Apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Plant mewn tribiwnlys

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch apelio i dribiwnlys os na wnaeth Cyllid a Thollau EM (CThEM) newid eu penderfyniad pan wnaethoch ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Bydd y tribiwnlys yn cael ei redeg gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) ac yn cael ei oruchwylio gan farnwr. Mae'n annibynnol ar Gyllid a Thollau EM - felly efallai y cewch ganlyniad gwahanol.

Mae'n rhad ac am ddim i apelio ac nid oes angen cyfreithiwr arnoch.

Gallwch gael help gan gynghorydd Cyngor ar Bopeth ar unrhyw adeg yn y broses apelio. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol i drefnu apwyntiad. Ewch â'ch hysbysiad ailystyriaeth orfodol a'ch llythyr penderfyniad gwreiddiol i'ch apwyntiad cyntaf, os gallwch. 

Mae’n rhaid i GLlTEM gael eich apêl o fewn 1 mis i’r dyddiad ar eich hysbysiad ailystyriaeth gorfodol – felly caniatewch ychydig ddyddiau ar gyfer postio. Gallwch ddod o hyd i'r dyddiad ar frig yr hysbysiad.

Cyn i chi apelio

Rhaid i chi ofyn i Gyllid a Thollau EM ailedrych ar eu penderfyniad. Gelwir hyn yn 'ailystyriaeth orfodol'.

Os yw'n llai na 13 mis ers dyddiad eich hysbysiad ailystyriaeth gorfodol, efallai y byddwch yn dal yn gallu apelio. Bydd angen i chi gael rheswm da dros yr oedi, er enghraifft:

  • gwnaethoch bostio eich apêl mewn pryd, ond fe'i collwyd yn y post

  • roedd rhywun yn eich teulu yn ddifrifol wael

  • gwnaethoch gamgymeriad wrth gyfrifo'r dyddiad cau

Os na fydd Cyllid a Thollau EM yn derbyn eich apêl hwyr, bydd y gwasanaeth Tribiwnlys yn penderfynu a ddylid ei derbyn ai peidio.


Gwiriwch a yw'n werth apelio

Darllenwch y llythyr gan Gyllid a Thollau EM gyda 'Ynglŷn â'ch ailystyriaeth orfodol' wedi'i ysgrifennu ar y brig.

Os ydych yn anghytuno â rhesymau Cyllid a Thollau EM a bod gennych dystiolaeth i ddangos pam eu bod yn anghywir, dylech apelio i dribiwnlys.

Nid oes angen i chi gael tystiolaeth i apelio, ond bydd yn rhoi helpu i newid y penderfyniad o'ch plaid.

Cwblhau'r ffurflen apêl

Mae'n well gofyn am apêl drwy lenwi'r ffurflen apêl SSCS5 ar wefan GLlTEM. Mae'r ffurflen yn eich tywys drwy'r hyn i'w gynnwys.

Os na allwch lenwi'r ffurflen, gallwch ysgrifennu llythyr i ofyn am apêl. Ysgrifennwch ‘Apêl’ ar frig eich llythyr gan gynnwys:

  • eich enw llawn

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • y dyddiad ar frig eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol

  • pam y credwch fod y penderfyniad yn anghywir

Os ydych wedi methu'r dyddiad cau o 1 mis, dylech hefyd esbonio pam y gwnaethoch fethu'r dyddiad cau, a chynnwys tystiolaeth os gallwch. Er enghraifft, os oeddech yn yr ysbyty ar y pryd.

Egluro pam eich bod yn apelio

Y rhan bwysicaf o'r ffurflen yw 'Adran 5: Ynglŷn â'ch apêl'. Mae angen i chi roi'r rhesymau penodol pam eich bod yn anghytuno â'r penderfyniad.

Edrychwch ar eich llythyr penderfyniad a'ch hysbysiad ailystyriaeth orfodol a rhestrwch bob un o'r datganiadau yr ydych yn anghytuno â nhw a pham. Disgrifiwch y dystiolaeth rydych wedi'i hanfon at Gyllid a Thollau EM a sut mae'n cefnogi eich rhesymau dros anghytuno â'u penderfyniad.

Penderfynu a ddylech fynd i wrandawiad yr apêl

Mae adran 6 y ffurflen apêl yn gofyn a ydych am fod yno pan fydd y barnwr yn ystyried eich apêl - a elwir yn 'wrandawiad llafar'.

Dylech fynd i'r gwrandawiad, os gallwch. Bydd gennych fwy o gyfle i gyflwyno'ch achos a gallwch ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan y barnwr.

Ni fydd y gwrandawiad mor ffurfiol â gwrandawiadau llys eraill a dylai gymryd tua 40 munud yn unig. Gallwch ddod â rhai nodiadau ar yr hyn yr hoffech ei ddweud.

Gallwch gael help gyda chostau teithio i’r gwrandawiad ar GOV.UK.

Os na fyddwch chi'n mynd i'r gwrandawiad, byddwch chi'n cael yr hyn a elwir yn 'wrandawiad papur'. Byddwch yn colli allan ar allu dweud wrth y tribiwnlys am eich achos. Mae gennych lawer gwell siawns o newid y penderfyniad o'ch plaid os ewch i'r gwrandawiad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad ar GOV.UK.

Anfon y ffurflen apêl

Gwiriwch eich bod wedi llenwi popeth ac yna anfonwch y ffurflen i GLlTEM. Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio pan fyddwch yn ei anfon - efallai y bydd angen i chi brofi pryd y gwnaethoch ei bostio.

