Mynd i’ch cyfweliad Credyd Cynhwysol a chael penderfyniad
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Y cam olaf wrth wneud cais am Gredyd Cynhwysol yw cael cyfweliad gyda’ch ‘hyfforddwr gwaith’ – y swyddog y byddwch yn cwrdd ag ef yn rheolaidd wrth wneud hawliad. Cyn hynny, bydd angen i chi greu cyfrif Credyd Cynhwysol.
Wedi i chi greu cyfrif Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych chi a fydd y cyfweliad yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Waith neu dros y ffôn - edrychwch yn eich cyfrif ar-lein i weld a oes negeseuon. Bydd eich hyfforddwr gwaith yn gwirio’ch manylion ac yn gofyn i chi gytuno ar eich ‘ymrwymiad hawlydd’ - hwn fydd yn nodi’r tasgau y byddwch yn eu gwneud yn rheolaidd er mwyn derbyn Credyd Cynhwysol.
Os nad oeddech wedi gallu defnyddio system ar-lein y llywodraeth i brofi pwy ydych chi, bydd yn rhaid i chi ateb rhagor o gwestiynau yn y cyfweliad i gadarnhau pwy ydych chi.
Trefnu’ch cyfweliad
Wedi i chi wneud cais ar-lein, bydd angen i chi drefnu cyfweliad yn y Ganolfan Waith leol. Bydd angen i chi ei drefnu o fewn mis. Os na fyddwch yn trefnu’r cyfweliad o fewn mis, mae’n bosibl y byddwch yn gorfod ail-wneud y cais am Gredyd Cynhwysol.
Er mwyn trefnu’r cyfweliad, bydd angen i chi edrych yn gyntaf yn yr adran ‘pethau i’w gwneud’ yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Bydd eitem yno o’r enw ‘paratoi ar gyfer eich apwyntiad’.
Bydd angen i chi ddewis pa ddogfennau y byddwch yn dod â nhw i’r cyfweliad. Dewiswch ‘Nid oes gen i ddim un o’r rhain’ os nad oes dim un ohonynt gennych chi. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i chi ateb rhagor o gwestiynau yn y cyfweliad.
Byddai DWP yn gallu’ch ffonio chi i drefnu’r cyfweliad. Os na fyddant yn eich ffonio, bydd angen i chi eu ffonio nhw o fewn mis. Byddwch yn gweld y rhif ffôn ar gyfer trefnu’r cyfweliad wedi i chi ddewis y dystiolaeth y byddwch yn dod â hi i’r cyfweliad.
Os na allwch ddod o hyd i rif ffôn neu os na allwch ddod i’r cyfweliad, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol. Bydd angen i chi fod â’ch rhif Yswiriant Gwladol wrth ffonio. Mae’ch rhif Yswiriant Gwladol i’w weld ar:
slip cyflog
llythyr oddi wrth CThEF
llythyr oddi wrth DWP
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.
Dywedwch wrth y person rydych yn siarad ag ef os ydych wedi cael problemau wrth brofi pwy ydych chi ar-lein. Bydd yn dweud wrthych beth fydd angen i chi ddod ag ef i’r cyfweliad.
Cael galwad ffôn am eich hawliad
Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae’n bosibl y bydd DWP yn eich ffonio ynghylch eich cais - byddant yn defnyddio rhif ffôn wedi’i gadw’n ôl, rhif 0800 neu rif preifat. Os ydynt yn bwriadu’ch ffonio, byddant yn anfon neges atoch ar eich cyfrif ar-lein.
Bydd DWP yn rhoi gwybod i chi mai nhw sydd ar y ffôn drwy ddweud eich cod post a rhan o rif eich cyfrif Credyd Cynhwysol yn ystod y galwad. Gofynnwch am y rhain os nad ydynt wedi’u rhoi i chi a rhowch y ffôn i lawr os na fyddwch yn eu cael - mae’n bosibl mai sgam yw’r galwad.
Edrych ar eich cyfrif ar-lein
Mewngofnodwch i’ch cyfrif i wirio manylion y cyfweliad. Bydd y rhain yn adran y ‘rhestr pethau i’w gwneud’.
Pryd bynnag y byddwch yn cwblhau rhywbeth ar eich rhestr pethau i’w gwneud, byddwch yn gallu dod o hyd iddo yn yr adran ‘dyddlyfr’. Fel hyn, bydd gennych chi gofnod o beth rydych wedi’i wneud.
