Budd-daliadau a chymorth ychwanegol y gallwch chi eu cael wrth dderbyn Lwfans Gweini

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae cael Lwfans Gweini yn golygu y gallech chi gael mathau eraill o gymorth hefyd.

Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Help gyda’ch treth gyngor

Efallai y byddwch chi'n gallu cael help gyda'ch treth gyngor drwy gael cymorth  ‘Gostyngiad Treth Gyngor’ os ydych yn derbyn Lwfans Gweini.  

Hyd yn oed os oeddech chi’n cael gostyngiad yn eich treth gyngor yn barod, efallai y byddwch chi'n gallu cael mwy nawr eich bod chi'n cael Lwfans Gweini.

Gall eich cyngor lleol wirio pa Ostyngiad Treth Gyngor y dylech fod yn ei gael.  

Gallwch gael manylion ar sut i wneud cais i’ch cyngor lleol am Ostyngiad Treth Gyngor ar GOV.UK.

Gwirio os allwch chi gael budd-daliadau eraill

Efallai y byddai'n werth gwneud cais am fudd-daliadau fel Credyd Pensiwn – neu Gredyd Cynhwysol os ydych chi’n byw gyda phartner o dan oedran pensiwn y wladwriaeth.

Os ydych chi’n derbyn Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol, gallwch chi gael cymorth ychwanegol gyda chostau byw - er enghraifft Taliadau Tanwydd Gaeaf. Gallwch:

Efallai y byddai'n werth gwneud cais hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich gwrthod yn y gorffennol oherwydd eich bod wedi ennill gormod. Mae cael Lwfans Gweini yn golygu eich bod yn cael ennill mwy o arian nag o'r blaen heb i'ch budd-daliadau gael eu heffeithio.

It’s always best to get advice about what extra help you’re entitled to. Contact your nearest Citizens Advice for help.

Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y ‘Cap Budd-daliadau‘ os ydych chi neu’ch partner yn cael Lwfans Gweini. Mae’r cap budd-daliadau yn cyfyngu ar faint o fudd-daliadau y gall aelwyd eu derbyn.

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau eraill yn barod

Gallai eich budd-daliadau neu gredydau treth gynyddu os cewch chi Lwfans Gweini.

Cysylltwch â’r holl swyddfeydd budd-daliadau sy’n delio â’ch budd-daliadau eraill a dywedwch wrthynt eich bod yn cael Lwfans Gweini. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn asesu pa fathau eraill o gymorth y gallech chi eu derbyn.

Efallai y bydd angen i chi anfon copi o’ch llythyr penderfyniad Lwfans Gweini atynt.

Cael cymorth teithio

You can get a Disabled Person’s Railcard if you get Attendance Allowance.

Getting Attendance Allowance might also help to support your application for a Blue Badge. A Blue Badge allows you to park closer to where you need to go if you’re disabled.

Read more about a Disabled Person's Railcard and the Blue Badge.

Cymorth y gallai eich gofalwr ei gael – Lwfans Gofalwr

Os oes rhywun yn gofalu amdanoch chi, efallai y byddant yn gallu hawlio Lwfans Gofalwr. Mae Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu i’ch gofalwr.

Efallai y bydd eich gofalwr yn cael Lwfans Gofalwr os:

  • ydych yn cael Lwfans Gweini ar unrhyw raddfa

  • ydynt yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu amdanoch chi

  • ydyn nhw’n ennill llai na £196 yr wythnos (ar ôl trethi)

Darllenwch fwy am Lwfans Gofalwr ar GOV.UK.

You might not be entitled to get higher payments of your other benefits if someone gets paid Carer’s Allowance for looking after you. Contact your nearest Citizens Advice.

Cymorth elusennau eraill

You can get further information on Attendance Allowance and care needs support from Age Cymru.

Age Cymru

Ground Floor, Mariners House

Trident Court

East Moors Road

Cardiff

CF24 5TD

Email: advice@agecymru.org.uk or use the contact form on their website

Twitter: @AgeCymru

Website: www.ageuk.org.uk/cymru

Advice Line: 0300 303 44 98

Monday to Friday, 9am to 4pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

You can also find details of disability support agencies near to you on the Scope website.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.