Bydd angen i chi anfon copi o'r llythyr ailystyriaeth orfodol gyda'r ffurflen.

Canolfan Apeliadau GLlTEM

Blwch Post 1203

Bradford

BD1 9WP

Ar ôl i chi anfon y ffurflen

Dylech glywed gan GLlTEM o fewn 28 diwrnod. Byddant yn anfon:

  • copi o ymateb CThEM

  • gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd nesaf

  • manylion pryd a ble bydd y gwrandawiad (os ydych wedi dweud eich bod am fod yno)

Anfon tystiolaeth newydd

Nid oes angen i chi anfon eich tystiolaeth eto gyda’ch ffurflen apêl – dylai Cyllid a Thollau EM drosglwyddo’ch tystiolaeth ailystyriaeth orfodol i GLlTEM ar gyfer yr apêl.

Bydd GLlTEM yn anfon copi o'r holl dystiolaeth sydd ganddynt atoch - a elwir yn 'bwndel apêl'. Os yw rhywun fel cynghorydd Cyngor ar Bopeth yn helpu gyda'ch apêl ac wedi dweud wrth Gyllid a Thollau EM mai nhw yw eich 'cynrychiolydd', efallai y bydd copi yn cael ei anfon atynt.

Dylech wirio bod eich bwndel apêl yn cynnwys yr holl dystiolaeth a roesoch i Gyllid a Thollau EM. Os oes unrhyw dystiolaeth ar goll, anfonwch at GLlTEM - gan esbonio na wnaeth Cyllid a Thollau EM ei hanfon.

Gallwch anfon tystiolaeth i GLlTEM hyd at 1 mis ar ôl i chi gael bwndel yr apêl. Os byddwch yn methu’r terfyn amser hwn, esboniwch pam pan fyddwch yn anfon y dystiolaeth – gallai GLlTEM ei hymestyn.

Mae'n well anfon unrhyw dystiolaeth cyn diwrnod eich gwrandawiad. Os byddwch yn mynd â thystiolaeth newydd gyda chi efallai y caiff y tribiwnlys ei aildrefnu i roi amser i'r barnwr ddarllen y dystiolaeth newydd.

Os bydd Cyllid a Thollau EM yn newid y penderfyniad cyn y gwrandawiad

Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch chi a GLlTEM i ddweud eu bod wedi newid y penderfyniad cyn gwrandawiad yr apêl.

Os yw’r newid o’ch plaid, bydd GLlTEM yn canslo’r gwrandawiad – a elwir yn ‘apêl sydd wedi dod i ben’. Bydd y llythyr gan Gyllid a Thollau EM yn dweud wrthych beth i'w wneud os nad ydych yn hapus gyda'r penderfyniad newydd a'ch bod am apelio o hyd.

Bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd os nad yw'r newid o'ch plaid - er enghraifft os bydd yn lleihau eich Budd-dal Plant ymhellach.

Cael gwybod am benderfyniad y tribiwnlys

Os byddwch yn mynd i'r gwrandawiad, fel arfer byddwch yn cael gwybod y penderfyniad ar y diwrnod - a byddwch yn cael copi ysgrifenedig. Os oes angen mwy o amser ar y barnwr i benderfynu, neu os nad ydych chi yn y gwrandawiad, bydd yn ysgrifennu atoch i ddweud beth yw ei benderfyniad.

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad

Efallai y gallwch apelio i Uwch Dribiwnlys os gwnaeth y tribiwnlys cyntaf camgymeriad - a elwir yn 'wall cyfreithiol'. Mae'n anodd gwybod a oes camgymeriad cyfreithiol wedi'i wneud, felly dylech gael cyngor.

Os ydych am ailagor apêl sydd wedi'i chanslo

Gall apêl gael ei chanslo – a elwir yn ‘dileu allan’ – os na fyddwch yn gwneud rhywbeth y mae GLlTEM yn gofyn amdano, fel anfon dogfen benodol atynt.

Gallwch ofyn i apêl a gafodd ei chanslo cael ei hystyried eto - a elwir yn 'adfer apêl'. Ysgrifennwch at GLlTEM a dweud wrthynt:

  • eich enw llawn a'ch cyfeiriad

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • y penderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn

  • y dyddiad y cafodd eich apêl ei chanslo

  • pam na wnaethoch chi rywbeth y gofynnodd GLlTEM amdano, os mai dyma'r rheswm pam y cafodd eich apêl ei dileu

  • pam y credwch y dylid edrych ar eich apêl eto

Dylech ysgrifennu o fewn 1 mis ar ôl i GLlTEM ysgrifennu i ddweud wrthych am y canslo. Os oes angen ymestyn yr amser, esboniwch yn eich llythyr pam y gwnaethoch fethu'r dyddiad cau o 1 mis.

Os cafodd eich apêl ei dileu am unrhyw reswm arall, dylech ysgrifennu at y tribiwnlys o hyd ac esbonio pam nad ydych yn meddwl y dylai eich apêl fod wedi cael ei dileu. Er enghraifft, os cafodd ei ddileu oherwydd nad oedd y tribiwnlys yn meddwl bod gennych siawns o lwyddo, ond rydych yn anghytuno.

Os bydd y tribiwnlys yn cytuno, bydd yn ailagor eich apêl.

Os na fydd y tribiwnlys yn cytuno i ailagor eich apêl, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol i weld a oes unrhyw beth arall y gallwch ei wneud. 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?