Gallwch ddefnyddio’r dyddlyfr i wneud y canlynol:
cysylltu â DWP a’ch hyfforddwr gwaith
ychwanegu a lanlwytho tystiolaeth, er enghraifft, gwybodaeth am eich iechyd neu gostau gofal plant
Dylech edrych yn y dyddlyfr yn rheolaidd i sicrhau na fyddwch yn methu unrhyw negeseuon oddi wrth DWP neu’ch hyfforddwr gwaith. Ceisiwch ateb unrhyw negeseuon oddi wrth eich hyfforddwr gwaith cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn ei chael yn anodd mynd i’r cyfweliad am eich bod yn sâl neu’n anabl
Dylech ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Gallwch ofyn i’r Ganolfan Waith newid y trefniadau i wneud pethau’n haws i chi - yr enw ar hyn yw ‘addasiad rhesymol’. Er enghraifft, gallwch ofyn iddynt wneud y canlynol:
symud y cyfweliad i le sy’n haws i chi ei gyrraedd
cael dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain
cael cyfweliad dros y ffôn
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.
Os na wnaiff y Ganolfan Waith newidiadau mewn perthynas â’ch salwch neu anabledd, gwiriwch i weld a ydynt wedi methu â gwneud ‘addasiad rhesymol’.
Os na fyddant yn barod i wneud dim wedyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cymryd camau ynghylch gwahaniaethu.
Os oes angen i chi ganslo’r cyfweliad
Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol ar unwaith os nad ydych yn gallu dod i’r cyfweliad.
Dylech allu aildrefnu’r cyfweliad os ydych yn cynnig rheswm da. Er enghraifft - eich bod yn sâl ar y diwrnod, bod angen i chi drefnu gwaith atgyweirio brys yn eich cartref neu fod eich plant yn sâl. Fel arfer, ni fyddwch yn gorfod aros mwy nag wythnos am gyfweliad arall - gallwch drefnu hyn pan fyddwch yn ffonio.
Os byddwch yn methu cyfweliad heb ddweud wrth y Ganolfan Waith, gallent wrthod eich cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd eich hawliad yn cael ei ‘gau’. Fel arfer, byddwch yn gorfod dechrau’ch cais eto a gallai’ch taliad cyntaf gael ei ohirio.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.
Y peth gorau fydd galw ar y rhif ffôn roeddech wedi’i roi i DWP wrth greu’ch cyfrif Credyd Cynhwysol. Wedyn ni fyddwch yn gorfod aros mor hir ac mae’n bosibl y byddwch yn mynd drwodd at yr un swyddog a oedd wedi delio â galwadau a wnaethoch o’r blaen.
Ceisiwch roi cymaint o rybudd â phosibl, ond bydd yn iawn i chi ffonio ar ddiwrnod y cyfweliad os na allwch wneud yn gynt na hynny.
Gwnewch nodyn ar-lein yn eich dyddlyfr wedi i chi alw’r llinell gymorth. Ysgrifennwch beth a gytunwyd fel y gallwch gyfeirio ato’n ddiweddarach.
Os ydych am ddod â ffrind neu berthynas gyda chi
Gallwch ddod â ffrind neu berthynas gyda chi i’r cyfweliad os oes angen i chi gael cymorth.
Dywedwch wrth DWP cyn y cyfweliad ac egluro’r rhesymau. Rhaid iddynt adael i chi ddod â rhywun gyda chi.
Gallwch gysylltu â DWP ar eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol. Os cewch broblemau wrth wneud hyn, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol:
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.
Y peth gorau fydd galw ar y rhif ffôn roeddech wedi’i roi i DWP wrth greu’ch cyfrif Credyd Cynhwysol. Wedyn ni fyddwch yn gorfod aros mor hir ac mae’n bosibl y byddwch yn mynd drwodd at yr un swyddog a oedd wedi delio â galwadau a wnaethoch o’r blaen.
Casglu popeth sydd ei angen ar gyfer y cyfweliad
Bydd yn rhaid i chi fynd â dogfennau i ddangos bod y manylion roeddech wedi’u rhoi yn eich cais ar-lein yn rhai cywir. Ewch ag unrhyw ddogfennau roeddech wedi dweud y byddech yn eu cyflwyno yn ogystal ag unrhyw beth arall sy’n helpu i ddangos pwy ydych chi.
