Cael budd-daliadau os ydych chi wedi symud i'r DU yn ddiweddar
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych chi wedi symud neu ddychwelyd i'r DU yn ddiweddar, mae rheolau ychwanegol ynghylch a allwch chi gael y rhan fwyaf o fudd-daliadau. Mae'r rheolau'n golygu y gallai fod angen i chi basio 'prawf preswylio' drwy ddangos gwybodaeth benodol ynglŷn â ble rydych chi wedi bod yn byw. Mae'r rheolau'n berthnasol hyd yn oed os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig.
Efallai y bydd yn rhaid i chi basio un o'r profion canlynol:
preswylio’n arferol – mae hyn yn golygu dangos mai'r DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel yw eich prif gartref
presenoldeb yn y gorffennol – i oedolion, mae hyn yn golygu dangos eich bod wedi bod ym Mhrydain Fawr am 2 flynedd allan o'r 3 blynedd diwethaf
byw am 3 mis – os gwnaethoch chi gais am Fudd-dal Plant cyn 27 Hydref 2023
Os nad ydych chi’n Ddinesydd Prydeinig, dylech holi a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi gael budd-daliadau a help gyda thai.
Os ydych chi wedi dod o Wcráin oherwydd y rhyfel
Nid oes angen i chi basio unrhyw un o’r profion preswylio os yw pob un o’r canlynol yn wir:
roeddech yn byw yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022
fe wnaethoch adael Wcráin oherwydd yr ymosodiad
nid yw’r geiriau ‘no public funds’ neu ‘no recourse to public funds’ wedi eu cynnwys ar eich dogfennau mewnfudo
Os ydych yn ddinesydd Gwyddelig, nid oes angen i chi basio’r prawf preswylio arferol na’r prawf presenoldeb yn y gorffennol os yw pob un o’r canlynol yn wir:
roeddech yn byw yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022
fe wnaethoch adael Wcráin oherwydd yr ymosodiad
Os ydych chi'n dod o Afghanistan
Nid oes angen i chi basio unrhyw un o’r profion preswylio os daethoch i’r DU drwy un o’r cynlluniau hyn ar unrhyw adeg:
y Polisi Ail-leoli a Chymorth i Affganiaid (ARAP)
y Cynllun Ex-Gratia Staff a Gyflogwyd yn Lleol yn Affganistan (ALES)
y Cynllun Ailosod Dinasyddion Affganistan (ACRS)
Nid oes angen i chi basio unrhyw un o’r profion preswylio chwaith os yw pob un o’r canlynol yn wir:
fe ddaethoch i’r DU o Affganistan oherwydd cwymp y llywodraeth ar 15 Awst 2021
rydych wedi cael caniatâd i aros
nid yw’r geiriau ‘no public funds’ neu ‘no recourse to public funds’ wedi eu cynnwys ar eich papurau mewnfudo
Siaradwch ag ymgynghorydd os oes gennych noddwr, neu os nad ydych yn siŵr am eich statws mewnfudo.
Efallai y gofynnir i chi brofi eich statws mewnfudo. Bydd angen i chi ddangos un o’r canlynol:
dogfen sy’n dangos eich bod wedi dod i’r DU drwy un o’r cynlluniau
stamp neu fisa yn eich pasbort
llythyr gan y Swyddfa Gartref sy’n dangos pryd y daethoch a’r rheswm pam
Os ydych chi'n dod o Sudan
Does dim angen i chi ddangos eich bod yn preswylio’n arferol na phasio'r prawf presenoldeb yn y gorffennol os yw un o'r canlynol yn berthnasol:
rydych chi'n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
bod gennych chi hawl preswylio
rydych chi wedi cael caniatâd i aros ac nid yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus' neu 'dim hawl i gyllid cyhoeddus' ar eich dogfennau mewnfudo.
Os gwnaethoch chi gais am Fudd-dal Plant cyn 27 Hydref 2023, nid oedd angen i chi basio'r prawf byw am 3 mis:
os oeddech chi’n byw yn Sudan yn union cyn 15 Ebrill 2023
os ydych chi wedi gadael Sudan oherwydd y trais
Os ydych chi wedi dod o Israel, Tiriogaethau Meddianedig Palesteina, Ucheldiroedd Golan neu Libanus
Does dim angen i chi ddangos eich bod yn preswylio’n arferol na phasio'r prawf presenoldeb yn y gorffennol os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:
roeddech chi'n byw yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan, neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023
gadawsoch yr ardaloedd hyn oherwydd yr ymosodiad yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu'r trais yn dilyn yr ymosodiad
mae gennych chi hawl i fyw yn y DU
rydych chi wedi cael caniatâd i aros ac nid yw’n dweud ‘dim cyllid cyhoeddus' neu 'dim hawl i gyllid cyhoeddus' ar eich dogfennau mewnfudo.
