Os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cael ei atal neu ei leihau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael yn newid, byddwch naill ai’n cael llythyr neu neges pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Os oes gennych chi gyfrif ar-lein, gallwch gofrestru i gael hysbysiadau neges testun neu e-bost hefyd.
Gall eich Credyd Cynhwysol gael ei leihau:
os ydych chi wedi rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau sy’n golygu y byddwch chi’n cael llai - er enghraifft, rydych chi wedi symud tŷ neu’n ad-dalu taliad ymlaen llaw, taliad caledi neu daliad cyllidebu ymlaen llaw
os ydych chi wedi cael eich cosbi - beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich cosbi
os ydych chi wedi ennill mwy o arian o waith - sut mae gweithio'n effeithio ar eich Credyd Cynhwysol
Gallech hefyd gael llai o arian os ydych chi wedi cael gormod o Gredyd Cynhwysol neu fudd-dal arall. Gelwir hyn yn ‘ordaliad’. Byddwch yn cael llai o Gredyd Cynhwysol bob mis nes i chi dalu'r gordaliad yn ôl.
Os oes arnoch chi arian, efallai y bydd eich credydwr yn gallu gwneud cais i gael ei dalu o’ch taliad - gelwir hyn yn ‘ddidyniad trydydd parti’. Er enghraifft, os nad ydych chi wedi talu bil dŵr, gallai eich cwmni dŵr wneud cais i gymryd taliadau rheolaidd o'ch Credyd Cynhwysol.
Os ydych chi wedi cael gordaliad
Byddwch chi’n cael llai bob mis hyd y byddwch wedi’i dalu yn ôl. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gostwng eich taliad rhwng 15% a 25% o’ch ‘lwfans safonol’ - dyma'r swm sylfaenol a gewch, heb gynnwys symiau ychwanegol a elwir yn 'elfennau'.
Er enghraifft - os yw’ch taliad yn cael ei leihau 15% o’ch lwfans safonol a bod eich lwfans safonol yn £334.91 y mis fel arfer, bydd cyfanswm eich taliad yn cael ei leihau £50.24.
Gellir lleihau eich taliad hefyd os digwyddodd eich gordaliad drwy dwyll. Fel arfer, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd mwy na 25% o'ch lwfans safonol.
Os ydych chi’n meddwl na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno oherwydd eich bod yn ad-dalu gordaliad dylech siarad â chynghorydd. Gall eich helpu i gyllidebu neu ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gymryd ad-daliadau ar gyfradd is neu roi’r gorau i gymryd ad-daliadau yn gyfan gwbl.
Os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau i dalu’ch dyledion
Byddwch ond yn cael didyniad os yw’r credydwr yn gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau - fe’i gelwir yn ‘ddidyniad trydydd parti’. Fel arfer mae’n 5% o’ch lwfans safonol ond gallai fod yn fwy. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych os yw hyn wedi digwydd - un ai ar eich cofnod ar-lein os oes gennych chi un, neu mewn llythyr.
Gellir ond gwneud didyniadau ar gyfer:
ôl-ddyledion rhent a chostau tai eraill fel taliadau gwasanaeth - gall y didyniad fod rhwng 10% a 20% am ôl-ddyledion rhent
ôl-ddyledion nwy, trydan neu ddŵr
ôl-ddyledion biliau’r dreth gyngor
cynhaliaeth cynnal plant
rhai benthyciadau
rhai cosbau
Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau 5% o’ch ‘lwfans safonol’ ar gyfer y rhan fwyaf o ddidyniadau trydydd parti - gellir cymryd mwy o arian ar gyfer rhai dyledion. Er enghraifft, ar gyfer ôl-ddyledion rhent.
Ni fyddwch chi fyth yn cael mwy na 3 didyniad trydydd parti ar yr un pryd ac yn y mwyafrif o achosion ni fydd mwy na 25% o’ch lwfans safonol yn cael ei gymryd.
Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n credu na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw arno. Gall cynghorwr eich helpu i gyllidebu a gofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau newid y penderfyniad neu apelio os yw hynny’n addas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu apelio faint sy’n cael ei dynnu o’ch Credyd Cynhwysol ar gyfer ôl-ddyledion rhent.
Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno
Gallwch ofyn am ddidyniad llai os yw'r swm sy'n cael ei dynnu o'ch Credyd Cynhwysol yn golygu nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno. Efallai y bydd didyniad o'ch Credyd Cynhwysol ar gyfer:
dyled budd-daliadau
benthyciad Cronfa Gymdeithasol
ôl-ddyledion rhent
Bydd angen i chi ddangos i’r Adran Gwaith a Phensiynau nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno - gelwir hyn yn galedi ariannol. Bydd angen i chi roi datganiad ariannol iddynt yn dangos eich incwm ac ar beth rydych chi’n gwario’ch arian. Bydd angen i chi hefyd ddangos nad ydych chi’n gallu talu’ch costau byw sylfaenol gyda chyfradd bresennol y didyniad. Gallwch anfon yr wybodaeth hon drwy’ch cofnod ar-lein neu mewn llythyr os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein.
Os ydych chi’n credu bod eich taliad yn anghywir
Dylech ffonio'r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu ofyn am esboniad gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un. Dylech wneud hyn:
os yw’ch taliad yn llai na’r hyn y byddech wedi’i ddisgwyl a’ch bod heb gael gwybod pam
os ydych chi’n credu bod camgymeriad wedi bod gyda’r ffordd y cyfrifwyd eich Credyd Cynhwysol
Darparu unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi
Mae’n syniad da rhoi rhywfaint o dystiolaeth iddynt o’r camgymeriad os gallwch chi. Bydd angen i chi wneud hyn drwy’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un, neu mewn llythyr. Gallai’r dystiolaeth gynnwys, er enghraifft:
eich contract meddiannaeth - os ydych chi’n credu bod eich costau tai yn anghywir
slipiau cyflog neu gyfriflenni banc - os oes camgymeriad wedi bod â’ch enillion (gofynnwch i’ch cyflogwr am slipiau cyflog os nad oes gennych chi gopi)
biliau gofal plant - os ydynt wedi cael eich costau gofal plant yn anghywir
Os ydych chi’n dal i anghytuno â’r didyniad
Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi esboniad i chi a’ch bod yn dal i anghytuno â’r penderfyniad, gallwch ei herio - gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Video Relay - os ydych chi’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Mehefin 2018