Cael iawndal gan y cwmni hedfan am fagiau sy'n mynd ar goll neu sy’n cael eu dal yn ôl

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae gennych hawl gyfreithiol i hawlio iawndal gan y cwmni hedfan os bydd eich bagiau sydd wedi'u cofrestru yn cael eu dal yn ôl, eu colli neu eu difrodi.

Dim ond os mai’r cwmni hedfan sydd ar fai y cewch hawlio am broblem gyda bagiau caban.

Pwysig

Pryd i gysylltu â'ch cwmni hedfan

Rydych chi’n fwy tebygol o gael iawndal os byddwch chi’n gweithredu’n gyflym. Dylech chi wneud y canlynol:

Os oes gennych chi yswiriant teithio neu yswiriant cynnwys cartref sy'n cynnwys bagiau, mae’n debygol y byddai’n well i chi wneud hawliad yswiriant yn lle hynny. Mae'n debyg y cewch fwy o arian ac y byddwch yn ei chael yn haws i hawlio fel hyn.

Yr hyn y gallech chi ei gael gan y cwmni hedfan

Fel arfer, mae'r hyn y gallwch ei gael gan y cwmni hedfan wedi'i gyfyngu i arian ar gyfer y canlynol:

  • yr hanfodion sylfaenol sydd eu hangen arnoch os bydd eich bagiau’n cael eu dal yn ôl, e.e. pethau ymolchi a dillad isaf

  • rhan o'r gost o brynu bagiau a chynnwys newydd yn lle’r hyn sydd wedi mynd ar goll, neu ran o’r gost am drwsio'r hyn sydd wedi ei ddifrodi

Os oes rhaid i chi gasglu bagiau sydd wedi’u dal yn ôl eich hun, efallai y bydd modd i chi gael y cwmni hedfan i dalu am gostau trafnidiaeth.

Mae cwmnïau hedfan yn aml eisiau derbynebau am bopeth sydd wedi'i gynnwys yn eich hawliad, ac ni fyddant fel arfer yn talu am y canlynol:

  • ‘newydd yn lle hen’ ar gyfer unrhyw beth sydd wedi ei golli neu ei ddifrodi

  • ar gyfer unrhyw beth gwerthfawr, bregus neu ddarfodus mewn bagiau sydd wedi’u cofrestru

  • mwy na chyfanswm o tua £1,000 o iawndal - ac fel arfer mae'n llawer llai

  • straen, anhwylustod neu bethau eraill sy’n digwydd oherwydd problem gyda’ch bagiau, e.e. cysylltiad sy’n cael ei golli gennych

  • os oedd nam ar eich bagiau

Rhoi gwybod am y broblem

Rhowch wybod i'r cwmni hedfan ar unwaith am y broblem - does dim rhaid i chi wneud hyn yn ôl y gyfraith, ond os gwnewch chi, rydych chi'n fwy tebygol o gael unrhyw iawndal y byddwch yn ei hawlio gan y cwmni hedfan.

Ar ôl i chi roi gwybod am y broblem

Bydd yn dal yn rhaid i chi wneud cais am iawndal ar ôl i chi roi gwybod am y broblem, oni bai fod y cwmni hedfan yn penderfynu eich talu ymlaen llaw, e.e. ar gyfer treuliau pan fydd eich bagiau yn cael eu dal yn ôl.

Rydych eisoes wedi rhoi gwybod am y broblem os gwnaethoch lenwi 'adroddiad am afreoleidd-dra yn yr eiddo' (PIR neu ‘property irregularity report’) yn y maes awyr - dyma'r ffurflen a gewch gan yr adran gwasanaethau cwsmeriaid yn yr ystafell hawlio bagiau.

Os na wnaethoch roi gwybod am y broblem yn y maes awyr, cysylltwch â’r cwmni hedfan neu defnyddiwch wefan y cwmni i roi gwybod am y broblem - a gofynnwch i'r cwmni hedfan gadarnhau’n ysgrifenedig eich bod wedi rhoi gwybod am y broblem.

Cadwch gopi o’ch PIR neu gadarnhad ysgrifenedig i helpu gyda’ch hawliad.

Dyddiadau cau ar gyfer hawlio

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau hedfan yn cadw at y dyddiadau cau hyn, ond mae'n syniad da holi’r cwmni hedfan.

Os bydd eich bagiau’n cael eu dal yn ôl neu’n mynd ar goll, bydd gan y cwmni hedfan 21 diwrnod i ddod o hyd iddynt a’u hanfon atoch. Os byddwch yn cael eich bagiau'n ôl cyn pen 21 diwrnod, gallwch barhau i hawlio iawndal am fagiau sydd wedi cael eu dal yn ôl. Os nad ydych yn eu cael yn ôl cyn pen 21 diwrnod, dylech wneud hawliad am fagiau sydd wedi mynd ar goll.