Os oes gennych chi statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol
Does dim angen i chi basio unrhyw un o'r profion preswylio.
Mae'r prawf preswylio y bydd angen i chi ei basio yn dibynnu ar y math o fudd-dal rydych chi'n gwneud cais amdano.
Os ydych chi'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai
Rhaid i chi fyw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban pan fyddwch chi’n gwneud cais. Bydd angen i chi hefyd ddangos eich bod yn breswylydd arferol. Mae hyn yn golygu dangos mai eich prif gartref yw'r DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.
Os ydych chi'n gwneud hawliad Credyd Cynhwysol ar y cyd â rhywun arall, mae angen i'r ddau ohonoch ddangos eich bod yn preswylio’n arferol.
Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi bod yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am 1 i 3 mis – gelwir hyn yn 'gyfnod sylweddol o amser'.
Os oeddech chi'n byw yn y DU cyn i chi fynd dramor, mae hyn fel arfer yn ei gwneud hi'n haws dangos eich bod yn preswylio’n arferol erbyn hyn. Efallai nad ydych chi erioed wedi rhoi'r gorau i breswylio’n arferol – mae'n dibynnu ar eich sefyllfa.
Os oes gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog neu os ydych chi’n aros am benderfyniad gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Does dim rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio’n arferol os oes gennych chi hawl i breswylio oherwydd eich bod:
yn weithiwr – mae hyn yn cynnwys os ydych chi wedi cadw statws gweithiwr
yn berson hunangyflogedig – mae hyn yn cynnwys os ydych chi wedi cadw statws hunangyflogedig
yn aelod o deulu gweithiwr neu berson hunangyflogedig
wedi ymddeol – neu’n aelod o deulu rhywun sydd wedi ymddeol
wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio'n barhaol oherwydd salwch neu ddamwain yn y gwaith – neu os ydych chi'n aelod o deulu rhywun yn y sefyllfa honno
Mae'n rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio’n arferol o hyd os oes gennych chi fath arall o hawl i breswylio, er enghraifft, hawl barhaol i breswylio ar sail 5 mlynedd yn y DU.
Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o hawl sydd gennych i breswylio, gallwch edrych ar y rheolau ynghylch yr hawl i breswylio ar gyfer budd-daliadau.
Os cawsoch eich gorfodi i briodi dramor
Os oeddech chi'n byw yn y DU cyn i chi gael eich gorfodi i briodi dramor, bydd angen i chi basio'r prawf preswylio’n arferol.
I basio'r prawf hwn, bydd angen i chi ddangos:
eich bod yn breswylydd arferol cyn i chi fynd dramor
bod gennych chi hawl i breswylio – edrychwch ar y rheolau am yr hawl i breswylio i gael budd-daliadau
eich bod wedi cael eich gorfodi i briodi dramor
If you’re getting help from the government’s Forced Marriage Unit
You can ask the Forced Marriage Unit (FMU) to send a letter to the Department for Work and Pensions (DWP) that says you didn’t stop being habitually resident while you were abroad. This means you’ll pass the habitual residence test - you won’t need to do anything else.
Forced Marriage Unit (FMU)
Telephone: 020 7008 0151
Email: fmu@fcdo.gov.uk
Facebook: Forced Marriage page
Twitter: @FMUnit
Website: Forced Marriage on GOV.UK
Os cawsoch eich gadael dramor neu os oeddech chi’n sownd dramor
Mae angen i chi weld a ydych chi wedi cael profiad o ‘gefnu ar briodas drawswladol’ (TMA). Rydych chi wedi cael profiad o hyn os yw’ch partner neu aelodau o deulu eich partner naill ai:
wedi cefnu arnoch chi dramor – er enghraifft, mynd i ffwrdd a'ch gadael chi ar eich pen eich hun
wedi eich cadw dramor – er enghraifft, ceisio eich atal rhag teithio drwy fynd â'ch arian neu’ch dogfennau
Os cawsoch chi brofiad o TMA cyn dychwelyd i’r DU, bydd angen i chi basio'r prawf preswylio’n arferol. Mae’n rhaid i chi ddangos:
eich bod yn breswylydd arferol cyn i chi fynd dramor
bod gennych chi hawl i breswylio – edrychwch ar y rheolau am yr hawl i breswylio i gael budd-daliadau
eich bod wedi cael profiad o TMA
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi profi TMA neu os oes angen help arnoch i’w brofi, siaradwch â chynghorwr.
