Hawliwch iawndal os yw eich awyren wedi'i gohirio neu wedi'i chanslo
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae’n bosibl y gallwch gael iawndal os oedd eich awyren:
yn hedfan o’r DU – does dim ots gyda pha gwmni hedfan
yn hedfan o’r UE, Gwlad yr Iâ, Norwy neu’r Swistir - does dim ots gyda pha gwmni hedfan
yn cyrraedd y DU a’i bod gyda chwmni hedfan o’r DU neu’r UE
yn cyrraedd yr UE a’i bod gyda chwmni hedfan o’r DU
Pryd i gysylltu â'r cwmni hedfan
Cysylltwch â’r cwmni hedfan os nad yw’r rhain yn berthnasol i chi – er enghraifft, oherwydd eich bod wedi hedfan o Efrog Newydd i Los Angeles, neu i Ewrop ar awyren Qantas. Bydd yr hyn y bydd gennych hawl iddo yn dibynnu ar y cwmni hedfan, a'r gwledydd y gwnaethoch chi eu gadael ac y gwnaethoch chi eu cyrraedd
Gwiriwch i weld beth ddylai’r cwmni hedfan ei roi i chi os yw’ch awyren wedi’i gohirio
Os yw eich awyren wedi’i gohirio am gyfnod digon hir, mae’n rhaid i’ch cwmni hedfan roi’r canlynol i chi:
bwyd a diod
mynediad at alwadau ffôn a negeseuon e-bost
llety os cewch eich dal yn ôl dros nos - yn ogystal ag unrhyw daith rhwng y maes awyr a'r gwesty
Mae pa mor hir y mae’n rhaid i’r oedi fod yn dibynnu ar y pellter hedfan a’r gwledydd y mae’r awyren yn hedfan rhyngddynt. Gallwch weld y pellter hedfan ar wefan WebFlyer.
| Pellter hedfan | Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod |
|---|---|
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod
2 awr |
|
Pellter hedfan
Rhwng 1,500km a 3,500km |
Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod
3 awr |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod
4 awr |
Efallai y bydd y cwmni hedfan yn rhoi talebau i chi er mwyn cael y pethau hyn yn y maes awyr. Gofynnwch i rywun sy’n gweithio i’r cwmni hedfan os nad ydych chi’n cael cynnig unrhyw help.
Os nad ydyn nhw'n rhoi cymorth i chi yn y maes awyr, cadwch eich derbynebau ar gyfer treuliau a cheisiwch hawlio gan y cwmni hedfan yn nes ymlaen. Mae cwmnïau hedfan yn talu am gostau ‘rhesymol’ yn unig - mae’n annhebygol y cewch chi arian yn ôl am alcohol, prydau bwyd drud neu westai moethus.
Os yw eich awyren wedi’i gohirio am 3 awr neu fwy
Mae gennych hawl i gael iawndal os bydd yr awyren yn cyrraedd dros 3 awr yn hwyr a'i fod ar fai - er enghraifft, os na chawson nhw ddigon o archebion neu os oedd nam technegol.
Mae’n annhebygol y cewch chi iawndal os oedd yr oedi oherwydd rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y cwmni, fel tywydd garw neu risg diogelwch.
Os ydych chi ar awyren nad yw’n dod o'r DU sy’n cysylltu ag awyren o’r DU
Gallwch gael iawndal fel arfer os:
gwnaethoch archebu’r ddwy daith hedfan fel un archeb
cawsoch eich dal yn ôl am fwy na 3 awr
mai bai'r cwmni oedd yr oedi
Er enghraifft, os oeddech chi’n hedfan o Lundain i Melbourne, ac yn aros dros dro yn Dubai, a bod eich taith hedfan gyswllt wedi cael ei gohirio, neu nad oeddech chi’n gallu mynd ar yr awyren, byddech chi’n dal yn gymwys.
Mae gennych chi hawl i swm penodol o iawndal yn dibynnu ar y canlynol:
pellter eich taith hedfan - edrychwch ar eich pellter hedfan ar wefan WebFlyer
hyd yr oedi - pa mor hwyr y byddwch yn cyrraedd eich cyrchfan
| Oedi cyn cyrraedd | Pellter hedfan | Iawndal |
|---|---|---|
|
Oedi cyn cyrraedd
3 awr neu fwy |
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Iawndal
£220 |
|
Oedi cyn cyrraedd
3 awr neu fwy |
Pellter hedfan
Rhwng 1,500km a 3,500km |
Iawndal
£350 |
|
Oedi cyn cyrraedd
4 awr neu fwy |
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Iawndal
£520 |
|
Oedi cyn cyrraedd
Llai na 4 awr |
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Iawndal
£260 |
Sut i hawlio iawndal
Rhaid i chi hawlio iawndal gan y cwmni hedfan. Chwiliwch ar eu gwefan neu ffoniwch eu hadran gwasanaethau cwsmeriaid.
