Beth yw Credyd Cynhwysol?

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli’r budd-daliadau hyn ar gyfer y rhan fwyaf o bobl:

  • Budd-dal Tai 

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Credyd Treth Plant

  • Credyd Treth Gwaith 

  • Cymhorthdal Incwm

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol os nad ydych chi’n gweithio neu os ydych chi ar incwm isel –  edrychwch i weld a oes gennych hawl i gael Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol i’r hen fudd-daliadau – felly mae’n bwysig gwybod y gwahaniaethau.

Y gwahaniaethau mwyaf yw:

  • gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych chi’n ddi-waith ond hefyd os ydych chi’n gweithio

  • byddwch fel arfer yn cael un taliad bob mis, yn hytrach nag yn wythnosol neu bob pythefnos  

yn hytrach na chael budd-dal tai ar wahân, bydd eich rhent fel arfer yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol

Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio

Fel arfer, byddwch yn cael un taliad misol i dalu eich costau byw.  Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpwl, byddwch chi a’ch partner yn cael un taliad rhwng y ddau ohonoch. Mae’r taliad yn cynnwys un ‘lwfans safonol’ a thaliadau ychwanegol a allai fod yn berthnasol i chi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. 

Efallai y byddwch yn gallu cael taliadau ychwanegol os ydych chi:

  • yn gofalu am un neu fwy o blant

  • yn gweithio ac yn talu am ofal plant

  • angen help gyda chostau tai

  • yn anabl neu fod gennych gyflwr iechyd

  • yn gofalu am berson anabl neu fod gennych blentyn anabl

Edrychwch i weld faint y gallech ei hawlio ar GOV.UK.

Os ydych chi’n cael help gyda rhent

Os yw eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cynnwys help gyda rhent, fel arfer bydd angen i chi dalu eich landlord bob mis o’ch taliadau Credyd Cynhwysol, hyd yn oed os ydych chi’n byw mewn tai cymdeithasol. Gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) dalu eich rhent yn uniongyrchol i'ch landlordos ydych chi mewn dyled, neu os oes gennych ôl-ddyledion rhent, neu os ydych chi’n cael trafferth gydag arian.

Os ydych chi’n gweithio

Gallwch weithio a dal i gael Credyd Cynhwysol – bydd eich Credyd Cynhwysol yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy. Bydd eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu os daw eich swydd i ben neu os byddwch chi’n ennill llai. 

Os ydych chi’n hunangyflogedig, gallai faint y mae’r DWP yn disgwyl i chi ennill bob mis hefyd effeithio ar eich taliad. Gelwir y swm disgwyliedig hwn yn ‘llawr isafswm incwm’. Dysgwch sut mae'r llawr isafswm incwm yn gweithio ac a yw'n berthnasol i ch.

Hawlio budd-daliadau eraill os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol

Gallwch gael arian ychwanegol a chymorth gyda’ch dyfarniad Credyd Cynhwysol. Gall hyn helpu i dalu am hanfodion fel biliau’r cartref, costau tai a chostau iechyd. Efallai y byddwch chi’n cael rhywfaint o’r help yma oherwydd eich bod yn cael Credyd Cynhwysol. Edrychwch i weld pa arian a chymorth ychwanegol y gallwch ei gael.

Dylech wneud cais am Ostyngiad yn y Dreth Gyngor – os byddwch chi’n ei gael, ni fydd yn lleihau'r swm Credyd Cynhwysol a gewch.

Os ydych chi’n anabl, dylech edrych i weld a ydych yn gymwys i gael y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).  Os ydych chi’n gyfrifol am blentyn anabl, dylech edrych i weld a ydych yn gymwys i gael y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer eich plentyn. Ni fydd derbyn PIP neu DLA yn lleihau’r swm Credyd Cynhwysol a gewch.

Gallwch hawlio budd-daliadau eraill yn ogystal os ydych chi wedi cyfrannu digon o Yswiriant Gwladol. Er enghraifft:

Os ydych chi’n cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn, bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau, ond mae rhesymau pam ei bod yn werth eu hawlio. Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith y mis, er enghraifft, ond mae JSA ac ESA yn cael eu talu bob pythefnos. Gallai hyn ei gwneud hi’n haws rheoli eich arian.

Gwneud cais am JSA ‘arddull newydd’

Nid oes rhaid talu i wneud cais ar-lein ar GOV.UK. Ewch â llun neu sgrinlun o’r neges sy’n dweud bod eich hawliad wedi ei anfon – efallai y bydd ei angen arnoch i brofi pryd y gwnaethoch eich hawliad cyntaf.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith:

Llinellau hawlio Canolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 055 6688 

Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 055 6688

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). 

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Gwneud cais am ESA ‘arddull newydd’

Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer ESA 'arddull newydd' ar GOV.UK, os nad ydych chi’n gwneud cais ar ran rhywun arall. 

Bydd rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych chi ar Gredyd Cynhwysol. Ni fyddwch yn gallu gwneud cais am ESA drwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein rhagor. 

Os ydych chi’n hawlio ESA ar ran rhywun arall, ni fyddwch yn gallu gwneud cais ar-lein. Gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol i hawlio ESA:

Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol

Rhif Ffôn: 0800 328 5644

Rhif Ffôn (Cymraeg): 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 5644

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Gwasanaeth dehongli fideo - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais Credyd Cynhwysol, gallwch, siarad â chynghorwr. Byddant yn gallu eich helpu i benderfynu a yw hi’n werth hawlio budd-daliadau eraill ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol.

Camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 18 Mehefin 2018