Os dywedwyd wrthych eich bod wedi methu’r ‘prawf preswylio’n arferol’
Mae'r prawf preswylio’n arferol yn edrych i weld:
a ydych chi'n preswylio’n arferol
a oes gennych chi ‘hawl i breswylio’ – mae hyn yn dibynnu ar bethau fel eich gwaith, eich teulu a'ch sefyllfa bersonol
Edrychwch ar y llythyr penderfyniad – dylai ddweud pam na wnaethoch chi basio'r prawf. Os yw'n dweud na wnaethoch chi basio oherwydd nad oes gennych hawl i breswylio, edrychwch a oes gennych chi hawl i breswylio ar gyfer budd-daliadau.
Os ydych chi'n gwneud cais am fudd-dal anabledd
Mae angen i chi basio'r prawf presenoldeb yn y gorffennol. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n hawlio:
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
Lwfans Gweini
Lwfans Gofalwr
Os ydych chi dros 16 oed, mae angen i chi ddangos eich bod ym Mhrydain Fawr am 2 o'r 3 blynedd diwethaf i basio'r prawf presenoldeb yn y gorffennol.
Mae Prydain fawr yn golygu Cymru, Lloegr a'r Alban. Nid yw’n cynnwys Gogledd Iwerddon.
Does dim rhaid i’r amser a dreuliwyd ym Mhrydain Fawr fod wedi bod i gyd mewn un cyfnod o amser. Er enghraifft, gallech fod wedi byw yn Lloegr am flwyddyn, yn UDA am flwyddyn ac yng Nghymru am flwyddyn, ac fe fyddech chi’n pasio’r prawf
If you’re claiming benefits for a child under 16 years old
If you’re claiming DLA for your child, the length of time they need to have lived in Great Britain depends on their age.
If your child is aged 3 or older, they need to have lived in Great Britain for 6 months in the last year.
If your child is aged between 6 months and 3 years, they need to have lived in Great Britain for 6 months in the last 3 years.
If your child is aged 6 months or younger, they need to have lived in Great Britain for 13 weeks.
If you have a terminal illness
If you’ve been diagnosed with a terminal illness and your doctors say you could die within 12 months, you won’t have to pass the past presence test to claim DLA, PIP or Attendance Allowance.
You’ll need to show that you’re habitually resident instead.
Os ydych chi wedi bod dramor yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog
Os oeddech chi'n byw ym Mhrydain Fawr cyn i chi fynd dramor, byddwch chi'n pasio'r prawf presenoldeb blaenorol pan fyddwch chi'n dod yn ôl. Y rheswm am hyn yw eich bod yn cael eich trin fel pe baech chi wedi aros ym Mhrydain Fawr pan oeddech chi dramor.
Os ydych chi'n arfer byw yn yr Undeb Ewropeaidd, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Hyd yn oed os nad ydych chi wedi byw ym Mhrydain Fawr yn ddigon hir, efallai y byddwch chi'n gallu pasio'r prawf presenoldeb yn y gorffennol.
Gallech basio'r prawf os ydych chi wedi gweithio neu wedi hawlio budd-daliadau am 2 o'r 3 blynedd diwethaf yn yr UE, Norwy, y Swistir, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.
Efallai y byddwch hefyd yn pasio'r prawf os oes gennych chi ‘gysylltiad dilys a digonol’ â'r DU.
Efallai fod gennych chi ‘gysylltiad dilys a digonol’, er enghraifft:
os ydych chi wedi byw yn y DU am bron i 2 flynedd
os ydych chi'n gweithio neu'n hunangyflogedig yn y DU
os oes gennych chi aelod o'r teulu sy'n gweithio neu'n hunangyflogedig yn y DU
os oes gennych chi deulu agos yn y DU yr ydych chi'n dibynnu arno am ofal a chymorth
os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol yn y DU
Mae'r rheolau yn y maes hwn yn gymhleth a'r peth gorau i’w wneud yw cael cyngor cyn gwneud cais. Siaradwch â chynghorydd.