Ni fyddwch yn cael y taliad Credyd Cynhwysol cyntaf nes byddwch wedi dod â’r holl ddogfennau.
Gwirio i weld beth fydd angen i chi ddod ag ef
Bydd yn bwysig bod y dystiolaeth iawn gennych chi wrth gwrdd â’ch hyfforddwr gwaith. Gallwch ddefnyddio rhestr wirio i’ch atgoffa o beth fydd angen i chi fynd ag ef i’r cyfweliad.
Peidiwch â phoeni os na fydd gennych chi’r holl ddogfennau sydd eu hangen - bydd angen i chi ateb rhagor o gwestiynau yn y Ganolfan Waith.
Os na fyddwch yn mynd â’r holl ddogfennau sydd eu hangen, bydd angen i chi fynd â nhw i’r Ganolfan Waith o fewn un mis ar ôl y cyfweliad.
Hefyd gallwch bostio’r dogfennau ychwanegol i’r Ganolfan Waith os na allwch fynd â nhw ar y diwrnod - gofynnwch am y cyfeiriad yn y cyfweliad.
Os nad yw’r dogfennau ychwanegol gennych chi, dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith - efallai y bydd yn gallu gofyn cwestiynau ychwanegol i chi yn lle hynny. Ni fydd y taliadau Credyd Cynhwysol yn dechrau nes byddwch wedi cyflwyno pob dim sydd gennych chi.
Os ydych yn cyd-fyw â’ch partner, bydd eich partner yn cael ei gyfweliad ei hun. Bydd angen i’r partner fynd â dogfennau i roi prawf o’i fanylion - hyd yn oed os ydych chi wedi rhoi prawf o rai pethau, fel eich cyfeiriad.
Os bydd angen help arnoch i baratoi at y cyfweliad, gallwch siarad ag un o’n cynghorwyr.
Mynd â llun adnabod
Bydd angen i chi fynd ag o leiaf un llun adnabod i’r Ganolfan Waith. Rhai o’r dogfennau a fydd yn cynnwys llun adnabod yw:
pasbort
trwydded yrru
cerdyn adnabod cenedlaethol os ydych yn ddinesydd yn yr UE
Os nad oes gennych lun adnabod, byddai’r Ganolfan Waith yn gallu gofyn cwestiynau ychwanegol i chi yn lle hynny. Ni fydd angen i chi baratoi at y rhain ond fe fydd y cyfweliad yn para’n hirach nag arfer, felly y peth gorau fydd mynd â llun adnabod os oes gennych un.
Os oes angen i chi brynu dogfen adnabod newydd, gallwch holi’ch hyfforddwr gwaith am ddefnyddio arian o’r Gronfa Cymorth Hyblyg.
Mynd â’ch manylion tai
Os ydych yn rhentu’n breifat, bydd angen i chi brofi faint o rent rydych yn ei dalu a beth yw cyfeiriad eich landlord - ewch â’ch cytundeb rhent neu ddatganiad rhent diweddar. Enwau posibl eraill ar gytundeb rhent yw ‘cytundeb tenantiaeth’, ‘cytundeb trwydded’ neu ‘ddatganiad ysgrifenedig o’ch contract meddiannaeth’.
Os nad yw’r un o’r rhain gennych, gofynnwch i’ch landlord am gopi o’r cytundeb neu am lythyr yn cynnwys manylion eich cytundeb.
Os ydych yn rhentu’ch cartref gan y cyngor lleol neu gymdeithas dai, ni fydd angen i chi fynd â thystiolaeth o’ch costau tai i’r cyfweliad. Byddwch wedi nodi manylion eich costau tai yn eich cais ar-lein - bydd DWP yn cysylltu â’ch landlord i wirio bod y manylion hynny’n gywir.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch morgais neu fenthyciad. Gallai’r dystiolaeth fod yn gytundeb morgais neu’n gyfriflenni banc yn dangos bod morgais yn cael ei dalu.
Mynd â’ch manylion banc
Bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Gallai’r manylion hyn fod ar eich cerdyn banc neu ar gyfriflen banc. Os nad oes gennych unrhyw gyfriflenni banc, gallech ofyn am un gan eich banc - efallai y byddech yn gorfod talu ffi fach am hyn.
Os ydych wedi defnyddio cyfrif banc un o’ch ffrindiau neu aelodau o’ch teulu i gael eich taliad cyntaf, y peth gorau i chi fydd holi am beth i’w wneud nesaf wrth eich hyfforddwr gwaith yn y cyfweliad.