Os yw eich awyren wedi’i gohirio am 5 awr neu fwy
Does dim rhaid i chi fynd ar yr awyren os yw’n cael ei gohirio am 5 awr neu fwy.
Os na fyddwch yn mynd ar yr awyren
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r cwmni hedfan roi’r canlynol i chi:
ad-daliad llawn ar gyfer y daith
ad-daliad llawn ar gyfer teithiau eraill gan y cwmni hedfan na fyddwch yn eu defnyddio yn yr un archeb, ee taith ymlaen neu daith yn ôl
awyren yn ôl i'r maes awyr y gwnaethoch chi ymadael ag ef yn wreiddiol, os ydych chi wedi teithio am ran o'r ffordd
Dylech dderbyn yr ad-daliad cyn pen 7 diwrnod i ddyddiad y daith.
Siaradwch â rhywun o’r cwmni hedfan cyn gynted ag y byddwch chi’n penderfynu nad ydych chi eisiau hedfan.
Os byddwch yn mynd ar yr awyren
Gallwch hawlio hyd at £520 o iawndal os mai'r cwmni hedfan sydd ar fai am yr oedi - gan ddibynnu ar y pellter a chyrchfan eich taith, a pha mor hwyr y cyrhaeddodd. Efallai mai bai eich cwmni hedfan chi oedd bod problem dechnegol, neu eu bod wedi gor-archebu.
Mae’n annhebygol y cewch chi iawndal os oedd yr oedi oherwydd rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y cwmni, fel tywydd garw neu risg diogelwch.
Os bydd eich awyren yn cael ei chanslo
Mae gennych yr hawl cyfreithiol i ofyn am y canlynol:
ad-daliad llawn - gan gynnwys teithiau eraill gan y cwmni hedfan na fyddwch yn eu defnyddio yn yr un archeb, ee taith ymlaen neu daith yn ôl
taith newydd i fynd â chi i’ch cyrchfan
Os ydych chi ran o’r ffordd drwy daith ac nad ydych chi eisiau taith newydd, mae gennych chi hefyd hawl i hedfan yn ôl i’r maes awyr roeddech chi’n hedfan oddi wrtho’n wreiddiol.
Gofynnwch am ad-daliad neu am daith newydd yn y maes awyr os gallwch chi. Os na allwch chi, gallwch hawlio gan y cwmni hedfan yn nes ymlaen .
Mae gennych hefyd hawl gyfreithiol i’r canlynol:
cymorth gyda chostau - os yw’r canslo’n eich dal yn ôl am 2 awr neu fwy
iawndal - os byddech chi’n cael eich dal yn ôl 2 awr neu fwy gan y daith newydd a gafodd ei chynnig a’ch bod wedi cael llai na phythefnos o rybudd
Os ydych chi’n cael taith newydd
Os bydd yn rhaid i chi aros yn ddigon hir i gael taith newydd, mae’n rhaid i’r cwmni hedfan eich helpu chi gyda’r pethau sydd eu hangen arnoch chi. Mae hyn yn cynnwys:
bwyd a diod
mynediad at alwadau ffôn a negeseuon e-bost
llety os cewch eich dal yn ôl dros nos, yn ogystal â theithiau rhwng y maes awyr a'r gwesty
Mae pa mor hir y mae’n rhaid i’r oedi fod yn dibynnu ar y pellter hedfan a’r gwledydd y mae’r awyren yn hedfan rhyngddynt. Gallwch weld y pellter hedfan ar wefan WebFlyer .
| Pellter hedfan | Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod |
|---|---|
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod
2 awr |
|
Pellter hedfan
Rhwng 1,500km a 3,500km |
Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod
3 awr |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Pa mor hir mae’n rhaid i’r oedi fod
4 awr |
Efallai y bydd y cwmni hedfan yn rhoi talebau i chi er mwyn cael y pethau hyn yn y maes awyr. Gofynnwch i rywun sy’n gweithio i’r cwmni hedfan os nad ydych chi’n cael cynnig unrhyw beth.
Os nad ydyn nhw'n rhoi cymorth i chi yn y maes awyr, cadwch eich derbynebau ar gyfer eich treuliau a cheisiwch hawlio gan y cwmni hedfan yn nes ymlaen. Mae cwmnïau hedfan yn talu am gostau ‘rhesymol’ yn unig - mae’n annhebygol y cewch chi arian yn ôl am alcohol, prydau bwyd drud neu westai moethus.
