Moving home – dealing with your energy supply

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi’n symud neu newydd symud i gartref newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch cyflenwr ynni. Mae rhai camau y dylech eu cymryd i wneud yn siŵr na fyddwch yn talu gormod am eich nwy a’ch trydan, neu’n talu am ynni na wnaethoch ei ddefnyddio.

Mae pethau ychwanegol i’w gwneud os oes gan eich cartref newydd fesurydd talu ymlaen llaw. Mae gennych fesurydd talu ymlaen llaw os oes angen rhoi arian ar eich mesurydd cyn i chi gael unrhyw nwy neu drydan.  

Cyn i chi symud

Cyn i chi symud cartref dylech wneud y canlynol:

  • rhowch wybod i’ch cyflenwr trydan a nwy eich bod yn symud - dylech roi o leiaf 48 awr o rybudd

  • darllenwch eich mesuryddion ar y diwrnod y byddwch yn symud allan a rhowch y darlleniadau i’ch cyflenwr - cadwch gofnod o’r darlleniadau a’r dyddiadau y gwnaethoch eu cymryd, rhag ofn nad ydych yn cytuno â’ch bil terfynol

  • rhowch gyfeiriad anfon ymlaen i’ch cyflenwr er mwyn iddyn nhw allu anfon y bil terfynol atoch - bydd gennych chi 28 diwrnod i dalu

Os yw eich bil terfynol yn datgan bod arian yn ddyledus i chi (a elwir yn ‘bod mewn credyd’), dylech hawlio’r arian yn ôl

Os ydych ar dariff sefydlog

Efallai y codir tâl arnoch chi i dorri eich contract yn gynnar. Gelwir hyn yn ffi ymadael’. Edrychwch ar eich contract neu cysylltwch â’ch cyflenwr i gael gwybod faint fydd y ffi ymadael. Os byddwch chi’n torri eich contract, byddwch chi’n mynd ar dariff amrywiol safonol yn awtomatig yn eich cartref newydd.

Os ydych chi eisiau aros ar eich tariff presennol pan fyddwch chi’n symud cartref, cysylltwch â’ch cyflenwr. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gadael i chi gadw’r un contract a thariff yn eich cartref newydd heb godi ffi arnoch chi.

Os oes gennych chi fesurydd clyfar

Mae’n werth gweld a yw eich mesurydd clyfar yn gweithio yn y ‘modd clyfar’ cyn i chi symud. Mae modd clyfar yn golygu bod eich mesurydd yn anfon darlleniadau awtomatig at eich cyflenwr.

You can check if your smart meter should work in smart mode using our tool.

If it’s not working in smart mode, you’ll need to take a final reading from your smart meter and give this to your supplier. Find out how to read your meter.

Your smart meter should have an in-home display (IHD). The IHD is a small portable device with a screen. It shows your energy usage and how much it's costing you. It is not the same as your smart meter.

When you move, you should leave your in-home display for the next people who will live in your home.

Os nad yw’n gweithio yn y modd clyfar, bydd angen i chi gymryd darlleniad terfynol o’ch mesurydd clyfar a’i roi i’ch cyflenwr. Dysgwch sut i ddarllen eich mesurydd.

Dylai fod gan eich mesurydd clyfar sgrin ynni cartref (IHD). Dyfais symudol fach gyda sgrin yw hon. Mae’n dangos eich defnydd o ynni a faint mae’n ei gostio i chi. Nid yw’r sgrin ynni cartref yr un peth â’ch mesurydd clyfar.

Pan fyddwch yn symud, dylech adael eich sgrin ynni cartref ar ôl ar gyfer y bobl nesaf a fydd yn byw yn eich cartref.

Ar ôl i chi symud

Dylech chi gysylltu â’r cyflenwr presennol yn eich cartref newydd i roi gwybod eich bod wedi symud i mewn. Byddwch chi’n cael eich rhoi ar ‘gontract tybiedig’ gyda’ch cyflenwr yn awtomatig - bydd hyn ar gyfer tariff ‘diofyn’ neu ‘amrywiol safonol’. Ewch i weld pwy yw eich cyflenwr os nad ydych chi’n siŵr.

Darllenwch eich mesuryddion ar y diwrnod y byddwch chi’n symud i mewn a rhowch y darlleniadau i’r cyflenwr presennol. Bydd hyn yn helpu’ch cyflenwr i roi bil cyntaf cywir i chi. Ewch i weld sut mae darllen eich mesuryddion os nad ydych chi’n siŵr.

You’ll need to pay your final bill to your old supplier. They’ll send it to you within 6 weeks. If they don’t send your final bill in time, they might owe you compensation.

If you have money left on your account with your old supplier, they’ll refund you. They must refund you within 10 working days of sending you the final bill. If they don’t refund you in time, they might owe you compensation.

Check if your old supplier owes you money.

Os nad oes gan eich cartref newydd gyflenwad nwy neu drydan, gallwch gael gwybod sut i gysylltu eich cartref â chyflenwad nwy neu drydan.

Newid i gyflenwr newydd

Does dim llawer o fargeinion tariff ar hyn o bryd oherwydd problemau gyda chost ynni. Mae’n debyg na fyddwch yn gallu arbed arian drwy newid.

Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni, efallai y gallwch chi gael help. Ewch i weld a allwch chi gael budd-daliadau neu grant i helpu i dalu eich biliau ynni.

Os ydych chi eisiau newid cyflenwr neu dariff, bydd angen i chi aros tan y diwrnod y byddwch yn dod yn gyfrifol am yr eiddo. Ni fydd newid yn digwydd ar unwaith felly bydd yn rhaid i chi dalu o leiaf un bil gyda’r cyflenwr presennol. 

