Symud eich mesurydd nwy neu drydan

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y bydd modd i rywun symud eich mesurydd nwy neu drydan os ydych chi:

  • yn ei chael hi'n anodd darllen eich mesurydd neu ei gyrraedd

  • yn gwneud gwaith adeiladu

Mae pwy sy'n cael symud eich mesurydd yn dibynnu ar y gwaith sy'n gysylltiedig â’i symud. Mae hi’n anghyfreithlon i symud y mesurydd eich hun. Eich cyflenwr presennol sy'n berchen ar eich mesurydd fel arfer a bydd yn rhaid i chi ofyn iddyn nhw ei symud.

Os na allwch chi gyrraedd eich mesurydd neu gael mynediad ato

Gallwch chi ofyn i'ch cyflenwr osod mesurydd clyfar i chi - mae mesuryddion clyfar yn anfon darlleniadau mesurydd at eich cyflenwr yn awtomatig, felly does dim angen i chi gyrraedd eich mesurydd i gymryd darlleniadau. Does dim rhaid i chi dalu i osod mesurydd clyfar, ewch i weld sut mae gosod mesurydd clyfar.

Os oes gennych chi fesurydd talu ymlaen llaw

Os oes gennych chi fesurydd talu ymlaen llaw nad yw'n un clyfar, gall eich cyflenwr chi osod mesurydd clyfar ar gynllun talu ymlaen llaw. Ewch i weld beth y dylech chi ei wneud os ydych chi’n cael problemau o ran cael mynediad at eich mesurydd talu ymlaen llaw neu ychwanegu arian ato.

Efallai na fydd bod ar gynllun talu ymlaen llaw yn ddiogel nac yn ymarferol i chi, ewch i weld sut mae symud oddi wrth cynllun talu ymlaen llaw i dalu gyda chredyd.

Os oes angen symud eich mesurydd talu ymlaen llaw a'ch bod chi ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, dylai eich cyflenwr ynni chi symud eich mesurydd am ddim. Ewch i weld os ydych chi’n gymwys i gofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.

Gwirio a all eich cyflenwr ynni chi symud eich mesurydd

Cysylltwch â'ch cyflenwr a dweud wrthyn nhw eich bod chi eisiau symud eich mesurydd. Byddan nhw'n dweud wrthych chi a ydyn nhw'n gallu gwneud y gwaith. Mae hyn yn dibynnu ar:

  • ble mae eich mesurydd chi nawr

  • pa mor bell rydych chi eisiau ei symud

  • y math o gysylltydd os yw'n fesurydd nwy

  • pam eich bod chi eisiau ei symud

Efallai na fyddant yn gallu gwneud y gwaith os yw eich mesurydd chi y tu allan neu os ydych chi eisiau ei symud yn bellach, er enghraifft i ystafell arall. Mae gan y rhan fwyaf o gyflenwyr wybodaeth ar eu gwefan am yr hyn y gallant ei wneud a'r hyn na allant ei wneud.

Os ydyn nhw'n gallu gwneud yr holl waith, bydd eich cyflenwr yn rhoi pris i chi am hyn. Mae prisiau'n amrywio, felly dylech chi hefyd gymharu prisiau cyflenwyr eraill.

Eich cyflenwr presennol yn unig all symud eich mesurydd chi. Os ydych chi am i gyflenwr arall wneud hynny, rhaid i chi newid eich cyflenwad chi iddyn nhw yn gyntaf. Bydd hyn yn newid eich prisiau chi ar gyfer nwy a thrydan, felly gwnewch yn siŵr ei fod yn werth chweil yn gyffredinol cyn i chi newid. Edrychwch ar ein cyngor ar gael y fargen orau drwy newid cyflenwr.

Os ydych chi’n berchen ar eich mesurydd

Gallwch chi drefnu i rywun symud eich mesurydd chi ond allwch chi ddim gwneud hynny eich hun yn gyfreithlon. Siaradwch â'ch cyflenwr i weld pa reolau y dylech chi eu dilyn pan fydd eich mesurydd chi’n cael ei symud.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n berchen ar fesurydd, gofynnwch i'ch cyflenwr.

Trefnu apwyntiad i’ch cyflenwr symud eich mesurydd

Dylai eich cyflenwr gynnig apwyntiad i chi cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn yn dibynnu ar a yw’r apwyntiad yn fater brys a pha mor brysur yw’ch cyflenwr.

Fel arfer, mae apwyntiadau o fewn oriau gwaith arferol. Mae oriau gwaith yn tueddu golygu rhwng 9am a 5pm. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i chi ddewis slot amser rhwng 2 a 4 awr.

Os ydyn nhw’n cynnig apwyntiad nad yw’n gyfleus i chi, gofynnwch am ddyddiad ac amser gwahanol. Dylai eich cyflenwr cytuno i hyn os yw’n gallu.

Rhaid i’ch cyflenwr dalu iawndal i chi os yw’n:

  • methu’r apwyntiad

  • newid yr apwyntiad heb eich cytundeb a gyda llai nag un diwrnod gwaith o rybudd

  • anfon rhywun sydd heb y cymwysterau na’r offer cywir i wneud y gwaith

Cewch iawndal o £40 wedi’i dalu i chi ganddyn nhw cyn pen 10 diwrnod gwaith. Os na fyddant wedi talu o fewn 10 diwrnod gwaith, byddant yn talu £40 arall i chi.

Os na all eich cyflenwr ynni symud eich mesurydd

Rhaid i chi gysylltu â'ch gweithredwr rhwydwaith trydan neu nwy lleol i wneud y gwaith. Fel arfer byddant yn gofyn i chi dalu o leiaf £400 am y gwaith, ond gallai fod dros £1,000 - mae'n dibynnu ar faint o waith sydd angen ei wneud.

Dewch o hyd i'ch gweithredwr rhwydwaith nwy neu drydan lleol drwy ddefnyddio gwefan y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni.

Efallai y bydd angen trydanwr neu beiriannydd nwy cofrestredig arnoch chi o hyd i wneud gwaith arall - er enghraifft, gwaith cloddio paratoadol, gosod blwch mesurydd neu ailgysylltu eich cyflenwad y tu mewn i'ch cartref. Dylech chi gael nifer o wahanol ddyfynbrisiau cyn dewis trydanwr cofrestredig neu beiriannydd nwy i wneud hyn.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.