Os gwnaethoch chi gais am Fudd-dal Plant cyn 27 Hydref 2023
Roedd angen i chi basio’r ‘prawf byw am 3 mis’ os gwnaethoch chi gais am Fudd-dal Plant cyn 27 Hydref 2023. Mae hyn yn golygu eich bod wedi gorfod dangos eich bod yn byw yn y DU am 3 mis cyn gwneud cais am Fudd-dal Plant.
Os oes gennych chi statws preswylydd cyn-sefydlog neu os oeddech chi’n aros am benderfyniad gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE pan oeddech chi’n gwneud y cais
Nid oedd angen i chi basio'r prawf byw am 3 mis os oedd gennych chi hawl i breswylio oherwydd:
eich bod chi'n weithiwr – mae hyn yn cynnwys os oeddech chi wedi cadw statws gweithiwr
eich bod chi'n berson hunangyflogedig – mae hyn yn cynnwys os oeddech chi wedi cadw statws hunangyflogedig
eich bod chi'n aelod o deulu gweithiwr neu berson hunangyflogedig
Roedd yn rhaid i chi ddangos eich bod yn preswylio’n arferol o hyd os oedd gennych chi fath arall o hawl i breswylio, er enghraifft, hawl barhaol i breswylio.
Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o hawl sydd gennych i breswylio, gallwch edrych ar y rheolau ynghylch yr hawl i breswylio ar gyfer budd-daliadau.
Gweld pa dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch
Mae'r dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar y prawf y mae angen i chi ei basio.
Mae sut y byddwch chi’n anfon eich tystiolaeth yn dibynnu ar y budd-dal rydych chi'n ei hawlio. Bydd darparwr y budd-daliadau yn dweud wrthych sut i anfon eich tystiolaeth pan fyddwch chi’n gwneud eich hawliad.
Tystiolaeth o breswylio’n arferol
Bydd angen i chi gael tystiolaeth i ddangos mai’r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref.
Dylech gasglu tystiolaeth at ei gilydd sy'n dangos:
pryd symudoch chi i'r DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
mai’r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref
Bydd angen i ddarparwr y budd-daliadau gredu nad dim ond ymweld â'r DU ydych chi. Bydd yn ystyried pethau fel hyn:
pam eich bod wedi symud a pha mor hir rydych chi'n bwriadu aros
ble rydych chi'n byw – er enghraifft, os oes gennych chi lety neu lety wedi'i gynnig i chi
ydych chi'n gweithio neu'n chwilio am waith
eich cysylltiadau â'r DU – er enghraifft, os oes gennych chi deulu sydd yn y DU yn barod neu os yw'r teulu'n ymuno â chi
pa mor aml rydych chi'n dychwelyd i'r wlad lle roeddech chi'n byw o'r blaen ac unrhyw gysylltiadau sydd gennych chi gyda hi o hyd – er enghraifft, ydych chi wedi symud eich prif gyfrif banc i'r DU
ydych chi'n aelod o fudiadau lleol – fel clybiau, campfeydd, grwpiau cymdeithasol neu gymunedol
ydych chi wedi cofrestru gyda darparwyr gofal iechyd fel meddyg neu ddeintydd lleol
ydych chi wedi gwneud cais am le mewn ysgol leol ar gyfer eich plant os oes gennych chi rai
Dylech gasglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch. Bydd angen i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid copïau.