Yr hyn rydych chi'n ei hawlio amdano Dyddiad cau ar gyfer hawlio
Yr hyn rydych chi'n ei hawlio amdano

Bagiau sydd wedi’u difrodi

Dyddiad cau ar gyfer hawlio

7 diwrnod ar ôl cael eich bagiau

Yr hyn rydych chi'n ei hawlio amdano

Cynnwys sydd ar goll neu sydd wedi’i ddifrodi

Dyddiad cau ar gyfer hawlio

7 diwrnod ar ôl cael eich bagiau

Yr hyn rydych chi'n ei hawlio amdano

Bagiau sydd wedi cael eu dal yn ôl neu sydd ar goll

Dyddiad cau ar gyfer hawlio

21 diwrnod ar ôl yr hediad

Yr hyn rydych chi'n ei hawlio amdano

Bagiau sydd ar goll - maent ar goll yn swyddogol ar ôl 21 diwrnod

Dyddiad cau ar gyfer hawlio

Cyn gynted â phosibl ar ôl i’r bagiau cael eu colli'n swyddogol

Dogfennau y bydd eu hangen arnoch

Gofynnwch i'r cwmni hedfan pa ddogfennau y bydd eu hangen arnoch - byddent fel arfer yn disgwyl i chi fod â’r canlynol:

  • eich cerdyn byrddio

  • labeli eich bagiau (mae gan y rhain god bar a rhif i adnabod eich bagiau)

  • prawf eich bod wedi rhoi gwybod am y broblem, e.e. eich ffurflen PIR neu e-bost gan y cwmni hedfan

  • derbynebau ar gyfer pethau y bu’n rhaid i chi eu prynu oherwydd bod eich bagiau wedi’u dal yn ôl

  • prawf eich bod wedi prynu rhywbeth sydd wedi mynd ar goll neu wedi’i ddifrodi, e.e. derbynebau neu gyfriflenni cerdyn credyd

  • lluniau o unrhyw ddifrod i’ch bagiau neu i’r cynnwys

  • amcangyfrifon o gostau unrhyw waith trwsio rydych chi'n ei hawlio, e.e. gan fusnes trwsio bagiau

Gwneud hawliad

Gofynnwch i’r cwmni hedfan sut maent am i chi anfon eich hawliad. Os nad oes ganddynt ffurflen hawlio, mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi ysgrifennu llythyr at adran gwasanaeth i gwsmeriaid y cwmni hedfan.

Yn eich llythyr, nodwch eich bod yn “hawlio iawndal o dan Gonfensiwn Montreal” – bydd hyn yn dangos i’r cwmni hedfan eich bod yn gwybod eich hawliau. Hefyd, gwnewch yn siŵr bod eich llythyr yn cynnwys y canlynol:

  • manylion eich hediad - dyddiadau, rhif yr awyren, ymadawiad a chyrchfan

  • yr hyn a ddigwyddodd i’ch bagiau

  • faint o arian rydych chi’n gofyn amdano

  • disgrifiad manwl o bopeth sydd wedi’i ddifrodi neu ei golli

  • rhestr o bob dim y bu’n rhaid i chi eu prynu oherwydd bod eich bagiau wedi’u dal yn ôl

  • copïau o’r holl ddogfennau sydd eu hangen arnoch

Cadwch gopi o’ch hawliad a’ch dogfennau gwreiddiol - bydd eu hangen arnoch os nad ydych yn hapus gydag ymateb y cwmni hedfan a'ch bod am fynd â'ch cais ymhellach.

Os gwnaethoch chi hedfan gyda mwy nag un cwmni hedfan

Os oedd gennych hediadau cyswllt gyda gwahanol gwmnïau hedfan, gallwch hawlio iawndal gan unrhyw un ohonynt - ond mae'r rhan fwyaf o gwmnïau hedfan yn disgwyl i chi hawlio gyda'r cwmni hedfan diwethaf y buoch arno.

Ni all y cwmni hedfan ddweud nad eu cyfrifoldeb hwy ydyw na gwrthod delio â'ch hawliad oherwydd bod cwmnïau hedfan eraill yn rhan o bethau. Os ydynt, cysylltwch â’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) i gael cyngor ynghylch beth i’w wneud.

Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y cwmni hedfan

Os nad ydych yn mynd i unman gyda'r cwmni hedfan, gallwch fynd â'ch hawliad ymhellach.

Yn gyntaf, ceisiwch gwyno wrth yr Awdurdod Hedfan Sifil - defnyddiwch y ffurflen ar eu gwefan i ofyn iddyn nhw fynd â’ch cwyn i’r cwmni hedfan.

Dim ond os nad yw’r cwmni hedfan neu’r maes awyr dan sylw yn aelod o gynllun dulliau amgen o ddatrys anghydfod (ADR) cymeradwy y bydd yr Awdurdod Hedfan Sifil yn ystyried eich cwyn am fagiau.

Ewch i weld a yw’r cwmni hedfan neu’r maes awyr yn aelod o gynllun dulliau amgen o ddatrys anghydfod ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Yn niffyg dim arall, gallwch fynd â’ch achos i’r llys hawliadau bychain cyn pen 2 flynedd i’r hediad - gall hyn fod yn ddrud a chymryd llawer o amser. Dylech chi wneud hyn dim ond os ydych chi’n credu bod eich hawliad yn werth y straen a’r amser o fynd i’r llys. Darllenwch ein cyngor ar baratoi ar gyfer y llys hawliadau bychain os oes angen rhagor o help arnoch.

Rhagor o gymorth

Dysgwch sut i wneud hawliad ar eich polisi yswiriant neu cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr ar 0808 223 1144 os oes angen rhagor o help arnoch - gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.

Bydd cynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol hefyd yn gallu eich helpu i ddadlau eich achos, neu ddadlau ar eich rhan.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.