Hawlio iawndal am daith a ganslwyd
Mae gennych hawl gyfreithiol i gael iawndal os mai'r cwmni hedfan sy'n gyfrifol am y canslo a bod y ddau beth isod yn berthnasol:
os bydd yr awyren newydd yn eich dal yn ôl am ddwy awr neu fwy
cafodd eich taith ei chanslo lai nag 14 diwrnod cyn i chi adael
Mae faint o iawndal y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar y canlynol:
pan gafodd y daith ei chanslo
pellter eich taith - edrychwch ar bellter eich taith ar wefan WebFlyer
amseroedd gadael a chyrraedd yr awyren sydd wedi’i haildrefnu
Os cafodd eich taith ei chanslo lai na 7 diwrnod cyn i chi adael:
| Pellter hedfan | Amseroedd gadael a chyrraedd | Iawndal |
|---|---|---|
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 1 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£110 |
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - hyd at 2 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£110 |
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - o leiaf 2 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£220 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 1 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£175 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - hyd at 3 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£175 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - o leiaf 3 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£350 |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 1 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£260 |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - hyd at 4 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£260 |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - o leiaf 4 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£520 |
Os cafodd eich taith ei chanslo rhwng 7 ac 14 diwrnod cyn i chi adael:
| Pellter hedfan | Pellter hedfan Amseroedd gadael a chyrraedd | Iawndal |
|---|---|---|
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 2 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£110 |
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - hyd at 2 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£110 |
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 2 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£220 |
|
Pellter hedfan
Llai na 1,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - o leiaf 2 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£220 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 2 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£175 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - hyd at 3 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£175 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 2 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£350 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - rhwng 3 a 4 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£350 |
|
Pellter hedfan
1,500km i 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - o leiaf 4 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£350 |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Gadael - o leiaf 2 awr yn gynharach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£260 |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - hyd at 4 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£260 |
|
Pellter hedfan
Mwy na 3,500km |
Pellter hedfan
Amseroedd gadael a chyrraedd
Cyrraedd - o leiaf 4 awr yn hwyrach na’r awyren a archebwyd |
Iawndal
£520 |
Gallwch hawlio iawndal gan y cwmni hedfan. Efallai y gallwch hawlio o'ch yswiriant teithio - gwiriwch a yw eich polisi yswiriant yn cynnwys canslo.
Hawlio gan y cwmni hedfan
Cysylltwch â’r cwmni hedfan – dyma’r cwmni hedfan sy’n hedfan yr awyren, hyd yn oed os ydych chi wedi archebu’r daith drwy gwmni hedfan arall. Fel arfer, bydd adran gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni yn helpu. Byddwch yn barod i roi eich holl fanylion hedfan a chyfeirnodau archebu .
Ysgrifennwch eich hawliad – dywedwch beth aeth o'i le a beth yr hoffech i'r cwmni hedfan ei roi i chi. Cofiwch gynnwys copïau (nid rhai gwreiddiol) o’ch tocynnau ac unrhyw dderbynebau.
Edrychwch sut i ysgrifennu hawliad da ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil.
Cadwch gofnodion – cadwch gopïau o’ch hawliad ac unrhyw ymateb gan y cwmni hedfan. Cymerwch nodiadau os byddwch yn siarad ag unrhyw un o'r cwmni hedfan - gallai hyn fod yn ddefnyddiol os penderfynwch fynd â'ch hawliad ymhellach.
Os nad ydych chi’n mynd i unman
Os ydych chi wedi gofyn i'r cwmni hedfan ac nad ydynt yn rhoi'r iawndal cywir i chi, gallwch gwyno wrth sefydliad annibynnol.
Os yw’r cwmni hedfan yn aelod o gynllun dulliau amgen o ddatrys anghydfodau (ADR), gallwch gwyno i’r cynllun.
Gwiriwch a yw’r cwmni awyrennau yn aelod o gynllun ADR ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil.
Os ydynt, gallwch gwyno wrth y cynllun ADR. Os nad yw’r cwmni hedfan yn rhan o gynllun ADR, gallwch gwyno wrth yr Awdurdod Hedfan Sifil ar eu gwefan.
Rhagor o gymorth
Cysylltwch â llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 os oes angen rhagor o help arnoch - gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.
As a charity, we rely on your support to help millions of people solve their problems each year. Please donate if you can to help us continue our work.