Os ydych yn bancio ar y rhyngrwyd, gallwch argraffu cyfriflen o’ch cyfrif ar-lein.
Mynd â gwybodaeth am eich incwm a’ch cynilion
Bydd angen i chi ddangos manylion am faint rydych yn ei ennill drwy weithio. Gallech fynd â slipiau cyflog diweddar, neu gyfrifon os ydych yn hunangyflogedig. Os ydych wedi gadael gwaith, ewch â’ch ffurflen P45. Dylech hefyd ddangos tystiolaeth am y canlynol:
unrhyw incwm sy’n ddyledus i chi, fel tâl am weithio goramser
unrhyw fanylion am waith y byddwch yn ei ddechrau
unrhyw incwm nad yw’n dod o waith, fel arian o bensiwn neu gynllun yswiriant
unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael, fel llythyrau am fudd-daliadau neu gyfriflen banc
unrhyw gynilion sydd gennych – a chyfriflen banc i ddangos y manylion
unrhyw ‘gyfalaf’ arall sydd gennych, fel cyfranddaliadau neu eiddo
Os ydych yn hunangyflogedig
Bydd angen i DWP allu gweld ai’ch gwaith hunangyflogedig yw’ch prif swydd. Bydd angen i chi ddangos:
faint o waith rheolaidd rydych yn ei gael drwy hunangyflogaeth
faint o elw rydych yn ei wneud
bod trefn ar eich gwaith – er enghraifft, bod gennych chi anfonebau a derbynebau neu gyfrifon
Er mwyn profi mai hunangyflogaeth yw’ch prif waith, ewch â dogfennau fel y canlynol i’r cyfweliad:
eich cynllun busnes – gallwch gael gwybod sut i ysgrifennu cynllun busnes ar wefan GOV.UK
anfonebau
derbynebau
cyfrifon
tystiolaeth eich bod wedi cofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda CThEF
Ffoniwch CThEF i wirio a ydych wedi cael eich cofrestru’n weithiwr hunangyflogedig.
CThEF
Ffôn: 0300 123 2326
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 4.30pm
Mae galwadau i’r rhif hwn yn gallu costio hyd at 9c y funud o linell dir, neu rhwng 3c a 55c y funud o ffôn symudol - bydd cyflenwr eich ffôn yn gallu dweud faint y byddwch yn ei dalu.
Ewch â chynifer o ddogfennau â phosibl er mwyn i’r cyfwelydd allu gweld eich bod yn hunangyflogedig. Os na wnewch hynny, gallech orfod chwilio am waith arall tra byddwch yn derbyn Credyd Cynhwysol.
Os oes plant gennych chi
Bydd angen i chi fynd â’r canlynol:
tystysgrifau geni eich plant – os ydych wedi colli un ohonynt, gallwch archebu tystysgrif geni newydd ar wefan GOV.UK, ond bydd yn rhaid i chi dalu ffi am hyn
tystiolaeth o unrhyw gostau gofal plant – fel anfoneb neu dderbynneb oddi wrth feithrinfa neu warchodwr plant cofrestredig
eich cyfeirnod Budd-dal Plant
Byddwch yn gallu gweld eich cyfeirnod ar unrhyw lythyrau sydd gennych sy’n ymwneud â Budd-dal Plant. Mae’r cyfeirnod yn dechrau â’r llythrennau 'CHB' ac wedyn yn cynnwys 8 rhif a 2 lythyren – er enghraifft: 'CHB12345678 AB'.
Ffoniwch y Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych yn gwybod y cyfeirnod.
Llinell gymorth Budd-dal Plant
Ffôn: 0300 200 3100
Ffôn (Cymraeg): 0300 200 1900
Ffôn testun: 0300 200 3103
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn, gallwch deipio beth rydych am ei ddweud: 18001 wedyn 0300 200 3100
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch gael gwybod sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Y tu allan i’r DU: +44 161 210 3086
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Mae’n debygol na fydd tâl am wneud y galwad ffôn os yw’ch cytundeb ffôn yn cynnwys galwadau ffôn i linellau tir – mwy o wybodaeth am ffonio rhifau 030.
If you don't have the right documents
Don’t worry if you don’t have all the documents you need - take as many as you can.
You’ll still be able to claim Universal Credit, but you’ll need to answer a few more questions when you go to the Jobcentre for your interview.
