofcom amdanynt.

Cael help

Cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 06 Mawrth 2019