Cael car Motability

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n cael budd-dal oherwydd bod gennych chi anabledd neu salwch sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi symud o gwmpas, gallwch ei ddefnyddio i dalu am gerbyd gan elusen o'r enw Motability.

Gallwch chi ddewis o blith llawer o gerbydau gwahanol, er enghraifft ceir, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn modur.

Dim ond am brydles y cerbyd y byddwch chi'n talu – nid chi fydd yn berchen ar y car. Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gael eich budd-dal, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd y cerbyd.

Gwiriwch eich bod yn gymwys

Gallwch gael car neu gerbyd Motability os ydych chi’n cael:

  • elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar y gyfradd uwch   

  • elfen symudedd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar y gyfradd uwch

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP) neu’r Atodiad Symudedd      Pensiynwyr Rhyfel

  • elfen symudedd y Taliad Anabledd Oedolion ar y gyfradd uwch

  • elfen symudedd y Taliad Anabledd Plant ar y gyfradd uwch

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am gerbyd Motability, bydd yn rhaid bod gennych chi o leiaf 12 mis ar ôl cyn i'ch budd-dal ddod i ben – gwiriwch eich llythyr penderfyniad budd-dal os nad ydych chi'n siŵr.

Allwch chi ddim gwneud cais am gerbyd Motability os ydych chi'n cael DLA a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi anfon llythyr atoch yn dweud bod angen i chi wneud cais am PIP. Ni fydd yn effeithio arnoch chi os oes gennych chi gerbyd Motability eisoes.

Os nad ydych chi'n gyrru, mae’n dal yn bosibl i chi gael cerbyd Motability a dewis rhywun arall i'w yrru. Gallwch chi ddewis hyd at 2 o bobl i yrru ar eich rhan.

Hawlio ar ran plentyn

Mae'n bosibl hawlio am gerbyd Motability ar gyfer plentyn sy'n 3 oed neu'n hŷn.

Darllenwch fwy am y cymorth Motability sydd ar gael ar GOV.UK.

If you’re moving from DLA to PIP

If you’re moving from DLA to PIP and don’t qualify for the enhanced rate mobility component after you’ve been reassessed, you’ll have to return your vehicle.

You should return your vehicle within 8 weeks of your DLA payments stopping - or 26 weeks if you joined Motability before 2014.

You might be entitled to a one-off payment from Motability when you return your vehicle, depending on its condition and when you joined Motability.

You can find out from Motability about returning your vehicle and the payment, known as 'transitional support'.

If you think you’ve been given the wrong amount of PIP, you can challenge the decision. Some PIP decisions are overturned on appeal, so you might be able to get another vehicle.

Talu am eich cerbyd

Bydd eich budd-dal yn mynd yn uniongyrchol i'r Cynllun Motability bob mis i dalu am eich prydles. Bydd faint o'ch budd-dal a fydd yn mynd tuag at eich cerbyd yn dibynnu ar ba gerbyd a ddewiswch

Mae'n debyg y bydd angen i chi wneud taliad ymlaen llaw os dewiswch chi gerbyd drutach. Efallai y byddwch yn gallu cael rhywfaint o help gyda'r taliad hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae rhagor o wybodaeth am gael cymorth ariannol ychwanegol ar wefan elusen Motability. .

Beth gewch chi

Yn ogystal â’ch cerbyd, byddwch yn cael:

Os ydych chi am ddefnyddio'ch cerbyd at ddibenion gwaith, bydd angen i chi gael caniatâd gan RSA Motability. Efallai y byddwch chi'n cael defnyddio'ch cerbyd ar gyfer rhai mathau o weithgarwch busnes, er enghraifft os ydych chi'n werthwr sydd yn teithio. Ni fyddwch yn cael defnyddio'ch cerbyd ar gyfer mathau eraill o waith – er enghraifft fel tacsi neu i ddosbarthu pethau. Gallwch gysylltu ag RSA Motability naill ai’n ysgrifenedig neu dros y ffôn. Gofynnwch am 'Ffurflen Gais – Defnydd Busnes' .

RSA Motability

PO Box 40

New Hall Place

Old Hall Street

Liverpool

L69 3SD

Rhif ffôn: 0300 037 3737

Ffôn testun: 

8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 4pm ar ddydd Sadwrn

Sut i ddod o hyd i gerbyd Motability

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Mae'n werth cael hyn yn barod cyn i chi ddechrau chwilio am gerbyd.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich dogfen adnabod – fel trwydded yrru neu basbort

  • eich tystysgrif hawl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Dylech ddilyn y camau hyn i gael cerbyd Motability:

1) Sut i ddod o hyd i werthwyr ceir

Gallwch ddod o hyd i werthwyr ceir yn eich ardal ar wefan Motability.

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Motability. Gall gymryd peth amser i gael ateb rhwng 9am a 11am ar ddydd Llun, felly mae'n werth ffonio y tu allan i'r oriau yma os gallwch chi.

Llinell Gymorth Motability 

Rhif ffôn : 0300 456 4566

8am tan 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 1pm ar ddydd Sadwrn

Mae galwadau'n costio 12c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 45c o ffôn symudol

2) Ymweld â gwerthwyr ceir

Ar ôl i chi ddod o hyd i werthwr yr ydych yn hapus ag ef, gofynnwch am apwyntiad gyda'i arbenigwr Motability. Gallwch ofyn i’r arbenigwr ymweld â chi gartref neu helpu i drefnu eich cludiant at y gwerthwr ac yn ôl, os yw'n anodd i chi gyrraedd yno.

Gofynnir i chi lenwi holiadur i helpu i ddod o hyd i’r cerbyd mwyaf addas i chi.

Rhowch wybod i'ch gwerthwr ceir os ydych chi'n meddwl bod angen addasu eich cerbyd. Mae Motability yn cynnig rhai addasiadau am ddim – gallwch wirio a yw'r addasiad sydd ei angen arnoch ar gael ar eu gwefan.

Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn neu gymorth symudedd, ewch â nhw gyda chi i wneud yn siŵr eu bod yn ffitio yn y car.

Os nad ydych chi'n hapus gyda'r dewis o gerbydau sydd gan y gwerthwr i'w gynnig, mae'n werth cysylltu ag un arall – efallai y bydd opsiynau eraill yno.

3) Archebu eich cerbyd

Ar ôl i chi ddod o hyd i'r cerbyd cywir, gallwch ei archebu drwy eich gwerthwr ceir.

Bydd angen i chi ddangos:

  • eich tystysgrif hawl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

  • math o ddogfen adnabod, fel pasbort neu drwydded yrru

  • prawf o gyfeiriad, fel bil treth gyngor neu ddatganiad banc o'r 6 mis diwethaf

Os mai chi fydd yn gyrru'r car, bydd angen i chi ddangos eich trwydded yrru.

Tua phythefnos ar ôl archebu eich car, byddwch yn cael llythyr cadarnhau yn y post. Cadwch ef yn ddiogel – mae'n cynnwys eich Rhif Adnabod Personol (PIN). Bydd angen hwn arnoch chi pan fyddwch chi'n casglu eich cerbyd.

4) Casglu eich cerbyd a llofnodi'r brydles

Byddwch yn llofnodi eich cytundeb prydles drwy nodi eich Rhif Adnabod Personol (PIN) gyda’r gwerthwr ceir.

Gallwch ofyn i'ch cerbyd gael ei ddanfon, os na allwch gyrraedd y gwerthwr ceir yn hawdd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.