Er enghraifft, fe allech chi ddarparu:
eich tocyn teithio neu'ch tocyn hedfan
eich slipiau cyflog neu ddogfennau treth, er enghraifft P45 neu P60
eich cytundeb rhentu neu brawf o ble rydych chi wedi byw yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
prawf eich bod wedi dod â'ch cytundeb rhentu i ben yn y wlad rydych chi wedi'i gadael
cyfriflenni gan fanciau neu gymdeithasau adeiladu yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
prawf eich bod wedi cau cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu yn y wlad rydych chi wedi'i gadael – does dim angen i chi eu cau, ond bydd yn cryfhau eich achos
Gallwch hefyd ddefnyddio llythyrau, biliau a dogfennau eraill fel tystiolaeth. Er enghraifft, gallech gynnwys:
biliau, llythyrau neu gontractau sy’n cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
llythyrau neu negeseuon e-bost gan eich meddyg neu'ch deintydd
llythyrau neu negeseuon e-bost gan ysgol eich plentyn
cofnodion o daliadau aelodaeth i glwb lleol – er enghraifft aelodaeth campfa
Os nad ydych chi'n gweithio, efallai y byddai'n help dangos bod gennych chi gynilion neu eich bod yn cael cymorth ariannol gan eich teulu neu'ch ffrindiau. Er enghraifft, gallech brofi hyn drwy ddefnyddio cyfriflenni o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Os oes angen i chi basio'r prawf presenoldeb yn y gorffennol
Dylech gasglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch i ddangos pryd rydych chi wedi bod yn byw ym Mhrydain Fawr. Bydd angen i chi ddarparu’r dogfennau gwreiddiol, nid copïau.
Er enghraifft, gallech ddangos:
eich tocynnau teithio neu'ch tocynnau hedfan
copïau o'ch cytundebau rhentu neu brawf o ble rydych chi wedi byw ym Mhrydain Fawr
eich slipiau cyflog neu ddogfennau treth, er enghraifft P45 neu P60
datganiadau gan fanc neu gymdeithas adeiladu ym Mhrydain Fawr
Gallwch hefyd ddefnyddio llythyrau, biliau a dogfennau eraill fel tystiolaeth. Er enghraifft, gallech gynnwys:
biliau, llythyrau neu gontractau sy’n cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad ym Mhrydain Fawr
llythyrau neu negeseuon e-bost gan eich meddyg neu'ch deintydd
llythyrau neu negeseuon e-bost gan ysgol eich plentyn
cofnodion o daliadau aelodaeth i glwb lleol – er enghraifft aelodaeth campfa
Os oedd angen i chi basio'r prawf byw am 3 mis
Os gwnaethoch chi gais am Fudd-dal Plant cyn 27 Hydref 2023, roedd angen tystiolaeth arnoch i ddangos eich bod wedi byw yn y DU am 3 mis cyn i chi wneud cais. Roedd angen i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid copïau.
Er enghraifft, gallech fod wedi dangos:
eich tocyn teithio neu'ch tocyn hedfan
copi o’ch cytundeb rhentu neu brawf o ble rydych chi wedi byw yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
eich slipiau cyflog neu’ch dogfennau treth, er enghraifft P45 neu P60
datganiadau gan fanc neu gymdeithas adeiladu yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
Efallai eich bod wedi defnyddio llythyrau, biliau a dogfennau eraill fel tystiolaeth hefyd. Er enghraifft, gallech fod wedi cynnwys:
biliau, llythyrau neu gontractau sy’n cynnwys eich enw a'ch cyfeiriad yn y DU, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
llythyrau neu negeseuon e-bost gan eich meddyg neu'ch deintydd
llythyrau neu negeseuon e-bost gan ysgol eich plentyn
cofnodion o daliadau aelodaeth i glwb lleol – er enghraifft aelodaeth campfa
Os gwrthodir budd-daliadau i chi oherwydd un o'r profion
Os ydych chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir, gallwch wneud hawliad newydd neu ei herio. Dylech geisio darparu mwy o dystiolaeth i gefnogi eich her neu’ch hawliad newydd.
Gallwch wneud hawliad newydd pa un ai a ydych chi’n herio'r penderfyniad ai peidio, a gallai olygu eich bod yn cael budd-daliadau'n gynt.
Os gwrthodir budd-daliadau i chi oherwydd y prawf byw am 3 mis neu bresenoldeb yn y gorffennol, fel arfer mae'n well herio'r penderfyniad. Dylech wedyn wneud hawliad newydd pan fyddwch chi'n bendant yn pasio'r prawf.
Os gwrthodir chi oherwydd na allwch ddangos eich bod yn preswylio’n arferol, mae’n syniad da:
gwneud hawliad newydd bob wythnos – nes byddant yn cytuno eich bod yn preswylio’n arferol
herio pob penderfyniad nad ydych chi'n preswylio’n arferol
Daliwch ati i wneud hyn nes byddant yn cytuno eich bod yn preswylio'n arferol.
Herio penderfyniad am fudd-dal
Mae sut y dylech herio penderfyniad yn dibynnu ar y budd-dal. Edrychwch sut i wneud y canlynol:
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 01 Gorffennaf 2021