Cael ad-daliad am drên sydd wedi’i ganslo neu ei oedi
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os bydd eich taith ar y trên yn cael ei chanslo, gallwch chi gael ad-daliad llawn os na allwch chi fynd ar y trên nesaf neu os ydych yn penderfynu peidio â theithio.
Os byddwch chi’n cael eich oedi ac yn cyrraedd eich cyrchfan fwy na hanner awr yn hwyr, byddwch chi fel arfer yn gallu cael rhywfaint o arian yn ôl. Bydd rhai cwmnïau trên hefyd yn rhoi iawndal i chi os yw eich trên dros 15 munud yn hwyr.
Mae angen i chi gadw gafael ar eich tocynnau trên i gael ad-daliad.
Dylech geisio hawlio cyn pen 28 diwrnod, ond mae rhai cwmnïau trên yn caniatáu mwy o amser.
Os gwnaethoch chi deithio gyda Transport for London (TfL), er enghraifft ar Trenau Tanddaearol Llundain, gallwch weld faint allech chi ei gael a sut mae hawlio ar eu gwefan.
Os oes gennych chi docyn tymor, y peth gorau i’w wneud yw gofyn yn eich swyddfa docynnau neu edrych ar wefan eich cwmni trenau. Fel arfer, byddwch chi’n gallu cael rhywfaint o arian yn ôl am oedi neu ganslo.
Mae rhai yswirwyr teithio’n talu cost hediadau a gollwyd, os oedd y rheswm y tu hwnt i’ch rheolaeth. Os byddwch chi’n methu hediad oherwydd bod eich trên i’r maes awyr wedi cael ei ohirio neu ei ganslo, cysylltwch â’ch darparwr yswiriant teithio i weld a allwch chi hawlio.
Faint allwch chi ei gael am daith sydd wedi’i chanslo
Mae gennych chi hawl i gael ad-daliad llawn os cafodd eich trên ei ganslo ac nad oeddech chi’n gallu mynd ar y trên nesaf neu os gwnaethoch chi benderfynu peidio â theithio. Os na wnaethoch chi ddefnyddio eich tocyn, gallwch gael ad-daliad heb unrhyw ffioedd - does dim ots pa fath o docyn wnaethoch chi ei brynu.
Faint allwch chi ei gael am daith sydd wedi’i oedi
Efallai y byddwch chi’n gallu cael rhywfaint o arian yn ôl. Mae faint y gallwch chi ei hawlio yn dibynnu ar ba gwmni trên roeddech chi’n teithio gydag ef pan gawsoch chi eich oedi. Gallai hwn fod yn gwmni gwahanol i’r un y gwnaethoch chi archebu eich taith gydag ef.
Edrychwch ar eich tocyn os nad ydych chi’n siŵr pa gwmni oeddech chi’n teithio gydag ef.
Os yw eich cwmni trenau’n cynnig ‘Ad-daliad am Oedi’
Gallwch chi gael iawndal os yw eich cwmni trenau yn rhan o gynllun o’r enw ‘Ad-daliad am Oedi’ - does dim ots pam y bu oedi gyda’ch trên.
Edrychwch ar wefan eich cwmni trenau i weld a ydyn nhw’n cynnig Ad-daliad am Oedi (efallai y byddan nhw’n ei alw’n ‘iawndal am oedi’).
Mae gennych chi hawl gyfreithiol i iawndal sy’n naill ai:
50% o bris eich tocyn os byddwch chi’n cyrraedd eich cyrchfan rhwng 30 munud ac awr yn hwyr
ad-daliad llawn os byddwch chi’n cyrraedd mwy nag awr yn hwyr
Ad-daliad am Oedi 15
Mae gan rai cwmnïau trenau gynllun ychwanegol o’r enw ‘Ad-daliad am Oedi 15’. Yn yr achosion hyn mae gennych chi hawl i 25% o bris eich tocyn os byddwch chi’n cyrraedd eich cyrchfan rhwng 15 a 29 munud yn hwyr. Edrychwch ar wefan eich cwmni trenau i weld a ydyn nhw’n cynnig Ad-daliad am Oedi 15.
Os nad yw eich cwmni trên yn cynnig ‘Ad-daliad am Oedi’
Os nad yw’r cwmni trenau’n cynnig Ad-daliad am Oedi mae’n dal yn bosibl i chi gael iawndal dan reolau o’r enw ‘Amodau Cludiant National Rail’, ond fyddwch chi ddim yn cael cymaint.
Ni fyddwch chi’n cael unrhyw beth os nad y cwmni trenau oedd ar fai am yr oedi – er enghraifft, os cawsoch chi eich dal yn ôl oherwydd tywydd gwael.
Os gwnaethoch chi gyrraedd eich cyrchfan fwy nag awr yn hwyr, bydd gennych chi hawl i’r canlynol:
50% o bris eich tocyn os gwnaethoch chi brynu tocyn sengl
25% o bris eich tocyn os gwnaethoch chi brynu tocyn dwyffordd
50% o bris eich tocyn os gwnaethoch chi brynu tocyn dwyffordd a gawsoch chi eich oedi ar y ddwy daith am fwy nag awr
Sut i hawlio
Gallwch hawlio iawndal drwy fynd i wefan y cwmni trenau - mae gan y rhan fwyaf ohonynt ffurflenni ar-lein y gallwch eu defnyddio. Mae’n debyg y bydd angen i chi uwchlwytho llun o’ch tocyn.
Gallwch ysgrifennu llythyr atynt os yw’n well gennych. Bydd angen i chi roi manylion eich taith, ac anfon eich tocynnau gwreiddiol. Mae’n syniad da gwneud copïau ohonynt rhag ofn i’ch llythyr fynd ar goll - bydd ffotograff neu sgan digidol yn gwneud y tro. Dylech gael ad-daliad o fewn mis.
Mae llawer o gwmnïau’n cynnig talebau i’w defnyddio ar deithiau trên yn y dyfodol. Does dim rhaid i chi eu derbyn - os ydych am gael ad-daliad ar ffurf arian parod, gallwch fynnu hynny.
Os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymateb
Gallwch chi fynd â’ch cwyn ymhellach os nad ydych chi’n fodlon ar yr ymateb gan eich cwmni trenau.
Cysylltwch â’r Ombwdsmon Rheilffyrdd – gallan nhw ymchwilio i gwynion am y rhan fwyaf o gwmnïau trên. Os na all yr Ombwdsmon eich helpu gyda’ch problem, byddan nhw’n eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliad arall a all helpu.
Os bydd yr Ombwdsmon Rheilffyrdd yn penderfynu bod y cwmni trenau wedi gwneud rhywbeth o’i le, bydd rhaid i’r cwmni unioni pethau.
Ombwdsmon Rheilffyrdd
Ffôn: 0330 094 0362
Ffôn testun: 0330 094 0363
(Dydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 8pm, Dydd Sadwrn 8am tan 1pm)
Gwefan: www.railombudsman.org
E-bost: info@railombudsman.org
Post: RHADBOST – OMBWDSMON RHEILFFYRDD
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.