Canslo gwyliau pecyn
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os gwnaethoch chi archebu o leiaf 2 ran wahanol o'ch gwyliau gyda'r un cwmni ar yr un pryd, mae'n debyg ei fod yn wyliau pecyn. Os gwnaethoch chi archebu gyda gwahanol gwmnïau, mae'n syniad da edrych a yw eich gwyliau yn wyliau pecyn - efallai y bydd yn cael ei ystyried fel math gwahanol o wyliau. Edrychwch i weld pa fath o wyliau rydych chi wedi’i drefnu.
Mae eich hawliau i ganslo gwyliau pecyn (neu ran benodol o wyliau fel hediad neu westy) fel arfer yn dibynnu ar delerau ac amodau eich archeb, a'ch rheswm dros fod eisiau canslo.
Efallai y bydd gennych chi hawl i ganslo'r gwyliau heb ffi os:
yw’r cwmni gwyliau yn gwneud newidiadau sylweddol i'ch gwyliau
yw’n codi prisiau penodol ar ôl i chi archebu
na allwch chi gyrraedd eich cyrchfan oherwydd amgylchiadau eithriadol - fel rhyfel neu drychineb naturiol
Dylai'r cwmni dalu unrhyw arian sy'n ddyledus i chi o fewn 14 diwrnod i'w ganslo.
Os byddwch chi'n newid eich meddwl ynglŷn â mynd, gallwch chi ganslo ond mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi dalu ffi.
Efallai y byddwch chi wedi'ch diogelu am ganslo taith os oes gennych chi yswiriant teithio – edrychwch ar eich polisi neu cysylltwch â'r cwmni yswiriant os nad ydych chi'n siŵr.
Os ydych chi wedi newid eich meddwl neu’n methu â mynd
Gallwch chi ganslo unrhyw bryd cyn i’r gwyliau ddechrau, ond bydd yn rhaid i chi dalu ffi i ganslo fwy na thebyg. Dylai’r ffioedd fod yn y telerau ac amodau. Maent yn debygol o fod yn uwch os yw'n agos at y dyddiad gadael. Cysylltwch â'r cwmni os na allwch chi ddod o hyd i'ch telerau ac amodau.
Dim ond y swm y byddan nhw'n ei golli y dylai'r cwmni ei godi arnoch chi - dylent geisio gwerthu'r gwyliau i rywun arall. Os ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n codi gormod, gofynnwch sut wnaethant gyfrifo'r ffi canslo.
Trosglwyddo eich gwyliau
Meddyliwch a allwch chi ddod o hyd i rywun i fynd ar y gwyliau, oherwydd gallai hyn fod yn rhatach na'i ganslo. Rhaid i'r person rydych chi'n trosglwyddo iddo fodloni unrhyw amodau - fel cyfyngiadau oedran.
Ysgrifennwch lythyr neu e-bost at y cwmni yn dweud wrthynt eich bod chi eisiau trosglwyddo'r gwyliau a rhowch fanylion y person arall. Bydd angen i chi wneud hyn o leiaf 7 diwrnod cyn i'r gwyliau ddechrau.
Rhaid i'r cwmni ddweud wrthych chi faint fydd hi'n ei gostio i drosglwyddo’r gwyliau. Rhaid i'r gost honno fod yn rhesymol ac ni all fod yn fwy na'r hyn y mae'n ei gostio iddynt i wneud y trosglwyddiad. Rhaid iddynt ddarparu prawf o'r gost.
Bydd yn rhaid i chi neu'r person rydych chi'n trosglwyddo iddo dalu cost trosglwyddo'r gwyliau. Os nad yw'r person rydych chi'n trosglwyddo iddo yn talu, bydd yn rhaid i chi wneud hynny.
Os yw cwmni gwyliau yn newid y gwyliau ar ôl i chi archebu
Os yw’r cwmni wedi gwneud ‘newid sylweddol’ i’ch gwyliau pecyn, nid oes rhaid i chi ei dderbyn. Mae gennych yr hawl i naill ai:
ganslo'r gwyliau heb ffi a chael eich arian yn ôl
dderbyn gwyliau arall, os oes un
Nid oes unrhyw ddiffiniad o ‘newid sylweddol’, ond mae’n cynnwys:
newid mawr i brif nodweddion eich gwyliau - er enghraifft os yw'r cwmni'n dweud eich bod chi'n mynd i gyrchfan wahanol i'r un wnaethoch chi ei drefnu
os nad yw’r cwmni’n bodloni ceisiadau arbennig rydych chi wedi cytuno arnynt gyda nhw ac sydd yn eich contract - fel gofyn am ystafell ar y llawr gwaelod oherwydd cadair olwyn
Dylech chi hefyd weld os gallwch chi gael iawndal.
Mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i chi am y newid yn ysgrifenedig. Rhaid iddynt wneud y canlynol:
dweud wrthych chi beth yw'r newid
dweud wrthych os yw'r pris wedi'i ostwng oherwydd bod y newid yn golygu ansawdd neu gost is
rhoi amser rhesymol i chi roi gwybod iddynt os ydych chi eisiau canslo
dweud wrthych os ydynt yn cynnig pecyn gwahanol yn lle hynny a faint mae'n ei gostio
eich rhybuddio os na fyddwch chi'n ateb ar ôl iddynt gysylltu â chi ddwywaith, gallant ganslo eich gwyliau
Rhaid i chi roi gwybod iddynt erbyn eu dyddiad cau os ydych chi'n derbyn y newid neu os ydych chi eisiau canslo'r gwyliau. Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i ganslo. Os na fyddwch chi'n ateb mewn pryd, mae'n rhaid i'r cwmni roi gwybod i chi unwaith eto. Os na fyddwch chi'n ateb o hyd, gallant ganslo eich gwyliau.
Os yw pris eich gwyliau’n cynyddu ar ôl i chi archebu
Edrychwch ar delerau ac amodau’r gwyliau i weld os ydynt yn gadael i’r cwmni gynyddu’r pris. Chwiliwch am rywbeth fel ‘amrywiad pris’ - mae hyn yn golygu y gall y pris newid. Ni allant ei gynyddu os nad yw'r telerau ac amodau yn caniatáu hynny.
Hyd yn oed os yw'r telerau ac amodau'n caniatáu cynnydd mewn prisiau, dim ond oherwydd y canlynol y gall y cwmni gynyddu’r pris:
cynnydd ym mhrisiau tanwydd sy'n golygu bod costau trafnidiaeth wedi codi
newidiadau i drethi neu ffioedd gan drydydd partïon - fel trethi twristiaid
cyfraddau cyfnewid sy'n effeithio ar bris y gwyliau
Mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i chi’n ysgrifenedig ynglŷn â’u bwriad i gynyddu’r pris. Mae'n rhaid iddynt hefyd roi amser rhesymol i chi ddweud wrthynt a ydych chi'n ei dderbyn neu eisiau canslo. Os ydynt yn cynnig pecyn arall yn lle hynny, mae'n rhaid iddynt ddweud wrthych faint mae'n ei gostio. Os na fyddwch chi'n ateb erbyn eu dyddiad cau, efallai y byddant yn canslo'r gwyliau.
Mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i chi ynglŷn â'r cynnydd mewn prisiau o leiaf 20 diwrnod cyn i’r pecyn ddechrau ac egluro pam mae’r pris yn codi. Mae gennych yr hawl i ganslo’r gwyliau heb dalu ffi os yw’r cynnydd yn fwy na 8% - fe gewch chi unrhyw arian rydych chi wedi’i dalu’n barod yn ôl.
Os yw'r telerau ac amodau'n dweud y gall y cwmni gynyddu'r pris, mae'n rhaid i'r cwmni hefyd gynnig ad-daliad i chi os bydd cost eich gwyliau'n gostwng oherwydd newidiadau i brisiau tanwydd, trethi neu gyfraddau cyfnewid.
Os oes amgylchiadau eithriadol cyn i chi adael
Gallwch chi ganslo eich gwyliau heb orfod talu ffi. Fe gewch chi ad-daliad llawn ond ni fyddwch yn gymwys am unrhyw iawndal.
Mae’n rhaid i’r amgylchiadau eithriadol fod yn eich cyrchfan neu wrth ymyl eich cyrchfan. Rhaid iddynt gael effaith sylweddol ar eich gwyliau neu wrth gyrraedd yno – fel awyrennau’n methu â hedfan yno oherwydd llwch folcanig.
Mae enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol yn cynnwys:
rhyfel
clefyd difrifol
trychineb naturiol – fel llifogydd, daeargrynfeydd neu amodau tywydd
Cymorth pellach
Cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr ar 0808 223 1133 os oes angen mwy o help arnoch chi – gall cynghorwr sydd wedi’i hyfforddi roi cyngor i chi dros y ffôn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 04 Rhagfyr 2018