Call the Universal Credit helpline before your interview and explain why you won't be able to bring the right evidence. You might be able to get more time, for example if you need to order new copies of any documents.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif Ffôn: 0800 328 5644
Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gallwch ffonio am ddim o’ch ffôn symudol neu ffôn tŷ.
It’s best to call from the phone number you gave the DWP when you set up your Universal Credit account. You'll have a shorter wait and might be put through to the same person who handled previous calls you've made.
Meddwl am beth fyddwch yn ei ddweud yn y cyfweliad
Bydd angen i chi gytuno ar y tasgau gwaith y bydd gofyn i chi eu cyflawni yn gyfnewid am daliadau Credyd Cynhwysol – yr enw ar hyn yw’r ‘ymrwymiad hawlydd’. Byddwch yn cytuno ar hyn gyda’ch hyfforddwr gwaith yn y cyfweliad ac yn llofnodi’r ymrwymiad os ydych yn cytuno.
Mae’n bwysig i chi fod mor onest ac agored â phosibl am eich sefyllfa fel bod yr hyfforddwr gwaith yn deall beth rydych yn gallu ei wneud a beth na allwch ei wneud.
Egluro pa waith rydych yn gallu ei wneud
Bydd eich hyfforddwr gwaith yn eich holi am eich sgiliau a’r math o swydd rydych yn chwilio amdani. Os ydych chi mewn swydd, efallai y byddai disgwyl i chi chwilio am swydd sy’n talu’n well neu weithio mwy o oriau. Gallai ofyn i chi:
pa gymwysterau a phrofiad sydd gennych - ewch â’ch CV neu unrhyw dystysgrifau am hyfforddiant neu gymwysterau i’r cyfweliad
faint o arian rydych am ei ennill - dywedwch wrth yr hyfforddwr gwaith faint roeddech yn ei ennill mewn swyddi blaenorol
faint o oriau y gallwch eu gweithio bob wythnos - rhowch reswm da i’r hyfforddwr gwaith os na allwch weithio’n amser llawn, er enghraifft, os oes problemau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu gennych chi
ble allech chi weithio - eglurwch unrhyw gyfyngiadau rydych yn eu hwynebu wrth deithio, er enghraifft, os nad oes car gennych chi
Gallwch gael cyngor ar yrfaoedd a help i chwilio am waith ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.
Egluro’ch sefyllfa i’ch hyfforddwr gwaith
Dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith am unrhyw beth sy’n effeithio ar eich gallu i weithio neu chwilio am waith. Gallai fod yn anodd siarad am rai o’r pethau hyn, ond mae’n werth eu trafod gan eu bod yn effeithio ar beth fyddwch yn gorfod ei wneud i dderbyn taliadau Credyd Cynhwysol.
Dywedwch wrth yr hyfforddwr gwaith:
os oes plant gennych
os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd
os ydych yn gofalu am rywun sydd ag anabledd
os oedd gennych bartner, plentyn neu berson ifanc sydd wedi marw yn y 6 mis diwethaf
os ydych yn cael triniaeth am broblem cyffuriau neu alcohol
os ydych yn ei chael yn anodd darllen neu ysgrifennu
os ydych yn ddigartref
os ydych yn gorfod gwneud gwasanaeth rheithgor
os byddwch yn ei chael yn anodd talu am deithio - mae’n bosibl y bydd yr hyfforddwr gwaith yn gallu’ch helpu drwy roi arian i chi
Dywedwch wrth yr hyfforddwr gwaith os ydych wedi profi cam-drin domestig yn y 6 mis diwethaf - mae’n bosibl na fyddwch yn gorfod cyflawni unrhyw ofynion cysylltiedig â gwaith am 13 wythnos.
Cytuno ar eich ymrwymiad hawlydd
Wedi i chi egluro’ch sefyllfa i’r hyfforddwr gwaith, bydd yn dweud wrthych ym mha ‘grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith’ y byddwch chi. Bydd pob grŵp yn cael gwahanol dasgau i baratoi at waith, er enghraifft, gwneud ceisiadau am swyddi neu ddiweddaru CV.