Dylai eich cyflenwr newydd eich newid cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am:

Unwaith y byddwch chi’n gwybod pwy yw eich cyflenwr newydd, os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth neu’n anabl, neu os oes gennych salwch tymor hir, gofynnwch am gael eich rhoi ar y gofrestr gwasanaethau blaenoriaeth sydd ganddyn nhw. Mae hyn yn rhoi cymorth ychwanegol i chi, megis archwiliadau diogelwch nwy am ddim.

Os oes gan eich eiddo newydd fesurydd talu ymlaen llaw

Cysylltwch â’r cyflenwr presennol ar unwaith os oes gan eich cartref newydd fesurydd talu ymlaen llaw. Ceisiwch beidio â defnyddio allwedd na cherdyn, na rhoi unrhyw arian ar y mesurydd, nes eich bod wedi gwneud hyn. Fel arall, rydych mewn perygl o dalu’r hyn a oedd yn ddyledus gan y bobl a oedd yn byw yno o’ch blaen.

Os oes angen i chi roi arian ar y mesurydd cyn i chi gysylltu â’r cyflenwr presennol, rhowch wybod iddyn nhw am hyn pan fyddwch yn cysylltu â nhw. Byddan nhw’n talu’n ôl i chi unrhyw gostau ychwanegol yr ydych wedi’u talu, cyn belled â’ch bod yn gallu profi pryd y gwnaethoch chi symud i mewn.

Gofynnwch i’r cyflenwr wneud y canlynol:

  • tynnu unrhyw ddyled oddi ar y mesurydd fel nad ydych yn gorfod talu mwy

  • rhoi allwedd neu gerdyn talu ymlaen llaw newydd i chi er mwyn i chi allu rhoi arian ar y mesurydd

  • anfon gwybodaeth atoch am sut mae’r mesurydd yn gweithio a beth i’w wneud os cewch chi unrhyw broblemau

Ar ôl i chi ddechrau defnyddio eich mesurydd talu ymlaen llaw, rhowch wybod i’ch cyflenwr am unrhyw anawsterau mae’n eu hachosi, er enghraifft os na allwch chi ychwanegu arian ato yn hawdd. Efallai y byddan nhw’n gallu ei gwneud o’n haws i chi ei ddefnyddio, neu gael gwared ohono yn gyfan gwbl.

Meddyliwch am gael gwared ar y mesurydd talu ymlaen llaw

Efallai y byddai’n fuddiol i chi newid y mesurydd talu ymlaen llaw am fesurydd clyfar yn y modd credyd. Bydd hyn yn gadael i chi dalu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio ac ni fydd yn rhaid i chi ychwanegu arian pan fydd eich credyd yn dod i ben.

Mae’n debyg y bydd angen i chi basio archwiliad credyd cyn y gallwch chi newid i dalu drwy gredyd. Os na fyddwch chi’n pasio, gallwch chi ofyn am gael talu blaendal diogelwch yn lle hynny, ond does dim rhaid i’ch cyflenwr gytuno.

Os oes gennych chi fesurydd clyfar yn barod, gall eich cyflenwr ei newid o bell i redeg yn y modd credyd. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddynt ddod i’ch cartref. 

Pan fyddwch chi’n newid i’r modd credyd, gallwch chi ddewis talu gyda chredyd safonol neu Ddebyd Uniongyrchol. Mae credyd safonol yn golygu eich bod yn talu am eich ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio. Gall eich bil fynd i fyny ac i lawr yn dibynnu ar faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu ei fod yn aml yn ddrutach yn y gaeaf. Mae Debyd Uniongyrchol yn golygu y byddwch chi’n talu eich bil yn awtomatig ac fel arfer bydd y bil yr un swm bob mis.

Os ydych chi’n byw mewn cartref yr ydych chi’n ei rentu ac rydych chi eisiau newid i dalu gyda chredyd, does dim angen caniatâd eich landlord arnoch chi. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi newid modd eich mesurydd neu’ch mesurydd clyfar yn ôl ar ddiwedd eich tenantiaeth.

Ewch i weld a allwch chi newid o dalu ymlaen llaw i dalu drwy gredyd.

Dod o hyd i’r lle agosaf i chi ychwanegu arian

Gallwch ychwanegu arian mewn Swyddfa Bost neu Payzone, neu unrhyw siop sydd â logo PayPoint.

Dewch o hyd i Swyddfa Bost neu Payzone yn eich ardal chi ar wefan Payzone.

Dewch o hyd i PayPoint yn eich ardal chi ar wefan PayPoint.

Os oes gan eich eiddo newydd fesurydd clyfar

If you think your smart meter isn’t working properly or sending readings to your energy supplier, there might be things you can do. Check what to do if you’re having problems with your smart meter.

Rhagor o gymorth

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr - gall cynghorwr hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein.

Gallwch chi hefyd ddarllen ein canllawiau ar arbed arian ar eich biliau ynni.

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau gorddrafft

Os ydych chi’n cael trafferth gydag arian, mae pethau y gallwch eu gwneud i arbed arian ar eich costau byw rheolaidd. Cael gwybod beth i’w wneud os oes angen help arnoch chi gyda chostau byw.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau, gallwch gael help. Rhagor o wybodaeth am gael help gyda’ch biliau.

Gallwch chi hefyd gael help gyda dyledion..

If you're struggling to pay for food, find out how to get help from a food bank.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.