Edrychwch i weld a yw ystafell yn cyfrif fel ystafell wely ychwanegol at ddibenion Budd-dal Tai

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi'n rhentu gan eich cyngor lleol neu gymdeithas dai, gallai eich Budd-dal Tai leihau os oes gennych chi fwy o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen arnoch yn ôl y rheolau. Gelwir y rheolau weithiau'n 'dreth ystafell wely'.

Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol os ydych chi'n rhentu gan landlord neu asiant gosod eiddo preifat. Gwiriwch y rheolau ar ystafelloedd gwely i rentwyr preifat.

Os ydych chi'n rhentu gan y cyngor neu gymdeithas dai, nid yw'r rheolau’n berthnasol os ydych chi neu'ch partner dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth - gallwch wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn GOV.UK.

Hyd yn oed os nad yw'r rheolau hyn yn berthnasol i chi, gallai eich taliadau fynd i fyny neu i lawr o hyd os bydd eich amgylchiadau'n newid – edrychwch i weld a yw newid yn effeithio ar eich Budd-dal Tai.

Os yw'r rheolau ystafell wely yn berthnasol i chi, bydd y cyngor yn gwirio:

  • faint o ystafelloedd gwely sydd gennych chi

  • faint o bobl sy'n byw gyda chi

  • os gall unrhyw un rydych chi'n byw gyda nhw rannu ystafell wely

Edrychwch i weld beth sy'n cyfrif fel ystafell wely

Fel arfer, eich landlord sy’n penderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd yn eich cartref.

Os nad ydych chi'n siŵr a yw ystafell yn cyfrif fel ystafell wely, cymerwch olwg ar eich contract. Mae'r holl ystafelloedd sy’n cael eu disgrifio fel ystafell wely yn cyfrif - hyd yn oed os ydyn nhw'n fach neu’n cael eu defnyddio ar gyfer rhywbeth arall.

Cysylltwch â'ch landlord os nad oes gennych gontract, neu os nad yw'n bosibl defnyddio'r ystafell fel ystafell wely. Er enghraifft, gallai'r ystafell fod yn rhy fach ar gyfer gwely sengl, neu gallai fod yn rhaid i bobl fynd drwyddi i gyrraedd ystafell arall.

Edrychwch i weld faint o ystafelloedd y gallwch eu cael ar gyfer Budd-dal Tai

Gallwch chi gael 1 ystafell wely ar gyfer pob person sy'n sengl ac yn 16 oed neu hŷn.

Fel arfer, mae angen i 2 berson rannu ystafell os ydyn nhw:

  • yn gwpl

  • o dan 10 oed - does dim ots os ydyn nhw'n ferched neu'n fechgyn

  • o dan 16 oed - os ydyn nhw’n ddwy ferch neu ddau fachgen

Efallai na fydd angen iddyn nhw rannu os ydyn nhw'n cael budd-dal anabledd ac yn methu â rhannu ystafell. Mae ’na wahanol reolau ar gyfer oedolion a phlant – gwiriwch pwy nad oes rhaid iddynt rannu os ydyn nhw’n anabl.

Enghraifft

Mae Llinos yn byw gyda'i phartner a 4 o blant. Does dim un ohonyn nhw’n anabl.

Mae Llinos a'i phartner yn rhannu 1 ystafell.

Mae 2 o blant Llinos o dan 10 oed. Mae'r ddau ohonyn nhw'n fechgyn.

Mae plant eraill Llinos, merch a bachgen, rhwng 10 ac 16 oed.

Bydd 2 o'r bechgyn yn rhannu 1 ystafell. Bydd gan y plant eraill 2 ystafell ar wahân.

Mae gan Llinos hawl i 4 ystafell wely.

Os oes angen ystafell arnoch chi i rywun arall

Efallai na fydd y cyngor yn lleihau eich Budd-dal Tai os oes gennych ystafell arall am y rhesymau canlynol:

  • mae rhywun yn bwriadu symud yn ôl i mewn gyda chi - er enghraifft os ydyn nhw'n fyfyriwr ac yn aros yn y brifysgol yn ystod y tymor

  • mae angen i ofalwr aros dros nos i helpu rhywun sy'n anabl

  • rydych chi'n ofalwr maeth sy'n aros i blentyn gael ei leoli gyda chi

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni'r rheolau ynglŷn â phwy y mae angen ystafell wely arall arnynt – edrychwch i weld pwy sydd â’r hawl i ystafell wely arall.

Os yw'r cyngor yn meddwl bod gennych chi ormod o ystafelloedd gwely

Byddan nhw’n lleihau swm y rhent y mae eich Budd-dal Tai yn ei dalu gan:

  • 14% os oes gennych chi 1 ystafell ychwanegol

  • 25% os oes gennych chi 2 neu fwy o ystafelloedd ychwanegol

Efallai na fydd eich taliadau’n newid gan 14% neu 25% yn union. Efallai y bydd y cyngor yn cymryd mwy neu lai o arian os ydych chi'n cael budd-daliadau eraill, neu os gallai rhywun rydych chi'n byw gyda nhw helpu i dalu'r rhent.

Bydd y cyngor yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint fydd eich taliadau Budd-dal Tai newydd.

Gallwch chi herio'r penderfyniad os ydych chi'n credu eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad.

Fel arfer, mae angen i chi herio'r penderfyniad o fewn 1 mis ar ôl y dyddiad y gwnaethant ddweud wrthych eu bod yn lleihau eich Budd-dal Tai. Os yw wedi bod yn fwy na mis, bydd angen i chi esbonio pam na allech chi wneud hynny’n gynharach.

Edrychwch i weld sut i herio penderfyniad y cyngor.

Os na allwch fforddio'ch rhent

Mae ’na bethau y gallwch eu gwneud os na allwch fforddio'ch biliau, gan gynnwys rhent.

Gallwch chi gael help os ydych chi’n cael trafferth talu’ch biliau.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 30 Medi 2020