Grŵp | Beth fydd angen i chi ei wneud |
---|---|
Grŵp
Grŵp heb ofynion cysylltiedig â gwaith |
Beth fydd angen i chi ei wneud
Ni fydd angen i chi wneud dim i baratoi at waith neu chwilio am waith |
Grŵp
Grŵp cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith |
Beth fydd angen i chi ei wneud
Rhaid i chi gwrdd yn rheolaidd â’ch hyfforddwr gwaith |
Grŵp
Grŵp paratoi at waith |
Beth fydd angen i chi ei wneud
Rhaid i chi gwrdd â’ch hyfforddwr gwaith yn rheolaidd a pharatoi at waith hefyd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ysgrifennu CV a dilyn hyfforddiant a chael profiad gwaith |
Grŵp
Grŵp yn cynnwys yr holl weithgareddau cysylltiedig â gwaith |
Beth fydd angen i chi ei wneud
Rhaid i chi wneud popeth yn eich gallu i ddod o hyd i swydd ac ennill mwy o arian. Mae hyn yn cynnwys chwilio am swyddi, gwneud ceisiadau am swyddi a mynd i gyfweliadau |
Bydd eich hyfforddwr gwaith yn ysgrifennu’r tasgau i chi ar eich ymrwymiad hawlydd.
Sicrhau bod eich ymrwymiad hawlydd yn addas i chi
Os teimlwch fod tasgau ar eich ymrwymiad hawlydd na allwch eu gwneud, dywedwch wrth eich hyfforddwr gwaith.
Eglurwch i’r hyfforddwr gwaith pam y byddech yn ei chael yn anodd cwblhau’r tasgau. Gofynnwch iddo ystyried newid y tasgau rydych yn gorfod eu gwneud neu newid amlder y tasgau. Os oes anhwylder iechyd neu gyfrifoldebau gofalu gennych, gallech ofyn i’r hyfforddwr gwaith leihau nifer yr oriau pan fo disgwyl i chi chwilio am waith.
Rhaid i’r hyfforddwr gwaith roi ystyriaeth i’ch ceisiadau a rhaid iddo fod yn rhesymol. Os na fydd yn newid eich ymrwymiad hawlydd, yna gallwch ofyn am adolygu’r penderfyniad gan aelod staff gwahanol.
Pan fyddwch yn cael yr ymrwymiad hawlydd terfynol, bydd angen i chi ei dderbyn o fewn wythnos. Os na fyddwch yn ei dderbyn mewn pryd, bydd DWP yn cau’ch hawliad.
Os ydych yn ei chael yn anodd cwblhau’r gweithgareddau cysylltiedig â gwaith sydd yn eich ymrwymiad hawlydd, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eu newid. Dyma sut i newid eich ymrwymiad hawlydd.
Holi am y Gronfa Cymorth Hyblyg
Mae’r Gronfa Cymorth Hyblyg yn arian a allai fod ar gael i chi i’ch helpu i dalu am bethau fel:
costau teithio
cyrsiau hyfforddi
costau gofal plant
ffôn symudol
dillad ar gyfer cyfweliad
dogfennau adnabod
Ni fydd angen i chi dalu’r arian yn ôl. Gofalwch ddweud wrth yr hyfforddwr gwaith sut byddai’r arian yn eich helpu gan nad yw’n gorfod ei roi i chi.
Bydd gofyn i chi fod wedi llofnodi’r ymrwymiad hawlydd er mwyn derbyn yr arian a dim ond ar gyfer yr hyn a gytunwyd â’r hyfforddwr gwaith y gallwch ei wario.
Wedi’r cyfweliad
Fel arfer byddwch yn cael y taliad cyntaf 5 wythnos wedi i chi gyflwyno’ch hawliad ar-lein.
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith y mis.
Os nad ydych wedi anfon yr holl dystiolaeth neu wedi cytuno ar eich ymrwymiad hawlydd, gwnewch hyn cyn gynted â phosibl - os na wnewch hyn, mae’n bosibl y byddwch yn gorfod gwneud hawliad newydd.
Os nad ydych yn credu bod digon o arian gennych i fyw arno wrth aros am y taliad cyntaf, gallwch ofyn am daliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw. ask for an dallad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw. Benthyciad yw’r taliad ymlaen llaw - byddwch yn gorfod ei dalu’n ôl, ond ni fydd gofyn i chi dalu llog arno.
Os ydych mewn trafferthion ariannol, gallwch gael gwybod pa help sydd ar gael i chi er mwyn delio â dyledion neu ôl-ddyledion rhent ar ôl gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn ei chael yn anodd talu am fwyd, gallwch gael gwybod sut i gael help gan fanc bwyd.
Dywedwch wrth DWP os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau rhwng y cyfweliad a’r taliad cyntaf, er enghraifft, os ydych yn cael swydd newydd neu’n symud tŷ. Gwiriwch i weld pa newidiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt.
Os oes gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog
Gallai DWP ofyn am brawf o’ch statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog drwy gynnwys neges yn eich dyddlyfr.
Os bydd DWP yn gofyn am brawf, byddant yn dweud wrthych sut i’w roi iddynt - efallai y bydd angen i chi lanlwytho’r dystiolaeth i’ch dyddlyfr.
Rhaid i chi roi’r prawf i DWP o fewn 1 mis. Gellir atal eich taliadau os byddwch yn methu’r terfyn amser o 1 mis.
Gallwch roi cod rhannu i DWP fel y byddant yn gallu gwirio’ch statws ar-lein. Gallwch gael cod rhannu ar wefan GOV.UK.
Edrych i weld pa fudd-daliadau eraill sydd ar gael i chi
Os ydych yn talu’r dreth gyngor, mae’n bosibl y bydd y cyngor yn gallu lleihau’r swm rydych yn gorfod ei dalu - gwiriwch a oes modd i chi gael Gostyngiad Treth Gyngor. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu hawlio’r gostyngiad hwn hefyd.
Efallai y byddwch yn gallu cael budd-daliadau eraill hefyd - er enghraifft, os ydych yn ofalwr neu os oes gennych anhwylder iechyd tymor hir.
Gallwch ddefnyddio’r cyfrifianellau budd-daliadau Turn2us neu Entitledto am ddim i wirio pa fudd-daliadau sydd ar gael i chi. Rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig i gael defnyddio’r gyfrifiannell.
Os oes plant gennych chi, gwiriwch a oes modd iddynt gael prydau ysgol am ddim.
Os ydych yn ei chael yn anodd delio â chostau byw, mae yna ffyrdd i chi arbed arian. Gallwch wirio sut i gael help i ddelio â chostau byw.
Os ydych yn ei chael yn anodd talu biliau, mae help ar gael i chi. Gallwch gael mwy o wybodaeth am help i dalu biliau.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus
Os penderfynir rhoi Credyd Cynhwysol i chi, bydd DWP yn rhoi gwybod i chi drwy’ch dyddlyfr ar-lein neu drwy’r post. Gallwch wirio eich bod yn derbyn y swm cywir.
Fel arfer byddwch yn cael un taliad Credyd Cynhwysol bob mis. Bydd yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Gallwch gael gwybod sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu.
Cofiwch ddweud wrth DWP am newidiadau yn eich gwaith, eich sefyllfa ariannol neu’ch bywyd teuluol. Yr enw ar y rhain yw ‘newidiadau yn eich amgylchiadau’ a gallent effeithio ar swm y Credyd Cynhwysol rydych yn ei dderbyn. Gwiriwch a fydd newid penodol yn effeithio ar y swm o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei dderbyn.
Os caiff eich hawliad ei adolygu yn y dyfodol
Mae DWP yn gwirio hawliadau am Gredyd Cynhwysol yn rheolaidd.
Os bydd DWP yn cysylltu â chi, fe ddylech ymateb. Gallent ofyn i chi gadarnhau a oes unrhyw newid wedi bod yn eich amgylchiadau, neu ofyn i chi am fwy o wybodaeth.
Os na fyddwch yn ymateb, gellid atal eich taliad Credyd Cynhwysol. Gwiriwch beth i’w wneud os bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng neu ei atal.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus
Bydd DWP yn anfon neges atoch drwy’r dyddlyfr ar-lein neu drwy’r post. Byddant yn dweud nad oes gennych hawl i dderbyn Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i DWP allystyried eich cals.
Os bydd DWP yn dweud bod eich hawliad wedi’i ‘gau’
Os bydd DWP yn ‘cau’ eich hawliad, mae hynny’n golygu eu bod wedi penderfynu gwrthod eich cais. Gallai hyn ddigwydd os nad oeddech wedi anfon yr holl wybodaeth roeddent wedi gofyn amdani, neu os oeddech wedi methu â dod i’r cyfweliad.
Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol i’ch hawliad. Bydd hefyd yn syniad da i chi ddechrau hawliad newydd am Gredyd Cynhwysol a sicrhau’ch bod yn mynd i’r cyfweliad. Mae hyn yn gynt yn aml na gofyn am ailystyriaeth orfodol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 25 Mawrth 2022